Adnoddau eraill i’ch helpu i ganfod a defnyddio geiriau Cymraeg.
Cynnwys
Corpora
Mae corpws (lluosog: corpora) yn gasgliad mawr o eiriau, termau, ymadroddion, recordiadau sain neu hyd yn oed ystumiau dynol, fel y rhai a ddefnyddir yn iaith arwyddion.
Gallwch ddefnyddio’r casgliadau hyn i:
- greu adnoddau digidol
- cynnal ymchwil
- dangos i chi sut i ddefnyddio gair neu derm penodol
Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes (CorCenCC)
Mae CorCenCC yn eich helpu i weld sut mae geiriau'n cael eu defnyddio mewn bywyd go iawn.
Mae'n gasgliad chwiliadwy o samplau modern o gyfathrebu drwy’r Gymraeg mewn bywyd go iawn. Mae hyn yn cynnwys data llafar, ysgrifenedig ac ar-lein (fel y cyfryngau cymdeithasol).
Cynulleidfaoedd:
- Myfyrwyr.
- Athrawon a thiwtoriaid.
- Dysgwyr Cymraeg neu siaradwyr newydd.
- Pobl sy’n drafftio deunyddiau yn Gymraeg.
- Academyddion.
- Cyfieithwyr.
Porth Corpora Cenedlaethol Cymru: Prifysgol Bangor
Mae Porth Corpora Cenedlaethol Cymru yn rhoi mynediad i chi i gasgliad o gorpora Cymraeg a dwyieithog ysgrifenedig ar-lein. Gallwch ei ddefnyddio i chwilio a dod o hyd i enghreifftiau o sut mae geiriau a thermau yn cael eu defnyddio mewn sawl cyd-destun.
Cynulleidfaoedd:
- Myfyrwyr.
- Athrawon a thiwtoriaid.
- Dysgwyr Cymraeg neu siaradwyr newydd.
- Pobl sy’n drafftio deunyddiau yn Gymraeg.
- Academyddion.
- Cyfieithwyr.
Safoni
Nod safoni'r Gymraeg yw sicrhau cysondeb yn y ffordd mae'r iaith yn gweithio. Gall hyn gynnwys safoni sut mae geiriau'n cael eu sillafu (orgraff) a rheolau gramadeg.
Prosiectau safoni
Panel Safoni’r Gymraeg
Mae Panel Safoni’r Gymraeg yn banel o arbenigwyr y daethpwyd â nhw ynghyd gan Lywodraeth Cymru. Mae'r panel yn gweithio i safoni a moderneiddio orgraff y Gymraeg. Mae'r gwaith hwn yn:
- ei gwneud yn haws i bobl ddefnyddio'r Gymraeg
- cael ei ddefnyddio gan y prif eiriaduron Cymraeg ac adnoddau terminoleg
Comisiynydd y Gymraeg: safoni enwau lleoedd
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn rhoi cyngor ar ffurfiau safonol enwau lleoedd Cymraeg i unigolion a sefydliadau. Mae’r gwaith hwn yn pwyso a mesur ffurfiau ar enwau lleoedd Cymraeg a’u sillafiadau, er mwyn dod i benderfyniad ar enw ar sail tystiolaeth.
