Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at yr hyn sy’n rhwystro cyfranogiad democrataidd ac yn nodi atebion posibl i leihau’r rhwystrau i bobl sy'n profi anfantais economaidd-gymdeithasol.

Roedd y gwaith ymchwil hwn yn edrych ar sut mae ffactorau economaidd-gymdeithasol yn effeithio ar gyfranogiad mewn democratiaeth leol ac ar ymgeisio am swydd etholedig. Nodwyd tri phrif rwystr: recriwtio, adnoddau ac ymateb. Mae rhwystrau recriwtio yn cynnwys addysg wleidyddol gyfyngedig, diffyg tryloywder mewn prosesau dethol a rhwydweithiau gwleidyddol gwan. Mae rhwystrau adnoddau yn ymwneud ag amser, cyfyngiadau ariannol a thâl annigonol, sy'n effeithio'n anghymesur ar grwpiau difreintiedig. Mae rhwystrau ymateb yn cynnwys gwahaniaethu, gelyniaeth a stereoteipiau, sy’n effeithio’n arbennig ar fenywod ac ymgeiswyr lleiafrifol.

I fynd i’r afael â'r rhain, cynigir mentora ac allgymorth, canllawiau cliriach ar brosesau dethol, cymorth ariannol wedi'i dargedu i ymgeiswyr â chyfrifoldebau gofalu neu sy’n colli incwm, a mesurau i wella diogelwch a herio stereoteipiau. Mae’r canlyniadau wedi’u defnyddio i lunio cyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru i leihau rhwystrau a gwella cyfranogiad democrataidd.

Adroddiadau

Dylanwadau economaidd-gymdeithasol ar gyfranogiad democrataidd , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Emma Wallace

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn:

0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.