Neidio i'r prif gynnwy

Ein gwaith i wella mynediad at dechnoleg fel ffordd i helpu cynyddu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Gall technoleg Gymraeg cywir, dibynadwy ein helpu ni i gynyddu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg, sef 1 o 2 brif darged Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr. Gall technoleg ei gwneud hi’n haws i ni ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd, o addysg a gwaith i sgwrsio gyda ffrindiau, teulu a chydweithwyr.

Rŷn ni wedi treulio’r blynyddoedd diwethaf yn creu llawer o bethau i’w gwneud hi’n haws i ddefnyddio technoleg yn Gymraeg.Dyma ein blaenoriaethau ar gyfer technoleg Cymraeg:

  • technoleg fel ffordd o gynyddu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg
  • sicrhau bod pawb yn gallu cael at dechnoleg Cymraeg
  • gwella deallusrwydd artiffisial (AI) Cymraeg a thechnolegau lleferydd (drwy rannu data a ffyrdd eraill)

Dyma’r datganiad gyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg ar 7 Ionawr 2025 ar ein blaenoriaethau ar gyfer technoleg Cymraeg.

Rydym yn cyhoeddi diweddariadau rheolaidd ar y gwaith hwn.

Gwella technoleg Cymraeg

Rydyn ni’n credu y dylai rhyngwynebau, offer ac adnoddau Cymraeg fod ar gael mor hawdd â phosibl. Byddwn ni’n parhau i:

  • weithio gyda phartneriaid i leihau ‘ffrithiant’ wrth ddefnyddio offer a gwasanaethau Cymraeg fel bod pobl yn gallu defnyddio eu Cymraeg mewn mwy o sefyllfaoedd
  • parhau i hyrwyddo ein methodoleg ‘ysgrifennu triawd’ i wneud cynnwys a gwasanaethau mor hawdd â phosibl i’w defnyddio yn Gymraeg

Logo Iaith Gwaith digidol

Mae’r logo Iaith Gwaith yn ffordd effeithiol o ddangos ein bod ni’n gallu siarad Cymraeg. Mae hefyd yn helpu ni ddod o hyd i siaradwyr Cymraeg eraill. Efallai eich bod wedi gweld y swigen oren ar boster mewn derbynfa neu ar laniard i hysbysebu bod gwasanaeth Gymraeg ar gael. 

Byddwn ni’n gweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg, sy’n gyfrifol am Iaith Gwaith, i’w gwneud hyd yn oed yn fwy amlwg yn y byd digidol, fel bod pobl yn teimlo’n fwy hyderus i ddechrau mwy o sgyrsiau a defnyddio mwy o wasanaethau yn Gymraeg. 

Bydd hyn yn rhan o’n gwaith ehangach gyda’r Comisiynydd ar ddatblygu’r defnydd o dechnoleg a gwasanaethau digidol Cymraeg mewn gweithleoedd a thu hwnt.

Adnoddau technoleg iaith 

Mae gwirwyr sillafu a gramadeg eisoes ar gael. Byddwn ni’n sicrhau bod yr adnoddau hyn yn gyfredol. Byddwn ni’n parhau i gefnogi eu gwella a sicrhau eu bod ar gael ar fwy o blatfformau.

Byddwn ni’n diweddaru’r dudalen hon a’n rhestr Helo Blod o offer ac adnoddau yn rheolaidd.

Byddwn ni’n parhau i gefnogi’r gymuned o ddatblygwyr yng Nghymru. Byddwn ni’n gweithio gyda nhw fel y gallan nhw greu mwy o gynnwys a gwasanaethau yn Gymraeg.

Gwella mynediad at dechnoleg Cymraeg

Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd. Rydyn ni am wneud yn siŵr bod pawb yn gallu cael at dechnoleg Gymraeg. Bydd hwn yn ei gwneud hi’n haws i ni ddefnyddio mwy o’n Cymraeg ni. Mae hyn yn golygu pawb, ble bynnag ydyn ni ar ein taith iaith.

Rydyn ni am gefnogi datblygiadau digidol i helpu pobl deimlo’n fwy hyderus, lle bynnag maen nhw ar eu taith iaith. Mae adnoddau fel y Gwiriwr Lefel Dysgu Cymraeg ar gael yn barod gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol. Byddwn ni’n gweithio gyda’r Ganolfan i ddatblygu’r dechnoleg tu ôl i’w hadnoddau i’w wneud yn haws fyth i bobl ddefnyddio mwy o’u Cymraeg bob dydd.

Rhieni a gofalwyr

Rydyn ni am ei gwneud hi’n haws i rieni a gofalwyr plant ysgol ddefnyddio mwy o Gymraeg. Byddwn ni’n: 

  • gweithio gyda’r sector ysgolion i’w gwneud hi’n haws i rieni, gofalwyr ac athrawon i gefnogi addysg Gymraeg plant
  • byddwn ni’n rhannu mwy o newyddion a diweddariadau ar dechnoleg a chynnwys perthnasol i ysgolion rhannu ac ail-rannu gyda rhieni a gofalwyr ar wefan Hwb
  • ehangu ein rhestr offer ac adnoddau Helo Blod i gynnwys adran benodol ar gyfer rhieni a gofalwyr er mwyn helpu plant ddefnyddio mwy o Gymraeg yn yr ysgol a thu hwnt i’r dosbarth

Pobl sydd ag anghenion penodol

Rhan bwysig o’n camau nesaf fydd technoleg i helpu pobl sydd ag anghenion penodol. Gallai hyn gynnwys:

  • pobl anabl
  • pobl sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
  • pobl sydd ag anghenion yn sgil triniaeth feddygol
  • pobl sydd ag amhariad gwybyddol neu gorfforol

Byddwn ni’n gweithio i helpu pawb i ddefnyddio mwy o’u Cymraeg mewn adnoddau lle nad yw’r Gymraeg yn cael ei chefnogi i’r graddau mae angen iddi fod.

Byddwn ni’n nodi bylchau ac yn cynnig data ac adnoddau i ddarbwyllo cwmnïau i gefnogi’r Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys darllenwyr sgrin a ‘pen-readers’ ar gyfer asesiadau ysgol, ac ymgorffori lleisiau synthetig dwyieithog yn well ar gyfer pobl sydd ag amhariad ar y golwg.

Cynnwys niweidiol

Rydyn ni am i bawb deimlo’n ddiogel ac wedi’u hamddiffyn rhag cynnwys niweidiol wrth ddefnyddio technoleg yn Gymraeg. Byddwn ni’n gweithio gyda rheoleiddwyr a chwmnïau i ystyried sut maen nhw’n ymdrin â materion Cymraeg.

Gwella deallusrwydd artiffisial (AI) Cymraeg a thechnolegau lleferydd

Mae technolegau iaith modern fel y modelau iaith mawr (LLMs) mae AI yn defnyddio yn dibynnu ar lawer iawn o ddata hyfforddi i fod yn:

  • fwy cywir
  • ddiwylliannol berthnasol
  • ddiduedd

Mae angen i bob un ohonon ni gyfrannu at wella AI a thechnolegau eraill drwy rannu mwy o:

  • destun
  • fideo
  • data arall

Rydyn ni eisoes yn rhannu data Cymraeg gyda phrosiectau o gwmpas y byd. Rydyn ni’n rhannu data Cymraeg gydag:

  • Amazon ar gyfer eu cronfa ddata Massive (gwefan Saesneg yn unig)
  • AINA (gwefan Saesneg yn unig), sydd wedi’i arwain gan Lywodraeth Catalwnia a’r Barcelona Supercomputing Center. 

Rydyn ni’n gwneud hyn achos rydyn ni am annog mwy o bobl i rannu mwy o ddata. Gall hyn fod:

  • yn uniongyrchol drwy ddanfon cynnig ffurfiol at Microsoft fel rhan o’n partneriaeth
  • drwy drwyddedu data addas yn agored

Er mwyn i ni ddefnyddio mwy o Gymraeg mewn AI, mae angen i’r allbwn fod yn gywir, yn ddiogel ac yn ddiwylliannol berthnasol. Mae’r un peth yn wir am adnabod lleferydd Cymraeg a dwyieithog. Mae angen i’r systemau allu adnabod a thrawsgrifio’r Gymraeg rydyn ni gyd yn siarad gyda’n cydweithwyr, ein ffrindiau a’n teuluoedd. 

Fel rhan o’n partneriaeth â Microsoft, rydyn ni eisoes wedi cydweithio i greu cyfleuster cyfieithu ar y pryd ar Microsoft Teams

Mae’r bartneriaeth hon bellach yn cynnwys gwaith i wella Copilot yn Gymraeg: adnodd AI Microsoft. 

Wrth i ni arfer â siarad gyda chynorthwywyr AI a defnyddio AI i grynhoi ein cyfarfodydd, rydyn ni am sgwrsio â thechnoleg yn y ffordd mae siaradwyr Cymraeg yn gwneud ym mywyd go iawn bob dydd, er enghraifft ‘cyfnewid cod’, sef pan rydyn ni’n defnyddio bach o Saesneg yn ein Cymraeg ac i’r gwrthwyneb. Rydyn ni’n barod yn gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol er mwyn i'n gwaith ni ar hyn helpu cymunedau amlieithog ledled y byd.