Neidio i'r prif gynnwy

Nodau a methodoleg y gwaith ymchwil

Comisiynwyd Alma Economics gan Lywodraeth Cymru i archwilio sut mae ffactorau economaidd-gymdeithasol yn dylanwadu ar allu unigolyn i gymryd rhan mewn democratiaeth leol ac ymgeisio am swydd etholedig mewn etholiadau datganoledig yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar y rhwystrau allweddol sy’n wynebu unigolion a sut gellid mynd i’r afael â nhw yn y dyfodol. Bydd y canfyddiadau’n helpu i lywio camau nesaf pwyslais Llywodraeth Cymru ar gynyddu amrywiaeth mewn democratiaeth.

Roedd yr astudiaeth ymchwil yn cynnwys pedwar cam allweddol:

  • Roedd Cam 1 yn cynnwys adolygiad archwiliadol o lenyddiaeth academaidd a llenyddiaeth lwyd, polisi, data meintiol, a deddfwriaeth, i wella ein dealltwriaeth o’r materion, rhoi sail i ddatblygu deunyddiau ymchwil, ac amlygu bylchau i fynd i’r afael â nhw trwy’r gwaith ymchwil hwn. Roedd hefyd yn cynnwys dau gyfweliad cwmpasu gyda swyddogion polisi Llywodraeth Cymru.
  • Roedd Camau 2 a 3 yn cynnwys grwpiau ffocws a chyfweliadau ag arbenigwyr ac ymarferwyr, gan gynnwys arbenigwyr academaidd, cynrychiolwyr pleidiau gwleidyddol, a sefydliadau sy’n gweithio’n uniongyrchol i gynorthwyo pobl ledled Cymru sy’n profi heriau o ganlyniad i amgylchiadau economaidd-gymdeithasol. Ymgysylltwyd â chyfanswm o 19 o arbenigwyr ac ymarferwyr.
  • Roedd Cam 4 yn cynnwys arolygon ar-lein a chyfweliadau ag aelodau etholedig, ymgeiswyr, a dinasyddion ledled Cymru. Roedd yr arolygon yn cynnwys ymatebion gan Aelodau’r Senedd, cynghorwyr Awdurdod Lleol, cynghorwyr tref a chymuned, ac ymgeiswyr ar gyfer pob swydd etholedig. Cynhaliwyd cyfweliadau â chyn ymgeiswyr y Senedd a chynghorwyr Awdurdod Lleol, tref, a chymuned.

Ymatebodd cyfanswm o 7 Aelod presennol a blaenorol o’r Senedd i’r arolwg, ynghyd â 14 o ymgeiswyr i’r Senedd. Ymatebodd 40 o gynghorwyr Awdurdod Lleol presennol a blaenorol a 13 o ymgeiswyr blaenorol. Ymatebodd 18 o gynghorwyr tref, cymuned, a phlwyf presennol a blaenorol, ynghyd â 4 ymgeisydd. Ymatebodd 17 o ddinasyddion Cymreig i’r arolwg dinasyddion. Cynhaliwyd cyfweliadau â 12 o aelodau etholedig a 7 dinesydd Cymreig.

Dadansoddwyd yr holl ganfyddiadau ansoddol yn ôl thema i amlygu themâu a chanfyddiadau allweddol yn drwyadl, a chynhyrchwyd ystadegau disgrifiadol i grynhoi canfyddiadau’r arolwg ar gyfartaleddau ar draws cwestiynau.

Canfyddiadau prif

Gan ddefnyddio’r categoreiddiad o adroddiad gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (2019), mae’r gwaith ymchwil hwn wedi’i strwythuro â thri chategori rhwystrau: rhwystrau recriwtio, adnoddau, ac ymateb. Trafodir canfyddiadau allweddol fesul categori isod. 

Rhwystrau rhag cyfranogiad democrataidd yng Nghymru

Diffinnir rhwystrau recriwtio fel rhwystrau sy’n atal unigolion rhag cael eu hannog, eu cefnogi, neu eu dewis i ymgeisio ar gyfer swydd etholedig. Canfu ein hymchwil:

  • Fod arbenigwyr ac ymarferwyr, swyddogion etholedig, a dinasyddion fel ei gilydd yn cytuno bod diffyg addysg wleidyddol gynnar ac amlygiad cyfyngedig i fywyd dinesig yn rhwystrau sylfaenol rhag recriwtio sy’n cael effaith fawr ar bobl sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol. Gall hyn greu “bwlch hyder” sy’n achosi i bobl nad ydynt yn cael eu hamlygu i wleidyddiaeth gredu bod cyfranogi democrataidd yn “rhywbeth nad yw pobl fel fi yn ei wneud.”
  • Dywedodd pob un o grwpiau cyfranogwyr y gwaith maes fod diffyg tryloywder canfyddedig ynglŷn â gweithdrefnau dethol pleidiau a rheoliadau etholiadol yn atal darpar ymgeiswyr. At hynny, amlygodd arbenigwyr ac ymarferwyr fod ‘gwybodaeth fewnol’, fel bod yn ymwybodol bod deiliaid seddi presennol ar fin ymddeol, yn fraint sylweddol nad yw bob amser ar gael i’r rhai sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol.
  • Nododd arbenigwyr ac ymarferwyr fod unigolion sy’n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol yn llai tebygol o fod â mynediad at rwydweithiau gwleidyddol cryf sy’n gallu cefnogi eu hymgeisyddiaeth. Mae hyn yn bennaf o ganlyniad i’r amser a’r drafnidiaeth sy’n ofynnol i fynd i gyfarfodydd Awdurdod Lleol, cynulliadau pleidiau gwleidyddol, a sesiynau canfasio, gan fod yr adnoddau hyn yn aml yn brin i’r rhai sy’n profi caledi ariannol.

Mae rhwystrau adnoddau yn gyfyngiadau sy’n ymwneud ag amser, cyllid, neu fynediad at gymorth sy’n rhwystro unigolion a dangynrychiolir rhag cynnal ymgeisyddiaeth yn llwyddiannus, a hynny i raddau anghymesur.

  • Ar draws holl grwpiau cyfranogwyr y gwaith ymchwil, cytunwyd yn gyffredinol bod diffyg amser yn gallu bod yn rhwystr sylweddol sy’n atal pobl sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol rhag cynnal ymgyrch ethol neu ddethol lwyddiannus. Mae hyn yn arbennig o wir am ymgeiswyr sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol mewn etholaethau gwledig, y mae’n rhaid iddynt dalu am gostau teithio mewn car preifat, ac ymgeiswyr annibynnol, y mae’n debygol y bydd rhaid iddynt dalu am lenyddiaeth eu hymgyrch eu hunain.
  • Dywedodd rhai hefyd fod y diffyg cymorth ariannol ar gyfer ymgeiswyr Awdurdod Lleol sy’n colli eu sedd (yn wahanol i’r ‘Grant Ymaddasu’ ar gyfer y rhai sy’n colli sedd yn y Senedd) yn golygu bod pobl sy’n fwy amharod i fentro ac sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol yn llawer llai tebygol o ymgeisio, yn enwedig y rhai hynny sydd â chostau ychwanegol, fel pobl anabl neu bobl sydd â chyfrifoldebau gofalu.
  • Adroddodd un cynghorydd Awdurdod Lleol am weithio o leiaf bedwar diwrnod yr wythnos ar fusnes y cyngor – dipyn yn uwch na’r 2.5 diwrnod a argymhellir – a dywedodd fod hyn yn ariannol hyfyw dim ond oherwydd bod ganddo ffynhonnell incwm ychwanegol. Awgrymodd arbenigwyr, ymarferwyr, swyddogion etholedig, a dinasyddion fod y bwlch rhwng cydnabyddiaeth ariannol swyddogol a’r ymrwymiad amser gwirioneddol sy’n ofynnol yn cyfrannu at orgynrychiolaeth unigolion hŷn, wedi ymddeol, hunangyflogedig, a chymharol gefnog ymhlith cynghorwyr Awdurdod Lleol.

Mae rhwystrau ymateb yn ymddygiadau negyddol – fel gwahaniaethu, aflonyddu, neu allgáu – a wynebir gan unigolion o ganlyniad i’w nodweddion gwarchodedig neu statws economaidd-gymdeithasol.

  • Dywedodd arbenigwyr ac ymarferwyr fod ystrydebau a rhagfarn yn parhau ymhlith etholwyr a detholwyr. Disgrifiwyd sut yr ystyriwyd nad oedd rhai grwpiau, fel pobl anabl neu unigolion heb gefndir proffesiynol statws uchel, yn meddu ar y gallu angenrheidiol i ddal swydd etholedig. Fodd bynnag, ni adleisiwyd y canfyddiad hwn mewn gwaith maes gyda chynrychiolwyr etholedig ac ymgeiswyr, sy’n awgrymu naill ai nad oedd swyddogion etholedig eisiau ystyried bod eu prosesau dethol yn gynhenid ragfarnllyd neu fod prosesau dethol yn deg i ymgeiswyr sydd â nodweddion gwarchodedig a dangynrychiolir.
  • Cytunodd holl gyfranogwyr y gwaith maes fod gelyniaeth, ar-lein ac wyneb yn wyneb, yn atal llawer o ddarpar ymgeiswyr, yn enwedig menywod a phobl o gefndiroedd lleiafrifol. Nododd arbenigwyr fod arian yn gallu lliniaru’r risgiau hyn (er enghraifft, gosod camerâu diogelwch yn y cartref), tra bod pobl ag adnoddau cyfyngedig yn teimlo’n arbennig o agored i niwed.

Cynigion i fynd i’r afael â rhwystrau rhag cyfranogiad democrataidd yng Nghymru

Anogwyd swyddogion etholedig, ymgeiswyr, dinasyddion, arbenigwyr, ac ymarferwyr i awgrymu ffyrdd o fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n wynebu ymgeiswyr sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol yng Nghymru.

Y prif gynigion i fynd i’r afael â rhwystrau recriwtio sy’n atal cyfranogiad democrataidd oedd:

  • Allgymorth gan swyddogion etholedig a rhaglenni mentora ar gyfer darpar ymgeiswyr.
  • Arweiniad i gynyddu dealltwriaeth o brosesau dethol ac ethol a’u tryloywder.
  • Normaleiddio cyfranogiad democrataidd y tu allan i etholiadau, fel cynulliadau dinasyddion.

Y prif gynigion i fynd i’r afael â rhwystrau adnoddau oedd:

  • Datblygu cronfa wedi’i thargedu ar gyfer pobl sydd â chyfrifoldebau gofalu, ac efallai hefyd i dalu am gostau sy’n gysylltiedig ag ymgyrch gan gynnwys trafnidiaeth, bwyd, ac offer diogelwch.
  • Cronfa i gynorthwyo ymgeiswyr sydd dan anfantais trwy ddarparu incwm yn lle incwm a gollwyd yn ystod ymgyrchu.
  • Roedd ambell swyddog etholedig ac ymgeisydd yn cefnogi’r syniad o gydnabyddiaeth ariannol uwch ar gyfer cynghorwyr Awdurdod Lleol a/neu ailstrwythuro’r rôl i fod yn amser llawn, er y dywedodd llawer eu bod yn pryderu ynglŷn ag ymateb y cyhoedd i gydnabyddiaeth ariannol uwch neu eu bod yn cael cydnabyddiaeth ariannol ddigonol. Roedd arbenigwyr, ymarferwyr, a dinasyddion a gymerodd ran yn y gwaith ymchwil hwn yn fwy tebygol o fod yn gryf o blaid codi cyflog cynghorwyr Awdurdod Lleol a gwneud y rôl yn amser llawn, er yr awgrymodd rhai y dylai hyn gael ei wneud ochr yn ochr â lleihau nifer y cynghorwyr.

Roedd y prif gynigion i fynd i’r afael â rhwystrau ymateb yn fwy amrywiol:

  • Roedd barn y cyfranogwyr yn amrywio ynglŷn â mentrau fel cwotâu rhywedd. Roedd rhai yn credu y bu’r rhain yn llwyddiannus ac y dylent gael eu parhau, eu hymestyn, a’u mandadu; fodd bynnag, roedd eraill o’r farn y dylai ymgeiswyr gael eu dethol “ar sail teilyngdod” ac roeddent yn anghyfforddus â chwotâu.
  • Cynigiodd yr holl grwpiau yr ymgysylltwyd â nhw yn rhan o’r gwaith ymchwil hwn lai o gynigion ar gyfer y rhwystrau a amlygwyd ynglŷn â chamdriniaeth a gelyniaeth. Roedd arbenigwyr ac ymarferwyr yn credu bod angen i bleidiau gwleidyddol wneud mwy i roi sicrwydd i bobl eu bod yn ddiogel, gan gynnwys nodi’n gliriach beth fyddai’n cael ei wneud petai rhywbeth yn digwydd a’r camau a gymerir i liniaru aflonyddu.

Argymhellion

Nod y gwaith ymchwil hwn yw archwilio dylanwadau economaidd-gymdeithasol ar gyfranogiad democrataidd yng Nghymru, gyda phwyslais ar rwystrau economaidd-gymdeithasol rhag cael swydd etholedig. Yn seiliedig ar y canfyddiadau a’r casgliadau, cynigir yr argymhellion canlynol.

Argymhellion i fynd i’r afael â rhwystrau recriwtio:

Argymhelliad 1: Dylai Llywodraeth Cymru barhau i fuddsoddi mewn cynlluniau mentora a hyfforddi fel Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal, ond dylai geisio sicrhau bod y rhain yn cael eu cyflwyno mewn ffordd sy’n golygu y gellir gwerthuso eu heffaith yn drwyadl – er enghraifft, trwy gyflwyno elfen ar hap a chasglu data hydredol. Dylai unrhyw gynlluniau yn y dyfodol gael eu sefydlu gyda meini prawf manwl i sicrhau eu bod yn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd, mwy amrywiol, sy’n ymwneud llai â gwleidyddiaeth.

Argymhelliad 2: Dylai Llywodraeth Cymru weithio mewn partneriaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), cynghorau, y Comisiwn Etholiadol, pleidiau gwleidyddol a phartneriaid eraill, fel y bo’n briodol, i gyfrannu at arweiniad sydd ar gael yn gyhoeddus ac sy’n cael ei gadw’n berthnasol ac yn gyfredol ar y prosesau sy’n ofynnol i ymgeisio am etholiad i gynghorau cymuned, Awdurdodau Lleol, a’r Senedd .

Argymhelliad 3: Dylai Llywodraeth Cymru a phartneriaid perthnasol geisio meithrin gwahanol ffyrdd o gynnwys pobl mewn democratiaeth yng Nghymru gyda’r nodau clir canlynol: i) cynnwys y cyhoedd yn fwy mewn gwneud penderfyniadau yng Nghymru, ii) cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o sut mae penderfyniadau’n cael eu gwneud yng Nghymru, iii) grymuso dinasyddion Cymru i deimlo’n hyderus ac yn ddigon cymwys i ymgeisio am etholiad yng Nghymru. Ar yr un pryd, dylai Llywodraeth Cymru ystyried adroddiad diweddar gan y Sefydliad Materion Cymreig ar y pwnc hwn (Elias et al., 2025). Dylai mentrau gyd-fynd â strategaethau cyfranogiad cyhoeddus presennol y mae’n ofynnol i Awdurdodau Lleol eu sefydlu, neu ychwanegu atynt, a dylid eu gwerthuso i amlygu meysydd lle y gellid cryfhau dulliau.

Argymhellion i fynd i’r afael â rhwystrau adnoddau:

Argymhelliad 4: Dylai Llywodraeth Cymru, CLlLC, Awdurdodau Lleol, y Senedd, a phleidiau gwleidyddol ystyried ffyrdd o leihau rhwystrau adnoddau sy’n atal gweithgarwch gwleidyddol. Fe allai hyn gynnwys cyflwyno crèche yng nghyfarfodydd pleidiau gwleidyddol ac Awdurdodau Lleol, darparu mynediad rhithwir at holl gyfarfodydd lleol pleidiau gwleidyddol, a sicrhau y gellir cyrraedd cyfarfodydd trwy drafnidiaeth gyhoeddus.

Argymhelliad 5: Dylai Llywodraeth Cymru archwilio’r posibilrwydd o ddatblygu cronfa benodol i gynorthwyo ymgeiswyr sydd â chyfrifoldebau gofalu a mynnu gwasanaethau gofal y telir amdanynt ar gyfer eraill o ganlyniad i’w hymgeisyddiaeth. Dylid lansio ymgynghoriad i archwilio manylion yr estyniad hwn, gan gynnwys p’un ai talebau gofal yw’r dull cyflenwi cywir a ph’un a ellir digolledu gofal di-dâl yn ariannol. Dylai hyn hefyd ystyried cyllid wedi’i dargedu i wrthbwyso costau a gafwyd o ganlyniad i ymgyrchu, gan gynnwys trafnidiaeth, gwariant ychwanegol ar fwyd, ac offer diogelwch ar gyfer ymgeiswyr sy’n profi tocsigrwydd ac aflonyddu.

Argymhelliad 6: Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau pendant i fynd i’r afael ag ystrydebau a allai gyfrannu at gost cyfranogiad democrataidd, fel credoau ynglŷn â’r math o ddillad y dylai gwleidyddion eu gwisgo, neu ddisgwyliadau rhyweddol ynglŷn â cholur neu wallt ar gyfer menywod. Er y gallai ymgais o’r fath i newid ffordd o feddwl fod yn nod strategol tymor hwy, yn y tymor byr fe allai hyn gynnwys egluro codau gwisg anffurfiol yn siambr y cyngor, annog pobl sy’n gwneud gwaith allgymorth democrataidd i beidio â chydymffurfio â disgwyliadau ystrydebol, a chyhoeddi arweiniad i herio ystrydebau a thybiaethau ynglŷn â gwisg neu olwg briodol.

Argymhelliad 7: Dylai Llywodraeth Cymru archwilio’r posibilrwydd o gyflwyno “Hawl i Ymgeisio” ar gyfer cyflogeion, sy’n mynnu bod cyflogwr yn caniatáu i gyflogeion gael amser i ffwrdd o’r gwaith i ymgeisio mewn etholiadau Awdurdod Lleol ac etholiadau’r Senedd yn ystod y cyfnod ymgyrchu ffurfiol. Fe ddylai hyn gynnwys ymgysylltu ag undebau llafur, pleidiau gwleidyddol, sefydliadau busnes, a mwy. Dylai’r cwmpas gynnwys asesiad o ymarferoldeb ac effeithiau posibl ar draws ystod eang o gyflogwyr, gan gynnwys busnesau bach ac elusennau, ymhlith eraill.

Argymhelliad 8: Dylai Llywodraeth Cymru a CLlLC ymgysylltu â busnesau, y sector addysg uwch, ac eraill i amlygu sut gellir annog cyflogwyr i ystyried bod gwasanaethu cymuned fel swyddog etholedig yn sgìl gwerthfawr, a chynorthwyo cynghorwyr i gael hyfforddiant a chamu ymlaen mewn gyrfa yn y tymor hwy.

Argymhelliad 9: Dylai Llywodraeth Cymru ystyried cyflwyno cynllun penodol i ddigolledu ymgeiswyr am gyfran o’r incwm maen nhw’n ei golli wrth ymgeisio mewn etholiadau Awdurdod Lleol neu etholiadau’r Senedd. Er mwyn cadw costau dan reolaeth, fe allai hyn gael ei gysylltu â gofynion penodol; er enghraifft, yn etholiadau San Steffan, mae blaendaliadau’n gysylltiedig ag ennill o leiaf 5% o’r bleidlais.

Argymhelliad 10: Dylai Llywodraeth Cymru barhau i fynd ati i gyflwyno ‘Grant Ymaddasu[troednodyn 1] ar gyfer cynghorwyr Awdurdod Lleol, yn debyg i’r model a ddefnyddir ar gyfer y Senedd.

Argymhelliad 11: Dylai Llywodraeth Cymru a Chomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ystyried adolygu rolau, cyfrifoldebau, a chyflogau cynghorwyr Awdurdod Lleol. Fe allai hyn gynnwys gwneud rôl cynghorydd Awdurdod Lleol yn un amser llawn gyda chyflog amser llawn, a gellid ei wneud ochr yn ochr â diwygio llywodraeth leol yng Nghymru i leihau nifer gyffredinol y cynghorwyr. Fel arall, fe allai hyn gynnwys cryfhau opsiynau rhannu swydd ar gyfer cynghorwyr Awdurdod Lleol a diffinio rolau a chyfrifoldebau cynghorwyr yn fwy clir er mwyn sicrhau nad ydynt yn teimlo bod disgwyl iddynt weithio am fwy o amser nag y cânt gydnabyddiaeth ariannol amdano.

Argymhellion i fynd i’r afael â rhwystrau ymateb:

Argymhelliad 12: Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda CLlLC, y Senedd, a phartneriaid eraill i ychwanegu at y dystiolaeth sydd eisoes yn bodoli, gan gynnwys galwad am dystiolaeth ac adroddiad diweddar y Gymdeithas Llywodraeth Leol (2022), trwy gynnal adolygiad penodol o’r hyn rydym eisoes yn ei wybod am beth sy’n gweithio i fynd i’r afael â gelyniaeth, tocsigrwydd, brawychu, a cham-drin swyddogion etholedig ac ymgeiswyr. Dylai’r adolygiad hwn geisio amlygu bylchau a llywio’r broses o ddatblygu ymyriadau effeithiol ar sail tystiolaeth.

[1] Mae’r ‘Grant Ymaddasu’ yn cyfeirio at daliadau pontio i Aelodau’r Senedd ac Aelodau Tŷ’r Cyffredin sy’n gadael yn seiliedig ar flynyddoedd gwasanaeth a’r swyddi a ddaliwyd. Maen nhw’n pontio’r bwlch ariannol rhwng gadael swydd a dechrau cyflogaeth newydd.

Manylion cyswllt

Awduron yr Adroddiad: Alma Economics                             

Image
Alma Economics

Adroddiad Ymchwil Llawn: Alma Economics (2025). Ymchwil i ddylanwadau economaidd-gymdeithasol ar gyfranogiad democrataidd yng Nghymru. 

Safbwyntiau’r ymchwilwyr yw’r rhai a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid ydynt o reidrwydd yn rhai Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r canlynol:
Emma Wallace
Gwasanaethau Cyhoeddus a Llywodraeth Leol
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays 
Caerdydd 
CF10 3NQ

E-bost: ymchwil.gwasanaethaucyhoeddus@llyw.cymru 

Rhif ymchwil gymdeithasol: 87/2025
ISBN Digidol: 978-1-80633-392-9

Image
GSR logo