Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r canllaw hwn yn amlinellu opsiynau ymarferol ar gyfer cael mynediad at wybodaeth iechyd ar-lein.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Peidiwch â defnyddio'r canllaw hwn yn lle cyngor dilys gan ymarferydd iechyd cymwysedig.

Cyrchu gwefannau GIG Cymru

Mae nifer o wefannau allweddol GIG Cymru ac iechyd yng Nghymru ar gyfer gwybodaeth iechyd dibynadwy. Mae gwefan Llywodraeth Cymru yn ein helpu ni i’ch helpu chi i amlinellu gwahanol ffyrdd y gallwn ni gael mynediad i’r GIG ar-lein. Mae hwn yn fan cychwyn i gysylltu â gwahanol gwefannau a gwasanaethau y GIG.

GIG Cymru 111

Mae gwefan 111 GIG Cymru yn cynnwys teclyn gwe gwirio symptomau a thudalen wybodaeth A-Y am iechyd. Mae yna hefyd nifer o ddolenni gwefannau gwasanaethau eraill o fewn GIG Cymru.

Mae gan adran byw'n iach y wefan wybodaeth sy'n ymwneud â chyngor, awgrymiadau ac offer ar gyfer corff iach a meddwl iach.

Mae'r adran gwasanaethau yn eich ardal chi yn rhestru gwybodaeth am wasanaethau iechyd a lles lleol ledled Cymru. Opsiwn allweddol ar y dudalen we hon yw bod botwm gwasanaethau bwrdd iechyd yn rhoi manylion cyswllt a chyfeiriad gwefan byrddau iechyd lleol Cymru i chi.

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnwys gwybodaeth ac adnoddau ar gyfer pynciau cysylltiedig ag iechyd o fewn GIG Cymru.

Mae'r dudalen pynciau yn cynnwys gwybodaeth am bynciau iechyd cyhoeddus cyfredol.

Mae gan y dudalen gwasanaethau a thimau wybodaeth am wahanol wasanaethau GIG Cymru gyda gwybodaeth gyswllt.

GIG Cymru

Mae gwefan GIG Cymru yn cynnwys gwybodaeth ac adnoddau am yr hyn y mae GIG Cymru yn ei wneud.

Mae’r dudalen rhaglenni a gwasanaethau cenedlaethol yn amlinellu rhaglenni allweddol fel Pwysau Iach Byw’n Iach neu Helpa Fi i Stopio.

Cyrchu gwybodaeth iechyd ddibynadwy ar-lein

Gall gwybodaeth iechyd ar-lein ein grymuso i ddeall symptomau a deall pa wasanaeth GIG i gael mynediad ato. Er hyn, mae nifer o ffynonellau gwybodaeth ar y Rhyngrwyd, felly mae'n bwysig bod pobl yn gallu nodi adnoddau dibynadwy Iechyd y Cyhoedd a'r GIG.

Mae nifer o ffynonellau gwybodaeth ar y Rhyngrwyd, gan gynnwys:

  • gwefannau
  • cyfryngau cymdeithasol
  • blogiau
  • peiriannau chwilio
  • gwefannau newyddion
  • fforymau
  • podlediadau
  • dylanwadwyr
  • deallusrwydd artiffisial

Gall gwybodaeth anghywir a safbwyntiau heb eu wirio’n feddygol achosi dryswch a gwaethygu iechyd. Pan fyddwch yn dod o hyd i wybodaeth iechyd ar-lein, defnyddiwch y rhestr wirio Share i sicrhau ei fod yn ddibynadwy:

  • Source: sicrhau fod gwybodaeth yn dod o ffynhonnell ddibynadwy.
  • Headline: darllenwch y tu hwnt i'r pennawd bob amser.
  • Analyse: gwiriwch y ffeithiau.
  • Retouched: ydy'r ddelwedd neu'r fideo yn edrych wedi’i olygu?
  • Error: chwiliwch am ramadeg a sillafu gwael.

Offer digidol i gefnogi eich iechyd

Mae nifer o apiau a gwasanaethau iechyd, lles a ffitrwydd ar gael. Gall yr apiau hyn eich cefnogi gyda'r canlynol:

  • monitro iechyd
  • offer lles
  • arweiniad a chefnogaeth iechyd meddwl
  • arferion iach ac ymarfer corff

Efallai y bydd gan eich bwrdd iechyd lleol restr o wasanaethau iechyd a llesiant a argymhellir. Dilynnwch gyngor meddygol proffesiynol bob amser pan ddaw'n fater o ddefnyddio apiau a gwasanaethau digidol ar gyfer eich iechyd a'ch lles.