Geiriaduron Cymraeg i'ch helpu i ganfod geiriau Cymraeg.
Cynnwys
Geiriadur yr Academi
Geiriadur Saesneg i Gymraeg ar-lein yw Geiriadur yr Academi.
Ar gyfer beth mae'n cael ei ddefnyddio
Gallwch ei ddefnyddio i ganfod:
- gair Cymraeg sy’n cyfateb i air Saesneg
- ffurf luosog gair Cymraeg
- enghreifftiau o sut y gellir cyfieithu geiriau Saesneg mewn gwahanol gyd-destunau
- ymadroddion Cymraeg sy'n cynnwys y gair rydych chi wedi chwilio amdano
Cynulleidfaoedd
- Rhieni a gofalwyr.
- Myfyrwyr.
- Athrawon a thiwtoriaid.
- Dysgwyr Cymraeg neu siaradwyr newydd.
- Busnesau.
- Pobl sy’n drafftio deunyddiau yn Gymraeg.
- Pobl sy'n defnyddio'r Gymraeg yn y gwaith.
- Academyddion.
- Cyfieithwyr.
Geiriadur Bangor
Mae Geiriadur Bangor ar gael ar-lein ac i'w lawrlwytho fel ap. Chwiliwch am Ap Geiriaduron ar gyfer iOS neu Android.
Ar gyfer beth mae'n cael ei ddefnyddio
Gallwch ei ddefnyddio i:
- chwilio am air Saesneg i ddod o hyd i'r gair Cymraeg cyfatebol
- chwilio am air Cymraeg i ddod o hyd i'r gair Saesneg cyfatebol
- canfod ffurf lluosog gair
Cynulleidfaoedd
- Rhieni a gofalwyr.
- Plant.
- Myfyrwyr.
- Athrawon a thiwtoriaid.
- Dysgwyr Cymraeg neu siaradwyr newydd.
- Busnesau.
- Pobl yn drafftio deunyddiau yn Gymraeg.
- Pobl sy'n defnyddio'r Gymraeg yn y gwaith.
- Academyddion.
- Cyfieithwyr.
Geiriadur Prifysgol Cymru (GPC)
Geiriadur Prifysgol Cymru yw'r geiriadur Cymraeg hanesyddol safonol. Mae'n debyg i'r Oxford English Dictionary ond ar gyfer y Gymraeg. Mae ar gael ar-lein ac fel ap ar eich ffôn neu lechen.
Mae GPC yn eiriadur arbenigol ac academaidd i bobl sydd am dyrchu'n ddyfnach i eiriau Cymraeg a'u datblygiad dros amser.
Ar gyfer beth mae'n cael ei ddefnyddio
Gallwch ei ddefnyddio i:
- weld diffiniadau o eiriau yn Gymraeg a’u hystyr yn Saesneg
- gweld sut caiff gair ei sillafu, beth yw ei genedl a’i ffurfiau lluosog
- darganfod sut mae geiriau ac ymadroddion wedi newid dros amser, cael gwybodaeth a chefndir manylach o'i gymharu â'r hyn gewch chi mewn geiriaduron eraill
Cynulleidfaoedd
- Myfyrwyr.
- Athrawon a thiwtoriaid.
- Academyddion.
- Darllenwyr ac awduron.
- Cyfieithwyr.
Geiriadur Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Mae Geiriadur Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn eiriadur ar-lein hawdd ei chwilio.
Ar gyfer beth mae'n cael ei ddefnyddio
Gallwch ei ddefnyddio i:
- ganfod geiriau ac ymadroddion yn yr iaith arall
- clywed recordiadau ynganu ar gyfer rhai geiriau
Cynulleidfaoedd
- Rhieni a gofalwyr.
- Plant.
- Myfyrwyr.
- Athrawon a thiwtoriaid.
- Dysgwyr Cymraeg neu siaradwyr newydd.
- Busnesau.
- Pobl yn drafftio deunyddiau yn Gymraeg.
- Pobl sy'n defnyddio'r Gymraeg yn y gwaith.
- Academyddion.
- Cyfieithwyr.
Y Gweiadur
Mae Y Gweiadur yn cynnwys geiriadur Cymraeg i Saesneg a Saesneg i Gymraeg, sy'n rhoi diffiniadau yn ogystal â chlipiau sain i helpu gydag ynganu geiriau.
Ar gyfer beth mae'n cael ei ddefnyddio
Gallwch ei ddefnyddio i ganfod:
- geiriau Cymraeg a Saesneg cyfatebol
- canfod ystyron geiriau sydd wedi’u treiglo, ffurfiau lluosog neu ferfau sydd wedi’u rhedeg
- gweld porth geiriadur sy'n eich galluogi i chwilio mewn sawl adnodd o un lle
Cynulleidfaoedd
- Rhieni a gofalwyr.
- Plant.
- Myfyrwyr.
- Athrawon a thiwtoriaid.
- Dysgwyr Cymraeg neu siaradwyr newydd.
- Busnesau.
- Pobl yn drafftio deunyddiau yn Gymraeg.
- Pobl sy'n defnyddio'r Gymraeg yn y gwaith.
- Academyddion.
- Cyfieithwyr.
Thesawrws
Mae thesawrws yn adnodd sy’n rhestru geiriau ag ystyron tebyg. Gelwir y rhain yn gyfystyron (er enghraifft mae ‘hapus’ yn gyfystyr â ‘llawen’). Caiff ei ddefnyddio hefyd i ddod o hyd i eiriau i fynegi syniadau yn fwy manwl gywir neu i osgoi ailadrodd yr un gair.
Mae’r Gweiadur yn cynnwys thesawrws Cymraeg yn unig (sy'n rhoi cyfystyron Cymraeg i eiriau Cymraeg) a thesawrws Saesneg i Gymraeg (sy'n rhoi cyfystyron Cymraeg i eiriau Saesneg).
Cynulleidfaoedd
- Rhieni a gofalwyr.
- Plant.
- Myfyrwyr.
- Athrawon a thiwtoriaid.
- Dysgwyr Cymraeg neu siaradwyr newydd.
- Busnesau.
- Pobl yn drafftio deunyddiau yn Gymraeg.
- Pobl sy'n defnyddio'r Gymraeg yn y gwaith.
- Academyddion.
- Cyfieithwyr.
