Neidio i'r prif gynnwy

Rhan 1: Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol (LPMHSS)

O dan 18 oed

  • Cafodd 1,075 o atgyfeiriadau eu derbyn ar gyfer asesiad LPMHSS ym mis Mehefin 2025.
  • Ym mis Mehefin 2025, roedd 94.4% o asesiadau LPMHSS yn cael eu cynnal o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y derbyniwyd yr atgyfeiriad.
  • Cafodd 67.6% o ymyriadau therapiwtig eu dechrau o fewn 28 o ddiwrnodau yn dilyn asesiad LPMHSS ym mis Mehefin 2025.

18 oed a throsodd

  • Cafodd 5,675 o atgyfeiriadau eu derbyn ar gyfer asesiad LPMHSS ym mis Mehefin 2025.
  • Ym mis Mehefin 2025, roedd 81.5% o asesiadau LPMHSS yn cael eu cynnal o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y derbyniwyd yr atgyfeiriad.
  • Cafodd 87.7% o ymyriadau therapiwtig eu dechrau o fewn 28 o ddiwrnodau yn dilyn asesiad LPMHSS ym mis Mehefin 2025.

Pob oedran

  • Cafodd 6,750 o atgyfeiriadau eu derbyn ar gyfer asesiad LPMHSS ym mis Mehefin 2025.
  • Ym mis Mehefin 2025, roedd 83.8% o asesiadau LPMHSS yn cael eu cynnal o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y derbyniwyd yr atgyfeiriad.
  • Cafodd 83.2% o ymyriadau therapiwtig eu dechrau o fewn 28 o ddiwrnodau yn dilyn asesiad LPMHSS ym mis Mehefin 2025.

Rhan 2: Cynlluniau Gofal a Thriniaeth

O dan 18 oed

  • Roedd 777 o gleifion yn derbyn gwasanaethau Iechyd Meddwl eilaidd ddiwedd mis Mehefin 2025; o'r rhain, roedd gan 751 (96.7%) Gynllun Gofal a Thriniaeth (CTP) dilys.

18 oed a throsodd

  • Roedd 16,613 o gleifion yn derbyn gwasanaethau Iechyd Meddwl eilaidd ddiwedd mis Mehefin 2025; o'r rhain, roedd gan 13,017 (78.4%) Gynllun Gofal a Thriniaeth (CTP) dilys.

Pob oedran

  • Roedd 17,390 o gleifion yn derbyn gwasanaethau Iechyd Meddwl eilaidd ddiwedd mis Mehefin 2025; o'r rhain, roedd gan 13,768 (79.2%) Gynllun Gofal a Thriniaeth (CTP) dilys.

Rhan 3: Asesiadau ar Ddefnyddwyr Blaenorol o Wasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd

  • Yn ystod mis Mehefin 2025, roedd 92.7% o adroddiadau ar ganlyniadau asesiadau yn cael eu hanfon o fewn 10 diwrnod gwaith wedi i asesiad Rhan 3 gael ei gynnal.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Helen Roberts
E-bost: hss.performance@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099