Coed Preseli
Yn frith ar hyd lethrau Preseli, mae Coed Preseli yn gasgliad o goetiroedd masnachol arobryn sy'n cwrdd â phob un o chwe canlyniad y Goedwig Genedlaethol.
Yn cyfrannu at amrywiaeth ein Coedwig Genedlaethol mae pedwar coetir cysylltiedig ym Mhreseli. Mae gan bob coetir ei nodweddion ei hun gan gynnwys strwythurau afreolaidd wedi'u datblygu'n dda, adfywio naturiol datblygedig o blanhigion daear brodorol, cynhyrchu pren sy'n cael ei werthu i felinau llifio lleol yn Sir Benfro, defnydd dyddiol gan gerddwyr, beicwyr a marchogion, a chysylltiad â safleoedd gwlyptir gwarchodedig yng Ngweunydd Cleddau.
Gan gydweithio â Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae maes parcio wedi'i greu i ganiatáu i ymwelwyr gael lle diogel i ddechrau eu profiad yn y coetir, boed hynny'n gerdded drwy'r coetiroedd neu gymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol fel bioblits a digwyddiadau cofnodi bywyd gwyllt.
Mae'r coetiroedd hyn yn cynnal gweithgareddau ymchwil eu hunain a thrwy gydweithio â grwpiau fel yr Ymddiriedolaeth Natur a'r Gymdeithas Goedwigaeth Frenhinol. Mae coedwigaeth gorchudd parhaus (CCF) yn ddull rheoli cynaliadwy hirdymor sy'n gallu darparu gwytnwch mewn coedwigoedd, cyfle i gynhyrchu pren, a strwythurau amrywiol a all amddiffyn bioamrywiaeth. Mae perchnogion coetiroedd ym Mhreseli yn monitro bioamrywiaeth ac yn arddangos ac yn rhannu manteision CCF yn weithredol.
Mae'r coetiroedd hyn yn ddeinamig ac amlbwrpas trwy eu strwythur afreolaidd, rhywogaethau coed amrywiol a choetir anwastad. Dros y 29 mlynedd diwethaf trwy brosesau CCF mae'r coetiroedd wedi cynyddu mewn bioamrywiaeth ac wedi cryfhau gwytnwch eu hecosystemau, tra'n cynnal manteision masnachol y pren.
Coedwig Genedlaethol i Gymru
Dysgwch fwy am Goedwig Genedlaethol Cymru a sut y gallwch chi gymryd rhan.
