Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025 yn cyfyngu ar gynhyrchion 'llai iach'.

Cyhoeddwyd gyntaf: 23 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 11 Awst 2026

Rhan 1: cyflwyniad

Cyflwyniad

Ym mis Mehefin 2022, yn rhan o’i strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach i leihau lefelau gordewdra yng Nghymru, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar gyfres o fesurau amgylchedd bwyd iach, gan gynnwys cynigion i gyfyngu ar hyrwyddo a lleoli bwydydd sy’n cynnwys lefelau uchel o fraster, siwgr a halen (HFSS) mewn lleoliadau manwerthu a chyfyngu ar ail-lenwi diodydd llawn siwgr am ddim yn y sector y tu allan i’r cartref.

Ym mis Gorffennaf 2024, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar y rheoliadau drafft a’r dull gorfodi ar gyfer cyfyngiadau ar hyrwyddo a chyflwyno sy’n adlewyrchu rheoliadau cyfatebol cyfredol yn Lloegr i raddau helaeth.

Bydd y Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025 (y cyfeirir atynt fel ‘y rheoliadau’ yn y canllawiau hyn oni nodir yn wahanol) yn dod i rym ar 26 Mawrth 2026.

Mae’r canllawiau hyn yn helpu i ddangos sut y mae’r rheoliadau yn cyfyngu ar hyrwyddo HFSS neu gynhyrchion ‘llai iach’. Yn fras, mae’r rheoliadau yn cyfyngu ar hyrwyddo cynhyrchion HFSS drwy’r canlynol:

  • pris ar sail swmp (er enghraifft, cynigion amleitem)
  • lleoliadau allweddol mewn siopau (mynedfeydd siopau, pen draw eil a mannau talu) pan fo siopau manwerthu dros 185.8 metr sgwâr (m2) (neu 2,000 troedfedd sgwâr) a’r lleoliadau allweddol cyfatebol ar-lein
  • ail-lenwi rhai diodydd

Mae’r cyfyngiadau hyn yn gymwys i fusnesau canolig a mawr (sydd â 50 neu ragor o weithwyr) sy’n ‘fusnes cymhwysol’ fel y’u disgrifir yn y rheoliadau.

Gall methu â chydymffurfio â’r rheoliadau arwain at gyflwyno hysbysiad gwella a dirwy droseddol neu gosb ariannol benodedig wedi hynny os nad yw’r busnes o dan sylw yn cydymffurfio fel sy’n ofynnol.

Statws cyfreithiol

Yn y pen draw, cyfrifoldeb busnesau unigol yw cydymffurfio â’r cyfyngiadau y mae’r rheoliadau yn darparu ar eu cyfer. Dylai busnesau ac awdurdodau gorfodi felly gyfeirio yn ôl at y rheoliadau eu hunain wrth asesu cydymffurfiaeth. Er mai bwriad y canllawiau hyn yw cynorthwyo â gweithredu’r rheoliadau drwy helpu i ddangos sut y maent yn gweithio, nid yw’n ddatganiad awdurdodol nac yn ddehongliad awdurdodol o’r gyfraith ac felly dim ond ar y cyd â’r rheoliadau eu hunain y dylid eu darllen.

Rhagor o adnoddau a chymorth

Un ffordd o leihau sgôr Model Proffilio Maethynnau cynhyrchion sydd o fewn cwmpas y cyfyngiadau fyddai eu hailfformiwleiddio. Os ydych yn gweithredu busnes yng Nghymru, efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth gan Arloesi Bwyd Cymru. Mae eu gwasanaethau’n cynnwys cymorth technegol i ddatblygu ac ailfformiwleiddio cynhyrchion iachach.

Os yw’ch busnes yn gweithredu yn Lloegr hefyd, efallai yr hoffech gyfeirio at ganllawiau Llywodraeth y DU ar eu rheoliadau cyfatebol.

Mae’r disgrifiadau a’r enghreifftiau yn y canllawiau hyn wedi’u halinio lle bynnag y bo modd â chanllawiau Llywodraeth y DU i helpu busnesau sy’n gweithredu yn y ddwy wlad.

Ymholiadau cyffredin

Yn yr adran hon, gellir dod o hyd i atebion i rai ymholiadau cyffredin. Os oes gennych gwestiwn na allwch ddod o hyd i’r ateb iddo yn y canllawiau hyn, anfonwch e-bost i pwysauIachcymruiach@llyw.cymru. Byddwn yn diweddaru’r adran hon o’r canllawiau o bryd i’w gilydd i adlewyrchu unrhyw ymholiadau newydd a ddaw i law.

Sut i benderfynu beth yw bwyd wedi’i ragbecynnu

Mae’r rheoliadau’n gymwys i fwyd wedi’i ragbecynnu, fel y’i diffinnir yn erthygl 2(2)(e) o reoliad (EU) rhif 1169/2011:

‘prepacked food’ means any single item for presentation as such to the final consumer and to mass caterers, consisting of a food and the packaging into which it was put before being offered for sale, whether such packaging encloses the food 5 completely or only partially, but in any event in such a way that the contents cannot be altered without opening or changing the packaging; ‘prepacked food’ does not cover foods packed on the sales premises at the consumer’s request or prepacked for direct sale.

Ble i gael cymorth i ddeall a yw cynnyrch o fewn cwmpas y rheoliadau

Mae gwybodaeth i gynorthwyo busnesau i ddeall a yw cynnyrch o fewn cwmpas y rheoliadau ar gael yn yr adran pa fwyd sydd o fewn cwmpas yn y canllawiau hyn. Os oes angen rhagor o gymorth neu wybodaeth arnoch, dylech gysylltu â’ch awdurdod lleol.

Sut i gyfrifo’r arwynebedd perthnasol y llawr mewn siop

Dylai busnesau gyfrifo eu harwynebedd perthnasol y llawr er mwyn deall a yw eu siopau o fewn cwmpas y cyfyngiadau lleoliad yn y siop. Mae arwynebedd perthnasol y llawr mewn siop yn eithrio rhai ardaloedd mewn siop, fel ardaloedd storio. Mae rhagor o wybodaeth am sut i gyfrifo arwynebedd perthnasol y llawr mewn siop ar gael yn rheoliad 6(3)(e) o’r rheoliadau ac yn yr adran hyrwyddiadau lleoliad yn y canllawiau hyn.

Sut i gyfrifo’r ardal gyfyngedig yn rhan flaen siop

Cyfeiriwch at reoliad 6 o’r rheoliadau, neu'r adran hyrwyddiadau lleoliad yn y canllawiau hyn, i gael gwybodaeth am sut i gyfrifo’r ardal gyfyngedig yn rhan flaen eich siop.

Sut i bennu’r gwahaniaeth rhwng eil a mathau eraill o unedau

Gall y modd y caiff unedau arddangos eu gosod (hynny yw, a ydynt yn ffurfio eil gyda phen draw eil) effeithio ar sut y mae’r rheoliadau yn gymwys iddynt. Mae rhagor o wybodaeth am eiliau ar gael yn yr adran "pennu’r hyn all ffurfio eil" yn y canllawiau hyn. Yn yr adran hyrwyddiadau lleoliad yn y canllawiau hyn, gellir gweld rhai enghreifftiau o sut y gall y rheoliadau fod yn gymwys i unedau rhewgell mewn ffurfiannau gwahanol, gyda darluniau graffig. Os nad ydych yn siŵr a fydd cyfyngiadau’n gymwys i unedau rhewgell yn eich siop chi, dylech gysylltu â’ch awdurdod lleol i gael rhagor o arweiniad.

Eithrio ardaloedd gweini a chiwio, sy’n gysylltiedig â chonsesiynau bwyd, sy’n gwerthu bwyd y bwriedir ei fwyta ar unwaith, ar sail cyfrifiadau arwynebedd perthnasol y llawr

Gellir eithrio ardaloedd gweini a chiwio sy’n gysylltiedig â chonsesiynau bwyd, sy’n rhan o’r siop a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer gwerthu bwyd y bwriedir ei fwyta ar unwaith (naill ai ar neu oddi ar y fangre), at ddibenion pennu arwynebedd perthnasol y llawr.

Sut y mae’r rheoliadau’n gymwys i fusnesau ar-lein yn unig

Gall y rheoliadau fod yn gymwys i fusnesau ar-lein yn unig. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran busnesau o fewn y cwmpas yn y canllawiau hyn neu yn rheoliad 4.

Y gwahaniaethau rhwng categorïau cynnyrch ar gyfer y rheoliadau hyn a’r rhai a restrir ar gyfer rheoliadau cyfatebol yn Lloegr (Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Lloegr) 2021)

Yn gyffredinol, y bwriad yw bod y categorïau cynnyrch cyffredinol yn y rheoliadau hyn yn cyd-fynd â’i gilydd. Fodd bynnag, dylai busnesau gydymffurfio â’r rheoliadau sy’n gymwys yn y wlad benodol honno o’r DU wrth ystyried a yw eitem yn dod o fewn categori cynnyrch.

Y gwahaniaethau rhwng cyfyngiadau hyrwyddo yn y rheoliadau hyn ac yn rheoliadau cyfatebol Lloegr (Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Lloegr) 2021)

Bwriedir i gyfyngiadau hyrwyddo yn rheoliadau Cymru gyfateb i reoliadau yn Lloegr i raddau helaeth. Fodd bynnag, ceir rhai gwahaniaethau y bydd busnesau yn dymuno eu nodi. Er enghraifft, o ran hyrwyddiadau ar becynnau a chyfyngiadau pen draw eil:

Hyrwyddiadau ar becynnau

Mae canllawiau Llywodraeth y DU ar ei rheoliadau yn egluro bod cyfnod pontio yn Lloegr tan 30 Medi 2026 sy’n caniatáu i fanwerthwyr werthu stoc sydd ganddynt eisoes a gynhyrchwyd cyn mis Hydref 2025 sydd â hyrwyddiadau pris ar sail swmp ar y pecynwaith na allant eu tynnu. Ar ôl 30 Medi 2026, os yw hyrwyddiad pris ar sail swmp wedi’i farcio ar y pecynwaith ar 7 gyfer gwerthu mewn rhannau eraill o’r DU lle caniateir hyrwyddiadau o’r fath, rhaid i’r pecynwaith nodi’n glir ac yn amlwg nad yw’r hyrwyddiad yn gymwys i Loegr.

Yng Nghymru, nid yw’r rheoliadau yn cyfyngu ar gynnig ar gyfer eu gwerthu gynhyrchion mewn cwmpas sydd â hyrwyddiadau pris ar sail swmp ar eu pecynwaith. Caiff manwerthwyr ddewis parhau i werthu cynhyrchion sydd â hyrwyddiadau pris ar eu pecynwaith, fodd bynnag, ni ddylid cynnig y cynhyrchion hynny i’w gwerthu yn rhan o’r hyrwyddiad pris ar sail swmp hwnnw. Nid oes unrhyw gyfnod pontio ar gyfer y cyfyngiad hwn. Dylid cyfleu’n glir wrth ddefnyddwyr nad yw’r cynnyrch yn cael ei gynnig i’w werthu yn rhan o’r hyrwyddiad hwnnw. Mae rhagor o ganllawiau ar hyrwyddiadau ar y pecynwaith ar gael yn yr adran hyrwyddiadau ar becynnau yn y canllawiau hyn.

Cyfyngiadau pen draw eil

Mae rheoliad 7(1)(c)(i) o Reoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Lloegr) 2021 yn darparu na chaiff person cymhwysol roi bwyd penodedig y tu mewn i siop ar arddangosfa ar ben draw eil (ond nid yn yr eil), pan fo pen draw eil yn gyfagos â phrif lwybr cwsmeriaid drwy’r siop, neu ar strwythur ar wahân sy’n gysylltiedig â phen draw eil, yn gyfagos â hi neu o fewn 50cm iddi.

Yng Nghymru, mae cyfyngiadau pen draw eil yn gymwys, ni waeth a yw pen draw eil yn gyfagos â phrif lwybr cwsmeriaid drwy siop ai peidio, fel yr adlewyrchir yn Rheoliad 6(1)(c) o reoliadau Cymru. Mae rhagor o ganllawiau ar gyfyngiadau pen draw eil ar gael yn yr adran pen draw eil yn y canllawiau hyn.

Y gwahaniaethau rhwng cyfyngiadau lleoliad yn y rheoliadau hyn ac yn rheoliadau cyfatebol Lloegr (Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Lloegr) 2021)

Bwriedir i gyfyngiadau lleoliad yn rheoliadau Cymru gyfateb i’r rheoliadau yn Lloegr i raddau helaeth. Fodd bynnag, mae’r cyfyngiadau yn y siop yn y rheoliadau hyn yn gymwys i arddangos ar ben draw eil (ond nid yn yr eil), ni waeth a yw pen draw eil yn gyfagos â phrif lwybr cwsmeriaid drwy’r siop ai peidio (gweler rheoliad 6(1)(c) o’r rheoliadau hyn).

Cyfrifo sgôr NPM cynhyrchion pan restrir gwybodaeth pecynwaith y cynnyrch ‘fel y’i bwyteir’, yn hytrach na ‘fel y’i gwerthir’

Gweler atodiad 4 o’r canllawiau hyn i gael gwybodaeth am gyfrifo sgoriau NPM ar gyfer cynhyrchion gwahanol. Mae rhagor o wybodaeth hefyd ar gael yng nghanllawiau technegol NPM 2011.

Sut y mae’r rheoliadau yn effeithio ar ail-lenwi diodydd heb siwgr am ddim

Gall busnes cymhwysol at ddibenion y cyfyngiadau ail-lenwi am ddim barhau i gynnig ail-lenwi diodydd am ddim nad ydynt yn bodloni’r meini prawf a bennir yn rheoliad 8(1) o’r rheoliadau. Ni fydd diodydd nad ydynt yn ddiodydd meddal wedi’u paratoi sy’n cynnwys cynhwysion siwgr ychwanegol, fel y’u disgrifir yn atodlen 2 i’r rheoliadau, yn bodloni’r meini prawf hyn. Gweler rheoliad 8 neu’r adran ail-lenwi am ddim yn y canllawiau hyn i gael rhagor o wybodaeth am sut y mae cyfyngiadau ail-lenwi am ddim yn gymwys.

Sut y mae’r categorïau bwyd y mae’r rheoliadau hyn yn gymwys iddynt yn wahanol i’r rhai a nodir yn rheoliadau hysbysebion darlledu ac ar-lein Llywodraeth y DU

Yn gyffredinol, bwriedir i’r categorïau cynnyrch cyffredinol yn y rheoliadau hyn gyfateb i’r rhai yng nghategorïau 1 i 12 o reoliadau hysbysebion darlledu ac ar-lein Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae rhai gwahaniaethau yn y cynhyrchion yng nghategori 13. Mae rhagor o wybodaeth am y rhyngweithio rhwng y ddwy set o reoliadau ar gael yn yr adran cyfyngiadau hysbysebion darlledu ac ar-lein yn y canllawiau hyn.

Sut y mae’r cyfyngiadau hyrwyddo a chyflwyno a nodir yn y rheoliadau yn gymwys i fusnesau y tu allan i’r cartref

Mae busnes y tu allan i’r cartref a fyddai fel arall yn fusnes cymhwysol, ond sy’n bodloni’r diffiniad o fwyty yn y rheoliadau, wedi’i eithrio o’r cyfyngiadau hyrwyddo a chyflwyno. Mae’r eithriad hwn wedi’i nodi yn rheoliad 4(1)(c)(iii). Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd y cyfyngiad ail-lenwi am ddim yn gymwys iddynt. Mae rhagor o wybodaeth am y math o fusnesau sydd o fewn cwmpas y cyfyngiadau ar gael yn yr adran pa fusnesau sy’n gorfod cydymffurfio â’r cyfyngiadau hyrwyddo yn y canllawiau hyn.

Sut y mae’r rheoliadau’n gymwys i fargeinion bwyd a gostyngiadau dros dro mewn prisiau (TPR)

Nid yw hyrwyddiadau bargeinion bwyd a gostyngiad dros dro mewn prisiau (TPR) o fewn cwmpas y rheoliadau hyn. Mae rhagor o wybodaeth am ba gynigion hyrwyddo sydd o fewn cwmpas y rheoliadau ar gael yn yr adran cyfyngiadau hyrwyddo yn y canllawiau hyn neu yn rheoliad 5(2).

Sut i ddangos cydymffurfiaeth â’r rheoliadau i swyddog gorfodi yn ystod archwiliad

Gweler yr wybodaeth yn yr adran sut i ddangos cydymffurfiaeth i swyddogion gorfodi archwilio yn y canllawiau hyn.

Diffiniadau

Bwyd

At ddibenion y rheoliadau hyn, mae i bwyd yr un ystyr ag sydd i 'food' yn adran 1(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (“deddf 1990”), sy’n cyfeirio at reoliad (EC) rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a’r Cyngor yn gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau mewn materion diogelwch bwyd. Yn rheoliad (EC) rhif 178/2002, mae bwyd yn cynnwys diod (ymhlith pethau eraill).

Oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at fwyd yn y canllawiau hyn yn cynnwys bwyd a diod.

Defnyddwyr

Mae’r rheoliadau’n defnyddio’r diffiniad o ddefnyddiwr fel y’i rhoddir gan y diffiniad o ‘consumer’ yn adran 2(3) o Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015. Mae’n diffinio defnyddiwr fel unigolyn sy’n gweithredu at ddibenion sydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf y tu allan i fasnach, busnes, crefft neu broffesiwn yr unigolyn hwnnw.

Marchnad ar-lein

At ddibenion y rheoliadau, ystyr marchnad ar-lein yw unrhyw feddalwedd (gan gynnwys gwefan, rhan o wefan neu raglen) a ddefnyddir i gynnig cynhyrchion y busnes cymhwysol i’w gwerthu i ddefnyddwyr. Gallai cynhyrchion busnes cymhwysol gynnwys unrhyw gynnyrch a werthir gan fusnes cymhwysol, gan gynnwys brand y busnes ei hun a chynhyrchion brand eraill.

Bwyd wedi’i ragbecynnu

Diffinnir bwyd wedi’i ragbecynnu fel y diffinnir ‘prepacked food’ yn erthygl 2(2)(e) o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 o Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 25 Hydref 2011 ar ddarparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr:

prepacked food means any single item for presentation as such to the final consumer and to mass caterers, consisting of a food and the packaging into which it was put before being offered for sale, whether such packaging encloses the food completely or only partially, but in any event in such a way that the contents cannot be altered without opening or changing the packaging

At ddibenion Rheoliad (UE) rhif 1169/2011 a gymathwyd ar wybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr a Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025, nid yw bwyd wedi’i ragbecynnu yn cynnwys bwydydd sydd wedi’u pecynnu yn y fangre gwerthu ar gais y defnyddiwr neu wedi’u rhagbecynnu i’w gwerthu’n uniongyrchol.

Bwyd atodlen 1

Ystyr bwyd atodlen 1 yw bwyd neu ddiod sy’n dod o fewn categori yn atodlen 1 i’r rheoliadau.

Bwyd penodedig

Ystyr bwyd penodedig yw bwyd sydd wedi’i gynnwys mewn eitem fwyd wedi’i rhagbecynnu sy’n perthyn i gategori atodlen 1 ac sy’n cael ei sgorio fel ‘llai iach’ yn unol â’r canllawiau technegol ar gyfer proffilio maethynnau 2011. Nid yw’n fwyd:

  • a ddarperir gan elusen wrth gynnal ei gweithgareddau elusennol (boed am ddim neu am bris sy’n llai na chost darparu’r bwyd hwnnw)
  • a gynigir ar werth gan neu ar ran elusen, mewn digwyddiad unigol, er mwyn codi arian ar gyfer ei gweithgareddau elusennol

Busnes cymhwysol

Busnesau sy’n ddarostyngedig i’r rheoliadau.

Bwyty

Busnes y mae ei fangre yn cael ei ddefnyddio yn bennaf ar gyfer paratoi neu werthu bwyd y bwriedir ei fwyta ar unwaith, naill ai ar neu oddi ar y fangre. Gan gynnwys:

  • caffi
  • siop goffi
  • busnes bwyd cyflym
  • busnes cludfwyd

Rhan 2: pa fusnesau sy’n gorfod cydymffurfio â’r cyfyngiadau hyrwyddo

Pa fusnesau sy’n gorfod cydymffurfio â’r cyfyngiadau hyrwyddo?

Busnesau sydd o fewn cwmpas y cyfyngiadau

Cyfeirir at fusnesau yng nghwmpas y cyfyngiadau fel busnesau cymhwysol ac fe’u diffinnir yn rheoliad 4. Gallai busnesau cymhwysol gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, sefydliadau manwerthu sydd â 50 neu ragor o gyflogeion (yn y siop ac ar-lein) fel:

  • archfarchnadoedd
  • manwerthwyr bwyd ar-lein
  • manwerthwyr ar-lein sy’n gwerthu unrhyw fwyd wedi’i ragbecynnu (er enghraifft, gwefannau anrhegion)
  • siopau cyfleustra
  • siopau adrannol
  • siopau dillad
  • fferyllfeydd
  • blaengyrtiau petrol a gorsafoedd gwasanaeth
  • siopau blodau
  • siopau DIY
  • canolfannau garddio
  • safleoedd manwerthu mewn canolfannau trafnidiaeth (mae hyn yn cynnwys manwerthwyr ardal ochr yr awyr ac ardal ochr y tir, manwerthwyr di-doll mewn meysydd awyr a manwerthwyr mewn gorsafoedd trên neu borthladdoedd fferi)
  • safleoedd manwerthu mewn atyniadau ymwelwyr neu leoliadau adloniant (er enghraifft, siopau anrhegion sy’n gwerthu siocled wedi’i ragbecynnu)
  • manwerthwyr mewn ysbytai

Mae busnesau sy’n cynnig ar werth unrhyw ddiod y mae rheoliad 8(1) yn gymwys iddi ac sy’n cyflogi 50 neu ragor o gyflogeion yn fusnes cymhwysol at ddibenion y cyfyngiadau ail-lenwi am ddim, oni bai bod eithriad perthnasol yn gymwys iddynt.

Busnesau wedi’u heithrio o’r cyfyngiadau ar hyrwyddiad pris ar sail swmp a lleoliad

Mae'r busnesau canlynol wedi’u heithrio o’r cyfyngiadau ar hyrwyddiad pris ar sail swmp a lleoliad:

  • Busnesau micro neu fusnesau bach (busnesau sydd â llai na 50 o gyflogeion).
  • Ysgolion, colegau a sefydliadau addysgol eraill o’r fath sy’n darparu addysg yn unig a bod addysg yn cael ei darparu yn gyfan gwbl neu’n bennaf i blant dan 18 oed.
  • Bwytai, hyd yn oed os ydynt yn gwerthu bwyd HFSS wedi’i ragbecynnu. Fodd bynnag, mae bwytai yn ddarostyngedig i’r cyfyngiad ar ail-lenwi diodydd llawn siwgr am ddim. Gweler yr adran "bwyty" isod am ragor o wybodaeth.
  • Cartrefi gofal sy’n darparu gwasanaeth yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bobl 18 oed neu’n hŷn ac sy’n darparu bwyd i breswylwyr yn unig heb fod angen talu fesul eitem o fwyd. Gallai’r eithriad hwn gynnwys lleoliadau gofal cymdeithasol fel:
    • cartrefi preswyl
    • cartrefi gorffwys
    • cartrefi ymadfer
    • gofal seibiant
    • tai argyfwng iechyd meddwl
  • Sefydliadau milwrol ar gyfer personél gweithredol (môr, tir ac awyr), carchardai, sefydliadau troseddwyr ifanc ac ysbytai, a sefydliadau eraill nad ydynt yn gweithredu busnes wrth ddarparu bwyd i breswylwyr. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd bwyty sy’n cynnig unrhyw ddiod y mae rheoliad 8(1) yn gymwys iddi i’r cyhoedd yn gyfnewid am dâl fod yn fusnes cymhwysol at ddibenion rheoliad 8 yn ymwneud ag ail-lenwi diodydd am ddim.
  • Bwyd sy’n cael ei ddarparu gan elusen fel rhan o’i gweithgareddau elusennol (ni waeth a yw’r bwyd am ddim neu’n cael ei werthu am bris sy’n rhatach na’r gost o ddarparu’r bwyd), neu fwyd a gynigir i’w werthu gan neu ar ran elusen i godi arian at ei gweithgareddau elusennol mewn un digwyddiad. Fodd bynnag, mae bwyd penodedig sy’n cael ei werthu gan fanwerthwr nad yw’n elusen lle mae canran neu swm penodol o’r gost yn mynd at elusen (er enghraifft, "mae 20c o werthiant y cynnyrch hwn yn cael ei rhoi i elusen") o fewn cwmpas y cyfyngiadau hyrwyddo ac felly hefyd y cyfyngiadau lleoliad a hyrwyddiad pris ar sail swmp.
  • Gweithgynhyrchwyr oni bai eu bod yn gwerthu’n uniongyrchol i ddefnyddwyr.
  • Busnesau (er enghraifft, cyfanwerthwyr) sy’n gwerthu bwyd i fusnesau eraill yn unig ac nid yn uniongyrchol i ddefnyddwyr. Meddalwedd nad yw’n drafodiadol, fel gwefannau neu apiau lle na allwch brynu cynnyrch (er enghraifft, gwefan brand gweithgynhyrchwr, a allai gynnwys gwybodaeth am ei amrywiaeth o gynhyrchion ond ni all defnyddiwr brynu’r cynnyrch ar y wefan honno). Os yw gwefan nad yw’n drafodiadol yn cynnwys dolen i wefan drafodiadol, mae’r wefan ei hun nad yw’n drafodiadol yn parhau i beidio â bod o fewn cwmpas y cyfyngiadau ar hyrwyddo.

Busnesau sydd wedi’u heithrio o’r cyfyngiadau lleoliad yn unig

Bydd y busnesau canlynol, os ydynt yn fusnesau cymhwysol, wedi’u heithrio o’r cyfyngiadau lleoliad ond byddant yn parhau i fod yn destun cyfyngiadau ar hyrwyddiadau pris ar sail swmp:

  • Busnes a fyddai fel arall o fewn y cwmpas ond sydd ag arwynebedd llawr perthnasol o lai na 185.8m2 (2,000 troedfedd sgwâr) gan ei roi y tu allan i gwmpas y cyfyngiadau ar leoliad.
  • Busnes a fyddai fel arall o fewn y cwmpas ond sy’n fanwerthwr arbenigol sy’n gwerthu bwyd o un categori yn atodlen 1 yn unig neu’n bennaf (wedi’u cynnwys isod o dan pa fwyd sydd o fewn y cwmpas). Gall enghreifftiau o fanwerthwyr arbenigol gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
    • siocledydd sy’n gwerthu siocledi yn bennaf, ond rhai cynhyrchion bisgedi a chacennau hefyd
    • siop losin sy’n gwerthu melysion yn bennaf, ond rhai cynhyrchion bisgedi a hufen iâ hefyd
    • siocledydd sy’n gwerthu siocledi yn unig
    • siop losin sy’n gwerthu melysion yn unig
    • siop ar-lein sy’n gwerthu cacennau a chacennau cwpan yn unig
    • siop ar-lein sy’n gwerthu cacennau yn bennaf
    • siocledydd ar-lein sy’n gwerthu siocledi yn bennaf

Bydd angen i siopau sy’n honni eu bod yn siop arbenigol gael eu hasesu fesul achos gan yr awdurdod gorfodi.

Cyfrif cyflogeion

I fod yn fusnes cymhwysol, rhaid i fusnes fod â 50 neu ragor o gyflogeion ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn ariannol pan ddigwyddodd unrhyw gynnig i werthu o’r fath.

Nid yw nifer y cyflogeion wedi’i gyfyngu i Gymru, cyfanswm nifer y cyflogeion sydd gan fusnes yn ei gyfanrwydd ydyw.

Bydd pa un a yw unigolion sydd wedi’u cymryd ymlaen ar gontract dim oriau yn cael eu hystyried yn gyflogeion at y dibenion hyn yn dibynnu ar yr achos unigol a’r contract o dan sylw a byddai’n fater o gyfraith cyflogaeth yn y pen draw.

Masnachfreintiau

Bydd y cyfyngiadau yn gymwys i fusnesau canolig a mawr (rydym yn eu diffinio fel 50 neu ragor o gyflogeion) sy’n gwerthu bwyd neu ddiod yng Nghymru.

Ar gyfer masnachfreintiau neu drefniadau (fel grwpiau symbolau) lle mae busnesau lluosog yn gweithredu o dan yr un enw, mae busnes a gynhelir yn unol â chytundeb masnachfraint i’w drin fel rhan o fusnes y breiniwr ac nid fel busnes ar wahân a gynhelir gan y deiliad braint at ddibenion penderfynu faint o gyflogeion sydd gan fusnes, ac felly a ydynt o fewn cwmpas y rheoliadau.

Os yw manwerthwyr grŵp symbol yn gweithredu yn rhan o drefniant masnachfraint lle mae cyfanswm y cyflogeion sy’n gweithredu o dan y fasnachfraint yn o leiaf 50, gallant fod o fewn cwmpas y rheoliadau. Mae grwpiau symbol fel arfer yn fath o fasnachfraint o siopau cyfleuster. At ddibenion penderfynu faint o gyflogeion sydd gan fusnes ac felly a yw’r cyfyngiadau yn gymwys, bydd busnes y manwerthwyr grŵp symbol yn cael ei drin yn rhan o fusnes breiniwr y mae ganddo gytundeb masnachfraint ag ef.

O dan y rheoliadau hyn, gwelir bod cytundeb masnachfraint yn bodoli pan fo un ymgymeriad (y deiliad braint) ac ymgymeriad arall (y breiniwr) yn cytuno bod y deiliad braint yn cynnal gweithgaredd busnes sy’n cynnwys gwerthu neu ddosbarthu bwyd (y busnes masnachfraint).

Rhaid i’r breiniwr gytuno ar y tri mater a ganlyn er mwyn i gytundeb masnachfraint fodoli a bod yn debyg i’r ymgymeriadau eraill yr ymrwymwyd iddynt gan y breiniwr o dan drefniadau contractiol cymaradwy:

  • y bwyd a ddarperir yn y busnes masnachfraint
  • golwg mewnol neu allanol y fangre y mae’r busnes masnachfraint yn cael ei gynnal ynddi
  • y model busnes a ddefnyddir ar gyfer gweithredu’r busnes masnachfraint

Os yw’r breiniwr yn cytuno ar y nodweddion hyn o’r busnes ac yn debyg i faterion ymgymeriadau eraill y mae’r breiniwr wedi ymrwymo i drefniadau contractiol cymaradwy mewn cysylltiad â hwy, yna at ddibenion y rheoliadau gall masnachfraint fod yn fusnes cymhwysol. Gall trefniadau contractiol amrywio o fusnes i fusnes.

Bwytai

Nid oes angen i fwytai gydymffurfio â chyfyngiadau pris ar sail swmp a lleoliad ond rhaid iddynt gydymffurfio â’r cyfyngiadau ar hyrwyddo ail-lenwi diodydd penodol am ddim.

Yn y rheoliadau, diffinnir ‘bwyty’ fel busnes y mae ei fangre yn cael ei defnyddio yn bennaf ar gyfer paratoi neu werthu bwyd y bwriedir ei fwyta ar unwaith, naill ai ar neu oddi ar y fangre (gan gynnwys caffi, siop goffi, busnes bwyd cyflym neu fusnes cludfwyd).

Gellir ystyried bod bwyd sy’n cael ei werthu mewn bwytai wedi’i fwriadu i’w fwyta ar unwaith os yw naill ai:

  • yn cael ei gynnig i’w werthu i’w fwyta ar unwaith yn y fangre y caiff ei werthu ynddi
  • yn cael ei gynnig i’w werthu i’w fwyta oddi ar y fangre ac nad oes angen unrhyw baratoi gan y defnyddiwr cyn iddo gael ei fwyta (gall paratoi gynnwys plicio, tynnu plisgyn neu olchi, coginio, dadmer, a chynhesu neu ailgynhesu bwyd wedi’i goginio ymlaen llaw)

Mae enghreifftiau o fusnesau y tu allan i’r cartref (bwytai) lle efallai na fydd y cyfyngiadau hyrwyddo (ar wahân i ail-lenwi am ddim) yn gymwys yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • siopau coffi neu gaffis (gan gynnwys caffis mewn siopau adrannol, archfarchnadoedd, siopau cyfleustra a gorsafoedd petrol)
  • bariau neu siopau brechdanau
  • siopau neu dai pwdin
  • siopau becws
  • bwytai mewn canolfannau teithio
  • bwytai gwesty
  • bwytai tafarn
  • bwytai cadwyn neu fwytai bwyd anffurfiol wedi’u brandio
  • bwytai gwasanaeth cyflym
  • atyniadau ymwelwyr neu leoliadau adloniant (fel sinemâu a bwytai mewn parciau thema)
  • arlwyo contract gan gynnwys y canlynol:
    • ffreuturiau gweithle (gan gynnwys ffreuturiau staff mewn ysbytai)
    • ffreuturiau prifysgol neu addysg bellach
    • arlwyo digwyddiadau mewn lleoliadau fel arenâu neu stadia ac ati
    • ffreuturiau ymwelwyr ysbyty

Consesiynau

Mae consesiynau yn cael eu hystyried yn gyffredin yn fusnesau ar wahân sy’n meddiannu ardal mewn mangre siop busnes arall sy’n bennaf gyfrifol am reoli a gweithredu’r siop (“y prif fusnes”). Gellir eithrio consesiynau wrth gyfrifo arwynebedd perthnasol y llawr yn siop y prif fusnes, os ydynt yn gweithredu eu cyfleusterau talu eu hunain.

Fodd bynnag, mae consesiwn sydd wedi’i leoli mewn siop prif fusnes, ond nad yw’n rhan o’i fusnes, yn cael ei drin fel busnes ar wahân y mae’n rhaid iddo gydymffurfio ag unrhyw gyfyngiadau sy’n gymwys iddo, os yw’n bodloni’r meini prawf i gael ei ystyried yn fusnes cymhwysol ynddo’i hun.

Enghreifftiau i bennu consesiwn posibl

Enghraifft 1: consesiynau manwerthu

Gall consesiwn manwerthu sydd wedi’i leoli y tu mewn i archfarchnad fod yn fusnes cymhwysol ynddo’i hun, os yw’n bodloni’r meini prawf fel y’u nodir yn y rheoliadau.

Os yw consesiwn manwerthu hwn yn fusnes cymhwysol ynddo’i hun, bydd unrhyw fwyd wedi’i ragbecynnu sydd o fewn cwmpas y rheoliadau sy’n cael ei werthu yn y busnes hwn yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau hyrwyddo pris ar sail swmp a’r cyfyngiadau lleoliad. Fodd bynnag, bydd y consesiwn yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau lleoliad yn y siop dim ond os yw ei arwynebedd perthnasol y llawr dros 185.8m2 (2,000 troedfedd sgwâr). Os nad yw’r consesiwn manwerthu yn fusnes cymhwysol ynddo’i hun, ni fydd yn ddarostyngedig i unrhyw un o’r cyfyngiadau.

Enghraifft 2: consensiynau bwytai

Nid yw consesiynau bwytai wedi’u lleoli o fewn manwerthwr (er enghraifft, caffi sy’n fusnes ar wahân a weithredir mewn archfarchnad), yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau ar hyrwyddiad pris ar sail swmp neu leoliad oherwydd bod bwytai wedi’u heithrio o’r cyfyngiadau hynny. Fodd bynnag, gall consesiwn bwyty fod yn fusnes cymhwysol yn ei hawl ei hun at ddibenion y cyfyngiad ail-lenwi diodydd am ddim.

Enghraifft 3: peiriannau gwerthu

Gellir ystyried peiriannau gwerthu sydd â chyfleusterau talu a weithredir gan fusnes heblaw’r prif fusnes yn gonsesiwn, ac felly nid ydynt yn rhan o gyfrifiad arwynebedd llawr perthnasol siop y prif fusnes.

Ni chaiff peiriannau gwerthu sy’n gonsesiwn fod yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau lleoliad os oes ganddynt arwynebedd perthnasol y llawr o lai na 185.8m2 . Ni chânt fod yn ddarostyngedig ychwaith i’r cyfyngiadau lleoliad sy’n gymwys i’r prif fusnes y maent wedi’u gosod ynddo, pan fo’r prif fusnes hwnnw’n fusnes cymhwysol. Fodd bynnag, mewn unrhyw achos byddem yn annog busnesau cymhwysol i beidio â chaniatáu i gonsesiynau peiriannau gwerthu sy’n gwerthu bwyd penodedig gael eu gosod mewn ardaloedd cyfyngedig o’u siopau. Gall peiriannau gwerthu fod yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau ar hyrwyddiad pris ar sail swmp os ydynt yn cael eu gweithredu gan fusnes cymhwysol.

Enghraifft 4: ardaloedd o fewn siopau manwerthu

Nid yw ardaloedd o fewn siopau manwerthu, er enghraifft, yr adran fecws neu’r deli mewn archfarchnad sy’n eiddo i’r archfarchnad honno ac sy’n cael ei gweithredu ganddi, yn gonsesiynau gan eu bod yn rhan o’r un busnes.

Rhan 3: pa fwyd sydd o fewn y cwmpas

Pa fwyd sydd o fewn y cwmpas

Mae’r cynhyrchion o fewn cwmpas y rheoliadau, a elwir yn bwyd penodedig, yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau dim ond os ydynt yn cael eu gwerthu gan fusnes cymhwysol.

Image

Categorïau cynhyrchion o fewn y cwmpas

Mae’r cynhyrchion a restrir isod yn enghreifftiau o’r hyn a allai fod o fewn a thu allan i gwmpas y rheoliadau.

Nid yw’r rhestrau hyn yn gynhwysfawr, oni nodir yn wahanol.

Er nad yw’r categorïau bwyd yn y rheoliadau yn gorgyffwrdd, gall rhai mathau o gynnyrch bwyd fod â chynhwysion neu nodweddion lluosog a allai berthyn i fwy nag un categori, er enghraifft, bar grawnfwyd wedi’i orchuddio â siocled. Os bydd angen penderfynu pa gategori mae’r cynnyrch yn perthyn iddo, gwneir hyn drwy asesiad cyffredinol gwrthrychol o gynhwysion a nodweddion y cynnyrch penodol sy’n cael ei gynnig i’w werthu, er mwyn penderfynu pa gategori sy’n disgrifio orau y cynnyrch o dan sylw.

Categori 1

Fel y nodir yn y rheoliadau:

  • diodydd ysgafn parod sy’n cynnwys cynhwysion siwgr wedi’u hychwanegu (heblaw’r diodydd ysgafn esempt)

Enghreifftiau o gynhyrchion a allai fod o fewn y cwmpas:

  • diodydd ysgafn gyda siwgr wedi’i ychwanegu, gan gynnwys lemonêd, cola a diodydd ffrwythau
  • diodydd sydd wedi’u seilio ar laeth gyda siwgr neu felysyddion wedi’u hychwanegu, a diodydd efelychu llaeth gyda siwgr neu felysyddion wedi’u hychwanegu (er enghraifft, soia, almwn, ceirch, cywarch, cnau cyll neu reis ac ati)
  • diodydd sydd wedi’u seilio ar ffrwythau gyda siwgr wedi’i ychwanegu
  • sudd ffrwythau neu smwddis (gan gynnwys smwddis sy'n cynnwys llaeth) gyda siwgr wedi’i ychwanegu
  • diodydd brecwast gyda siwgr wedi’i ychwanegu
  • te a choffi parod i’w yfed sy’n cynnwys siwgr wedi’i ychwanegu cyn gwerthu
  • powdrau coffi neu de gyda siwgr wedi’i ychwanegu (sachets, podiau neu syrypau)
    • ar gyfer powdrau, dylid cyfrifo’r sgôr NPM yn seiliedig ar 100g o’r ddiod fel y’i hailgyfansoddir yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr; fel gyda phob cynnyrch, cyfeiriwch at ganllawiau technegol NPM 2011 am gymorth i gyfrifo’r sgoriau NPM
  • 2 mewn 1 (powdr coffi a llaeth) neu 3 mewn 1 (coffi, powdr llaeth a siwgr) sy’n cynnwys siwgr wedi’i ychwanegu
  • powdrau siocled poeth, podiau, syrypau a chynhyrchion parod i’w yfed sy’n cynnwys siwgr wedi’i ychwanegu
  • powdrau diodydd brag gyda siwgr wedi’i ychwanegu
  • powdrau ysgytlaeth a syrypau ysgytlaeth gyda siwgr wedi’i ychwanegu
  • diodydd efelychu llaeth wedi’u cyflasu a heb eu cyflasu, gyda siwgr wedi’i ychwanegu
  • chai latte gyda siwgr wedi’i ychwanegu
  • kombucha gyda siwgr wedi’i ychwanegu
  • diodydd egni gyda siwgr wedi’i ychwanegu
  • powdrau protein gyda siwgr wedi’i ychwanegu

Enghreifftiau o gynhyrchion nad ydynt efallai o fewn y cwmpas:

  • diodydd heb siwgr wedi’i ychwanegu, gan gynnwys llaeth (fel y’i diffinnir yn rheoliad 7 o Reoliadau Ardoll y Diwydiant Diodydd Ysgafn (ADDY)), diodydd llaeth heb eu melysu a smwddis heb eu melysu
  • diodydd heb siwgr wedi’i ychwanegu ac wedi’u melysu â llaeth, sudd ffrwythau neu lysiau naturiol yn unig, gan gynnwys sudd ffrwythau
  • diodydd alcoholig a diodydd efelychu alcohol gyda mwy na 1.2% o alcohol yn ôl cyfaint (ABV)
  • ‘fformiwla babanod’, ‘fformiwla ddilynol’, ‘bwyd wedi’i seilio ar rawn wedi’i brosesu’ a ‘bwyd babanod’ fel y’u diffinnir yn rheoliad (UE) rhif 609/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor a gymathwyd
  • cynhyrchion amnewid deiet yn llwyr fel y’u diffinnir yn rheoliad (UE) rhif 609/2013 a gymathwyd
  • cynhyrchion amnewid prydau bwyd sy’n defnyddio ‘honiad iechyd’ cymeradwy a ddarperir yn yr atodiad i reoliad (UE) rhif 432/2012 a gymathwyd
  • bwyd at ddibenion meddygol arbennig fel y’i diffinnir yn rheoliad (UE) rhif 609/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor a gymathwyd

Categori 2

Fel y nodir yn y rheoliadau:

  • byrbrydau sawrus a fwriedir iddynt gael eu bwyta ar eu pen eu hunain neu yn rhan o bryd bwyd cyfan gan gynnwys:
    • cynhyrchion wedi’u gwneud o datws, llysiau eraill, grawn neu godlysiau
    • cynhyrchion allwthiedig, taflennog a phelennog
    • cracers sawrus mewn bag, cacennau reis mewn bag neu fisgedi mewn bag er enghraifft creision, byrbrydau sydd wedi’u seilio ar fara pita, pretsels, popadoms, popgorn wedi’i halltu a chracers corgimwch (ond nid cnau amrwd, cnau wedi’u rhostio, cnau wedi’u caenu na chnau wedi’u cyflasu)
  • byrbrydau sydd wedi’u seilio ar grofen porc, a fwriedir iddynt gael eu bwyta ar eu pen eu hunain neu fel yn rhan o bryd bwyd cyfan

Enghreifftiau o gynhyrchion a allai fod o fewn y cwmpas:

  • creision
  • cracers sawrus, cacennau reis a bisgedi sy’n cael eu gwerthu a’u bwyta fel dewisiadau amgen i greision
  • pyffiau ŷd
  • cylchoedd tatws
  • sglodion tortilla
  • creision wedi’u seilio ar ffacbys neu gorbys
  • ffacbys wedi’u ffrio, wedi’u cyflasu neu wedi’u sesno
  • byrbrydau wedi’u seilio ar wymon
  • cymysgedd Bombay

Enghreifftiau o gynhyrchion nad ydynt efallai o fewn y cwmpas:

  • cnau a hadau amrwd, wedi’u caenu, wedi’u rhostio neu wedi’u cyflasu (neu gymysgeddau o’r cynhyrchion hyn, er enghraifft, cymysgedd o gnau a hadau)
  • byrbrydau sydd wedi’u seilio ar ffrwythau fel ffrwythau sych, creision ffrwythau neu sglodion ffrwythau (yn cynnwys cynhwysion ffrwythau wedi’u melysu a heb eu melysu)
  • trail mix sy’n cynnwys ffrwythau sych a chnau neu hadau
  • cig wedi’i sychu
  • cynhyrchion math ‘dipio’, sy’n cynnwys ffyn bara a dip
  • bariau hadau sawrus wedi’u gwasgu
  • pecynnau mwy o ffyn bara nad ydynt wedi’u bwriadu i’w bwyta yn yr un ffordd neu ar yr un achlysur bwyta â chreision

Categori 3

Fel y nodir yn y rheoliadau:

  • grawnfwydydd brecwast, gan gynnwys grawnfwydydd parod i’w bwyta, granola, miwsli, ceirch uwd a grawnfwydydd eraill sydd wedi’u seilio ar geirch

Enghreifftiau o gynhyrchion a allai fod o fewn y cwmpas:

  • granola
  • miwsli
  • grawnfwydydd parod i’w bwyta
  • ceirch uwd, gan gynnwys uwd sydyn a grawnfwydydd poeth eraill sydd wedi’u seilio ar geirch

Categori 4

Fel y nodir yn y rheoliadau:

  • melysfwyd, gan gynnwys siocledi a melysion

Enghreifftiau o gynhyrchion a allai fod o fewn y cwmpas:

  • popgorn melys, a phopgorn melys a hallt cymysg
  • cnau, pysgnau, hadau a ffrwythau wedi’u caenu â siocled
  • siocled gwyn, llaeth a thywyll
  • siocled coginio
  • bariau siocled a siocledi mewn bocs
  • slabiau mewn bag neu losin mewn tiwb
  • melysion ffrwythau jelïaidd
  • gwm cnoi
  • malws melys
  • cynhyrchion wedi’u caenu â siocled, er enghraifft, pretsels wedi’u caenu â siocled

Enghreifftiau o gynhyrchion nad ydynt efallai o fewn y cwmpas:

  • pob ffrwyth sych
  • cnau wedi’u caenu â melysflas (ac eithrio cnau wedi’u caenu â siocled), er enghraifft, cynhyrchon wedi’u caenu â mêl, syryp, carob, blasau tsili melys â chymysgeddau o felys a hallt neu sawrus
  • melysion heb siwgr a gwm cnoi heb siwgr

Categori 5

Fel y nodir yn y rheoliadau:

  • hufen iâ, lolis iâ, iogwrt wedi’i rewi, iâ dŵr a chynhyrchion rhewedig tebyg

Enghreifftiau o gynhyrchion a allai fod o fewn y cwmpas:

  • tybiau hufen iâ
  • hufen iâ llaw
  • lolis iâ
  • bariau hufen iâ mewn siocled (choc ice)
  • iogwrt wedi’i rewi
  • hufen iâ figan
  • sorbet
  • hufen iâ arddull gelato
  • hufen iâ heb lactos
  • pwdinau hufen iâ, er enghraifft, arctic roll
  • cynhyrchion wedi’u cyflasu ag alcohol, er enghraifft, hufen iâ wedi’i gyflasu â rỳm a rhesins, sy’n is na 1.2% ABV neu heb alcohol

Enghreifftiau o gynhyrchion nad ydynt efallai o fewn y cwmpas:

  • ‘ategolion’ hufen iâ, fel sawsiau, ysgeintiadau a mathau eraill o addurniadau neu dopins cacen
  • wafferi hufen iâ (cyfeirir atynt o dan gategori 7)
  • roulade a gateaux (cyfeirir atynt o dan gategori 9)

Categori 6

Fel y nodir yn y rheoliadau:

  • cacennau a chacennau cwpan

Enghreifftiau o gynhyrchion a allai fod o fewn y cwmpas:

  • pob cacen sbwng
  • cacennau cwpan
  • bariau a sleisys cacen
  • toesenni
  • myffins Americanaidd
  • fflapjacs
  • Swisrôl
  • brownis
  • cacennau sgwâr/petryal (tray bakes)
  • cacennau hufen
  • mini rôls
  • eclairs
  • cacennau wedi’u rhewi

Enghreifftiau o gynhyrchion nad ydynt efallai o fewn y cwmpas:

  • addurniadau cacen, gan gynnwys eisin a sawsiau

Categori 7

Fel y nodir yn y rheoliadau:

  • bisgedi a bariau melys sy’n seiliedig ar un neu ragor o gnau, hadau neu rawnfwyd

Enghreifftiau o gynhyrchion a allai fod o fewn y cwmpas:

  • bariau grawnfwyd (gall bariau grawnfwyd fod yn siâp tebyg i far siocled, wedi’u gwneud o rawnfwydydd a chynhwysion arferol eraill fel ffrwythau a chnau, ond gallant gynnwys bariau wedi’u seilio ar gnau a hadau hefyd)
  • bisgedi melys wedi’u llenwi a heb eu llenwi
  • bisgedi brecwast
  • teisennau brau
  • wafferi neu gonau hufen iâ
  • bariau bisged wedi’u caenu â siocled

Categori 8

Fel y nodir yn y rheoliadau:

  • nwyddau boreol, gan gynnwys croissants, pains au chocolat a chrystiau tebyg, cramwyth, crempogau, byns, cacennau te, sgonau, wafflau, crystiau Danaidd a thorthau ffrwythau

Enghreifftiau o gynhyrchion a allai fod o fewn y cwmpas:

  • crystiau Danaidd
  • croissants
  • pains au chocolat a chrystiau tebyg
  • cramwyth
  • crempogau
  • byns
  • cacennau te
  • sgonau
  • wafflau
  • myffins Seisnig
  • bagelau (plaen a melys)
  • torthau ffrwythau
  • teisennau’r Groglith
  • byns ffrwythau a byns melys heb ffrwythau (gan gynnwys byns eisin)
  • Brioche
  • torth frag (wedi’i melysu â siwgr neu ffrwythau)

Categori 9

Fel y nodir yn y rheoliadau:

  • pwdinau, gan gynnwys pasteiod, tartenni a fflaniau, cacennau caws, gateaux, pwdinau llaeth, pwdinau sbwng, pwdin reis, crymblau, llenwadau ffrwythau, pwdinau o bowdr, cwstardau, jelïau a meringues

Enghreifftiau o gynhyrchion a allai fod o fewn y cwmpas:

  • pasteiod melys, er enghraifft pastai afal, mins peis ac ati
  • tartenni a fflaniau
  • cacennau caws
  • gateaux
  • pwdinau llaeth
  • pwdinau sbwng
  • pwdin reis
  • crymblau
  • llenwadau ffrwythau
  • roulade
  • cymysgeddau pwdin o bowdr
  • cwstardau
  • jelïau
  • pwdinau meringue
  • pwdinau crwst choux
  • mousses
  • pwdin Nadolig
  • treiffl
  • roli poli
  • pizzas pwdin

Enghreifftiau o gynhyrchion nad ydynt efallai o fewn y cwmpas:

  • hufenau fel hufen chwip a hufenau wedi’u cyflasu neu wedi’u melysu
  • syrypau
  • caramel cyddwys
  • topins a sawsiau pwdin
  • ffrwythau mewn tun neu mewn can

Categori 10

Fel y nodir yn y rheoliadau:

  • iogwrt a fromage frais wedi’u melysu (naill ai â siwgr neu fel arall)

Enghreifftiau o gynhyrchion a allai fod o fewn y cwmpas:

  • iogyrtiau math Groegaidd wedi’u melysu ac wedi’u cyflasu
  • iogyrtiau profiotig wedi’u melysu
  • iogyrtiau hollt wedi’u melysu neu botiau dwy siambr
  • iogyrtiau plant wedi’u melysu
  • iogyrtiau heb fraster a braster isel wedi’u melysu
  • iogyrtiau heb laeth wedi’u melysu
  • fromage frais wedi’i felysu
  • iogyrtiau yfed wedi’u melysu, er enghraifft, iogwrt i’w yfed, heb unrhyw hylifau ychwanegol (fel llaeth, dŵr neu sudd ffrwythau)

Enghreifftiau o gynhyrchion nad ydynt efallai o fewn y cwmpas:

  • iogwrt naturiol ac iogwrt a fromage frais heb eu melysu, gan gynnwys iogwrt Groegaidd plaen

Categori 11

Fel y nodir yn y rheoliadau:

  • pizza (ac eithrio seiliau pizza plaen)

Enghreifftiau o gynhyrchion a allai fod o fewn y cwmpas:

  • pizzas padell ddofn, dysgl ddofn, crwst tenau a chrwst wedi’i stwffio
  • topin o bob math a maint
  • pizzas bara fflat

Enghreifftiau o gynhyrchion nad ydynt efallai o fewn y cwmpas:

  • seiliau pizza plaen
  • bara garlleg a bara garlleg caws, a mathau wedi’u llwytho

Categori 12

Fel y nodir yn y rheoliadau:

  • tatws rhost, sglodion, sglodion tenau a thalpiau o datws a thatws melys, wafflau tatws, siapiau tatws difyr (megis wynebau gwên), hash browns, rostis, sleisys tatws creisionllyd, croquettes tatws

Enghreifftiau o gynhyrchion a allai fod o fewn y cwmpas:

  • fel y rhestrir uchod yn y disgrifiad categori

Enghreifftiau o gynhyrchion nad ydynt efallai o fewn y cwmpas:

  • tatws plaen neu datws melys nad ydynt wedi’u trin, eu coginio, eu torri nac wedi’u siapio
  • saladau tatws

Categori 13

Fel y nodir yn y rheoliadau:

  • cynhyrchion sy’n cael eu marchnata fel rhai sy’n barod ar gyfer eu coginio neu eu hailgynhesu heb fod angen eu paratoi ymhellach ac y bwriedir iddynt gael eu bwyta fel pryd bwyd cyfan
  • cynhyrchion, heblaw am gynhyrchion sy’n cynnwys crwst, sydd mewn saws neu sydd â saws (ond nid marinâd, sglein, dresin, sesnin na chyfwyd tebyg) sy’n cael eu marchnata fel rhai sy’n barod ar gyfer eu coginio neu eu hailgynhesu heb fod angen eu paratoi ymhellach ac y bwriedir iddynt gael eu bwyta fel prif elfen pryd o fwyd
  • yr eitemau a ganlyn sydd mewn briwsion bara neu gytew:
    • cynhyrchion llysiau, pysgod, pysgod cregyn, cig, neu ddofednod
    • cynhyrchion efelychu pysgod, cynhyrchion efelychu pysgod cregyn, cynhyrchion efelychu cig neu gynhyrchion efelychu dofednod gan gynnwys bysedd pysgod, cacennau pysgod a chnapiau cyw iâr

Enghreifftiau o gynhyrchion a allai fod o fewn y cwmpas:

  • Prydau parod: prydau wedi’u paratoi (a awgrymir yn aml i’w cynhesu yn y ficrodon neu’r popty), fel prydau Tsieineaidd, Thai, Eidalaidd, traddodiadol ac ati, gyda chyfwyd carbohydrad (tatws, reis, nwdls, pasta ac ati wedi’u gwneud o gig, dofednod, pysgod, cynnyrch efelychu cig neu lysiau. Pasta wedi’i lenwi neu wedi’i stwffio (er enghraifft, ravioli a tortellini) pa un a yw wedi’i oeri neu mewn tun ai peidio. Yn cynnwys prydau fel cyri llysiau, dhal a phrydau eraill y gellir eu bwyta fel pryd o fwyd. Pasteiod gyda thopin tatws (er enghraifft, pastai’r bugail), byrgyrs mewn bynsen, a sglodion tenau, sglodion neu wedjys gyda thopins (y cyfeirir atynt yn aml fel ‘dirty fries/sglodion budr’ neu ‘loaded fries/sglodion wedi’u llwytho’) a thatws trwy’u crwyn wedi’u llenwi.
  • Pasta, reis neu nwdls ffres gyda chynhwysion a blasau wedi’u hychwanegu, gan gynnwys pasta wedi’i lenwi neu ei stwffio (er enghraifft, ravioli a tortellini).
  • Sylfaen y pryd bwyd: sylfaen y pryd bwyd wedi’i baratoi (gydag awgrym yn aml i’w wresogi yn y ficrodon neu’r popty), fel eitemau Tsieineaidd, Thai, Eidalaidd, traddodiadol ac ati, wedi’i wneud o gig, dofednod, pysgod, cynnyrch efelychu cig neu lysiau. Mae cynhyrchion fel hyn o fewn y cwmpas os ydynt yn cael eu gweini mewn saws neu gyda saws fel rhan o’r cynnyrch, er enghraifft, mewn pecyn neu fag bychan y bwriedir ei dywallt wrth ei gynhesu neu ar ôl ei gynhesu.
  • Eitemau sydd mewn cytew neu friwsion bara (ffres, wedi’u hoeri neu wedi’u rhewi): nifer o gynhyrchion y gellid eu bwyta fel prif elfen pryd o fwyd fel bysedd pysgod, cnapiau cyw iâr, pysgod mewn cytew, goujons pysgod neu gyw iâr, cynhyrchion efelychu cig mewn briwsion bara, scampi, kievs, ffiledi cyw iâr mewn briwsion bara, cynhyrchion gyda ‘phwdr ysgafn’ drostynt, cynhyrchion wedi’u caenu â grawnfwyd a dewisiadau amgen heb glwten.

Enghreifftiau o gynhyrchion nad ydynt efallai o fewn cwmpas:

  • Citiau prydau bwyd a fanwerthir: er enghraifft, citiau prydau bwyd fajita neu enchilada neu gitiau eraill sy’n cynnwys cynhwysion y mae angen eu paratoi a’u cyfuno ar gyfer coginio pryd o fwyd.
  • Cynhyrchion cynhyrchion wedi’u seilio ar gaws mewn briwsion bara neu gytew a fwriedir i’w bwyta fel cwrs cyntaf neu bryd ochr.
  • Ham wedi’i goginio a’i orchuddio â briwsion bara neu gynhyrchion charcuterie.
  • Cynhyrchion crwst sawrus: cynhyrchion wedi’u prosesu, parod i’w bwyta, wrth fynd, ategol ar dymheredd amgylchynol, wedi’u hoeri ac wedi’u rhewi fel pasteiod, pastenni, sosej rôls, tartennau, tartennau bach, quiches, sleisys, latisau a phlethau crwst cig, pysgod, llysiau neu gynhyrchion efelychu cig.
  • Cig, dofednod, pysgod, pysgod cregyn neu gynhyrchion efelychu cig, naill ai wedi’u gweini yn blaen, wedi’u mygu neu gyda marinâd (mae marinâd yn wahanol i saws gan y bwriedir iddo gael ei amsugno i’r bwyd cyn coginio neu wrth goginio fel nad oes unrhyw hylif sylweddol yn parhau i’w dywallt dros yr eitem fwyd ar ôl ei choginio neu ei chynhesu), sglein, dresin, rhwbiad sesnin neu gyfwyd tebyg. Mae ‘cig’ yn cynnwys cig a chynhyrchion cig wedi’u prosesu fel ham, salami, chorizo, cig moch, gamon, cluniau cyw iâr, griliau, byrgyrs (heb fynsen), selsig a stêcs.
  • Cigoedd, pysgod, pysgod cregyn neu gynhyrchion efelychu cig sy’n blaen (er enghraifft, ffiledi cyw iâr plaen amrwd) neu sydd wedi’u mygu (er enghraifft, cig a physgod mwg) neu sy’n gigoedd wedi’u prosesu (fel ham, salami a chig moch).
  • Pasteiod sawrus wedi’u gwneud â chrwst.
  • Quiches.
  • Brechdanau.
  • Sushi.
  • Bwydydd eraill nad ydynt wedi’u coginio nac wedi’u hailgynhesu cyn eu bwyta.
  • Bwyd parti (ac eithrio bwyd mewn briwsion bara neu gytew) nad yw wedi’i fwriadu i’w fwyta fel prif bryd, er enghraifft, quiche bach neu selsig bach (nid yw hon yn rhestr gyflawn).

Cynhyrchion unigol o gymharu â phrydau cyfansawdd

Efallai y bydd cynhyrchion y tu allan i gwmpas y cyfyngiadau hyrwyddo pan gânt eu gwerthu fel eitem unigol, ond eu bod o fewn cwmpas y cyfyngiadau pan fyddant yn cael eu cynnwys o fewn pryd parod neu gynnyrch cyfan (er enghraifft, mae selsig y tu allan i gwmpas y cyfyngiadau hyrwyddo, ond mae pryd parod selsig a stwnsh o fewn y cwmpas).

Mae hyn oherwydd tystiolaeth sy’n dangos bod categorïau cynnyrch fel prydau parod yn cyfrannu at lefel calorïau plant ac yn cael eu hyrwyddo i raddau sylweddol.

Cynhyrchion tymhorol a hyrwyddiadau tymhorol

Mae sawl pwynt hyrwyddo tymhorol yn ystod y flwyddyn gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, y Nadolig, Diwali, Dydd Sant Ffolant, Pasg, Sul y Mamau, Sul y Tadau a Chalan Gaeaf. 

Mae cynhyrchion sydd o fewn cwmpas atodlen 1 yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau o hyd, ni waeth a ydynt yn cael eu brandio fel rhai tymhorol. Fodd bynnag, mae busnesau’n gallu hyrwyddo cynhyrchion tymhorol sydd yng nghategorïau atodlen 1 os nad ydynt yn llai iach yn unol â’r model proffilio maethynnau.

Detholiadau, plateidiau, hamperi a setiau rhodd

Os yw eitem o fwyd wedi’i ragbecynnu yn cynnwys mwy nag un math o fwyd ac yn cynnwys bwyd penodedig ynddo, mae’r eitem gyfan i’w thrin fel bwyd penodedig.

Mae hyn yn cynnwys enghreifftiau fel detholiadau neu blateidiau, hamperi a setiau rhodd sy’n cynnwys sawl eitem wahanol o fwyd.

Bwyd wrth fynd

Bydd bwyd penodedig sy’n cael ei werthu mewn busnesau cymhwysol o fewn cwmpas y cyfyngiadau pa un a yw wedi’i nodi fel 'bwyd wrth fynd' ai peidio.

Rhan 4: hyrwyddiadau pris ar sail swmp

Hyrwyddiadau pris ar sail swmp

Ni chaiff busnesau cymhwysol gynnig bwyd o fewn cwmpas y rheoliadau, hynny yw bwyd penodedig, ar werth fel rhan o hyrwyddiad pris ar sail swmp (naill ai mewn siop neu ar farchnadle ar-lein).

Ystyr hyrwyddiad pris ar sail swmp yw:

  • hyrwyddiad amleitem, sef cynnig datganedig sy’n rhoi cymhelliad ariannol dros brynu eitemau lluosog o gymharu â phrynu pob eitem ar wahân (gan gynnwys ‘3 am bris 2’, ‘3 am £10’ neu ‘prynu 6 ac arbed 25%’)
  • hyrwyddiad sy’n dangos bod eitem, neu unrhyw ran o eitem, yn rhad ac am ddim (gan gynnwys ‘50% yn ychwanegol am ddim’ neu ‘prynu un eitem a chael un arall am ddim’)

Gall cymhellion ariannol gynnwys cymhellion hefyd fel pwyntiau teyrngarwch, lle gellir defnyddio’r rhain i wneud pryniannau pellach. Er enghraifft, ‘prynu 3 cynnyrch a chael 1,000 o bwyntiau teyrngarwch’.

Nid yw cynnyrch amlbecyn a werthir fel eitem unigol o reidrwydd yr un fath â hyrwyddiad amleitem. Fodd bynnag, gall cynnyrch amlbecyn sy’n cael ei werthu fel pecyn allanol unigol sy’n cynnwys 6 pecyn ar wahân o greision fod o fewn cwmpas y cyfyngiadau ar hyrwyddiad pris ar sail swmp pe bai ei becynnu yn hyrwyddo ei bris o un amlbecyn o gymharu â phecynnau unigol ar wahân fel ‘6 am bris 4’ neu ‘50% yn ychwanegol am ddim’. Efallai y bydd hyrwyddiad pris ar sail swmp hefyd lle mae busnes yn cynnig pryniannau lluosog o’r cynhyrchion amlbecyn eu hunain, er enghraifft, ‘prynu 2 amlbecyn a chael un amlbecyn am ddim’ neu ‘20% yn ychwanegol am yr un pris’.

Mae’r rheoliadau yn egluro na ddylid cynnig bwyd penodedig ar werth yn rhan o hyrwyddiad pris ar sail swmp. Mae hyn yn cynnwys hyrwyddiad lle mae eitemau bwyd amhenodedig neu eitemau nad ydynt yn fwyd hefyd wedi’u cynnwys.

Er enghraifft, ni chaniateir cynnig hyrwyddo ar bapur newydd a siocled fel ‘prynu papur newydd a chael bar siocled am ddim’ oherwydd ei fod yn nodi bod bwyd penodedig yn cael ei gynnig am ddim. Un o’r diffiniadau o hyrwyddiad pris ar sail swmp yn y rheoliadau yw hyrwyddiad sy’n nodi bod eitem, neu unrhyw ran o eitem, am ddim.

Nid yw cynigion nad ydynt yn hyrwyddiadau pris ar sail swmp yn perthyn i gwmpas y cyfyngiadau.

Enghreifftiau o hyrwyddiadau pris ar sail swmp a ganiateir o gymharu â rhai cyfyngedig

Enghraifft 1: 2 am bris 1 ar boteli dŵr plaen

Caniateir. Nid yw’r cynnig hwn yn cynnwys cynhyrchion bwyd penodedig.

Enghraifft 2: 2 am bris 1 ar ddetholiad o ddŵr plaen a diodydd ysgafn llawn siwgr sydd â sgôr NPM o ≥1

Ni chaniateir. Mae’r cynnig hwn yn cynnwys cynhyrchion bwyd penodedig. Dylid cyfrifo’r sgôr NPM fesul cynnyrch, os yw o leiaf un cynnyrch yn y cynnig yn cael ei ystyried yn HFSS neu’n llai iach, yna ni chaniateir y cynnig.

Enghraifft 3: cynnig 2 am bris 1 ar ddiodydd ysgafn llawn siwgr yn unig sydd â sgôr NPM o ≥1

Ni chaniateir.

Eithriad cynnig arbennig perthnasol

Mae cynigion y cyfeirir atynt yn gyffredin fel ‘bargeinion bwyd’ neu ‘bargen bwyta i mewn i ddau’, lle cynigir pris gostyngol am eitemau lluosog a hyrwyddir fel rhai y bwriedir iddynt gael eu bwyta gyda’i gilydd fel, neu fel rhan o, un pryd bwyd gan un person neu gan ddau berson neu fwy gyda’i gilydd, y tu allan i gwmpas cyfyngiadau hyrwyddiadau pris ar sail swmp.

Nod bargeinion bwyd (sy’n cael eu targedu yn gyffredinol fel opsiynau cinio i oedolion eu bwyta wrth fynd y diwrnod hwnnw) neu gynigion ‘bargen bwyta i mewn i ddau’ (sy’n lleihau cost prydau ‘cyflawn’ i sawl person, yn hytrach na chael eu stocio gartref) yw lleihau cost pryd o fwyd unigol.

Fodd bynnag, ni ellir gosod yr holl fwyd penodedig, pa un a yw’n rhan o fargen bwyd ai peidio, mewn lleoliadau cyfyngedig.

Bydd pob achos wrth gwrs yn cael ei asesu ar ei ffeithiau unigol gan swyddog gorfodi i benderfynu a yw’r fargen o dan sylw o fewn cwmpas y cyfyngiadau.

Nid yw’n hysbys a yw’r canlynol i gael eu hyrwyddo fel arfer yn rhai y bwriedir iddynt gael eu defnyddio fel un pryd o fwyd neu yn rhan o un pryd o fwyd:

  • plateidiau
  • bwyd parti (nad yw wedi’i fwriadu i’w fwyta fel prif bryd)
  • hyrwyddiad amleitem ar becyn o greision, bar o siocled a diod ysgafn
  • pecyn o greision a diod ysgafn
  • hyrwyddiad ar fag rhannu o greision, bag o felysfwyd a diod ysgafn 2 litr, hyd yn oed os oedd yn cael ei farchnata fel ‘noson fawr i mewn’ i’w fwyta gyda’i gilydd gan ddau neu ragor o bobl (er enghraifft, teuluoedd fel achlysur rhannu gartref)

Mae’n arfer da i hyrwyddiadau pris ar sail swmp gael eu cymhwyso i gynigion ‘bargen fwyd’ dilys yn unig.

Bargeinion bwyd ar-lein

Enghreifftiau o fargeinion bwyd y gallai busnesau eu hyrwyddo ar-lein:

  • Gallai busnesau cymhwysol hyrwyddo bar siocled pan fydd defnyddiwr yn chwilio am frechdan os yw’r bar siocled yn rhan o gynnig arbennig perthnasol.
  • Gallai busnesau cymhwysol hyrwyddo pwdin hefyd pan fydd defnyddiwr yn chwilio am bryd parod pan fydd y pwdin yn rhan o gynnig ‘bargen bwyta i mewn i ddau’ (neu gynnig arbennig perthnasol tebyg). Mewn geiriau eraill, os yw cwsmer yn rhan-brynu bargen fwyd (er enghraifft, brechdan), caniateir annog cwsmer gydag eitemau eraill a werthir gyda’r frechdan fel rhan o gynnig arbennig perthnasol (er enghraifft, byrbryd neu ddiod).

Fodd bynnag, ni chaniateir i fusnes cymhwysol hyrwyddo bwyd penodedig sy’n rhan o gynnig arbennig perthnasol ar dudalen hafan, tudalen ffefrynnau neu dudalen dalu er mwyn sicrhau dull cyson rhwng hyrwyddiadau lleoliadau mewn siopau cymhwysol ac ar-lein.

Hyrwyddiadau ar becynnau

Dylai busnesau cymhwysol sy’n dewis gwerthu cynhyrchion gyda chynigion hyrwyddiadau pris ar sail swmp ar eu pecynwaith sicrhau eu bod yn cyfathrebu’n glir â defnyddwyr nad yw’r cynnyrch yn cael ei gynnig ar werth fel rhan o’r hyrwyddiad hwnnw. Dylai unrhyw ddull a gymerir i sicrhau hyn:

  • egluro’n glir nad yw’r hyrwyddiad ar becynwaith yn gymwys
  • cadarnhau’n glir pris diwygiedig y cynhyrchion

Dylai busnesau sicrhau bod eu dull dewisol ar gyfer cyfathrebu hyn yn ddigon clir fel nad yw’n camarwain defnyddwyr. Dylent asesu sut i fynd i’r afael â chynigion hyrwyddo ar becynwaith fesul cynnyrch, er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r rheoliadau ac unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol i ddiogelu defnyddwyr.

Hyrwyddiadau pris nad ydynt wedi’u cynnwys

Nid yw hyrwyddiadau disgownt er enghraifft ‘50% i ffwrdd’, ‘hanner i ffwrdd’ neu ‘arbedwch £1’ wedi’u cynnwys yn y polisi hwn. Nid yw talebau ar gyfer y bargeinion hyn yn dod o dan gwmpas y rheoliadau ychwaith.

Yn ogystal, nid yw samplau am ddim neu dalebau ar gyfer cynhyrchion am ddim wedi’u cynnwys yng nghwmpas y cyfyngiadau ar hyrwyddiadau pris ar sail swmp.

Caiff amlbecyn ei ystyried yn un eitem at ddibenion cyfyngiadau ar hyrwyddiadau pris ar sail swmp. Os nad yw’r pecynwaith yn hyrwyddo’r eitem o gymharu â phecynnau unigol (er enghraifft, ‘6 am bris 4’ neu ‘50% yn ychwanegol am ddim’), nid yw’n dod o dan gwmpas y rheoliadau. Yn yr un modd, byddai amlbecynnau lluosog yn dod o dan y cwmpas, pe bai, er enghraifft, hyrwyddiad ‘2 am 1’ yn cael ei gynnig ar amlbecynnau lluosog.

Samplau yn y siop

Nid yw talebau o reidrwydd yn dod o dan y diffiniad o hyrwyddiad pris ar sail swmp os nad ydynt yn cynnwys cynnig y bwyd ar werth. Yn yr un modd, gall samplau am ddim fod y tu allan i’r cwmpas:

  • os nad ydynt mewn eitem wedi’i ragbecynnu
  • os nad ydynt yn cynnwys cynnig y bwyd ar werth

Fodd bynnag, os yw bwyd penodedig sy’n gysylltiedig â thalebau neu samplau am ddim o’r fath wedi’i ragbecynnu ac yn cael ei gynnig yn y siop fel rhan o hyrwyddiad pris ar sail swmp neu’n cael ei roi o fewn ardaloedd cyfyngedig, mae hyn wedi’i wahardd o dan y rheoliadau.

Rhan 5: ail-lenwi am ddim

Ail-lenwi am ddim

Mae’r cyfyngiad ar hyrwyddiadau ail-lenwi am ddim yn gymwys i ddiodydd llawn siwgr heb eu rhagbecynnu, a ddiffinnir fel HFSS neu’n ‘llai iach’ gan yr NPM ac nad ydynt yn werthiant bwyd elusennol. Mae busnes cymhwysol, at ddibenion y cyfyngiad hwn, yn 40 cynnwys bwytai. Fodd bynnag, nid yw’n cynnwys cartrefi gofal na sefydliadau addysgol. Rhaid i fusnesau cymhwysol beidio â chynnig hyrwyddiad ail-lenwi am ddim ar ddiodydd sydd o fewn cwmpas y cyfyngiad.

Mae rheoliad 8(1) o’r rheoliadau yn darparu y byddai diodydd o fewn cwmpas y cyfyngiad ar ail-lenwi am ddim:

  • yn rhai heb eu rhagbecynnu
  • yn rhai o fewn categori 1 o atodlen 1 (wedi’u cynnwys uchod yn categorïau cynhyrchion o fewn y cwmpas)
  • yn rhai sy’n HFSS neu’n ‘llai iach’ (fel y’u diffinnir gan yr NPM)
  • yn rhai nad ydynt yn fwyd y mae’r eithriad ar werthiant bwyd elusennol yn gymwys iddo

Ystyr ‘hyrwyddiad ail-lenwi am ddim’ yw hyrwyddiad sy’n cynnig i’r defnyddiwr yr un ddiod neu ddiod arall y mae rheoliad 8(1) yn gymwys iddi (gan gynnwys ychwanegiadau am ddim o unrhyw ddiod o’r fath) am ddim ar ôl yfed diod gyntaf.

Gall peiriannau diodydd a weithredir gan ddefnyddwyr fod o fewn cwmpas y cyfyngiadau hyn os ydynt yn cynnig ail-lenwi am ddim ac yn cael eu gosod mewn busnes cymhwysol. Er enghraifft, peiriannau coffi mewn siop gyfleustra neu flaengwrt sy’n cynnig coffi wedi’i felysu.

Isod gellir gweld enghreifftiau o ddiodydd a allai fod o fewn ac y tu allan i gwmpas y cyfyngiadau ar ail-lenwi am ddim.

Diodydd o fewn y cwmpas:

  • diodydd ysgafn heb eu rhagbecynnu neu gwpan agored sydd o fewn cwmpas y ADDY gyda sgôr NPM o ≥1
  • pob diod arall o dan gategori 1 o atodlen 1 gyda sgôr NPM o ≥1, gan gynnwys siocled poeth, te neu goffi sy’n cael ei felysu ymlaen llaw cyn ei werthu

Diodydd y tu allan i’r cwmpas:

  • diodydd sydd â chynnwys o fwy nag 1.2% ABV
  • diodydd yng nghategori 1 ond heb eu hystyried yn HFSS neu’n ‘llai iach’ (gyda sgôr NPM o dan 1)
  • dŵr plaen a diodydd eraill heb siwgr wedi’i ychwanegu

Rhan 6: hyrwyddiadau lleoliad

Cyfyngiadau mewn siop ar hyrwyddiadau lleoliad

Mae’r rheoliadau’n disgrifio lle na ddylai busnesau cymhwysol gyflwyno bwyd penodedig y tu mewn i siop ffisegol. Maent yn darparu bod y cyfyngiadau lleoliad yn gymwys i siopau y mae arwynebedd perthnasol y llawr yn 185.8m2 (2,000 troedfedd sgwâr) neu fwy ac nad ydynt ond yn gwerthu bwyd o un categori yn atodlen 1 neu sy’n gwerthu bwyd o’r fath yn bennaf. Noder bod ystyr arwynebedd perthnasol y llawr a nodir yn y rheoliadau hyn yn wahanol i’r ystyr a nodir yn Neddf Masnachu ar y Sul 1994.

Rhannau o’r siop nad ydynt yn cyfrif tuag at arwynebedd perthnasol y siop:

  • rhannau nas defnyddir ar gyfer arddangos nwyddau neu ar gyfer gwasanaethu cwsmeriaid mewn cysylltiad â gwerthu nwyddau
  • rhannau a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer paratoi neu werthu bwyd y bwriedir iddo gael ei fwyta ar unwaith, naill ai ar neu oddi ar y fangre (bydd angen i’r awdurdod gorfodi asesu a fwriedir iddo gael ei fwyta ar unwaith)
  • ystafelloedd a ddefnyddir i ymgynghori â chwsmeriaid mewn cysylltiad ag unrhyw wasanaethau meddygol a gynigir yn y siop
  • rhan sydd wedi’i meddiannu gan fusnes (“consesiwn”) heblaw’r busnes sy’n bennaf gyfrifol am reoli a gweithredu’r siop, ond dim ond pan fo’r consesiwn yn gweithredu ei gyfleusterau talu ei hun (nid yw’r diffiniad o gonsesiwn yn dibynnu ar a yw staff sy’n gweithio i’r prif fusnesau yn rhedeg neu’n gweithio yn y consesiwn)

Enghreifftiau o leoedd y gellir eu hystyried fel y rhan hon o siop (nid yw hon yn rhestr gyflawn):

  • mannau storio
  • ystafelloedd stoc
  • ardaloedd cymunedol staff fel:
    • ystafelloedd egwyl
    • ystafelloedd loceri
    • ceginau staff
  • ardaloedd paratoi bwyd, er enghraifft, ardaloedd a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer coginio a pharatoi eitemau y bwriedir eu bwyta ar unwaith
  • cownteri deli os ydynt yn gwerthu bwyd y bwriedir ei fwyta ar unwaith
  • cownteri brechdanau os ydynt y gwerthu bwyd y bwriedir ei fwyta ar unwaith
  • siopau coffi
  • ffreuturau
  • fferyllfa
  • gwasanaethau optegydd
  • fferyllfa
  • swyddfa bost
  • peiriannau awtomatig, er enghraifft bwth ffotograffau a pheiriannau gwerthu sy’n cymryd eu taliadau eu hunain ac nad ydynt yn cael eu gweithredu gan y busnes sy’n bennaf gyfrifol am reoli a gweithredu’r siop

Gellir dod o hyd i ddiagramau o enghreifftiau o’r cyfyngiadau lleoliad yn atodiad 3.

Consesiynau

Diffinnir consesiynau yn y rheoliadau fel busnes heblaw’r busnes sy’n bennaf gyfrifol am reoli a gweithredu’r siop.

Nid yw consesiynau mewn siopau yn cyfrannu tuag at gyfrifo’r 185.8m2 (2,000 troedfedd sgwâr) sy’n angenrheidiol ar gyfer cymhwyso cyfyngiadau o ran lleoliadau hyrwyddo.

Gall consesiynau fod yn fusnesau y tu allan i’r cartref neu’n fusnesau manwerthu.

Enghraifft 1: caffis ar y safle

Os oes gan siop gyfanswm arwynebedd llawr o 2,500 troedfedd sgwâr, ond bod caffi ar y safle sy’n cael ei redeg gan fasnachfraint y tu allan i’r cartref ar wahân sy’n 550 troedfedd sgwâr, byddai hyn yn rhoi arwynebedd perthnasol y llawr o dan y trothwy 185.8m2 (2,000 troedfedd sgwâr) ac felly ni fyddai’r siop yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau lleoliad.

Nid yw maint troedfedd sgwâr unrhyw siop, fodd bynnag, yn pennu ei eithriad rhag hyrwyddiadau pris ar sail swmp. Bydd unrhyw fusnes o fewn cwmpas y polisi, ni waeth beth yw maint ffisegol y busnes hwnnw, yn cael ei gyfyngu rhag cynnig hyrwyddiadau pris ar sail swmp.

Enghraifft 2: cownteri consesiynau manwerthu

Os oes gan siop gyfleustra gownter consesiwn manwerthu (er enghraifft, cownter sy’n gwerthu bwyd wedi’i ragbecynnu neu gownter sy’n gwerthu dillad gyda chyfleusterau talu ar wahân), bydd y cownter consesiwn manwerthu hwn wedi’i eithrio o arwynebedd perthnasol y llawr ar gyfer y siop gyfleustra honno.

Os yw’r cownter consesiwn yn fusnes cymhwysol ond yn llai na 185.8m2 (2,000 troedfedd sgwâr) byddai’n cael ei eithrio o’r cyfyngiadau lleoliad, ond nid y cyfyngiadau ar hyrwyddiadau pris ar sail swmp.

Os oes gan siop gonsesiwn sy’n fusnes cymhwysol ac yn fwy na 185.8m2 (2,000 troedfedd sgwâr), byddai’r consesiwn ei hun yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau pris a lleoliad fel busnes cymhwysol ynddo’i hun.

Ardaloedd cyfyngedig yn y siop

Rhaid i fusnesau o fewn y cwmpas beidio â chyflwyno bwyd penodedig yn y siop mewn unrhyw un o'r ardaloedd canlynol.

Unrhyw ardal o fewn 2 fetr i gyfleuster talu

Ystyr cyfleuster talu yw cyfleuster yn y siop y bwriedir i ddefnyddwyr ei ddefnyddio i dalu am gynhyrchion. Mae hyn yn cynnwys cownter lle y defnyddir til arian parod (gan gynnwys yr ardal y tu ôl i’r cownter) a therfynell hunanwasanaeth. Gall gynnwys mannau til eraill neu fannau gwerthu electronig hefyd. Fodd bynnag, gellir cyflwyno bwyd penodedig o fewn 2 fetr i gyfleuster talu os yw’n cael ei gyflwyno mewn eil (ond nid ar ei phen draw).

Unrhyw ardal o fewn 2 fetr i ardal giwio ddynodedig

Gellir diffinio hyn fel ardal wedi’i neilltuo a’i marcio at ddiben darparu lle i ddefnyddwyr aros i brynu. Er enghraifft, gellid ei neilltuo neu ei marcio gan arwyddion, marciau llawr, rhwystrau, unedau neu silffoedd wedi’u cynllunio i arwain cwsmeriaid mewn ciw i’r pwynt prynu. Fodd bynnag, gellir cyflwyno bwyd penodedig o fewn 2 fetr i ardal giwio ddynodedig os yw’n cael ei gyflwyno mewn eil (ond nid ar ei phen draw).

Arddangosfeydd pen draw eil

Mae’r rhain yn arddangosfeydd ar ben draw eil (ond nid yn yr eil), neu ar strwythur ar wahân (er enghraifft, bin ynys, uned annibynnol a allai fod yn oergell neu’n rhewgell, stac ochr neu stribedi arddangos) wedi’i gysylltu â phen draw eil, yn gyfagos â hi neu o fewn 50cm iddi. Gall arddangosfa pen draw eil gynnwys arddangosfeydd sy’n wynebu’r ddesg dalu, tuag at y siop neu berimedr y siop. Nid yw ‘arddangosfa pen draw eil’ mewn eil ond yn hytrach pen perpendicwlar yr eil, y bydd angen i’r awdurdod gorfodi ei asesu wrth asesu’r fangre.

Mynedfeydd siopau

Mae’r rheoliadau’n cyfyngu ar gyflwyno bwyd penodedig ar unrhyw bwynt o fewn y pellter gwaharddedig o ganolbwynt unrhyw fynedfa gyhoeddus i brif ardal siopa’r siop. Ni ddylid gosod bwyd penodedig ar unrhyw bwynt yn yr ardal hon, p'un a ellir ei weld o fynedfa’r siop ai peidio. Gellir dod o hyd i ddiagramau yn atodiad C.

Ardal allanol sydd wedi’i gorchuddio

Mae’r cyfyngiad hwn yn gymwys i ardaloedd o dan orchudd, sydd y tu allan ac wedi’i chysylltu â phrif ardal siopa siop, y mae’r cyhoedd yn pasio drwyddi er mwyn mynd i mewn i’r brif ardal siopa (er enghraifft, cyntedd, lobi neu festibwl). Wrth gwrs, bydd achosion unigol yn cael eu hystyried a’u hasesu’n unigol gan swyddog gorfodi i benderfynu a yw’r ardal o dan sylw o fewn cwmpas y cyfyngiadau.

Pen draw eil

Mae’r cyfyngiadau ‘pen draw eil’ yn y rheoliadau yn cynnwys hyrwyddo cynhyrchion a gyflwynir mewn arddangosfa ym mhen draw eil (ond nid yn yr eil) mewn siopau, neu ar strwythur ar wahân sy’n gysylltiedig â phen draw eil, yn gyfagos â hi neu o fewn 50cm iddi, er enghraifft, arddangosfeydd biniau ynys, staciau ochr neu stribedi arddangos. Nid arddangosfa pen draw eil yw’r adran olaf yn yr eil, ond yn hytrach pen perpendicwlar yr eil, y gall yr awdurdod gorfodi ei asesu wrth asesu’r fangre.

Dim ond arddangosfeydd o fwyd penodedig sy’n cael eu cyfyngu ar ben draw eil. Os yw offer ar wahân wedi’u gosod o fewn eil (o leiaf 50cm o ben draw’r eil) neu wedi’u cysylltu â’r eil ei hun, cyn belled nad ydynt wedi’u cysylltu â phen draw eil neu’n gyfagos â hi, nid yw o fewn cwmpas y cyfyngiadau hyrwyddo lleoliad ‘pen draw eil’.

Os yw eil yn gorffen mewn wal, drwy ddiffiniad nid oes pen draw eil ar y pwynt hwnnw y gellir arddangos bwyd arno.

Darperir diagramau yn atodiad 3 sy’n dangos enghreifftiau o ben draw eil sydd o fewn y cwmpas.

Pennu’r hyn all ffurfio eil

Wrth gynnal archwiliad, bydd angen i swyddogion gorfodi, ar sail bob achos yn unigol, asesu a yw uned arddangos yn cael ei hystyried yn eil, yn uned annibynnol arall neu’n uned math ynys. Dylai busnesau sy’n ansicr a yw unedau arddangos yn eu siop o fewn cwmpas cyfyngiadau pen draw eil gysylltu â’u Hawdurdod Lleol am gymorth. Gall uned arddangos nad yw’n eil sydd â phen draw eil fod yn strwythur ar wahân sy’n gysylltiedig â phen draw eil, yn gyfagos â hi neu o fewn 50cm iddi. Er mwyn cynorthwyo busnesau i gydymffurfio â’r agwedd hon ar y rheoliadau, mae’r adran hon o’r canllawiau yn ceisio egluro’r hyn y gall swyddogion gorfodi ei ystyried wrth asesu cydymffurfiaeth busnes.

Er mwyn pennu’r hyn sy’n gyfystyr ag eil, mae hyn yn debygol o ddibynnu ar y modd y caiff y strwythurau perthnasol eu harddangos. Mae i ‘eil’ ei ystyr naturiol lle y ceir gofod hir a chul neu dramwyfa rhwng rhesi.

Enghraifft 1: unedau rhewgell sydd wedi’u harddangos ochr yn ochr

Os caiff unedau rhewgell lluosog eu harddangos ochr yn ochr ag uned rhewgell arall fel yn y ddelwedd isod, gall yr unedau ffurfio eil gyda phen draw eil.

Image
Multiple freezers displayed side by side

Enghraifft 2: unedau rhewgell sydd wedi’u harddangos mewn ffurfiant sgwâr/hirsgwar

Os caiff uned rhewgell unigol ei harddangos ar ei phen ei hun neu os bydd sawl uned yn cael eu harddangos cefn wrth gefn mewn ffurfiant sgwâr neu hirsgwar annibynnol, nad ydynt yn creu unrhyw ofod hir neu dramwyfa rhwng rhesi, gellir ystyried yr unedau fel arfer yn strwythur ar wahân i eil, fel ynys er enghraifft.

Image
Freezer units displayed in a square formation

Enghraifft 3: unedau rhewgell lluosog sydd wedi’u harddangos gyda’i gilydd mewn ffurfiant hirach

Pe bai rhewgell ychwanegol yn cael ei hychwanegu at ffurfiant sgwâr unedau’r rhewgell uchod, ac y byddai’r ffurfiant yn cael ei osod yn gyfagos ag eil arall gan greu gofod hir neu dramwyfa, gall yr unedau ddod yn eil gyda phen draw eil.

Image
Multiple freezers displayed together outside of a square formation

Mynedfeydd siopau

Ni chaniateir arddangos unrhyw fwyd penodedig o fewn 15 metr, neu’r pellter a ddisgrifir gan y fformiwla isod, i ganolbwynt unrhyw fynedfa gyhoeddus i brif ardal siopa’r siop, pa un bynnag yw’r lleiaf. Y canolbwynt yw’r pwynt hanner ffordd o ochr chwith mynedfa’r siop i’r ochr dde.

Fformiwla: pellter gwaharddedig o fynedfa’r siop

Image

Yn yr hafaliad uchod, α yw ‘arwynebedd perthnasol y llawr’ y siop. Mae pellter yn cael ei bennu gan ddefnyddio’r hafaliad hwn drwy luosi ‘arwynebedd perthnasol y llawr’ â 0.03 a dod o hyd i ail isradd y ffigur hwnnw. Er enghraifft, byddai siop 185.8m2 yn cael ei gwahardd rhag arddangos cynnyrch cyfyngedig o fewn 2.4 metr, neu ychydig dros 7.7 troedfedd, i’r fynedfa. Gellir gweld hyn yn yr hafaliad isod:

Image

Yn yr hafaliad uchod, caiff arwynebedd perthnasol y llawr y siop o 185.8m2 ei luosi â 0.03. Mae hyn yn hafal i 5.574. Cyfrifir yr arwynebedd llawr gwaharddedig felly drwy ddod o hyd i ail isradd 5.574. Yr ail isradd wedi’i dalgrynnu gan un lle degol yw 2.4 metr.

Mae’r tabl isod yn dangos yr ardaloedd mynediad gwaharddedig, fel mesur o ‘arwynebedd perthnasol y llawr’.

Arwynebedd perthnasol y llawrPellter gwaharddedig
185.8m2 (2,000 tr sgwâr)2.4m
278.7m2 (3,000 tr sgwâr)2.9m
371.6m2 (4,000 tr sgwâr)3.3m
464.5m2 (5,000 tr sgwâr)3.7m
557.4m2 (6,000 tr sgwâr)4.1m
650.3m2 (7,000 tr sgwâr)4.4m
743.2m2 (8,000 tr sgwâr)4.7m
836.1m2 (9,000 tr sgwâr)5.0m
929.0m2 (10,000 tr sgwâr)5.3m

Byddai’r pellter gwaharddedig hwn yn ffurfio hanner cylch y tu mewn i’r siop o amgylch y fynedfa gyhoeddus berthnasol. Gellir dod o hyd i ddarlun o gyfyngiad mynedfa siop yn atodiad 3.

Enghreifftiau o gymhwyso’r pellter gwaharddedig o fynedfa gyhoeddus y siop:

  • os yw mynedfa’r siop yn lifft, canolbwynt y fynedfa honno fyddai canolbwynt drws y lifft a ddefnyddir i adael y lifft a mynd i mewn i’r siop
  • os yw mynedfa’r siop yn risiau symudol neu’n risiau, canolbwynt y fynedfa honno fyddai rhan uchaf y gris olaf i mewn i’r siop

Eiliau o fewn ardal gyfyngedig o fynedfa siop

Mewn achosion pan fo eil o fewn ardal gyfyngedig o fynedfa siop, ni ellir gosod bwyd penodedig yn yr ardal hon, hyd yn oed os yw yn yr eil ac nid ym mhen draw eil. Mewn rhai achosion, gall dwy ochr yr eil fod o fewn ardal gyfyngedig o fynedfa siop. Yn yr achosion hyn, ni ellir gosod cynhyrchion HFSS cymhwysol yn ardaloedd cyfyngedig yr eil ar y naill ochr a’r llall i’r eil, fel y dangosir yn yr enghraifft a ddarperir yn atodiad 3.

Rhaid i’r ardal gyfyngedig o fynedfa siop fod yn rhydd o’r holl fwyd penodedig, pa bynnag ffordd y caiff ei arddangos.

Ardaloedd allanol sydd wedi’u gorchuddio

Ni ddylid gosod bwyd penodedig mewn ‘ardal allanol sydd wedi’i gorchuddio’, sy’n golygu ardal o dan orchudd, sydd y tu allan ac wedi’i chysylltu â phrif ardal siopa’r siop, y mae’r cyhoedd yn pasio drwyddi er mwyn mynd i mewn i’r brif ardal siopa (fel cyntedd, lobi neu festibwl).

Mae hon yn ardal gyfyngedig ar wahân i’r ardal waharddedig o fynedfa siop.

Mae rhagor o enghreifftiau o ardaloedd y gellid eu hasesu gan awdurdodau gorfodi fel ‘ardal allanol sydd wedi’i gorchuddio’ yn cynnwys blaengyrtiau petrol ac adlenni siop.

Mynedfeydd mewnol i neuaddau bwyd mewn siop adrannol (neu debyg)

Ni all ardaloedd mynedfa i wahanol ardaloedd neu adrannau o fewn yr un siop a feddiannir gan yr un busnes cymhwysol fod yn fynedfa gyhoeddus at ddibenion y cyfyngiad ar ardaloedd mynedfa siop. Er enghraifft, gall neuadd fwyd mewn siop adrannol fod yn hygyrch yn fewnol yn unig o’r tu mewn i adeilad y siop. Mae’r ardal waharddedig o fynedfa siop yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fynedfa gyhoeddus i brif ardal siopa’r siop adrannol, ac nid y pwynt lle mae’r neuadd fwyd yn dechrau.

Fodd bynnag, os yw consesiwn o fewn siop fwy yn fusnes cymhwysol a’i arwynebedd o fewn y siop yn fwy na 185.8m2 (2,000 troedfedd sgwâr), gall y fynedfa i ardal y consesiwn fod y fynedfa gyhoeddus i brif ardal siopa’r consesiwn.

Mynedfeydd lluosog siopau

Mae’r cyfyngiad ar ardaloedd mynedfeydd siopau yn gymwys i unrhyw fynedfa gyhoeddus i brif ardal siopa’r siop. Gall pellteroedd gwaharddedig orgyffwrdd ar gyfer mynedfeydd siopau sy’n agos at ei gilydd.

Cyfyngiadau ar-lein ar gyfer hyrwyddiadau lleoliad

Rhaid i fusnesau o fewn cwmpas y rheoliadau beidio â pheri i fwyd penodedig ar-lein (gan gynnwys mewn apiau) i gael ei gynnig ar werth mewn lleoliadau penodedig yr ystyrir eu bod yn cyfateb i leoliadau allweddol mewn siopau. Er enghraifft, ystyrir bod cynnig bwyd penodedig ar werth ar dudalen hafan gwefan yn cyfateb i osod bwyd penodedig wrth fynedfa siop ffisegol.

Nid yw’r cyfyngiadau hyn yn gymwys i fusnes cymhwysol sy’n gwerthu bwyd o un categori yn atodlen 1 yn unig neu’n bennaf, er enghraifft, siop gacennau ar-lein neu siopau arbenigol ar gyfer siocled neu felysion.

Mae’r cyfyngiadau yn gymwys i fusnesau cymhwysol sy’n gwerthu bwyd ar-lein yng Nghymru.

Yn ogystal â sicrhau cydymffurfiaeth â’r rheoliadau hyn, dylai busnesau gadarnhau a ydynt o fewn cwmpas rheoliadau hysbysebion darlledu ac ar-lein Llywodraeth y DU. Mae adran yn y canllawiau hyn (‘rheoliadau hysbysebion darlledu ac ar-lein’) sy’n rhoi cymorth ichi ddeall y prif feysydd sy’n debyg ac yn wahanol rhwng y ddwy set o reoliadau hyn.

Lleoliadau cyfyngedig ar-lein

Ni chaiff person cymhwysol beri i fwyd penodedig gael ei gynnig ar werth ar farchnadle ar-lein yn y ‘lleoliadau’ ar-lein a ganlyn:

  • Y dudalen hafan (pa un a yw’r defnyddiwr yn mynd i mewn i’r farchnadle ar-lein drwy’r hafan ai peidio). Er enghraifft, ni chaniateir delwedd o fwyd penodedig y gallai defnyddiwr ei ychwanegu at ei fasged siopa o’r pwynt hwnnw ar dudalen hafan (fel drwy eicon ‘ychwanegu at y fasged’). Fodd bynnag, gellir caniatáu delwedd o fwyd penodedig sy’n cyfeirio at dudalen tacsonomeg a allai fod â bwyd penodedig arni neu beidio (gan gynnwys tudalennau categori sy’n dudalennau ‘cynigion’) ar dudalen hafan, yn amodol ar gydymffurfiaeth â rheoliadau hysbysebu ar-lein Llywodraeth y DU.
  • Pan fo defnyddiwr yn chwilio am gynhyrchion heblaw bwyd atodlen 1 neu’n pori drwy gynhyrchion o’r fath, oni bai bod rhai amgylchiadau’n gymwys (gweler rheoliadau 7(4) a (5) yn y rheoliadau a’r enghreifftiau isod, sy’n dangos rhai sefyllfaoedd cyffredin y gall busnesau eu hwynebu).
  • Pan fo defnyddiwr yn chwilio am fwyd atodlen 1 neu’n pori drwy fwyd o’r fath, oni bai bod y bwyd penodedig yn dod o fewn yr un categori yn atodlen 1 neu fod rhai amgylchiadau’n gymwys (gweler hefyd rheoliadau 7(4) a (5) o’r rheoliadau a’r enghreifftiau isod nad yw’n rhestr gynhwysfawr).
  • Ar dudalen nas agorir yn fwriadol gan y defnyddiwr, fel tudalen naid neu hyrddiad brandio. Er enghraifft, pan fo cwsmeriaid yn mynd ymlaen i dalu, rhaid peidio â chael hyrwyddiad (ffenestr naid neu fel arall) o HFSS neu fwyd ‘llai iach’, hyd yn oed os yw’r cwsmer wedi prynu’r eitem hon wrth siopa’r tro diwethaf neu os yw ymhlith ei ffefrynnau. Mae’r cyfyngiad hwn yn cwmpasu tudalennau naid hefyd a all agor pan fydd defnyddiwr yn pori tudalen categori atodlen 1, hyd yn oed os yw’r dudalen naid yn hyrwyddo’r un bwyd atodlen 1, er enghraifft, ni all tudalen naid sy’n hyrwyddo bisged agor tra bod defnyddiwr yn pori’r dudalen ‘bisgedi’ y mae wedi’i hagor yn fwriadol.
  • Ar dudalen ‘ffefrynnau’. Mae’r cyfyngiad hwn yn gymwys oni bai bod y defnyddiwr wedi prynu’r bwyd penodedig o’r blaen (naill ai mewn siop neu ar-lein) neu wedi’i nodi’n fwriadol fel ffefryn. Fodd bynnag, ni chaniateir rhoi mwy o amlygrwydd i fwyd penodedig, mewn unrhyw achos, nag i gynhyrchion eraill ar dudalen ‘ffefrynnau’. Er enghraifft, o fewn y rhestr neu’r grid o ffefrynnau, bwyd penodedig sy’n cael ei wneud yn fwy, yn ‘amlycach’ neu sy’n cael amlygrwydd arbennig mewn ffyrdd eraill ar draul cynhyrchion eraill. Ni chaniateir hyrwyddo amrywiolion blas bwyd penodedig, meintiau pecynnau gwahanol, cynhyrchion eraill yn yr un categori, neu unrhyw gynhyrchion eraill nad ydynt wedi’u prynu neu eu nodi o’r blaen gan y defnyddiwr yn y dudalen ‘ffefrynnau’ gan nad ydynt wedi’u prynu neu eu nodi’n fwriadol o’r blaen fel ffefrynnau. Pan fo ffefryn sydd wedi’i brynu’n flaenorol neu wedi’i nodi’n fwriadol allan o stoc, ni ellir disodli’r cynnyrch oni bai bod y cynnyrch sy’n cael ei awgrymu fel dewis amgen yn unffurf ac nid yn amrywiant. Mae cynnyrch unffurf yn gynnyrch na ellir gwahaniaethu rhyngddo a chynnyrch cystadleuol gan gyflenwyr gwahanol. Mae gan y cynnyrch yr un nodweddion ffisegol ac mae’r ansawdd yr un fath â chynhyrchion tebyg gan gyflenwyr eraill ar dudalen dalu.
  • Ar dudalen dalu. Mae’r cyfyngiad hwn yn gymwys i’r holl dudalennau a ddangosir i ddefnyddiwr yn rhan o’r broses dalu, fel basged y defnyddiwr neu unrhyw dudalennau sy’n ymwneud â thalu, casglu neu ddosbarthu. Pan fo tudalen ‘ffefrynnau’ a agorir gan y defnyddiwr yn rhan o’r llif dalu, mae’r cyfyngiad o ran y dudalen ‘ffefrynnau’ yn gymwys i’r dudalen hon.

Ni ddylid cynnig bwyd penodedig ar werth fel rhan o hyrwyddiad pris ar sail swmp unrhyw le ar farchnadle ar-lein busnes o fewn y cwmpas.

Mae’r rheoliadau yn atal bwyd penodedig rhag cael ei gynnig ar werth ar-lein pan fo defnyddiwr yn chwilio neu’n pori cynhyrchion bwyd. Mae’r enghreifftiau isod yn amlinellu rhai eithriadau i’r cyfyngiad hwn.

Enghreifftiau o gyfyngiadau chwilio

Enghraifft 1: chwilio am fwyd atodlen 1

Os yw defnyddiwr yn chwilio’n fwriadol am fwyd atodlen 1, er enghraifft, ‘siocled’, mewn unrhyw ran o’i chwiliad, gall canlyniadau chwilio fod yn unrhyw gynnyrch yn yr un categori atodlen 1, bwyd sy’n cael ei gynnig i’w werthu gyda ‘siocled’ fel rhan o gynnig arbennig perthnasol, bwyd sy’n cael ei farchnata o dan enw sy’n cyfateb i ‘siocled’ yn gyfan gwbl neu’n rhannol, neu fwyd sydd â chynhwysyn a restrir ar y pecynwaith sy’n cyfateb i ‘siocled’ yn gyfan gwbl neu’n rhannol. Er enghraifft, melysfwyd siocled, bisgedi siocled, melysfwyd â blas siocled neu hufen iâ siocled.

Enghraifft 2: chwilio am fwyd heblaw bwyd atodlen 1

Os yw defnyddiwr yn chwilio’n fwriadol am gynnyrch bwyd nad yw wedi’i restru yn atodlen 1, ni ddylai bwyd penodedig ymddangos yn y rhestr eitemau chwilio, ond fe all hynny ddigwydd yn yr achosion canlynol:

  • Mae enw marchnata’r bwyd penodedig yn cyfateb, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, i’r term chwilio. Er enghraifft, efallai byddai ‘creision coctel corgimwch’ yn cael ei ganiatáu ar y rhestrau chwilio (ym mha bynnag ffurf, er enghraifft baneri neu gynhyrchion o dan sylw ac ati) os mai ‘corgimwch’ oedd y term chwilio, gan eu bod yn rhannu rhan o’r enw y mae’r bwyd penodedig yn cael ei farchnata oddi tano.
  • Mae cynhwysyn a restrir ar becynwaith y bwyd penodedig yn cyfateb, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, â’r term chwilio. Er enghraifft, gellir dangos pryd parod wedi’i seilio ar gorgimychiaid yn y rhestr chwilio gan eu bod yn cynnwys yr un cynhwysyn â’r term chwilio ‘corgimwch’.
  • Mae’r bwyd penodedig ar werth gyda’r cynnyrch bwyd y chwiliwyd amdano fel rhan o gynnig arbennig perthnasol. Er enghraifft, gall manwerthwr hyrwyddo cynnyrch pwdin pan fydd defnyddiwr yn chwilio am bryd parod os yw’r pwdin yn rhan o gynnig ‘bwyta i mewn i 2’.

Enghraifft 3: categorïau cyffredinol

Gall bwyd penodedig ymddangos yn y rhestr eitemau chwilio os oes cynnyrch categori cyffredinol yn cael ei ddefnyddio fel term chwilio gan y defnyddiwr a’i fod yn cynnwys y bwyd penodedig. Efallai y bydd unrhyw fwyd penodedig sy’n dod o dan y categori cyffredinol hwnnw wedyn yn cael ei ganiatáu ar y dudalen rhestrau chwilio. Er enghraifft, os yw cwsmer yn chwilio am ‘fwyd figan’, gall cacennau figan a pizzas figan ymddangos yn y canlyniadau chwilio. Gall categori cyffredinol o gynnyrch gynnwys categorïau sy’n ymwneud â thymor fel y ‘Nadolig’ (lle gellir dangos melysfwyd Nadolig, cacen Nadolig a chynhyrchion eraill sy’n gysylltiedig â’r Nadolig) a chategorïau pori sy’n ymwneud nodweddion maethol neu ddeietegol, fel ‘prydau calorïau isel’, ‘barbeciw’ ac ati.

Enghraifft 4: hamperi

Os yw defnyddiwr yn chwilio am ‘siocled’ a bod cynnyrch siocled yn rhan o hamper neu becyn sy’n cynnwys cynhyrchion eraill a oedd yn cynnwys eitemau bwyd penodedig o wahanol gategorïau atodlen 1, efallai y bydd modd dangos y cynnyrch hamper ei hun ar y rhestrau chwilio.

Gallai enghreifftiau posibl o hyn gynnwys achosion pan fo’r hamper:

  • yn cael ei farchnata o dan enw sy’n cyfateb, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, â’r term chwilio, er enghraifft, hamper sy’n cael ei farchnata o dan yr enw ‘brownis siocled moethus’ pan mai ‘siocled’ oedd y term chwilio
  • yn cynnwys bwyd penodedig gyda chynhwysyn a restrir ar ei becynwaith sy’n cyfateb, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, â’r term y chwilir amdano, er enghraifft, hamper sy’n cynnwys cacen sgwâr/petryal siocled a charamel hallt pan mai ‘siocled’ yw’r term chwilio

Enghreifftiau o gyfyngiadau pori

Enghraifft 1: pori am fwyd atodlen 1

Os yw defnyddiwr yn pori tudalen tab tacsonomeg ‘siocled’, yn gyffredinol ni ddylid dangos unrhyw fwyd penodedig arall ar y dudalen honno.

Dyma’r eithriadau i hyn:

  • Os yw’r bwyd penodedig yn yr un categori atodlen 1 â’r bwyd y mae defnyddiwr yn ei bori.
  • Os yw bwyd penodedig yn cael ei gynnig ar werth ynghyd â’r bwyd y mae’r defnyddiwr yn ei bori fel rhan o ‘gynnig arbennig perthnasol’. Er enghraifft, os yw defnyddiwr yn pori tudalen dacsonomeg ‘siocled’ a bod siocled mewn bargen fwyd gyda chreision, brechdan a diod ysgafn, mae’n bosibl y gellir dangos yr eitemau hyn ar dudalen tab tacsonomeg.
  • Os yw’r bwyd penodedig wedi’i gynnwys yn ddichonadwy o fewn categori cyffredinol y cynnyrch roedd y defnyddiwr wedi chwilio amdano. Er enghraifft, os yw defnyddiwr yn pori tudalen dacsonomeg fel ‘siocled’, gall unrhyw fwyd penodedig sy’n perthyn i’r categori cyffredinol hwn ymddangos ar y dudalen dacsonomeg hon, megis cacennau siocled a hufen iâ siocled. Gall categori cynnyrch cyffredinol gynnwys categorïau sy’n ymwneud â’r ‘Nadolig’ (lle gellir dangos melysfwyd Nadolig, cacen Nadolig a chynhyrchion eraill sy’n gysylltiedig â’r Nadolig ar y dudalen dacsonomeg) a chategorïau pori sy’n ymwneud â nodweddion maethol neu ddeietegol, fel ‘prydau calorïau isel’, ‘Barbeciw’ ac ati.

Enghraifft 2: pori am gynhyrchion ac eithrio bwyd atodlen 1

Os yw defnyddiwr yn pori tudalen categori tacsonomeg yn fwriadol, er enghraifft, ‘bwyd figan’, ni ddylai bwyd penodedig ymddangos ar y dudalen tacsonomeg oni bai:

  • Bod y bwyd penodedig wedi’i gynnwys yn ddichonadwy yn y categori cyffredinol o gynnyrch y chwiliodd y defnyddiwr amdano. Er enghraifft, os yw defnyddiwr yn pori tudalen tacsonomeg fel ‘bwyd figan’, gallai unrhyw fwyd penodedig sy’n dod o dan y categori cyffredinol hwn ymddangos ar y dudalen tacsonomeg hon, fel cacennau figan a pizzas figan.
  • Bod bwyd penodedig yn cael ei gynnig ar werth ynghyd â’r bwyd y mae’r defnyddiwr yn ei bori fel rhan o ‘gynnig arbennig perthnasol’. Er enghraifft, gallai manwerthwr hyrwyddo cynnyrch pwdin sy’n fwyd penodedig pan fydd defnyddiwr yn pori prydau figan, os yw’r pwdin yn rhan o gynnig ‘bargen bwyta i mewn i 2’.

Enghraifft 3: hamperi

Os yw defnyddiwr yn pori tudalen tacsonomeg ‘siocled’ a bod cynnyrch siocled yn rhan o hamper sy’n cynnwys cynhyrchion eraill sy’n cynnwys eitemau bwyd penodedig o’r un categori atodlen 1 yn unig, byddai modd dangos y cynnyrch hamper ei hun ar y dudalen bori.

Fodd bynnag, ni chaniateir dangos hamperi eraill o’r fath sy’n cynnwys eitemau bwyd penodedig o wahanol gategorïau atodlen 1 ar y dudalen bori tacsonomeg ‘siocled’, oni bai bod yr eitemau bwyd penodedig eraill yn yr hamper wedi’u cynnwys yng nghategori cyffredinol cynhyrchion siocled, er enghraifft, gellir dangos hamper sy’n cynnwys siocled a bisgedi siocled ar y dudalen tacsonomeg ‘siocled’.

Nid oes eithriad ar gyfer marchnadleoedd ar-lein manwerthu sy’n gwerthu eitemau nad ydynt yn fwyd yn bennaf ond sy’n cynnig bwyd mewn lleoliadau cyfyngedig. Mae’r busnesau hyn o fewn cwmpas y rheoliadau.

Tudalennau cynigion arbennig

Nid yw rhai tabiau tacsonomeg ar wefan manwerthwr sy’n dudalennau pwrpasol ar gyfer cynigion arbennig, er enghraifft, tudalen a agorir yn fwriadol gan ddefnyddiwr at ddibenion pori ‘cynigion arbennig’, yn cael eu gwahardd rhag cynnig bwyd penodedig. Felly, gallai cynhyrchion o dan dab tacsonomeg o’r fath gynnwys cymysgedd o fwyd penodedig a bwyd amhenodol sy’n perthyn i wahanol gategorïau. Gall cynigion arbennig gynnwys ‘bargeinion yr wythnos’ ac ati.

Fodd bynnag, mae’r cyfyngiad ar gynnig bwyd penodedig ar werth yn rhan o hyrwyddiad pris ar sail swmp yn parhau i fod yn gymwys.

Baneri neu benawdau

Gall baneri neu benawdau ar farchnadle ar-lein fod o fewn cwmpas y cyfyngiadau ar-lein hefyd. Mae’r ffactorau i’w hystyried yn cynnwys a ydynt yn eiddo i’r busnes cymhwysol ac yn cael eu rheoli ganddo (hynny yw, nid ydynt yn hysbysebion sydd â dolenni i wefannau trydydd parti) ac a ydynt yn cynnig bwyd penodedig ar werth mewn lleoliad na chaniateir.

Cyfyngiadau hysbysebion darlledu ac ar-lein

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i weithredu’r cyfyngiadau hysbysebu bwyd neu ddiod llai iach ar y teledu ac ar-lein. Mae’r cyfyngiadau wedi’u hamlinellu yn Neddf Cyfathrebu 2003 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Iechyd a Gofal 2022) a disgwylir iddynt ddod i rym ledled y DU ar 5 Ionawr 2026. Mewn cytundeb â’r Llywodraeth, mae darlledwyr a hysbysebwyr, gyda chefnogaeth platfformau a chyhoeddwyr ar-lein, wedi gwneud ymrwymiad cyhoeddus i gydymffurfio’n wirfoddol â’r cyfyngiadau o 1 Hydref 2025 ymlaen. Mae Rheoliadau Hysbysebu (Diffiniadau ac Eithriadau Bwyd Llai Iach) 2024 yn darparu ar gyfer cynhyrchion, busnesau a gwasanaethau sydd o fewn cwmpas y cyfyngiadau hysbysebu hyn, yn ogystal ag eithriadau. Bwriedir i’r cyfyngiadau hysbysebu weithredu law yn llaw ag ymyriadau rheoleiddiol eraill ar ordewdra, fel y rheoliadau hyn.

Mae’r isod yn dangos y meysydd sy’n alinio rhwng Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025 a Rheoliadau Hysbysebu (Diffiniadau ac Eithriadau Bwyd Llai Iach) 2024.

Categorïau cynhyrchion o fewn y cwmpas

Bwriedir i gategori 1 i 12 yn y ddwy set o reoliadau gyfateb cymaint â phosibl. Fodd bynnag, mae rhai gwahaniaethau clir yng nghategori 13 y dylai busnesau eu nodi. Mae’r gwahaniaethau hyn yn adlewyrchu bod y cyfyngiadau hysbysebu ledled y DU ar fwyd neu ddiod llai iach hefyd yn gymwys i gynhyrchion sy’n cael eu gwerthu yn y sector y tu allan i’r cartref, yn ogystal â manwerthwyr a gweithgynhyrchwyr, tra bod y rheoliadau hyn dim ond yn gymwys i gynhyrchion sy’n cael eu gwerthu gan fanwerthwyr a gweithgynhyrchwyr (gan eithrio diodydd siwgr yn y sector y tu allan i’r cartref).

Busnesau o fewn y cwmpas

Mae cyfyngiadau hysbysebu Llywodraeth y DU yn gymwys i fusnesau sydd â 250 neu ragor o gyflogeion sy’n talu i hysbysebu cynhyrchion bwyd a diod llai iach. Ar y llaw arall, mae Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025 yn gymwys i fusnesau sydd â 50 neu ragor o gyflogeion sy’n cynnig bwyd wedi’i ragbecynnu i’w werthu ar-lein ac mewn siop. Nid yw rheoliadau Cymru yn gymwys i’r sector y tu allan i’r cartref, ac eithrio pan fo busnesau’n cynnig ail-lenwi am ddim ddiodydd llawn siwgr heb eu pecynnu ymlaen llaw.

Atebolrwydd

O dan Reoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025, mae manwerthwyr yn atebol am achosion o dor rheoliadau yn y siop, a gall manwerthwyr a/neu gyd-gasglwyr ar-lein fod yn gyfrifol am werthiannau ar-lein.

Yn unol â chyfyngiadau hysbysebu Llywodraeth y DU, mae hysbysebwyr yn atebol am unrhyw achos o dorri’r gwaharddiad ar hysbysebion y telir amdanynt ar y rhyngrwyd. Mae darparwyr gwasanaeth ar gyfer gwasanaethau rhaglenni ar alw o dan awdurdodaeth y DU yn atebol am unrhyw achos o dorri’r cyfyngiadau darlledu.

Mewn meysydd sy’n gorgyffwrdd, er enghraifft os yw cwmni wedi talu am hysbysebu cynnyrch HFSS y gellir ei adnabod sy’n cael ei arddangos mewn ardal sydd wedi’i chyfyngu o dan y rheoliadau hyrwyddo (er enghraifft, ar dudalen hafan manwerthu, tudalen dalu neu dudalen nad yw’n cael ei agor yn fwriadol gan y defnyddiwr), gall y manwerthwr neu’r cydgasglydd fod yn atebol am achosion o dor rheoliadau hyrwyddo.

Mae’n bosibl y gallai’r rheoleiddiwr rheng flaen y cyfyngiadau hysbysebu (yr Awdurdod Safonau Hysbysebu) hefyd ganfod bod y manwerthwr yn agored i achos o dor rheoliadau hysbysebu, os ydyw, yn rhinwedd ei waith fel hysbysebwr, wedi talu am osod hysbyseb ar gyfer cynnyrch llai iach y gellir ei adnabod ar-lein.

Rhan 7: atebolrwydd

Atebolrwydd

Bydd busnesau sydd o fewn cwmpas y rheoliadau sy’n hyrwyddo bwyd o fewn y cwmpas mewn ffordd nad yw’n bodloni gofynion y ddeddfwriaeth yn agored i gamau gorfodi, oni bai bod eithriad yn gymwys.

Disgwylir y bydd angen i fusnesau cymhwysol asesu a yw’r cynhyrchion y maent yn eu gwerthu yn dod o fewn categorïau atodlen 1 yn y rheoliadau. Os ydynt yn gwneud hynny, bydd angen i fusnesau asesu a yw’r cynhyrchion hyn yn llai iach drwy gyfrifo eu sgôr NPM. Os ystyrir bod cynnyrch yn ‘fwyd penodedig’, cyfrifoldeb y busnes fydd sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r cyfyngiadau ar hyrwyddiadau fel y’u nodir yn y rheoliadau.

Mae busnesau cymhwysol yn gyfrifol am sicrhau bod y cynhyrchion y maent yn eu hyrwyddo yn cydymffurfio. Mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth angenrheidiol i gyfrifo sgoriau NPM (er enghraifft, faint o egni, cilojouleau (kJ), siwgrau, braster dirlawn ac ati mewn 100g o’r bwyd neu’r ddiod) eisoes wedi’i darparu ar becynwaith.

Os oes angen rhagor o wybodaeth ar fusnesau (er enghraifft cynnwys ffibr, ffrwythau, llysiau a chnau), yna efallai y byddant yn dewis ceisio’r manylion hyn gan weithgynhyrchwyr (os nad ydynt eisoes wedi’u rhannu’n gyhoeddus). Gall gweithgynhyrchwyr ddewis darparu sgoriau NPM i fusnesau os ydynt yn dymuno iddynt hyrwyddo cynnyrch sydd yng nghategori cynnyrch atodlen 1 ond nad yw’n HFSS neu’n ‘llai iach’ oherwydd ei sgôr NPM.

Dylai gwybodaeth am faeth neu gynhwysion a ddarperir gan weithgynhyrchwr fod yn gywir ac nid yn gamarweiniol. Os ystyrir bod gwybodaeth a ddarperir gan weithgynhyrchwr yn gamarweiniol, gall awdurdod gorfodi gymryd camau gorfodi yn erbyn y gweithgynhyrchwr o dan ddeddfwriaeth ar wahân. Mae gan weithgynhyrchwyr rwymedigaethau penodedig eisoes ynghylch gwybodaeth am faeth y mae angen iddynt gydymffurfio â nhw ac mae’n drosedd rhoi gwybodaeth gamarweiniol am faeth ar y pecynwaith.

Apiau ar-lein a phlatfformau cyflenwi

Os yw busnes cymhwysol yn cynnig bwyd o fewn y cwmpas ar wefan neu blatfform ar-lein trydydd parti, bydd yn rhaid iddynt gydymffurfio â chyfyngiadau hyrwyddiadau pris ar sail swmp a lleoliad mewn perthynas â’r cynhyrchion y maent yn eu gwerthu. Mae bwytai y tu allan i gwmpas cyfyngiadau hyrwyddo (ac eithrio ail-lenwi diodydd am ddim), ond mae manwerthwyr o fewn y cwmpas ac yn atebol i gamau gorfodi.

Felly, ni chaiff manwerthwyr beri i fwyd penodedig gael ei gynnig ar werth ar rannau o safleoedd neu apiau ar-lein cyd-gasglydd (hynny yw, y farchnadle ar-lein) a allai gael eu dal gan gyfyngiadau hyrwyddo, fel tudalennau talu neu dudalennau naid ar adrannau manwerthwyr yr ap neu’r wefan.

Mae manwerthwyr yn gyfrifol am sicrhau bod unrhyw gontractau sydd ar waith gyda’r platfform dosbarthu ar-lein yn ei gwneud yn glir bod rhaid dilyn y gyfraith. Rhaid iddynt sicrhau bod y cynhyrchion y maent yn eu gwerthu yn cydymffurfio â’r cyfyngiadau ar hyrwyddiadau pris ar sail swmp a lleoliad ar y mathau hyn o blatfformau, lle maent yn parhau i fod yn gyfrifol am y bwyd hwn yn cael ei gynnig ar werth.

Er bod manwerthwyr yn gyfrifol am werthu eu cynhyrchion ar-lein, gall cyd-gasglyddion ar-lein fod â chyfrifoldeb o’r fath hefyd. Gallai hyn godi, er enghraifft, pan fo cyd-gasglyddion yn hysbysebu, yn hyrwyddo neu’n hwyluso gwerthu cynhyrchion ar ran masnachwr.

Bydd llys yn ystyried ffeithiau pob achos wrth benderfynu a yw gweithredoedd platfformau dosbarthu ar-lein a chyd-gasglyddion wedi arwain neu gyfrannu at achos o dorri’r rheoliadau. Gall swyddogion gorfodi gysylltu â’r holl bartïon perthnasol wrth ystyried cydymffurfiaeth a gallant ystyried mecanweithiau eraill ar gyfer gorfodi.

Rhan 8: gorfodi

Gorfodi

Byddem yn annog awdurdodau gorfodi:

  • i fod yn bragmatig yn eu dull gorfodi
  • i drafod meysydd lle efallai na fydd busnesau’n cydymffurfio â’r rheoliadau, gan ddyroddi hysbysiadau gwella lle bo angen
  • i ganolbwyntio ar hyrwyddo cydymffurfiaeth yn hytrach na chosbi diffyg cydymffurfiaeth

Mae gan awdurdodau gorfodi nifer o offerynnau ar gael i orfodi’r rheoliadau, fel y nodir isod. Yn y lle cyntaf, byddem yn annog awdurdodau gorfodi i gydweithio â busnesau yn anffurfiol neu drwy hysbysiad gwella i gefnogi ac annog cydymffurfiaeth.

Gorfodi’r rheoliadau

Bydd y rheoliadau yn cael eu gorfodi gan awdurdodau bwyd. Yn ymarferol, eich awdurdod lleol fydd hwn. Gall y rheoliadau gael eu gorfodi gan safonau masnach neu swyddogion iechyd yr amgylchedd yn dibynnu ar drefniadau lleol. Bydd swyddogion yn cael eu hawdurdodi i gyflawni eu swyddogaethau i orfodi’r rheoliadau hyn.

Gall busnesau gydweithio â’u prif awdurdodau i ganfod a yw eu busnesau yn dod o fewn cwmpas y rheoliadau. Efallai y bydd awdurdodau gorfodi yn dymuno cysylltu â’r prif awdurdodau pan fo partneriaeth yn bodoli i bennu unrhyw gyngor a allai fod wedi’i roi i’r busnes.

Mae awdurdodau gorfodi yn debygol o wirio’r canlynol:

  • a yw siop yn rhan o fusnes canolig neu fawr (lle y mae cyfanswm nifer y cyflogeion sy’n gweithredu o dan yr enw busnes hwnnw yn 50 neu ragor)
  • a yw siop yn siop arbenigol sy’n gwerthu un math o gynnyrch
  • a yw maint siop yn llai na 185.8m2 (2,000 troedfedd sgwâr)
  • presenoldeb unrhyw gynhyrchion sy’n rhan o’r categorïau bwyd o fewn y cwmpas mewn hyrwyddiad pris ar sail swmp neu leoliad y cyfyngir arno, yn y siop ac ar-lein
  • a oes cynhyrchion yn y categorïau hyn ar hyrwyddiadau pris ar sail swmp neu leoliad, er mwyn canfod gan y manwerthwr sut y mae wedi sicrhau nad yw’r rhain yn HFSS neu’n ‘llai iach’ fel y’u diffinnir gan sgôr NPM

Mae gan swyddogion gorfodi ddisgresiwn wrth ddewis sut i gynnal ymchwiliadau cychwynnol neu bellach. Wrth benderfynu a ddylid ymchwilio i fater, neu ymchwilio iddo ymhellach, mae ffactorau y gallant eu hystyried yn cynnwys gwybodaeth gan y manwerthwr, neu dystiolaeth a gafwyd gan gyfanwerthwyr neu wneuthurwyr ar gynnwys cynhyrchion bwyd.

Er mwyn asesu cydymffurfiaeth â’r cyfyngiad ar ail-lenwi diodydd llawn siwgr am ddim o fewn cwmpas y rheoliadau, mae awdurdodau gorfodi yn debygol o wirio’r canlynol:

  • a yw’r busnes (er enghraifft, bwyty) yn rhan o fusnes canolig neu fawr (lle y mae cyfanswm nifer y cyflogeion sy’n gweithredu o dan yr enw busnes hwnnw yn 50 neu ragor)
  • presenoldeb unrhyw gynigion ‘ail-lenwi am ddim’ ar ddiodydd sydd o fewn cwmpas y rheoliadau
  • os oes cynnig i ail-lenwi am ddim ar ddiodydd, canfod gan y busnes sut y mae wedi sicrhau nad yw’r rhain yn HFSS neu’n ‘llai iach’ fel y’u diffinnir gan sgôr NPM

Sut i ddangos cydymffurfiaeth i swyddogion gorfodi sy’n arolygu

Pan fo swyddogion gorfodi yn gofyn am fynediad i’r wybodaeth hon fel modd o asesu cydymffurfiaeth busnes â’r rheoliadau, mae’r rheoliadau yn rhoi pwerau mynediad i swyddogion gorfodi, sy’n cynnwys y gallu i archwilio’r cofnodion (ym mha bynnag ffurf y maent yn cael eu cadw) sy’n ymwneud â busnes bwyd. Byddai’n cynorthwyo swyddogion gorfodi i asesu cydymffurfiaeth busnes â chyfyngiadau hyrwyddo a chyflwyno, pe bai’r canlynol ar gael gan y busnesau:

  • planogramau o’r siop, er enghraifft, planogramau sy’n darparu dimensiynau’r siop a maint a lleoliad consesiynau yn y siop
  • manylion cyfanswm nifer y cyflogeion sy’n gweithredu o dan enw’r busnes

Mae’n bosibl hefyd y bydd swyddogion gorfodi yn gofyn ichi sut rydych chi’n cyfrifo’r sgôr NPM ar gyfer eich cynhyrchion a pha wybodaeth sydd gennych gan gyflenwyr. Gall fod yn ddefnyddiol ichi gadw unrhyw gofnodion a allai eich helpu i ateb y cwestiynau hyn.

Cosbau am ddiffyg cydymffurfio

Bydd swyddogion gorfodi awdurdodau bwyd yn cydweithio â busnesau i annog eu cydymffurfiaeth â’r gyfraith. Os oes gan awdurdod bwyd sail resymol i gredu bod person yn methu â chydymffurfio â’r rheoliadau, gallent gyflwyno hysbysiad gwella i’r person hwnnw.

Fodd bynnag, mae hysbysiadau gwella yn ddewisol ac nid oes angen iddynt fod y cam cyntaf a gymerir pan fydd swyddog gorfodi yn datgelu tramgwydd posibl. Caniateir ac anogir swyddogion gorfodi i gynnal sgyrsiau cychwynnol â busnesau i ddatrys achosion posibl o ddiffyg cydymffurfio a chynghori ar sut i gydymffurfio cyn cyflwyno hysbysiadau ffurfiol. Gall cyflwyno hysbysiad gwella fod yn ffordd o uwchgyfeirio mater ar ôl diffyg cydymffurfio parhaus. Mae rhagor o wybodaeth a siart lif sy’n amlinellu’r prosesau ar gyfer gorfodi’r rheoliadau wedi’u cynnwys yn atodiad 1 ac atodiad 2.

Gorfodi ar-lein

Anogir busnesau o fewn cwmpas y polisi a allai fod â pherthynas awdurdod sylfaenol i drafod materion cydymffurfio â nhw. Gellir hefyd gysylltu â thimau gorfodi sy’n gyfrifol am faterion cydymffurfio i gael cymorth.

Rôl yr Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASA) wrth orfodi cyfyngiadau hyrwyddo ar-lein

Yr Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASA) yw rheoleiddiwr hysbysebu annibynnol y DU.

Mae’r Awdurdod hwn wedi bod yn gweinyddu’r "UK code of non-broadcast advertising and direct and promotional marketing", wedi’i ysgrifennu a’i gynnal gan Bwyllgor Arferion Hysbysebu (CAP), am 50 o flynyddoedd a mwy a’r "UK code of broadcast advertising" (wedi’i ysgrifennu a’i gynnal gan Bwyllgor Darlledu Arferion Hysbysebu) am 15 mlynedd a mwy. Yn 2011, estynnwyd ei gylch gwaith ymhellach i gynnwys honiadau hysbysebion ar wefannau cwmnïau eu hunain ac mewn gofodau cyfryngau cymdeithasol o dan eu rheolaeth.

Efallai y bydd yr ASA yn dod yn ymwybodol o hyrwyddiad perthnasol wrth ymdrin â chwynion neu fel arall yn nodi achos yn ystod ei weithgareddau monitro rhagweithiol.

Dim ond i hyrwyddiadau pris ar sail swmp a chyfyngiadau lleoliad sy’n ymwneud â bwyd penodedig sy’n cael ei werthu mewn busnesau cymhwysol y mae’r rheoliadau hyn yn gymwys. Mae’r rheoliadau yn gweithredu’n annibynnol ar y cod CAP presennol.

Os yw darn o gynnwys o fewn cwmpas y cyfyngiadau hyrwyddo ac o bosibl yn torri codau hysbysebu’r DU, a bod hyn yn dod i sylw’r ASA, yna bydd yn cyfeirio’r mater at yr awdurdodau gorfodi perthnasol. Mae cydymffurfio â’r rheoliadau hyn yn cael blaenoriaeth dros godau hysbysebu anstatudol y DU.

Bydd yr ASA yn cyfeirio achosion y mae’n eu nodi at yr awdurdodau gorfodi perthnasol i weithredu yn eu cylch. Dim ond awdurdodau bwyd sydd â’r pŵer i gyflwyno hysbysiadau gwella a chosbau ariannol penodedig o dan y rheoliadau hyn.

Atodiad 1: y broses orfodi

Atodiad 1: y broses orfodi

Hysbysiadau gwella

Mae hysbysiadau gwella yn rhoi’r cyfle i fusnesau gymryd camau cywiro cyn i unrhyw gosb gael ei rhoi. Dylai hysbysiadau gwella ddarparu cynllun ar gyfer cydymffurfio. Mae’r rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i’r hysbysiadau hyn nodi manylion fel:

  • y materion sy’n gyfystyr â’r methiant i gydymffurfio
  • y cyfnod amser y mae’n rhaid cymryd mesurau er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth

Bydd y cyfnod a roddir i fusnes sicrhau cydymffurfiaeth o dan hysbysiad gwella yn fater i awdurdodau gorfodi ei ystyried fesul achos, wrth arfer eu swyddogaethau.

Bydd proses apêl ar gael os bydd hysbysiad gwella yn cael ei herio (bydd apeliadau’n cael eu gwneud i Lysoedd Ynadon), a fydd yn ‘stopio’r cloc’ i bob pwrpas o ran yr amser a ganiateir i gydymffurfio nes bod yr apêl wedi’i chlywed.

Gall unrhyw berson sy’n methu â chydymffurfio â hysbysiad gwella fod yn euog o drosedd.

Mae 2 opsiwn yn dilyn cyflawni trosedd:

  • Mae’r busnes tramgwyddus yn cael ei erlyn yn droseddol, a all arwain at ddirwy ddiderfyn fesul trosedd.
  • Gall swyddog gorfodi osod cosb ariannol benodedig (FMP) o £2,500 (cosb sifil). Yn unol â Deddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008, bydd awdurdodau gorfodi yn arfer eu pwerau i osod cosb ariannol benodedig mewn ffordd sy’n gymesur ac yn gyson gan dargedu dim ond yr achosion y mae angen gweithredu yn eu cylch.

Bydd camau gorfodi yn cael eu cymryd yn unol â pholisi gorfodi’r awdurdodau.

Proses ar gyfer cyflwyno cosbau ariannol penodedig

Pan fo swyddog gorfodi yn cynnig gosod cosb ariannol benodedig ar berson sydd wedi methu â chydymffurfio â hysbysiad gwella, rhaid i’r swyddog gyflwyno hysbysiad o fwriad i’r derbynnydd. Bydd yr hysbysiad o fwriad yn gwneud y canlynol:

  • nodi’r rhesymau dros y cynnig i osod cosb ariannol benodedig
  • nodi y bydd y gosb ariannol benodedig arfaethedig yn £2,500

Mae gwybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys mewn hysbysiad o fwriad wedi’i chynnwys yn y rheoliadau.

Gellir rhyddhau cosb ariannol benodedig arfaethedig pan fo person sy’n derbyn hysbysiad o fwriad yn talu 50% o swm y gosb o fewn 28 o ddiwrnodau (gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad).

Yn ogystal, caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo, o fewn 28 o ddiwrnodau (gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad), gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i’r awdurdod gorfodi mewn perthynas â’r cynnig i osod y gosb ariannol benodedig, gan nodi pam y mae’n teimlo na fyddai cosb ariannol benodedig yn briodol. Bydd awdurdod gorfodi yn ystyried y sylwadau a’r gwrthwynebiadau hyn cyn dod i benderfyniad terfynol.

Hysbysiad terfynol

Os nad yw’r person sydd wedi cael hysbysiad o fwriad yn rhyddhau ei hun rhag atebolrwydd o fewn 28 o ddiwrnodau, caiff swyddog gorfodi gyflwyno hysbysiad terfynol sy’n gosod cosb ariannol benodedig.

Mae’r wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys ar hysbysiad terfynol wedi’i chynnwys yn y rheoliadau, bydd hyn yn cynnwys:

  • gwybodaeth am y rhesymau dros osod y gosb ariannol benodedig
  • sut y mae rhaid talu
  • canlyniadau methu â thalu

Ni chaiff y swyddog gorfodi gyflwyno hysbysiad terfynol i berson pan fo’r swyddog wedi’i fodloni na fyddai’r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi. Pan fo swyddog gorfodi yn cyflwyno hysbysiad terfynol sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig, ni chaiff gyflwyno unrhyw hysbysiad arall o dan y rheoliadau hyn mewn perthynas â’r drosedd.

Pan fo person y cyflwynwyd hysbysiad o fwriad iddo yn cyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau ynglŷn â’r hysbysiad hwnnw o fewn y terfyn amser, caiff y person hwnnw ryddhau’r hysbysiad terfynol drwy dalu 50% o’r gosb o fewn 14 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad terfynol).

Gall person sy’n derbyn yr hysbysiad terfynol apelio yn ei erbyn. Bydd gan bersonau gyfnod o 28 o ddiwrnodau ar ôl i hysbysiad terfynol gael ei gyflwyno i apelio yn erbyn yr hysbysiad. Bydd hawliau apelio yn cael eu datgan yn glir mewn unrhyw hysbysiad terfynol a gyflwynir a bydd Tribiwnlys Haen Gyntaf yn ymdrin ag apeliadau yn y Siambr Reoleiddio Gyffredinol.

Y seiliau dros apelio yw:

  • bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol
  • bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith
  • bod y penderfyniad yn afresymol
  • bod y penderfyniad yn anghywir am unrhyw reswm arall

Caiff awdurdodau gorfodi, ar unrhyw adeg yn ysgrifenedig, dynnu’n ôl hysbysiad sy’n rhoi cosb ariannol benodedig (gweler paragraff 13 o atodlen 2 i’r rheoliadau).

Methu â thalu ar ôl 28 o ddiwrnodau

Rhaid i’r gosb ariannol benodedig gael ei thalu o fewn 28 o ddiwrnodau i gael yr hysbysiad terfynol. Os na thelir y gosb ariannol benodedig o fewn 28 o ddiwrnodau i’r hysbysiad terfynol, cynyddir y swm sy’n daladwy 50%.

Yn achos apêl, mae’r gosb yn daladwy o fewn 14 o ddiwrnodau i benderfynu’r apêl (os yw’r apêl yn aflwyddiannus), ac os nad yw wedi’i thalu o fewn 14 o ddiwrnodau, cynyddir swm y gosb ariannol benodedig 50%.

Achosion troseddol

Os cyflwynir hysbysiad o fwriad ar gyfer cosb ariannol benodedig i unrhyw berson:

  • Ni chaniateir dechrau achos troseddol am y drosedd yn erbyn y person hwnnw mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi cyn i’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau ddod i ben (gan ddechrau o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad o fwriad).
  • Pan fo’r person hwnnw yn ei ryddhau ei hun rhag atebolrwydd, ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd.

Pan osodir cosb ariannol benodedig ar berson, ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gosb.

Fel y soniwyd yn flaenorol, mae cosbau ariannol penodedig yn darparu modd i ymateb i ddiffyg cydymffurfiaeth â’r rheoliadau â sancsiwn sifil fel dewis arall i erlyniad.

Fodd bynnag, mae yn ôl disgresiwn swyddog gorfodi i erlyn yn droseddol trosedd a gyflawnwyd ar ôl methu â bodloni telerau hysbysiad gwella. Bydd pob achos yn cael ei asesu ar ei rinweddau ei hun. Er enghraifft, gall swyddog gorfodi ystyried bod erlyniad yn fwy priodol os yw o’r farn bod y busnes wedi torri’r rheoliadau yn ddifrifol, yn fwriadol neu’n barhaus.

Canllawiau

Bydd yn ofynnol i awdurdodau gorfodi lunio canllawiau ynghylch eu defnydd o’r pŵer i orfodi cosbau ariannol penodedig a sut y byddant yn cael eu defnyddio i orfodi trosedd. Bydd y canllawiau yn cynnwys y canlynol:

  • gwybodaeth am yr amgylchiadau pan fo cosb yn debygol o gael ei gosod ai peidio
  • sut y gellir rhyddhau atebolrwydd am y gosb
  • hawliau i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau neu i apelio

Gellid gwneud hyn yn rhan o’r broses arferol o ymgynghori, datblygu a chyhoeddi polisi awdurdod gorfodi. Rhaid i awdurdodau gorfodi ymgynghori â phersonau o’r fath y maent yn eu hystyried yn briodol cyn cyhoeddi neu adolygu canllawiau.

Er enghraifft, mae hyn yn debygol o gynnwys busnesau sy’n dod o fewn cwmpas y rheoliadau, ac efallai y byddant yn dymuno ymgynghori â busnesau llai (gyda llai na 50 o gyflogeion) a phartneriaid lleol hefyd.

Cyhoeddi camau gorfodi

Rhaid i bob awdurdod gorfodi gyhoeddi adroddiadau o bryd i’w gilydd am y camau gorfodi y mae wedi’u cymryd o dan y rheoliadau. Rhaid i’r adroddiadau hyn bennu:

  • yr achosion y gosodwyd cosb ariannol benodedig arnynt, ac eithrio lle y mae wedi’i gwyrdroi ar apêl
  • yr achosion y cafwyd rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb ariannol benodedig ynddynt drwy dalu’r gosb yn dilyn yr hysbysiad o fwriad a heb fod camau pellach yn cael eu cymryd

Yn unol â’r rheoliadau, bydd awdurdodau gorfodi yn ystyried sensitifrwydd achosion ac yn ymatal rhag cyhoeddi gwybodaeth y maent o’r farn y byddai hynny’n mynd yn groes i ddeddfwriaeth diogelu data.

Atodiad 2: siart lif gorfodi

Atodiad 2: siart lif gorfodi

Image

Atodiad 3: diagramau o gyfyngiadau lleoliad

Atodiad 3: diagramau o gyfyngiadau lleoliad

Mae’r diagramau isod wedi’u dylunio i ddangos rhai o’r cyfyngiadau allweddol o dan y rheoliadau. At ddibenion eglurder, nid ydym wedi marcio’r holl gyfyngiadau a fydd yn gymwys i ardal y siop a ddangosir. Yn ymarferol, gall ardaloedd mewn siop neu ar-lein fod o fewn cwmpas mwy nag un o’r cyfyngiadau lleoliad a nodir yn y rheoliadau (er enghraifft, cyfyngiadau ardal talu yn y siop a chyfyngiadau ardal giwio ddynodedig).

Cyfyngiadau mewn siop

Ardal dalu mewn siop

Image

Yn y ddelwedd uchod, mae’r ardal gyfyngedig o fewn 2m i’r cyfleuster talu ac ni ellir gosod bwydydd penodedig yma. Mae hyn yn cynnwys unrhyw bwynt o fewn 2m i gownter lle defnyddir til arian parod, gan gynnwys yr ardal y tu ôl i’r cownter ac unrhyw bwynt o fewn 2m i derfynell hunanwasanaeth. Mae’n cynnwys cyfleusterau eraill hefyd y bwriedir i ddefnyddwyr eu defnyddio i brynu, a all gynnwys pwyntiau til neu bwyntiau gwerthu electronig eraill. Nid yw hyn yn atal bwyd penodedig rhag cael ei roi mewn eil, hyd yn oed os yw o fewn 2m i’r ardal dalu, ond ni ddylid gosod bwyd penodedig ar ben draw eil neu o fewn 50cm i ben draw eil.

Ardal giwio ddynodedig

Image

Yn y ddelwedd uchod, mae’r ardal gyfyngedig o fewn 2m i ardal giwio ddynodedig ac ni ellir gosod bwydydd penodedig yma. Ceir hefyd ardal waharddedig 2m o amgylch yr ardaloedd talu, nad yw’n cael ei dangos yma, lle na chaniateir gosod bwydydd penodedig. Nid yw hyn yn atal bwyd penodedig rhag cael ei roi mewn eil (ond nid ar ben draw eil) hyd yn oed os yw o fewn 2m i’r ardal giwio ddynodedig.

Pen draw eiliau ac ynysoedd

Image

Yn y ddelwedd uchod, mae pen draw eiliau (ond nid yn yr eiliau) ac o fewn 50cm o ben draw eil yn ardaloedd cyfyngedig ac ni chaniateir gosod bwydydd penodedig yma. Gellir gosod bwyd penodedig ar strwythurau ar wahân ar ffurf ynys y gellir eu gwasgaru o amgylch y siop, nad ydynt yn eiliau ynddynt eu hunain, neu nad ydynt yn strwythurau ar wahân wedi’u cysylltu â phen draw eil, neu’n gyfagos â hi, neu o fewn 50cm iddi.

Mynedfa un drws

Image

Yn y ddelwedd uchod, gweler mynedfa un drws gyda’r pellter gwaharddedig wedi’i ddangos o ganolbwynt y fynedfa honno i brif ardal siopa’r siop.

Mynedfa un drws ar gornel

Image

Yn y ddelwedd uchod, gweler mynedfa un drws ar gornel gyda’r pellter gwaharddedig wedi’i ddangos o ganolbwynt y fynedfa honno i brif ardal siopa’r siop, hyd yn oed pan gaiff y pellter ei groestorri â wal.

Mynedfa un drws ger eil

Image

Yn y ddelwedd uchod, ceir mynedfa un drws gyda’r pellter gwaharddedig wedi’i ddangos o ganolbwynt y fynedfa honno i brif ardal siopa’r siop. Ceir prif eil o fewn pellter gwaharddedig y drws. Mae prif ardal yr eil sydd o fewn pellter gwaharddedig y drws yn dangos na ddylid gosod bwyd penodedig ar unrhyw bwynt o fewn y pellter gwaharddedig, p’un a ellir ei weld o fynedfa’r siop ai peidio.

Grisiau neu risiau symudol sy’n arwain at fynedfa un drws

Image

Yn y ddelwedd uchod, mae grisiau neu risiau symudol yn arwain at fynedfa’r siop. Mae’r pellter gwaharddedig a ddangosir o ganolbwynt y fynedfa i brif ardal siopa’r siop.

Mynedfa â sawl drws

Image

Yn y ddelwedd uchod, gweler mynedfeydd sawl drws gyda’r pellter gwaharddedig wedi’i ddangos o ganolbwynt pob un o’r mynedfeydd i brif ardal siopa’r siop.

Mynedfa i ardal sydd wedi’i gorchuddio o fewn y siop

Image

Yn y ddelwedd uchod, gweler mynedfa i ardal allanol wedi’i gorchuddio sydd wedi’i chysylltu â phrif ardal siopa’r siop, y mae’r cyhoedd yn pasio drwyddi er mwyn mynd i mewn i’r brif ardal siopa (er enghraifft, y cyntedd, y lobi neu’r festibwl). Mae’r ardal dan orchudd hon wedi’i chyfyngu, felly hefyd y pellter gwaharddedig a ddangosir o ganolbwynt y fynedfa i brif ardal siopa’r siop.

Cyfyngiadau ar-lein

Tudalen hafan

Image

Yn y ddelwedd uchod, mae tudalen hafan gwefan yn dangos rhestr o gategorïau (ffrwythau a llysiau, cig a physgod, a gwin a chwrw), nad ydynt wedi’u cyfyngu yn gyffredinol (yn dibynnu, er enghraifft, a yw’r cig a’r pysgod mewn briwsion bara neu gytew). Mae’r dudalen yn dangos ‘prif gynigion’ hefyd, gan gynnwys:

  • pizza (sydd wedi’i gyfyngu os yw’n bodloni’r diffiniad o fwyd penodedig)
  • llaeth (nad yw wedi’i gyfyngu)
  • twb hufen iâ (sydd wedi’i gyfyngu os yw’n bodloni’r diffiniad o fwyd penodedig)

Tudalennau naid

Image

Yn y ddelwedd uchod, mae ffenestr naid yn hyrwyddo pizza HFSS, sydd wedi’i gyfyngu.

Tudalen ffefrynnau

Image

Yn y ddelwedd uchod, mae tudalen ffefrynnau yn dangos eitemau sydd wedi’u nodi’n fwriadol fel ffefrynnau gan y defnyddiwr. Nid yw’r holl eitemau sydd wedi’u nodi’n fwriadol fel ffefrynnau gan y defnyddiwr yn cael eu cyfyngu rhag cael eu cynnig ar werth ar y dudalen honno, gan gynnwys hufen iâ blas fanila ac iogwrt wedi’i felysu sy’n bodloni’r diffiniad o ‘bwyd penodedig’ a nodir yn y rheoliadau. Ar y dudalen hon, mae yna gynigion ‘cofiwch’ hefyd ar gyfer hufen iâ blas mintys a siocled HFSS, nad ydynt wedi’u nodi fel ffefrynnau nac wedi’u prynu’n flaenorol gan y defnyddiwr. Mae’r rhain wedi’u gwahardd.

Ardal dalu ar-lein

Image

Yn y ddelwedd uchod, mae ardal dalu yn dangos eitemau sydd yn y troli. Nid yw’r holl fwydydd y mae’r defnyddiwr wedi dewis eu rhoi yn ei droli wedi’u cyfyngu. Gweler neges yn dweud: "cynnig rhy dda i’w golli" sy’n cynnig bar siocled HFSS, sydd wedi’i wahardd.

Pori

Image

Yn y ddelwedd uchod, gweler tudalen bori lle y mae’r cwsmer wedi agor y dudalen ‘creision’. Ar y dudalen hon, nid yw creision wedi’u gwahardd hyd yn oed os ydynt yn bodloni’r diffiniad o fwyd penodedig o dan y rheoliadau gan eu bod yn dod o fewn yr un categori atodlen 1 â’r bwyd yr oedd y defnyddiwr yn pori amdano. Gweler baner ar gyfer hufen iâ a allai fodloni’r diffiniad o fwyd penodedig. Byddai’r faner hon yn cael ei chyfyngu, oni bai bod yr hufen iâ yn cael ei gynnig ynghyd â chreision yn rhan o gynnig arbennig perthnasol.

Chwilio

Image

Yn y ddelwedd uchod, gweler tudalen chwilio lle y mae’r defnyddiwr wedi chwilio am ‘pizza’. Nid yw pob pizza wedi’i gyfyngu hyd yn oed os yw’n HFSS gan ei fod yn dod o fewn yr un categori atodlen 1 y mae’r cwsmer wedi chwilio amdano h.y. ‘pizza’. Gweler bod siocled HFSS hefyd yn cael ei ddangos ar y dudalen, sydd wedi’i gyfyngu yn yr amgylchiadau hyn, oni bai bod y siocled yn cael ei gynnig ynghyd â pizza yn rhan o gynnig arbennig perthnasol.

Atodiad 4: model proffilio maethynnau 2004 i 2005

Atodiad 4: model proffilio maethynnau 2004 i 2005

Datblygwyd y model proffilio maethynnau (NPM) gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn 2004 i 2005 i ddarparu offeryn i Ofcom, y rheoleiddiwr darlledu, i allu gwahaniaethu rhwng bwydydd ar sail eu cynnwys maethol yng nghyd-destun hysbysebion bwyd i blant ar y teledu. Mae canllawiau technegol NPM 2011 yn nodi sut i gyfrifo’r sgôr NPM ar gyfer gwahanol gynhyrchion.

O fis Gorffennaf 2017 ymlaen, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, cyflwynodd y Pwyllgor Ymarfer Hysbysebu reolau HFSS neu ‘llai iach’ a oedd yn alinio hysbysebion nad ydynt yn cael eu darlledu (gan gynnwys mewn print, yn y sinema, ar-lein ac yn y cyfryngau cymdeithasol) â hysbysebion darlledu.

Mae’r model proffilio maethynnau yn defnyddio system sgorio syml lle caiff pwyntiau eu dyrannu ar sail cynnwys maethynnau fesul 100g o fwyd neu ddiod. Dyfernir pwyntiau ar gyfer maethynnau ‘A’ (egni, braster dirlawn, cyfanswm siwgr a sodiwm) ac ar gyfer maethynnau ‘C’ (cynnwys ffrwythau, llysiau a chnau, ffibr a phrotein). Mae’r sgôr ar gyfer maethynnau ‘C’ yn cael ei dynnu o’r sgôr ar gyfer maethynnau ‘A’ er mwyn rhoi sgôr derfynol y proffil maethynnau.

Mae canllawiau technegol NPM 2004/05 yn glir ynghylch pryd y dylid cyfrifo’r NPM ar gyfer cynnyrch ar sail ‘fel y’u gwerthir’. Yn y mwyafrif o achosion, bydd angen cyfrifo’r sgôr NPM ar gyfer cynhyrchion ‘fel y’u gwerthir’ yn hytrach na fel y’u defnyddir. Pan fo angen ailansoddi cynnyrch cyn iddo gael ei fwyta, er enghraifft powdr cwstard, dylid cyfrifo’r sgôr NPM yn seiliedig ar 100g o’r cynnyrch fel y’i ailansoddir yn unol â chyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchwr. Mae’r cyfrifoldeb ar y manwerthwr i ddangos tystiolaeth o gydymffurfiaeth. Os nad oes gan fanwerthwyr yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gyfrifo sgoriau NPM eu cynhyrchion ac nad yw ar gael iddynt drwy ddulliau eraill, gall manwerthwyr ddewis cysylltu â gweithgynhyrchwyr i ofyn am yr wybodaeth hon. Gallant hefyd gyfrifo’r gwerthoedd maethol ar sail y data sydd wedi’i sefydlu a’i dderbyn yn gyffredinol. Yn y DU, gellir dod o hyd i “data sydd wedi’i sefydlu a’i dderbyn yn gyffredinol” mewn llyfr gan McCance a Widdowson, The Composition of Foods, neu ar-lein yn set ddata integredig McCance a Widdowson.

Pan fo swyddogion gorfodi angen cael gafael ar yr wybodaeth hon fel modd o asesu cydymffurfiaeth busnes â’r rheoliadau, mae’r rheoliadau yn rhoi pwerau mynediad i swyddogion gorfodi, sy’n cynnwys y gallu i archwilio unrhyw gofnodion (ym mha bynnag ffurf y maent yn cael eu cadw) sy’n ymwneud â busnes bwyd. Gallant felly ofyn am gofnodion gan fanwerthwr.

Sgoriau NPM ar gyfer cynhyrchion amleitem wedi’u pecynnu

Enghraifft 1: bwyd atodlen 1 a bwyd nad yw’n fwyd atodlen 1 wedi’u pecynnu gyda’i gilydd

Pe bai cynnyrch wedi’i ragbecynnu yn cynnwys sgon a jam (gyda’r sgon o fewn cwmpas atodlen 1 o dan y categori nwyddau boreol, ond nad yw’r jam yn dod o dan unrhyw gategori atodlen 1), byddai’r sgon a’r jam yn cael eu trin fel bwyd atodlen 1 at ddibenion penderfynu a yw’r cynnyrch wedi’i ragbecynnu yn fwyd penodedig a byddai angen cyfrifo’r sgôr NPM ar gyfer y cynnyrch yn ei gyfanrwydd.

Os oes gan y cynnyrch cyfan sydd wedi’i ragbecynnu sgôr NPM o 4 ac uwch, byddai’n ddarostyngedig i’r cyfyngiadau hyrwyddo (yn ogystal ag unrhyw esemptiadau perthnasol eraill).

Gall saig cyri wedi’i ragbecynnu a saig ochr o reis wedi’i ragbecynnu gael eu pecynnu gyda’i gilydd mewn pecyn allanol unigol fel pryd parod sy’n dod o dan atodlen 1. Os darperir yr wybodaeth am faeth ar gyfer y cynnyrch yn ei gyfanrwydd (er enghraifft, y brif saig a’r reis gyda’i gilydd) gan y bwriedir eu bwyta gyda’i gilydd, dylid cyfrifo’r sgôr NPM ar y sail hon.

Fodd bynnag, os darperir gwybodaeth am faeth ar wahân ar gyfer cydrannau unigol y pryd parod, dim ond ar gyfer yr elfen sydd o fewn cwmpas atodlen 1 y rheoliadau y dylid cyfrifo’r sgôr NPM. Os yw’r gydran hon yn sgorio 4 neu fwy yn yr NPM, mae’r pryd parod cyfan o fewn cwmpas y cyfyngiadau.

Enghraifft 2: bwyd atodlen 1 wedi’i ragbecynnu a bwyd atodlen 1 wedi’i ragbecynnu wedi’u pecynnu gyda’i gilydd

Yn yr achos pan fo 2 neu ragor o fwydydd atodlen 1 wedi’u rhagbecynnu ar wahân ond yna wedi’u cyfuno gyda’i gilydd mewn un pecyn allanol, er enghraifft, granola gydag iogwrt wedi’i felysu, efallai y bydd cymysgedd o fwydydd atodlen 1.

Os oes gan y granola neu’r iogwrt wedi’i felysu sgôr NPM o 4 neu fwy, byddai’r cynnyrch cyfan wedi’i ragbecynnu yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau hyrwyddo (ond i unrhyw esemptiadau perthnasol hefyd).

Enghraifft 3: hamperi a phlateidiau sy’n cynnwys bwyd atodlen 1 a bwyd nad yw’n fwyd atodlen 1

Gall cynhyrchion sy’n cynnwys eitemau lluosog wedi’u rhagbecynnu, wedi’u pecynnu gyda’i gilydd a’u gwerthu fel un cynnyrch, fod o fewn cwmpas rheoliadau os yw o leiaf un eitem yn fwyd penodedig.

Os oes gan unrhyw eitem unigol yn yr hamper neu’r platiad sgôr NPM o 4 neu fwy a’i bod yn bodloni’r holl feini prawf ar gyfer bwyd penodedig, yna mae’r hamper neu’r platiad cyfan i’w drin fel bwyd penodedig. Mae hyn yn golygu y byddai’r hamper neu’r platiad yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau hyrwyddo (ond i unrhyw esemptiadau perthnasol hefyd). Mewn geiriau eraill, mae pob cynnyrch yn cael ei asesu’n unigol i bennu ei sgôr NPM ac a yw’n fwyd penodedig.