Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu: Ionawr i Fawrth 2025 (dros dro)
Data am ddifrifoldeb yr anafiadau a'r math o ddefnyddiwr ffordd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r data dros dro a gyflwynir yma yn adlewyrchu'r anafiadau personol a ddioddefwyd yn sgil gwrthdrawiadau ffyrdd y rhoddwyd gwybod amdanynt i'r heddlu yng Nghymru rhwng mis Ionawr a mis Mawrth (Ch1) 2025. Er mai'r data hyn yw'r ffynhonnell wybodaeth fwyaf manwl a dibynadwy am wrthdrawiadau ffyrdd a marwolaethau ac anafiadau, nid ydynt yn cynnwys gwrthdrawiadau ffyrdd:
- na roddwyd gwybod amdanynt i'r heddlu
- a ddigwyddodd ar dir preifat h.y. meysydd parcio neu gaeau
- lle na chofnodwyd unrhyw anafiadau personol
- lle y cafwyd cadarnhad yn ddiweddarach gan weithiwr meddygol proffesiynol neu grwner mai hunanladdiad neu ddigwyddiad meddygol oedd achos y gwrthdrawiad
O ystyried y cynnydd mewn diddordeb yn y data ar wrthdrawiadau ers cyflwyno'r terfyn cyflymder safonol o 20mya ar 17 Medi 2023, gwnaethom gyhoeddi Diweddariad y Prif Ystadegydd ar ‘ddeall ystadegau ar wrthdrawiadau ac anafiadau ar y ffyrdd’ ar 24 Mai 2024.
Caiff yr holl ddata sylfaenol eu cyhoeddi ar StatsCymru, a'n dangosfwrdd gwrthdrawiadau ffyrdd. Mae hyn yn cynnwys manylion ychwanegol am wrthdrawiadau a marwolaethau ac anafiadau yn ôl ardal ddaearyddol, terfyn cyflymder, difrifoldeb a'r math o gerbyd.
Mae'r data ar gyfer Ch1 2025 yn rhai dros dro a gellir eu hadolygu yn y dyfodol. Cyhoeddir gwybodaeth fanwl ac o ansawdd yn yr adroddiad ansawdd ategol.
Mae'r data ar wrthdrawiadau yn dymhorol ac mae ffactorau fel swm y traffig a'r tywydd yn effeithio arnynt. Mae'n ddoeth ac yn ystyrlon cymharu data chwarterol â data o'r un chwarter mewn blynyddoedd blaenorol yn hytrach na'u cymharu â'r chwarter blaenorol. Fodd bynnag, mae tueddiadau tymor hwy yn rhoi gwell syniad o batrymau a newidiadau mewn gwrthdrawiadau ffyrdd sydd wedi'u cofnodi gan yr heddlu.
Gwrthdrawiadau
Cyflwynir data cyfres amser dros y tymor hir yn ein datganiad ystadegau blynyddol. Mae’n dangos gostyngiad tymor hir yn y gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru.
Sylwer, fel yr esboniwyd yn ein datganiad ar gyfer 2024, mewn blynyddoedd blaenorol, mae data ar wrthdrawiadau yn ystod chwarter 4 wedi cael eu cyhoeddi fel rhan o gyhoeddiad manwl ar wrthdrawiadau blynyddol. Fodd bynnag, mae oedi o ran cyflwyno data gan un heddlu yn golygu bod ein datganiad 2024 yn ddatganiad dros dro. Rydym dal wrthi’n gweithio gyda’r heddlu i gael y data cyflawn. Pan gaiff y mater ei unioni, byddwn yn cyhoeddi bwletin ystadegol manylach ar wrthdrawiadau a marwolaethau ac anafiadau yn 2024.
Mae nifer y gwrthdrawiadau ffyrdd bob chwarter yng Nghymru wedi bod yn gostwng yn raddol dros y degawd ddiwethaf a gall ffigurau chwarterol fod yn anwadal. Dylid cymryd gofal wrth ddehongli'r data hyn dros gyfnod byr o amser.
Yn ystod Ch1 2025, roedd 668 o wrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru. O'r gwrthdrawiadau hyn:
- roedd 15 (2%) o'r gwrthdrawiadau yn angheuol
- roedd 220 (33%) ohonynt yn ddifrifol
- roedd 433 (65%) ohonynt yn fân wrthdrawiadau
Mae nifer y gwrthdrawiadau 5% yn uwch nag yn yr un chwarter yn 2024 (637) a 9% yn is nag yn yr un chwarter yn 2023 (733), sef y cyfnod chwarter 1 olaf cyn newid y terfyn cyflymder diofyn.
Ffigur 1: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu bob chwarter yng Nghymru, Ch1 2011 hyd at Ch1 2025
Disgrifiad o Ffigur 1: Mae'r siart llinell yn dangos cyfres amser ar gyfer nifer y gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru bob chwarter, o Ch1 2011 hyd at Ch1 2025. Mae nifer y gwrthdrawiadau ffyrdd bob chwarter wedi gostwng yn raddol dros y degawd diwethaf.
Ffynhonnell: Ystadegau gwrthdrawiadau ffyrdd, Llywodraeth Cymru
Terfyn cyflymder 20mya a 30mya ar y ffordd
Cafodd y rhan fwyaf o'r ffyrdd 30mya eu newid i fod yn 20mya ar 17 Medi 2023. Felly, mae llawer mwy o ffyrdd bellach yn ffyrdd 20mya (cynnydd o tua 870km i 13,000km), ac mae llawer llai o ffyrdd yn rhai 30mya (gostyngiad o tua 13,100km i 980km).
Mae'r adran hon yn ystyried gwrthdrawiadau a ddigwyddodd ar bob ffordd 20mya a phob ffordd 30mya (wedi'u cyfuno) er mwyn sicrhau y gellir eu cymharu â'r un set o ffyrdd cyn ac ar ôl y newid i'r terfyn cyflymder safonol ar ffyrdd cyfyngedig.
Mae data ar wrthdrawiadau ffyrdd ar ôl y newid i'r terfyn cyflymder safonol o 20mya yn gyfyngedig i gyfnod eithaf byr o amser ar hyn o bryd (17 Medi 2023 i 31 Rhagfyr 2024) a gallant fod yn anwadal yn y byrdymor. Dylid cymryd gofal wrth ddehongli'r data hyn dros gyfnod byr o amser. Byddwn yn parhau i fonitro'r data hyn dros amser wrth i fwy o ddata ddod ar gael. Mae diweddariad ein Prif Ystadegydd yn cynnwys rhagor o wybodaeth.
Yn ystod Ch1 2025, roedd 336 o wrthdrawiadau ar ffyrdd lle roedd terfynau cyflymder o 20mya a 30mya (wedi'u cyfuno). O'r gwrthdrawiadau hyn, roedd 5 ohonynt yn angheuol, 91 ohonynt yn ddifrifol a 240 ohonynt yn fân wrthdrawiadau.
Mae nifer y gwrthdrawiadau ar ffyrdd 20 a 30mya (wedi’u cyfuno) ychydig yn is (llai nag 1%) nag yn yr un chwarter yn 2024 (339). Mae’n 20% yn is nag yn yr un chwarter yn 2023 (421), sef y cyfnod chwarter 1 diwethaf cyn newid y terfyn cyflymder diofyn.
Yn gyffredinol, mae'r ffigur hwn wedi bod yn gostwng dros y degawd diwethaf.
Ffigur 2: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu bob chwarter ar ffyrdd â therfyn cyflymder o 20mya neu 30mya (wedi'u cyfuno) yng Nghymru, Ch1 2011 hyd at Ch1 2025
Disgrifiad o Ffigur 2: Mae'r siart llinell yn dangos cyfres amser ar gyfer gwrthdrawiadau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu bob chwarter ar ffyrdd â therfyn cyflymder o 20mya neu 30mya (wedi'u cyfuno) yng Nghymru, o Ch1 2011 hyd at Ch1 2025. Mae nifer y gwrthdrawiadau ffyrdd bob chwarter ar ffyrdd 20mya neu 30mya wedi gostwng yn raddol dros y degawd diwethaf.
Ffynhonnell: Ystadegau gwrthdrawiadau ffyrdd, Llywodraeth Cymru
Anafiadau
Gall gwrthdrawiadau unigol arwain at nifer o farwolaethau ac anafiadau gyda lefelau gwahanol o ddifrifoldeb o ran anafiadau.
Yn ystod Ch1 2025, cofnodwyd 897 o farwolaethau ac anafiadau ar y ffyrdd yng Nghymru. O'r marwolaethau a'r anafiadau hyn:
- cafodd 16 (2%) o bobl eu lladd
- cafodd 250 (28%) o bobl eu hanafu'n ddifrifol
- cafodd 631 (70%) o bobl fân anafiadau
Mae nifer y marwolaethau ac anafiadau 6% yn uwch nag yn yr un chwarter yn 2024 (843) a 7% yn is nag yn yr un chwarter yn 2023 (968), sef y cyfnod chwarter 1 diwethaf cyn newid y terfyn cyflymder diofyn.
Yn gyffredinol, mae'r ffigur hwn wedi bod yn gostwng dros y degawd diwethaf.
Ffigur 3: Marwolaethau ac anafiadau ar y ffyrdd bob chwarter yng Nghymru, Ch1 2011 hyd at Ch1 2025
Disgrifiad o Ffigur 3: Mae'r siart llinell yn dangos cyfres amser ar gyfer nifer y marwolaethau a'r anafiadau mewn gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru bob chwarter, o Ch1 2011 hyd at Ch1 2025. Mae nifer y marwolaethau a'r anafiadau bob chwarter wedi gostwng yn raddol dros y degawd diwethaf.
Ffynhonnell: Ystadegau gwrthdrawiadau ffyrdd, Llywodraeth Cymru
Terfyn cyflymder 20mya a 30mya ar y ffordd
Yn ystod Ch1 2025, cafodd 415 o unigolion eu lladd neu eu hanafu yn sgil gwrthdrawiadau ffyrdd lle roedd terfynau cyflymder o 20mya a 30mya (wedi'u cyfuno). Ymhlith y rhain, cafodd 6 person eu lladd, cafodd 96 o unigolion eu hanafu'n ddifrifol a chafodd 313 fân anafiadau.
Mae nifer y marwolaethau ac anafiadau ar ffyrdd lle mae terfyn cyflymder o 20mya a 30mya (wedi'u cyfuno) 5% yn is nag yn yr un chwarter yn 2023 (464).
Mae nifer y marwolaethau ac anafiadau ar ffyrdd lle mae terfyn cyflymder o 20mya a 30mya (wedi'u cyfuno) 3% yn uwch nag yn yr un chwarter yn 2024 (401) ac 19% yn is nag yn yr un chwarter yn 2023 (510), sef y cyfnod chwarter 1 diwethaf cyn newid y terfyn cyflymder diofyn.
Yn gyffredinol, mae'r ffigur hwn wedi bod yn gostwng dros y degawd diwethaf.
Ffigur 4: Marwolaethau ac anafiadau wedi'u cofnodi bob chwarter ar ffyrdd â therfyn cyflymder o 20mya neu 30mya yng Nghymru, Ch1 2011 hyd at Ch1 2025
Disgrifiad o Ffigur 4: Mae'r siart llinell yn dangos cyfres amser ar gyfer nifer y marwolaethau ac anafiadau yn sgil gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu bob chwarter ar ffyrdd â therfyn cyflymder o 20mya neu 30mya (wedi'u cyfuno) yng Nghymru, o Ch1 2011 hyd at Ch1 2025. Mae'r nifer wedi gostwng yn raddol dros y degawd diwethaf.
Ffynhonnell: Ystadegau gwrthdrawiadau ffyrdd, Llywodraeth Cymru
Nodiadau
Nodwyd rhywfaint o faterion yn ymwneud ag ansawdd data mewn perthynas â therfyn cyflymder cofnodedig y ffordd lle y digwyddodd gwrthdrawiadau. Caiff hyn ei esbonio'n fanylach ar ddechrau Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu: bwletin ystadegol 2023 ac yn yr adroddiad ar ansawdd data.

