Neidio i'r prif gynnwy

Atodiad 4: model proffilio maethynnau 2004 i 2005

Datblygwyd y model proffilio maethynnau (NPM) gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn 2004 i 2005 i ddarparu offeryn i Ofcom, y rheoleiddiwr darlledu, i allu gwahaniaethu rhwng bwydydd ar sail eu cynnwys maethol yng nghyd-destun hysbysebion bwyd i blant ar y teledu. Mae canllawiau technegol NPM 2011 yn nodi sut i gyfrifo’r sgôr NPM ar gyfer gwahanol gynhyrchion.

O fis Gorffennaf 2017 ymlaen, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, cyflwynodd y Pwyllgor Ymarfer Hysbysebu reolau HFSS neu ‘llai iach’ a oedd yn alinio hysbysebion nad ydynt yn cael eu darlledu (gan gynnwys mewn print, yn y sinema, ar-lein ac yn y cyfryngau cymdeithasol) â hysbysebion darlledu.

Mae’r model proffilio maethynnau yn defnyddio system sgorio syml lle caiff pwyntiau eu dyrannu ar sail cynnwys maethynnau fesul 100g o fwyd neu ddiod. Dyfernir pwyntiau ar gyfer maethynnau ‘A’ (egni, braster dirlawn, cyfanswm siwgr a sodiwm) ac ar gyfer maethynnau ‘C’ (cynnwys ffrwythau, llysiau a chnau, ffibr a phrotein). Mae’r sgôr ar gyfer maethynnau ‘C’ yn cael ei dynnu o’r sgôr ar gyfer maethynnau ‘A’ er mwyn rhoi sgôr derfynol y proffil maethynnau.

Mae canllawiau technegol NPM 2004/05 yn glir ynghylch pryd y dylid cyfrifo’r NPM ar gyfer cynnyrch ar sail ‘fel y’u gwerthir’. Yn y mwyafrif o achosion, bydd angen cyfrifo’r sgôr NPM ar gyfer cynhyrchion ‘fel y’u gwerthir’ yn hytrach na fel y’u defnyddir. Pan fo angen ailansoddi cynnyrch cyn iddo gael ei fwyta, er enghraifft powdr cwstard, dylid cyfrifo’r sgôr NPM yn seiliedig ar 100g o’r cynnyrch fel y’i ailansoddir yn unol â chyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchwr. Mae’r cyfrifoldeb ar y manwerthwr i ddangos tystiolaeth o gydymffurfiaeth. Os nad oes gan fanwerthwyr yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gyfrifo sgoriau NPM eu cynhyrchion ac nad yw ar gael iddynt drwy ddulliau eraill, gall manwerthwyr ddewis cysylltu â gweithgynhyrchwyr i ofyn am yr wybodaeth hon. Gallant hefyd gyfrifo’r gwerthoedd maethol ar sail y data sydd wedi’i sefydlu a’i dderbyn yn gyffredinol. Yn y DU, gellir dod o hyd i “data sydd wedi’i sefydlu a’i dderbyn yn gyffredinol” mewn llyfr gan McCance a Widdowson, The Composition of Foods, neu ar-lein yn set ddata integredig McCance a Widdowson.

Pan fo swyddogion gorfodi angen cael gafael ar yr wybodaeth hon fel modd o asesu cydymffurfiaeth busnes â’r rheoliadau, mae’r rheoliadau yn rhoi pwerau mynediad i swyddogion gorfodi, sy’n cynnwys y gallu i archwilio unrhyw gofnodion (ym mha bynnag ffurf y maent yn cael eu cadw) sy’n ymwneud â busnes bwyd. Gallant felly ofyn am gofnodion gan fanwerthwr.

Sgoriau NPM ar gyfer cynhyrchion amleitem wedi’u pecynnu

Enghraifft 1: bwyd atodlen 1 a bwyd nad yw’n fwyd atodlen 1 wedi’u pecynnu gyda’i gilydd

Pe bai cynnyrch wedi’i ragbecynnu yn cynnwys sgon a jam (gyda’r sgon o fewn cwmpas atodlen 1 o dan y categori nwyddau boreol, ond nad yw’r jam yn dod o dan unrhyw gategori atodlen 1), byddai’r sgon a’r jam yn cael eu trin fel bwyd atodlen 1 at ddibenion penderfynu a yw’r cynnyrch wedi’i ragbecynnu yn fwyd penodedig a byddai angen cyfrifo’r sgôr NPM ar gyfer y cynnyrch yn ei gyfanrwydd.

Os oes gan y cynnyrch cyfan sydd wedi’i ragbecynnu sgôr NPM o 4 ac uwch, byddai’n ddarostyngedig i’r cyfyngiadau hyrwyddo (yn ogystal ag unrhyw esemptiadau perthnasol eraill).

Gall saig cyri wedi’i ragbecynnu a saig ochr o reis wedi’i ragbecynnu gael eu pecynnu gyda’i gilydd mewn pecyn allanol unigol fel pryd parod sy’n dod o dan atodlen 1. Os darperir yr wybodaeth am faeth ar gyfer y cynnyrch yn ei gyfanrwydd (er enghraifft, y brif saig a’r reis gyda’i gilydd) gan y bwriedir eu bwyta gyda’i gilydd, dylid cyfrifo’r sgôr NPM ar y sail hon.

Fodd bynnag, os darperir gwybodaeth am faeth ar wahân ar gyfer cydrannau unigol y pryd parod, dim ond ar gyfer yr elfen sydd o fewn cwmpas atodlen 1 y rheoliadau y dylid cyfrifo’r sgôr NPM. Os yw’r gydran hon yn sgorio 4 neu fwy yn yr NPM, mae’r pryd parod cyfan o fewn cwmpas y cyfyngiadau.

Enghraifft 2: bwyd atodlen 1 wedi’i ragbecynnu a bwyd atodlen 1 wedi’i ragbecynnu wedi’u pecynnu gyda’i gilydd

Yn yr achos pan fo 2 neu ragor o fwydydd atodlen 1 wedi’u rhagbecynnu ar wahân ond yna wedi’u cyfuno gyda’i gilydd mewn un pecyn allanol, er enghraifft, granola gydag iogwrt wedi’i felysu, efallai y bydd cymysgedd o fwydydd atodlen 1.

Os oes gan y granola neu’r iogwrt wedi’i felysu sgôr NPM o 4 neu fwy, byddai’r cynnyrch cyfan wedi’i ragbecynnu yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau hyrwyddo (ond i unrhyw esemptiadau perthnasol hefyd).

Enghraifft 3: hamperi a phlateidiau sy’n cynnwys bwyd atodlen 1 a bwyd nad yw’n fwyd atodlen 1

Gall cynhyrchion sy’n cynnwys eitemau lluosog wedi’u rhagbecynnu, wedi’u pecynnu gyda’i gilydd a’u gwerthu fel un cynnyrch, fod o fewn cwmpas rheoliadau os yw o leiaf un eitem yn fwyd penodedig.

Os oes gan unrhyw eitem unigol yn yr hamper neu’r platiad sgôr NPM o 4 neu fwy a’i bod yn bodloni’r holl feini prawf ar gyfer bwyd penodedig, yna mae’r hamper neu’r platiad cyfan i’w drin fel bwyd penodedig. Mae hyn yn golygu y byddai’r hamper neu’r platiad yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau hyrwyddo (ond i unrhyw esemptiadau perthnasol hefyd). Mewn geiriau eraill, mae pob cynnyrch yn cael ei asesu’n unigol i bennu ei sgôr NPM ac a yw’n fwyd penodedig.