Data ar allu pobl yn y Gymraeg a pha mor aml y maent yn ei siarad ar gyfer Gorffennaf 2024 i Mehefin 2025.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Data am y Gymraeg o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth
Gwybodaeth am y gyfres:
Rydym yn ystyried mai’r cyfrifiad o’r boblogaeth ydy’r ffynhonnell allweddol ar gyfer mesur nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Ond gan fod yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn darparu canlyniadau bob chwarter, mae’n ffynhonnell ddefnyddiol er mwyn edrych ar dueddiadau yng ngallu’r boblogaeth yn y Gymraeg rhwng cyfrifiadau.
