Apiau awgrymedig i'w lawrlwytho i'ch dyfais ddigidol i helpu i wella eich lles a'ch ymwybyddiaeth ofalgar.
Cynnwys
Trosolwg
Nid ydym yn argymell un ap neu wefan dros y llall a gwerthfawrogwn fod nifer o opsiynau eraill ar gael i ddefnyddwyr ar lein.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhannu cyngor pwysig ynghylch preifatrwydd, bod yn ddiogel ac yn gyfreithlon ar-lein a chyfrifoldeb personol wrth ddefnyddio offer a gwasanaethau digidol.
Wrth edrych ar apiau neu’u lawrlwytho, gwnewch yn siŵr i ddefnyddio siop apiau swyddogol eich dyfais.
Lawrlwytho apiau
Dysgwch sut i lawrlwytho apiau:
Apiau wedi'u cymeradwyo gan y GIG
Mae'r apiau hyn ar gael am ddim i'w lawrlwytho ar ddyfeisiau Apple neu Android (oni nodir hynny):
- NHS Food Scanner: dewch o hyd i wybodaeth maethol bwyd trwy sganio codau bar neu chwilio.
- Drink free days: cefnogaeth ymarferoli leihau yfed alcohol.
- NHS Couch to 5K: app rhedeg i ddechreuwr.
- NHS Weight Loss: cynllun 12 wythnos i dracio arferion bwyta a datblygu ffordd iachach o fyw.
- NHS Active 10: traciwch eich gweithgareddau cerdded trwy’r dydd.
- NHS Quit Smoking: rhaglen 28 diwrnod i helpu rhoi'r gorau i ysmygu.
Mae gan rai byrddau iechyd adran dynodedig ar eu gwefan sy’n amlinellu apiau a gwefannau defnyddiol. Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth hon trwy wefan eich bwrdd iechyd. Fel arall, gallwch ddefnyddio Google i chwilio am dermau fel "Enw eich bwrdd iechyd lleol: llyfrgell apiau" neu "Orcha App library: enw eich bwrdd iechyd lleol."
Lles a meddwlgarwch
Mae'r apiau hyn ar gael am ddim i'w lawrlwytho ar ddyfeisiau Apple neu Android (oni nodir hynny):
- Headspace: ap ar gyfer cwsg a meddwlgarwch (angen tanysgrifiad ar gyfer mynediad llawn).
- Silvercloud Health: offer a chefnogaeth gydag iechyd meddwl.
- Sorted: cefnogi iechyd meddwl trwy gerddoriaeth.
- Sleepio: ap wedi'i gynllunio i helpu gyda chwsg.
Gemau, cwisiau a gweithgareddau
Mae'r apiau hyn ar gael am ddim i'w lawrlwytho ar ddyfeisiau Apple neu Android (oni nodir hynny):
- This is Sand: gwneud a rhannu lluniau allan o dywod.
- Let’s Create! Pottery HD Lite: crochenwaith digidol.
- My house of memories: gweithgareddau hel atgofion ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia.
- My Bowling 3D: bowlio deg digidol.
- Magic piano: gêm rhythm piano.
- Quizziz: ap cwis ar-lein ar gyfer grwpiau neu unigolion.
- Wordle: posau geiriau dyddiol.
- Garage Band: ap creu cerddoriaeth ddigidol (Dyfeisiau Apple yn unig)
Cerddoriaeth ac adloniant
Mae'r apiau hyn ar gael am ddim i'w lawrlwytho ar ddyfeisiau Apple neu Android (oni nodir hynny):
- YouTube: cerddoriaeth, fideos a ffrydio.
- BBC iPlayer: gwylio teledu byw ac ar-alw.
- Spotify: ap ffrydio cerddoriaeth a phodlediadau.
- S4C Clic: gwylio teledu byw ac ar-alw cyfrwng Cymraeg.
- BBC Sounds: gwrando ar radio, cerddoriaeth a pholediadau.
- ITV X: ffrydio boxsets, ffilmiau a theledu byw.
