Neidio i'r prif gynnwy

Beth sydd ar gael i'ch cefnogi chi a'ch plentyn i ddefnyddio'r Gymraeg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhieni a phlant

Mudiad Meithrin

Mae Mudiad Meithrin yn rhoi cyfle i bob plentyn yng Nghymru chwarae, dysgu a thyfu yn y Gymraeg drwy gynnig grwpiau chwarae cyfrwng Cymraeg a grwpiau cymorth i deuluoedd.

Cymraeg i Bawb

Mae Cymraeg i Bawb yn eich helpu i ddysgu mwy am addysg cyfrwng Cymraeg. Mae'r adran Gartref a Gofal Plant yn eich helpu i ddarganfod mwy am sut y gallwch chi a'ch plant ddefnyddio'r Gymraeg gartref.

Rhieni dros Addysg Gymraeg

Mae Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) yn gweithio i gynyddu'r ddarpariaeth o addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru, ac yn helpu rhieni a gwarcheidwaid i gael mynediad at y ddarpariaeth honno.

Cymraeg i rieni

Mae Cymraeg i rieni yn darparu dolenni at adnoddau Cymraeg sy'n eich helpu i gefnogi'ch plentyn gartref a pharhau â'r gwaith y mae ein hysgolion yn ei wneud i ddatblygu sgiliau dwyieithog eich plentyn.

Darllen Co.

Mae Darllen Co. yn blatfform llyfrau darllen digidol Cymraeg ar gyfer ysgolion a theuluoedd yng Nghymru.

Cymorth gwaith cartref a darllen Cymraeg 

Mae Welsh Reading for Parents wedi’i gynllunio gan rieni a'i ddatblygu gydag athrawon i helpu rhieni nad ydynt yn siarad Cymraeg i ddarllen Cymraeg gyda'u plant ifanc gartref.

Darllen: gwybodaeth i rieni a gofalwyr (addysg cyfrwng Cymraeg)

Mae gan yr adnodd Hwb hwn wybodaeth am ddysgu darllen a sut i gefnogi plant.

Tric a Chlic

Mae Tric a Chlic yn rhaglen ffoneg synthetig yn Gymraeg i blant rhwng 3 a 7 oed. Mae'r rhaglen wedi'i hadeiladu o 3 elfen:

  • Clywed ac adnabod y synau.
  • Cyfuno (adeiladu) synau i'w darllen.

Segmentu (torri) synau i'w sillafu.

Technoleg Gymraeg

Mae tudalen technoleg Gymraeg Helo Blod yn rhoi rhestr o adnoddau Cymraeg a dwyieithog.

Mae'r cymorth sydd ar gael yn cynnwys: 

  • help gyda rhyngwynebau Cymraeg
  • cefnogaeth gyda lleferydd ac ynganu
  • gwybodaeth am Ddeallusrwydd Artiffisial (AI), gan gynnwys Chat GPT, a'r Gymraeg
  • gwybodaeth am adnoddau Cymraeg sydd ar gael ar-lein 

Cyfieithu a chyngor Cymraeg i fusnesau ac elusennau

Mae Helo Blod yn wasanaeth cyfieithu a chyngor Cymraeg am ddim. Mae'n helpu busnesau ac elusennau i ddefnyddio mwy o Gymraeg.

Dysgu Cymraeg

Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn gyfrifol am bob agwedd ar y sector Dysgu Cymraeg. Mae hefyd yn cynnig adnoddau defnyddiol.

Mae Berfiadur y Gweiadur yn eich helpu i wybod sut mae berfau’n gweithio mewn gwahanol gyd-destunau. Mae’n dangos sut mae rhedeg dros 4000 o ferfau. 

Yn y gymuned

Mae’r Mentrau Iaith yn eich helpu i fyw, dysgu a mwynhau yn Gymraeg. Maen nhw’n cynnig cyfleoedd i bawb ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau pob dydd ac yn eu cymunedau drwy glybiau, digwyddiadau, gweithgareddau a llawer mwy.

Darganfyddwch pa wasanaethau sydd gan eich awdurdod lleol i'w cynnig a sut y gallant eich helpu i ddefnyddio'ch Cymraeg.