Data am y Gymraeg o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth
Yng Nghymru, mae cwestiynau wedi'u cynnwys yn Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ar allu pobl yn y Gymraeg a pha mor aml y maent yn ei siarad.
Cynnwys
Y cyhoeddiad diweddaraf
Cyhoeddiadau blaenorol
Gwybodaeth gefndirol
Y Cyfrifiad Poblogaeth yw’r ffynhonnell allweddol sy’n cael ei defnyddio i fesur nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Ond gan fod yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn darparu canlyniadau bob chwarter, mae’n ddefnyddiol er mwyn edrych ar dueddiadau’r Gymraeg rhwng cyfrifiadau. Yn hanesyddol, mae llawer mwy o bobl yn cael eu cofnodi fel siaradwyr Cymraeg yn yr Arolwg Blynyddol nag yn y Cyfrifiad.
Ni ddylai canlyniadau’r Arolwg Blynyddol gael eu cymharu â chanlyniadau’r Cyfrifiad na’u defnyddio i fesur cynnydd tuag at darged Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae strategaeth y Gymraeg, Cymraeg 2050, yn nodi’n glir bod y targed hwn wedi’i seilio ar ddata’r cyfrifiad ac y bydd y cynnydd tuag at y targed yn cael ei fonitro drwy ddefnyddio data cyfrifiadau’r dyfodol.
Roedd blog a gyhoeddwyd gan y Prif Ystadegydd ym mis Mawrth 2019 yn trafod yn gryno sut i ddehongli’r data am y Gymraeg yn yr Arolwg Blynyddol. Mae rhagor o wybodaeth am y gwahaniaethau rhwng y Cyfrifiad â’r Arolwg Blynyddol ar gael mewn bwletin sy’n rhoi canlyniadau manylach ar gyfer y Gymraeg yn yr Arolwg Blynyddol o 2001 i 2018.
Canslo: Ebrill 2021 i Fawrth 2022
Mae'r adroddiad oedd i fod i gael ei gyhoeddi ar 31 Awst 2022 wedi ei ganslo, oherwydd oedi yn argaeledd data Arolwg Blynyddol y Boblogaeth sydd wedi ei ail-bwysoli a’i gywiro, gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Bydd data ar gyfer cyfnod Ebrill 2021 i fis Mawrth 2022 yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â data ar gyfer y cyfnod mis Gorffennaf 2021 i Fehefin 2022 sydd wedi’i gynllunio ar hyn o bryd ar gyfer Hydref 2022.