Diweddariadau ar ein gwaith ar dechnoleg ac AI Cymraeg.
Cynnwys
Trosolwg
Rydym wedi bod yn gweithio’n galed dros y blynyddoedd diwethaf i greu llawer o bethau i’w gwneud hi’n haws i ddefnyddio technoleg yn Gymraeg.
Dyma ein blaenoriaethau:
- technoleg fel ffordd o gynyddu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg
- sicrhau bod pawb yn gallu cael at dechnoleg Cymraeg
- gwella deallusrwydd artiffisial (AI) Cymraeg a thechnolegau lleferydd (drwy rannu data a ffyrdd eraill)
Mae’r Datganiad Ysgrifenedig yma yn amlinellu ein camau i wireddu hyn.
Byddwn ni’n parhau i gyhoeddi’r diweddaraf yma.
Mae crynodeb o’n gwaith ni’r llynedd ar gael ar Technoleg Cymraeg a deallusrwydd artiffisial (AI): crynhoi.
Diweddariadau
Blaenoriaethau ar gyfer y Gymraeg
“... i dechnoleg arloesol, rŷn ni’n arwain y ffordd. Yng Nghymru, er enghraifft, mae cyfarfodydd dwyieithog yn arferol. Mae’r Cabinet newydd yn cynnal cyfarfodydd dwyieithog am y tro cyntaf ers datganoli. A Chymru yw’r lle cyntaf yn y byd i allu trawsgrifio cyfarfodydd yn ddwyieithog ar Microsoft Teams. Dwi wrthi’n ysgrifennu nawr at gwmnïau technoleg mawr am y camau nesaf, gan gynnwys gwaith ar ddeallusrwydd artiffisial.”
Dyma’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg yn amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer y Gymraeg yng Nghyfarfod Llawn 7 Gorffennaf 2026, gan gynnwys technoleg ac AI Cymraeg fel rhan o adeiladu sylfeini sy’n cynnal yr iaith.
Categori newydd i restr adnoddau Helo Blod: Rhieni a Gofalwyr
Rydyn ni am ei gwneud hi’n haws i rieni a gofalwyr plant ysgol ddefnyddio mwy o Gymraeg.
Felly, rydyn ni wedi ehangu ein rhestr offer ac adnoddau Helo Blod i gynnwys adran benodol ar gyfer rhieni a gofalwyr er mwyn helpu plant ddefnyddio mwy o Gymraeg yn yr ysgol a thu hwnt i’r dosbarth.
Grantiau technoleg
Ar gyfer 2026 i 2027, dyfarnwyd grantiau technoleg Cymraeg i:
- Prifysgol Bangor i gyflawni prosiect Iriaith, gan ddatblygu a gwella data, modelau AI ac offer technoleg Cymraeg.
- Data Orchard i gyflawni prosiect Mapio Cymru, gan ddatblygu a chyfoethogi data daearyddol Cymraeg agored.
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gyflawni prosiect Wici Cymru a'i Phobl, gan ehangu cynnwys a gwybodaeth Gymraeg ar-lein drwy ddefnyddio data agored a phlatfformau Wici.
- Prifysgol Caerdydd i gyflawni prosiect Datblygu, Defnyddio ac Integreiddio Gwasanaethau NLP Cymru CyTag, gan ddatblygu a defnyddio seilwaith technoleg iaith Cymraeg newydd.
Bydd y prosiectau'n adrodd yn ôl ar gynnydd a chanlyniadau eu gwaith diwedd mis Mawrth 2027.
Ein gwaith ar waith
Mae’r adnoddau technoleg Gymraeg sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ar gael yn rhad ac am ddim ar Helo Blod.
Sut mae pobl yn eu defnyddio
Trawsgrifio Teams a Copilot Cymraeg
Yn rhinwedd fy swydd yn swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, mae gen i sawl cyfarfod drwy gyfrwng y Gymraeg (neu'n ddwyieithog) gyda sefydliadau allanol lle mae'n rhaid i mi gadeirio, cyfrannu a chofnodi. Mae trawsgrifio yn Teams yn fy ngalluogi i ganolbwyntio'n llwyr ar y drafodaeth a chyfrannu'n briodol.
O ran creu cofnodion yn dilyn cyfarfod, rwy'n lawrlwytho'r trawsgrifiad o Teams fel dogfen ac yn ei uwchlwytho i Copilot, gan roi cyfarwyddyd iddo nodi'n gryno'r prif bwyntiau trafod a'r camau gweithredu. Rwy'n gwneud hyn yn syth ar ôl y cyfarfod tra bod popeth yn ffres yn fy meddwl, ac mae'n rhaid i mi ddweud bod yr hyn a gynhyrchir yn wych.
Trawsgrifiwr
“Yn Swyddfa'r Wasg, rydyn ni’n cadw cofnod o bob cyfweliad y mae Gweinidogion yn ei roi i'r cyfryngau. Yna, rydyn ni’n drafftio ac yn rhannu trawsgrifiad gyda'n tîm mewnol i sicrhau bod pawb yn gytûn â'r hyn sydd wedi'i ddweud yn gyhoeddus.
Fel tîm dwyieithog, mae Trawsgrifiwr wedi galluogi holl aelodau'r swyddfa'r wasg i allu trawsgrifio cyfweliadau Cymraeg a'u gwneud ar gael i'r tîm drwy'r swyddogaeth gyfieithu, ar ôl gwirio dynol. Drwy dîm Cymraeg 2050, fe wnaethon ni groesawu hefyd y cyfle i weithio gyda'r datblygwyr i fireinio system sy'n gweddu'n well i'n hanghenion fel tîm a byddwn yn parhau i ddefnyddio'r rhaglen yn y dyfodol.”
Mapio Cymru
Mae Senedd Cymru bellach yn defnyddio gwaith y prosiect Mapio Cymru (wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru) fel sail i'w map etholaethau ar draws Cymru.
Mae’r map rhyngweithiol yn enghraifft o sut y gall buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn adnoddau agored greu gwerth ehangach, gan alluogi sefydliadau eraill i ddatblygu gwasanaethau defnyddiol sy’n cefnogi dinasyddion ledled Cymru.
