Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r gair Cymraeg am...?

Mae ‘Beth yw’r Gymraeg am…?’ yn gwestiwn rydyn ni’n ei glywed yn aml. Ar y radio neu ar y teledu, yn yr ystafell ddosbarth, ar y cyfryngau cymdeithasol neu yn y gweithle – mae cwestiynau am eiriau Cymraeg yn gyffredin iawn. 

Mewn gwirionedd, mae’n debygol bod yr ateb eisoes ar gael mewn geiriadur neu gronfa derminoleg, a hynny’n hawdd ar-lein neu drwy apiau.

Felly, beth bynnag yw’ch gallu – p’un a ydych chi’n helpu’ch plentyn gyda’i waith cartref, yn dysgu Cymraeg, yn defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith, neu eisiau gwybod beth yw’r Gymraeg am air Saesneg neu’r Saesneg am air Cymraeg - dyma’r lle perffaith i ddechrau.

Geiriaduron
Geiriaduron a thesawrws
Geiriaduron Cymraeg yw’r adnoddau cyntaf y bydd rhywun yn troi atyn nhw i ganfod beth yw ystyr geiriau Cymraeg. Gallwn eich helpu i ddod o hyd i’r un iawn ar eich cyfer chi.
Terminoleg
Termau
Geiriau neu ymadroddion yw termau sydd â gwahanol ystyron mewn gwahanol gyd-destunau. Maen nhw’n ddefnyddiol ar gyfer gwaith cartref ac wrth drafod meysydd arbenigol.
Adnoddau Cymraeg Eraill
Corpora a safoni
Yn dal heb ganfod beth oeddech chi’n chwilio amdano? Efallai y gall yr adnoddau Cymraeg ar-lein ychwanegol hyn eich helpu chi.
Cymorth
Cymorth a gwasanaethau
Cymorth penodol i helpu rhieni, gofalwyr, plant, pobl sy’n dysgu Cymraeg, a phawb sydd am ddefnyddio technoleg Cymraeg. Mae hefyd yn sôn am gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn eich busnes ac yn y gymuned.