Cyfyngu ar hyrwyddo bwydydd â lefelau uchel o fraster, halen a siwgr: canllawiau gweithredu - Rhan 3: pa fwyd sydd o fewn y cwmpas
Sut mae Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025 yn cyfyngu ar gynhyrchion 'llai iach'.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pa fwyd sydd o fewn y cwmpas
Mae’r cynhyrchion o fewn cwmpas y rheoliadau, a elwir yn bwyd penodedig, yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau dim ond os ydynt yn cael eu gwerthu gan fusnes cymhwysol.
Categorïau cynhyrchion o fewn y cwmpas
Mae’r cynhyrchion a restrir isod yn enghreifftiau o’r hyn a allai fod o fewn a thu allan i gwmpas y rheoliadau.
Nid yw’r rhestrau hyn yn gynhwysfawr, oni nodir yn wahanol.
Er nad yw’r categorïau bwyd yn y rheoliadau yn gorgyffwrdd, gall rhai mathau o gynnyrch bwyd fod â chynhwysion neu nodweddion lluosog a allai berthyn i fwy nag un categori, er enghraifft, bar grawnfwyd wedi’i orchuddio â siocled. Os bydd angen penderfynu pa gategori mae’r cynnyrch yn perthyn iddo, gwneir hyn drwy asesiad cyffredinol gwrthrychol o gynhwysion a nodweddion y cynnyrch penodol sy’n cael ei gynnig i’w werthu, er mwyn penderfynu pa gategori sy’n disgrifio orau y cynnyrch o dan sylw.
Categori 1
Fel y nodir yn y rheoliadau:
- diodydd ysgafn parod sy’n cynnwys cynhwysion siwgr wedi’u hychwanegu (heblaw’r diodydd ysgafn esempt)
Enghreifftiau o gynhyrchion a allai fod o fewn y cwmpas:
- diodydd ysgafn gyda siwgr wedi’i ychwanegu, gan gynnwys lemonêd, cola a diodydd ffrwythau
- diodydd sydd wedi’u seilio ar laeth gyda siwgr neu felysyddion wedi’u hychwanegu, a diodydd efelychu llaeth gyda siwgr neu felysyddion wedi’u hychwanegu (er enghraifft, soia, almwn, ceirch, cywarch, cnau cyll neu reis ac ati)
- diodydd sydd wedi’u seilio ar ffrwythau gyda siwgr wedi’i ychwanegu
- sudd ffrwythau neu smwddis (gan gynnwys smwddis sy'n cynnwys llaeth) gyda siwgr wedi’i ychwanegu
- diodydd brecwast gyda siwgr wedi’i ychwanegu
- te a choffi parod i’w yfed sy’n cynnwys siwgr wedi’i ychwanegu cyn gwerthu
- powdrau coffi neu de gyda siwgr wedi’i ychwanegu (sachets, podiau neu syrypau)
- ar gyfer powdrau, dylid cyfrifo’r sgôr NPM yn seiliedig ar 100g o’r ddiod fel y’i hailgyfansoddir yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr; fel gyda phob cynnyrch, cyfeiriwch at ganllawiau technegol NPM 2011 am gymorth i gyfrifo’r sgoriau NPM
- 2 mewn 1 (powdr coffi a llaeth) neu 3 mewn 1 (coffi, powdr llaeth a siwgr) sy’n cynnwys siwgr wedi’i ychwanegu
- powdrau siocled poeth, podiau, syrypau a chynhyrchion parod i’w yfed sy’n cynnwys siwgr wedi’i ychwanegu
- powdrau diodydd brag gyda siwgr wedi’i ychwanegu
- powdrau ysgytlaeth a syrypau ysgytlaeth gyda siwgr wedi’i ychwanegu
- diodydd efelychu llaeth wedi’u cyflasu a heb eu cyflasu, gyda siwgr wedi’i ychwanegu
- chai latte gyda siwgr wedi’i ychwanegu
- kombucha gyda siwgr wedi’i ychwanegu
- diodydd egni gyda siwgr wedi’i ychwanegu
- powdrau protein gyda siwgr wedi’i ychwanegu
Enghreifftiau o gynhyrchion nad ydynt efallai o fewn y cwmpas:
- diodydd heb siwgr wedi’i ychwanegu, gan gynnwys llaeth (fel y’i diffinnir yn rheoliad 7 o Reoliadau Ardoll y Diwydiant Diodydd Ysgafn (ADDY)), diodydd llaeth heb eu melysu a smwddis heb eu melysu
- diodydd heb siwgr wedi’i ychwanegu ac wedi’u melysu â llaeth, sudd ffrwythau neu lysiau naturiol yn unig, gan gynnwys sudd ffrwythau
- diodydd alcoholig a diodydd efelychu alcohol gyda mwy na 1.2% o alcohol yn ôl cyfaint (ABV)
- ‘fformiwla babanod’, ‘fformiwla ddilynol’, ‘bwyd wedi’i seilio ar rawn wedi’i brosesu’ a ‘bwyd babanod’ fel y’u diffinnir yn rheoliad (UE) rhif 609/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor a gymathwyd
- cynhyrchion amnewid deiet yn llwyr fel y’u diffinnir yn rheoliad (UE) rhif 609/2013 a gymathwyd
- cynhyrchion amnewid prydau bwyd sy’n defnyddio ‘honiad iechyd’ cymeradwy a ddarperir yn yr atodiad i reoliad (UE) rhif 432/2012 a gymathwyd
- bwyd at ddibenion meddygol arbennig fel y’i diffinnir yn rheoliad (UE) rhif 609/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor a gymathwyd
Categori 2
Fel y nodir yn y rheoliadau:
- byrbrydau sawrus a fwriedir iddynt gael eu bwyta ar eu pen eu hunain neu yn rhan o bryd bwyd cyfan gan gynnwys:
- cynhyrchion wedi’u gwneud o datws, llysiau eraill, grawn neu godlysiau
- cynhyrchion allwthiedig, taflennog a phelennog
- cracers sawrus mewn bag, cacennau reis mewn bag neu fisgedi mewn bag er enghraifft creision, byrbrydau sydd wedi’u seilio ar fara pita, pretsels, popadoms, popgorn wedi’i halltu a chracers corgimwch (ond nid cnau amrwd, cnau wedi’u rhostio, cnau wedi’u caenu na chnau wedi’u cyflasu)
- byrbrydau sydd wedi’u seilio ar grofen porc, a fwriedir iddynt gael eu bwyta ar eu pen eu hunain neu fel yn rhan o bryd bwyd cyfan
Enghreifftiau o gynhyrchion a allai fod o fewn y cwmpas:
- creision
- cracers sawrus, cacennau reis a bisgedi sy’n cael eu gwerthu a’u bwyta fel dewisiadau amgen i greision
- pyffiau ŷd
- cylchoedd tatws
- sglodion tortilla
- creision wedi’u seilio ar ffacbys neu gorbys
- ffacbys wedi’u ffrio, wedi’u cyflasu neu wedi’u sesno
- byrbrydau wedi’u seilio ar wymon
- cymysgedd Bombay
Enghreifftiau o gynhyrchion nad ydynt efallai o fewn y cwmpas:
- cnau a hadau amrwd, wedi’u caenu, wedi’u rhostio neu wedi’u cyflasu (neu gymysgeddau o’r cynhyrchion hyn, er enghraifft, cymysgedd o gnau a hadau)
- byrbrydau sydd wedi’u seilio ar ffrwythau fel ffrwythau sych, creision ffrwythau neu sglodion ffrwythau (yn cynnwys cynhwysion ffrwythau wedi’u melysu a heb eu melysu)
- trail mix sy’n cynnwys ffrwythau sych a chnau neu hadau
- cig wedi’i sychu
- cynhyrchion math ‘dipio’, sy’n cynnwys ffyn bara a dip
- bariau hadau sawrus wedi’u gwasgu
- pecynnau mwy o ffyn bara nad ydynt wedi’u bwriadu i’w bwyta yn yr un ffordd neu ar yr un achlysur bwyta â chreision
Categori 3
Fel y nodir yn y rheoliadau:
- grawnfwydydd brecwast, gan gynnwys grawnfwydydd parod i’w bwyta, granola, miwsli, ceirch uwd a grawnfwydydd eraill sydd wedi’u seilio ar geirch
Enghreifftiau o gynhyrchion a allai fod o fewn y cwmpas:
- granola
- miwsli
- grawnfwydydd parod i’w bwyta
- ceirch uwd, gan gynnwys uwd sydyn a grawnfwydydd poeth eraill sydd wedi’u seilio ar geirch
Categori 4
Fel y nodir yn y rheoliadau:
- melysfwyd, gan gynnwys siocledi a melysion
Enghreifftiau o gynhyrchion a allai fod o fewn y cwmpas:
- popgorn melys, a phopgorn melys a hallt cymysg
- cnau, pysgnau, hadau a ffrwythau wedi’u caenu â siocled
- siocled gwyn, llaeth a thywyll
- siocled coginio
- bariau siocled a siocledi mewn bocs
- slabiau mewn bag neu losin mewn tiwb
- melysion ffrwythau jelïaidd
- gwm cnoi
- malws melys
- cynhyrchion wedi’u caenu â siocled, er enghraifft, pretsels wedi’u caenu â siocled
Enghreifftiau o gynhyrchion nad ydynt efallai o fewn y cwmpas:
- pob ffrwyth sych
- cnau wedi’u caenu â melysflas (ac eithrio cnau wedi’u caenu â siocled), er enghraifft, cynhyrchon wedi’u caenu â mêl, syryp, carob, blasau tsili melys â chymysgeddau o felys a hallt neu sawrus
- melysion heb siwgr a gwm cnoi heb siwgr
Categori 5
Fel y nodir yn y rheoliadau:
- hufen iâ, lolis iâ, iogwrt wedi’i rewi, iâ dŵr a chynhyrchion rhewedig tebyg
Enghreifftiau o gynhyrchion a allai fod o fewn y cwmpas:
- tybiau hufen iâ
- hufen iâ llaw
- lolis iâ
- bariau hufen iâ mewn siocled (choc ice)
- iogwrt wedi’i rewi
- hufen iâ figan
- sorbet
- hufen iâ arddull gelato
- hufen iâ heb lactos
- pwdinau hufen iâ, er enghraifft, arctic roll
- cynhyrchion wedi’u cyflasu ag alcohol, er enghraifft, hufen iâ wedi’i gyflasu â rỳm a rhesins, sy’n is na 1.2% ABV neu heb alcohol
Enghreifftiau o gynhyrchion nad ydynt efallai o fewn y cwmpas:
- ‘ategolion’ hufen iâ, fel sawsiau, ysgeintiadau a mathau eraill o addurniadau neu dopins cacen
- wafferi hufen iâ (cyfeirir atynt o dan gategori 7)
- roulade a gateaux (cyfeirir atynt o dan gategori 9)
Categori 6
Fel y nodir yn y rheoliadau:
- cacennau a chacennau cwpan
Enghreifftiau o gynhyrchion a allai fod o fewn y cwmpas:
- pob cacen sbwng
- cacennau cwpan
- bariau a sleisys cacen
- toesenni
- myffins Americanaidd
- fflapjacs
- Swisrôl
- brownis
- cacennau sgwâr/petryal (tray bakes)
- cacennau hufen
- mini rôls
- eclairs
- cacennau wedi’u rhewi
Enghreifftiau o gynhyrchion nad ydynt efallai o fewn y cwmpas:
- addurniadau cacen, gan gynnwys eisin a sawsiau
Categori 7
Fel y nodir yn y rheoliadau:
- bisgedi a bariau melys sy’n seiliedig ar un neu ragor o gnau, hadau neu rawnfwyd
Enghreifftiau o gynhyrchion a allai fod o fewn y cwmpas:
- bariau grawnfwyd (gall bariau grawnfwyd fod yn siâp tebyg i far siocled, wedi’u gwneud o rawnfwydydd a chynhwysion arferol eraill fel ffrwythau a chnau, ond gallant gynnwys bariau wedi’u seilio ar gnau a hadau hefyd)
- bisgedi melys wedi’u llenwi a heb eu llenwi
- bisgedi brecwast
- teisennau brau
- wafferi neu gonau hufen iâ
- bariau bisged wedi’u caenu â siocled
Categori 8
Fel y nodir yn y rheoliadau:
- nwyddau boreol, gan gynnwys croissants, pains au chocolat a chrystiau tebyg, cramwyth, crempogau, byns, cacennau te, sgonau, wafflau, crystiau Danaidd a thorthau ffrwythau
Enghreifftiau o gynhyrchion a allai fod o fewn y cwmpas:
- crystiau Danaidd
- croissants
- pains au chocolat a chrystiau tebyg
- cramwyth
- crempogau
- byns
- cacennau te
- sgonau
- wafflau
- myffins Seisnig
- bagelau (plaen a melys)
- torthau ffrwythau
- teisennau’r Groglith
- byns ffrwythau a byns melys heb ffrwythau (gan gynnwys byns eisin)
- Brioche
- torth frag (wedi’i melysu â siwgr neu ffrwythau)
Categori 9
Fel y nodir yn y rheoliadau:
- pwdinau, gan gynnwys pasteiod, tartenni a fflaniau, cacennau caws, gateaux, pwdinau llaeth, pwdinau sbwng, pwdin reis, crymblau, llenwadau ffrwythau, pwdinau o bowdr, cwstardau, jelïau a meringues
Enghreifftiau o gynhyrchion a allai fod o fewn y cwmpas:
- pasteiod melys, er enghraifft pastai afal, mins peis ac ati
- tartenni a fflaniau
- cacennau caws
- gateaux
- pwdinau llaeth
- pwdinau sbwng
- pwdin reis
- crymblau
- llenwadau ffrwythau
- roulade
- cymysgeddau pwdin o bowdr
- cwstardau
- jelïau
- pwdinau meringue
- pwdinau crwst choux
- mousses
- pwdin Nadolig
- treiffl
- roli poli
- pizzas pwdin
Enghreifftiau o gynhyrchion nad ydynt efallai o fewn y cwmpas:
- hufenau fel hufen chwip a hufenau wedi’u cyflasu neu wedi’u melysu
- syrypau
- caramel cyddwys
- topins a sawsiau pwdin
- ffrwythau mewn tun neu mewn can
Categori 10
Fel y nodir yn y rheoliadau:
- iogwrt a fromage frais wedi’u melysu (naill ai â siwgr neu fel arall)
Enghreifftiau o gynhyrchion a allai fod o fewn y cwmpas:
- iogyrtiau math Groegaidd wedi’u melysu ac wedi’u cyflasu
- iogyrtiau profiotig wedi’u melysu
- iogyrtiau hollt wedi’u melysu neu botiau dwy siambr
- iogyrtiau plant wedi’u melysu
- iogyrtiau heb fraster a braster isel wedi’u melysu
- iogyrtiau heb laeth wedi’u melysu
- fromage frais wedi’i felysu
- iogyrtiau yfed wedi’u melysu, er enghraifft, iogwrt i’w yfed, heb unrhyw hylifau ychwanegol (fel llaeth, dŵr neu sudd ffrwythau)
Enghreifftiau o gynhyrchion nad ydynt efallai o fewn y cwmpas:
- iogwrt naturiol ac iogwrt a fromage frais heb eu melysu, gan gynnwys iogwrt Groegaidd plaen
Categori 11
Fel y nodir yn y rheoliadau:
- pizza (ac eithrio seiliau pizza plaen)
Enghreifftiau o gynhyrchion a allai fod o fewn y cwmpas:
- pizzas padell ddofn, dysgl ddofn, crwst tenau a chrwst wedi’i stwffio
- topin o bob math a maint
- pizzas bara fflat
Enghreifftiau o gynhyrchion nad ydynt efallai o fewn y cwmpas:
- seiliau pizza plaen
- bara garlleg a bara garlleg caws, a mathau wedi’u llwytho
Categori 12
Fel y nodir yn y rheoliadau:
- tatws rhost, sglodion, sglodion tenau a thalpiau o datws a thatws melys, wafflau tatws, siapiau tatws difyr (megis wynebau gwên), hash browns, rostis, sleisys tatws creisionllyd, croquettes tatws
Enghreifftiau o gynhyrchion a allai fod o fewn y cwmpas:
- fel y rhestrir uchod yn y disgrifiad categori
Enghreifftiau o gynhyrchion nad ydynt efallai o fewn y cwmpas:
- tatws plaen neu datws melys nad ydynt wedi’u trin, eu coginio, eu torri nac wedi’u siapio
- saladau tatws
Categori 13
Fel y nodir yn y rheoliadau:
- cynhyrchion sy’n cael eu marchnata fel rhai sy’n barod ar gyfer eu coginio neu eu hailgynhesu heb fod angen eu paratoi ymhellach ac y bwriedir iddynt gael eu bwyta fel pryd bwyd cyfan
- cynhyrchion, heblaw am gynhyrchion sy’n cynnwys crwst, sydd mewn saws neu sydd â saws (ond nid marinâd, sglein, dresin, sesnin na chyfwyd tebyg) sy’n cael eu marchnata fel rhai sy’n barod ar gyfer eu coginio neu eu hailgynhesu heb fod angen eu paratoi ymhellach ac y bwriedir iddynt gael eu bwyta fel prif elfen pryd o fwyd
- yr eitemau a ganlyn sydd mewn briwsion bara neu gytew:
- cynhyrchion llysiau, pysgod, pysgod cregyn, cig, neu ddofednod
- cynhyrchion efelychu pysgod, cynhyrchion efelychu pysgod cregyn, cynhyrchion efelychu cig neu gynhyrchion efelychu dofednod gan gynnwys bysedd pysgod, cacennau pysgod a chnapiau cyw iâr
Enghreifftiau o gynhyrchion a allai fod o fewn y cwmpas:
- Prydau parod: prydau wedi’u paratoi (a awgrymir yn aml i’w cynhesu yn y ficrodon neu’r popty), fel prydau Tsieineaidd, Thai, Eidalaidd, traddodiadol ac ati, gyda chyfwyd carbohydrad (tatws, reis, nwdls, pasta ac ati wedi’u gwneud o gig, dofednod, pysgod, cynnyrch efelychu cig neu lysiau. Pasta wedi’i lenwi neu wedi’i stwffio (er enghraifft, ravioli a tortellini) pa un a yw wedi’i oeri neu mewn tun ai peidio. Yn cynnwys prydau fel cyri llysiau, dhal a phrydau eraill y gellir eu bwyta fel pryd o fwyd. Pasteiod gyda thopin tatws (er enghraifft, pastai’r bugail), byrgyrs mewn bynsen, a sglodion tenau, sglodion neu wedjys gyda thopins (y cyfeirir atynt yn aml fel ‘dirty fries/sglodion budr’ neu ‘loaded fries/sglodion wedi’u llwytho’) a thatws trwy’u crwyn wedi’u llenwi.
- Pasta, reis neu nwdls ffres gyda chynhwysion a blasau wedi’u hychwanegu, gan gynnwys pasta wedi’i lenwi neu ei stwffio (er enghraifft, ravioli a tortellini).
- Sylfaen y pryd bwyd: sylfaen y pryd bwyd wedi’i baratoi (gydag awgrym yn aml i’w wresogi yn y ficrodon neu’r popty), fel eitemau Tsieineaidd, Thai, Eidalaidd, traddodiadol ac ati, wedi’i wneud o gig, dofednod, pysgod, cynnyrch efelychu cig neu lysiau. Mae cynhyrchion fel hyn o fewn y cwmpas os ydynt yn cael eu gweini mewn saws neu gyda saws fel rhan o’r cynnyrch, er enghraifft, mewn pecyn neu fag bychan y bwriedir ei dywallt wrth ei gynhesu neu ar ôl ei gynhesu.
- Eitemau sydd mewn cytew neu friwsion bara (ffres, wedi’u hoeri neu wedi’u rhewi): nifer o gynhyrchion y gellid eu bwyta fel prif elfen pryd o fwyd fel bysedd pysgod, cnapiau cyw iâr, pysgod mewn cytew, goujons pysgod neu gyw iâr, cynhyrchion efelychu cig mewn briwsion bara, scampi, kievs, ffiledi cyw iâr mewn briwsion bara, cynhyrchion gyda ‘phwdr ysgafn’ drostynt, cynhyrchion wedi’u caenu â grawnfwyd a dewisiadau amgen heb glwten.
Enghreifftiau o gynhyrchion nad ydynt efallai o fewn cwmpas:
- Citiau prydau bwyd a fanwerthir: er enghraifft, citiau prydau bwyd fajita neu enchilada neu gitiau eraill sy’n cynnwys cynhwysion y mae angen eu paratoi a’u cyfuno ar gyfer coginio pryd o fwyd.
- Cynhyrchion cynhyrchion wedi’u seilio ar gaws mewn briwsion bara neu gytew a fwriedir i’w bwyta fel cwrs cyntaf neu bryd ochr.
- Ham wedi’i goginio a’i orchuddio â briwsion bara neu gynhyrchion charcuterie.
- Cynhyrchion crwst sawrus: cynhyrchion wedi’u prosesu, parod i’w bwyta, wrth fynd, ategol ar dymheredd amgylchynol, wedi’u hoeri ac wedi’u rhewi fel pasteiod, pastenni, sosej rôls, tartennau, tartennau bach, quiches, sleisys, latisau a phlethau crwst cig, pysgod, llysiau neu gynhyrchion efelychu cig.
- Cig, dofednod, pysgod, pysgod cregyn neu gynhyrchion efelychu cig, naill ai wedi’u gweini yn blaen, wedi’u mygu neu gyda marinâd (mae marinâd yn wahanol i saws gan y bwriedir iddo gael ei amsugno i’r bwyd cyn coginio neu wrth goginio fel nad oes unrhyw hylif sylweddol yn parhau i’w dywallt dros yr eitem fwyd ar ôl ei choginio neu ei chynhesu), sglein, dresin, rhwbiad sesnin neu gyfwyd tebyg. Mae ‘cig’ yn cynnwys cig a chynhyrchion cig wedi’u prosesu fel ham, salami, chorizo, cig moch, gamon, cluniau cyw iâr, griliau, byrgyrs (heb fynsen), selsig a stêcs.
- Cigoedd, pysgod, pysgod cregyn neu gynhyrchion efelychu cig sy’n blaen (er enghraifft, ffiledi cyw iâr plaen amrwd) neu sydd wedi’u mygu (er enghraifft, cig a physgod mwg) neu sy’n gigoedd wedi’u prosesu (fel ham, salami a chig moch).
- Pasteiod sawrus wedi’u gwneud â chrwst.
- Quiches.
- Brechdanau.
- Sushi.
- Bwydydd eraill nad ydynt wedi’u coginio nac wedi’u hailgynhesu cyn eu bwyta.
- Bwyd parti (ac eithrio bwyd mewn briwsion bara neu gytew) nad yw wedi’i fwriadu i’w fwyta fel prif bryd, er enghraifft, quiche bach neu selsig bach (nid yw hon yn rhestr gyflawn).
Cynhyrchion unigol o gymharu â phrydau cyfansawdd
Efallai y bydd cynhyrchion y tu allan i gwmpas y cyfyngiadau hyrwyddo pan gânt eu gwerthu fel eitem unigol, ond eu bod o fewn cwmpas y cyfyngiadau pan fyddant yn cael eu cynnwys o fewn pryd parod neu gynnyrch cyfan (er enghraifft, mae selsig y tu allan i gwmpas y cyfyngiadau hyrwyddo, ond mae pryd parod selsig a stwnsh o fewn y cwmpas).
Mae hyn oherwydd tystiolaeth sy’n dangos bod categorïau cynnyrch fel prydau parod yn cyfrannu at lefel calorïau plant ac yn cael eu hyrwyddo i raddau sylweddol.
Cynhyrchion tymhorol a hyrwyddiadau tymhorol
Mae sawl pwynt hyrwyddo tymhorol yn ystod y flwyddyn gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, y Nadolig, Diwali, Dydd Sant Ffolant, Pasg, Sul y Mamau, Sul y Tadau a Chalan Gaeaf.
Mae cynhyrchion sydd o fewn cwmpas atodlen 1 yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau o hyd, ni waeth a ydynt yn cael eu brandio fel rhai tymhorol. Fodd bynnag, mae busnesau’n gallu hyrwyddo cynhyrchion tymhorol sydd yng nghategorïau atodlen 1 os nad ydynt yn llai iach yn unol â’r model proffilio maethynnau.
Detholiadau, plateidiau, hamperi a setiau rhodd
Os yw eitem o fwyd wedi’i ragbecynnu yn cynnwys mwy nag un math o fwyd ac yn cynnwys bwyd penodedig ynddo, mae’r eitem gyfan i’w thrin fel bwyd penodedig.
Mae hyn yn cynnwys enghreifftiau fel detholiadau neu blateidiau, hamperi a setiau rhodd sy’n cynnwys sawl eitem wahanol o fwyd.
Bwyd wrth fynd
Bydd bwyd penodedig sy’n cael ei werthu mewn busnesau cymhwysol o fewn cwmpas y cyfyngiadau pa un a yw wedi’i nodi fel 'bwyd wrth fynd' ai peidio.
