Cyfyngu ar hyrwyddo bwydydd â lefelau uchel o fraster, halen a siwgr: canllawiau gweithredu - Atodiad 3: diagramau o gyfyngiadau lleoliad
Sut mae Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025 yn cyfyngu ar gynhyrchion 'llai iach'.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Atodiad 3: diagramau o gyfyngiadau lleoliad
Mae’r diagramau isod wedi’u dylunio i ddangos rhai o’r cyfyngiadau allweddol o dan y rheoliadau. At ddibenion eglurder, nid ydym wedi marcio’r holl gyfyngiadau a fydd yn gymwys i ardal y siop a ddangosir. Yn ymarferol, gall ardaloedd mewn siop neu ar-lein fod o fewn cwmpas mwy nag un o’r cyfyngiadau lleoliad a nodir yn y rheoliadau (er enghraifft, cyfyngiadau ardal talu yn y siop a chyfyngiadau ardal giwio ddynodedig).
Cyfyngiadau mewn siop
Ardal dalu mewn siop
Yn y ddelwedd uchod, mae’r ardal gyfyngedig o fewn 2m i’r cyfleuster talu ac ni ellir gosod bwydydd penodedig yma. Mae hyn yn cynnwys unrhyw bwynt o fewn 2m i gownter lle defnyddir til arian parod, gan gynnwys yr ardal y tu ôl i’r cownter ac unrhyw bwynt o fewn 2m i derfynell hunanwasanaeth. Mae’n cynnwys cyfleusterau eraill hefyd y bwriedir i ddefnyddwyr eu defnyddio i brynu, a all gynnwys pwyntiau til neu bwyntiau gwerthu electronig eraill. Nid yw hyn yn atal bwyd penodedig rhag cael ei roi mewn eil, hyd yn oed os yw o fewn 2m i’r ardal dalu, ond ni ddylid gosod bwyd penodedig ar ben draw eil neu o fewn 50cm i ben draw eil.
Ardal giwio ddynodedig
Yn y ddelwedd uchod, mae’r ardal gyfyngedig o fewn 2m i ardal giwio ddynodedig ac ni ellir gosod bwydydd penodedig yma. Ceir hefyd ardal waharddedig 2m o amgylch yr ardaloedd talu, nad yw’n cael ei dangos yma, lle na chaniateir gosod bwydydd penodedig. Nid yw hyn yn atal bwyd penodedig rhag cael ei roi mewn eil (ond nid ar ben draw eil) hyd yn oed os yw o fewn 2m i’r ardal giwio ddynodedig.
Pen draw eiliau ac ynysoedd
Yn y ddelwedd uchod, mae pen draw eiliau (ond nid yn yr eiliau) ac o fewn 50cm o ben draw eil yn ardaloedd cyfyngedig ac ni chaniateir gosod bwydydd penodedig yma. Gellir gosod bwyd penodedig ar strwythurau ar wahân ar ffurf ynys y gellir eu gwasgaru o amgylch y siop, nad ydynt yn eiliau ynddynt eu hunain, neu nad ydynt yn strwythurau ar wahân wedi’u cysylltu â phen draw eil, neu’n gyfagos â hi, neu o fewn 50cm iddi.
Mynedfa un drws
Yn y ddelwedd uchod, gweler mynedfa un drws gyda’r pellter gwaharddedig wedi’i ddangos o ganolbwynt y fynedfa honno i brif ardal siopa’r siop.
Mynedfa un drws ar gornel
Yn y ddelwedd uchod, gweler mynedfa un drws ar gornel gyda’r pellter gwaharddedig wedi’i ddangos o ganolbwynt y fynedfa honno i brif ardal siopa’r siop, hyd yn oed pan gaiff y pellter ei groestorri â wal.
Mynedfa un drws ger eil
Yn y ddelwedd uchod, ceir mynedfa un drws gyda’r pellter gwaharddedig wedi’i ddangos o ganolbwynt y fynedfa honno i brif ardal siopa’r siop. Ceir prif eil o fewn pellter gwaharddedig y drws. Mae prif ardal yr eil sydd o fewn pellter gwaharddedig y drws yn dangos na ddylid gosod bwyd penodedig ar unrhyw bwynt o fewn y pellter gwaharddedig, p’un a ellir ei weld o fynedfa’r siop ai peidio.
Grisiau neu risiau symudol sy’n arwain at fynedfa un drws
Yn y ddelwedd uchod, mae grisiau neu risiau symudol yn arwain at fynedfa’r siop. Mae’r pellter gwaharddedig a ddangosir o ganolbwynt y fynedfa i brif ardal siopa’r siop.
Mynedfa â sawl drws
Yn y ddelwedd uchod, gweler mynedfeydd sawl drws gyda’r pellter gwaharddedig wedi’i ddangos o ganolbwynt pob un o’r mynedfeydd i brif ardal siopa’r siop.
Mynedfa i ardal sydd wedi’i gorchuddio o fewn y siop
Yn y ddelwedd uchod, gweler mynedfa i ardal allanol wedi’i gorchuddio sydd wedi’i chysylltu â phrif ardal siopa’r siop, y mae’r cyhoedd yn pasio drwyddi er mwyn mynd i mewn i’r brif ardal siopa (er enghraifft, y cyntedd, y lobi neu’r festibwl). Mae’r ardal dan orchudd hon wedi’i chyfyngu, felly hefyd y pellter gwaharddedig a ddangosir o ganolbwynt y fynedfa i brif ardal siopa’r siop.
Cyfyngiadau ar-lein
Tudalen hafan
Yn y ddelwedd uchod, mae tudalen hafan gwefan yn dangos rhestr o gategorïau (ffrwythau a llysiau, cig a physgod, a gwin a chwrw), nad ydynt wedi’u cyfyngu yn gyffredinol (yn dibynnu, er enghraifft, a yw’r cig a’r pysgod mewn briwsion bara neu gytew). Mae’r dudalen yn dangos ‘prif gynigion’ hefyd, gan gynnwys:
- pizza (sydd wedi’i gyfyngu os yw’n bodloni’r diffiniad o fwyd penodedig)
- llaeth (nad yw wedi’i gyfyngu)
- twb hufen iâ (sydd wedi’i gyfyngu os yw’n bodloni’r diffiniad o fwyd penodedig)
Tudalennau naid
Yn y ddelwedd uchod, mae ffenestr naid yn hyrwyddo pizza HFSS, sydd wedi’i gyfyngu.
Tudalen ffefrynnau
Yn y ddelwedd uchod, mae tudalen ffefrynnau yn dangos eitemau sydd wedi’u nodi’n fwriadol fel ffefrynnau gan y defnyddiwr. Nid yw’r holl eitemau sydd wedi’u nodi’n fwriadol fel ffefrynnau gan y defnyddiwr yn cael eu cyfyngu rhag cael eu cynnig ar werth ar y dudalen honno, gan gynnwys hufen iâ blas fanila ac iogwrt wedi’i felysu sy’n bodloni’r diffiniad o ‘bwyd penodedig’ a nodir yn y rheoliadau. Ar y dudalen hon, mae yna gynigion ‘cofiwch’ hefyd ar gyfer hufen iâ blas mintys a siocled HFSS, nad ydynt wedi’u nodi fel ffefrynnau nac wedi’u prynu’n flaenorol gan y defnyddiwr. Mae’r rhain wedi’u gwahardd.
Ardal dalu ar-lein
Yn y ddelwedd uchod, mae ardal dalu yn dangos eitemau sydd yn y troli. Nid yw’r holl fwydydd y mae’r defnyddiwr wedi dewis eu rhoi yn ei droli wedi’u cyfyngu. Gweler neges yn dweud: "cynnig rhy dda i’w golli" sy’n cynnig bar siocled HFSS, sydd wedi’i wahardd.
Pori
Yn y ddelwedd uchod, gweler tudalen bori lle y mae’r cwsmer wedi agor y dudalen ‘creision’. Ar y dudalen hon, nid yw creision wedi’u gwahardd hyd yn oed os ydynt yn bodloni’r diffiniad o fwyd penodedig o dan y rheoliadau gan eu bod yn dod o fewn yr un categori atodlen 1 â’r bwyd yr oedd y defnyddiwr yn pori amdano. Gweler baner ar gyfer hufen iâ a allai fodloni’r diffiniad o fwyd penodedig. Byddai’r faner hon yn cael ei chyfyngu, oni bai bod yr hufen iâ yn cael ei gynnig ynghyd â chreision yn rhan o gynnig arbennig perthnasol.
Chwilio
Yn y ddelwedd uchod, gweler tudalen chwilio lle y mae’r defnyddiwr wedi chwilio am ‘pizza’. Nid yw pob pizza wedi’i gyfyngu hyd yn oed os yw’n HFSS gan ei fod yn dod o fewn yr un categori atodlen 1 y mae’r cwsmer wedi chwilio amdano h.y. ‘pizza’. Gweler bod siocled HFSS hefyd yn cael ei ddangos ar y dudalen, sydd wedi’i gyfyngu yn yr amgylchiadau hyn, oni bai bod y siocled yn cael ei gynnig ynghyd â pizza yn rhan o gynnig arbennig perthnasol.
