Cyfyngu ar hyrwyddo bwydydd â lefelau uchel o fraster, halen a siwgr: canllawiau gweithredu - Rhan 5: ail-lenwi am ddim
Sut mae Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025 yn cyfyngu ar gynhyrchion 'llai iach'.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Ail-lenwi am ddim
Mae’r cyfyngiad ar hyrwyddiadau ail-lenwi am ddim yn gymwys i ddiodydd llawn siwgr heb eu rhagbecynnu, a ddiffinnir fel HFSS neu’n ‘llai iach’ gan yr NPM ac nad ydynt yn werthiant bwyd elusennol. Mae busnes cymhwysol, at ddibenion y cyfyngiad hwn, yn 40 cynnwys bwytai. Fodd bynnag, nid yw’n cynnwys cartrefi gofal na sefydliadau addysgol. Rhaid i fusnesau cymhwysol beidio â chynnig hyrwyddiad ail-lenwi am ddim ar ddiodydd sydd o fewn cwmpas y cyfyngiad.
Mae rheoliad 8(1) o’r rheoliadau yn darparu y byddai diodydd o fewn cwmpas y cyfyngiad ar ail-lenwi am ddim:
- yn rhai heb eu rhagbecynnu
- yn rhai o fewn categori 1 o atodlen 1 (wedi’u cynnwys uchod yn categorïau cynhyrchion o fewn y cwmpas)
- yn rhai sy’n HFSS neu’n ‘llai iach’ (fel y’u diffinnir gan yr NPM)
- yn rhai nad ydynt yn fwyd y mae’r eithriad ar werthiant bwyd elusennol yn gymwys iddo
Ystyr ‘hyrwyddiad ail-lenwi am ddim’ yw hyrwyddiad sy’n cynnig i’r defnyddiwr yr un ddiod neu ddiod arall y mae rheoliad 8(1) yn gymwys iddi (gan gynnwys ychwanegiadau am ddim o unrhyw ddiod o’r fath) am ddim ar ôl yfed diod gyntaf.
Gall peiriannau diodydd a weithredir gan ddefnyddwyr fod o fewn cwmpas y cyfyngiadau hyn os ydynt yn cynnig ail-lenwi am ddim ac yn cael eu gosod mewn busnes cymhwysol. Er enghraifft, peiriannau coffi mewn siop gyfleustra neu flaengwrt sy’n cynnig coffi wedi’i felysu.
Isod gellir gweld enghreifftiau o ddiodydd a allai fod o fewn ac y tu allan i gwmpas y cyfyngiadau ar ail-lenwi am ddim.
Diodydd o fewn y cwmpas:
- diodydd ysgafn heb eu rhagbecynnu neu gwpan agored sydd o fewn cwmpas y ADDY gyda sgôr NPM o ≥1
- pob diod arall o dan gategori 1 o atodlen 1 gyda sgôr NPM o ≥1, gan gynnwys siocled poeth, te neu goffi sy’n cael ei felysu ymlaen llaw cyn ei werthu
Diodydd y tu allan i’r cwmpas:
- diodydd sydd â chynnwys o fwy nag 1.2% ABV
- diodydd yng nghategori 1 ond heb eu hystyried yn HFSS neu’n ‘llai iach’ (gyda sgôr NPM o dan 1)
- dŵr plaen a diodydd eraill heb siwgr wedi’i ychwanegu
