Neidio i'r prif gynnwy

Data ar allu pobl yn y Gymraeg a pha mor aml y maent yn ei siarad ar gyfer Gorffennaf 2022 i Fehefin 2023.

Rydym yn ystyried mai’r cyfrifiad o’r boblogaeth ydy’r ffynhonnell allweddol ar gyfer mesur nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Ond gan fod yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS) yn darparu canlyniadau bob chwarter, mae’n ffynhonnell ddefnyddiol er mwyn edrych ar dueddiadau yng ngallu’r boblogaeth yn y Gymraeg rhwng cyfrifiadau.

Cyhoeddwyd canlyniadau Cyfrifiad 2021 am nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg ym mis Rhagfyr 2022. Mae’r amcangyfrifon o’r cyfrifiad am allu yn y Gymraeg yn parhau i fod yn is na’r amcangyfrifon o arolygon cartrefi fel yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth. Fodd bynnag, dyma’r tro cyntaf i’r cyfrifiad amcangyfrif gostyngiad yn nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg ar yr un pryd ag y mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn amcangyfrif bod nifer cynyddol o bobl yn gallu siarad Cymraeg.

Dylai defnyddwyr nodi bod gwahaniaethau pwysig rhwng y ffynonellau data hyn, fel cymharu data cyfrifiad i ddata arolwg, gwahaniaethau yn y modd y cesglir y data, a'u hamseroldeb. Dylid ystyried y rhain wrth ddewis pa ffynhonnell data sy'n cwrdd eu hanghenion orau.

Ym mis Ebrill 2023, fe gyhoeddon ni gynllun gwaith ar y cyd gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol sydd yn manylu ar waith pellach i wella ein dealltwriaeth o'r gwahaniaethau hyn. Mae diweddariad am gynnydd y gwaith hwn wedi'i gynnwys isod.

Prif ganlyniadau

Ffigur 1: Nifer y bobl tair oed neu hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg, o 2001 i fis Mehefin 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Mae'r siart hon yn dangos canlyniadau Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth o 2001 hyd at ddiwedd Mehefin 2023. Yn 2001, roedd 834,500 o siaradwyr Cymraeg. Gostyngodd y niferoedd hyn hyd at 2007 cyn cynyddu eto i 889,700 erbyn diwedd Mehefin 2023. Mae canlyniadau Cyfrifiad 2001, 2011 a 2021 hefyd wedi eu plotio ar yr un siart i ddangos fod amcangyfrifon y Cyfrifad o niferoedd y siaradwyr Cymraeg yn sylweddol is; dros 360,000 yn is yn 2021.

[Nodyn 1] Newidwyd i gynnal yr arolwg dros y ffôn yn unig

  • Yn y flwyddyn yn dod i ben 30 Mehefin 2023, yn ôl yr Arolwg Blynyddol roedd 29.2% o bobl tair oed neu'n hŷn yn gallu siarad Cymraeg. Mae’r ffigur hwn yn cyfateb i oddeutu 889,700 o bobl.
  • Mae hyn 0.5 pwynt canran yn is na’r flwyddyn flaenorol (y flwyddyn yn dod i ben 30 Mehefin 2022), sy’n cyfateb i oddeutu 9,800 yn llai o bobl. 
  • Mae’r siart yn dangos sut mae’r ffigurau hyn wedi bod yn cynyddu’n raddol bob blwyddyn ers mis Mawrth 2010 (25.2%, 731,000), wedi iddynt fod yn gostwng yn raddol o 2001 i 2007. Gostyngodd nifer y bobl sy'n adrodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg rhwng mis Rhagfyr 2018 a mis Mawrth 2020, cyn cynyddu’n gyffredinol eto ers hynny. Fodd bynnag, dylid trin y cynnydd hwn â gofal oherwydd newid yn sut gafodd yr arolwg ei gynnal o ganol mis Mawrth 2020 ymlaen oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19). Gweler 'Newidiadau i'r arolwg' isod. Mae'r niferoedd a'r canrannau wedi sefydlogi dros gyfnodau diweddar.
  • Roedd plant a phobl ifanc 3 i 15 oed yn fwy tebygol o adrodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg (48.6%, 231,100) nag unrhyw grŵp oedran arall. Mae hyn yn gyson dros amser ond mae’r ganran o plant a phobl ifanc 3 i 15 oed sy’n gallu siarad Cymraeg wedi bod yn gostwng yn gyffredinol ers dechrau 2019.
  • Yng Ngwynedd (89,800), Sir Gaerfyrddin (87,100) a Chaerdydd (86,400) y mae’r niferoedd uchaf o siaradwyr Cymraeg. 
  • Ym Mlaenau Gwent (8,800) a Merthyr Tudful (12,300) y mae’r niferoedd isaf.
  • Yng Ngwynedd (75.4%) ac Ynys Môn (64.4%) y mae’r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg. 
  • Ym Mlaenau Gwent (13.1%) a Sir Fynwy (15.9%) y mae’r canrannau isaf.
  • Adroddodd 14.9% (453,500) o bobl tair oed neu'n hŷn eu bod yn siarad Cymraeg yn ddyddiol, 5.3% (161,900) yn wythnosol a 7.4% (224,700) yn llai aml. Dywedodd 1.6% (49,200) eu bod byth yn siarad Cymraeg er eu bod yn gallu ei siarad. Nid oedd 70.8% yn gallu siarad Cymraeg. 
  • Dywedodd 33.0% (1,005,000) y gallent ddeall Cymraeg llafar, gallai 25.2% (769,100) ddarllen yn Gymraeg a 23.2% (706,700) ysgrifennu’n Gymraeg.

Nodyn

Mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn arolwg ledled y Deyrnas Unedig a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae'r Arolwg, a ddechreuodd yn 2004, yn cael ei lunio o gyfweliadau ar gyfer yr Arolwg o'r Llafurlu. Gellir cael manylion am sut mae’r arolwg yn cael ei gynnal ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Ni ddylai canlyniadau’r Arolwg Blynyddol gael eu cymharu â chanlyniadau’r cyfrifiad, na’u defnyddio i fesur cynnydd tuag at darged Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae strategaeth y Gymraeg, Cymraeg 2050, yn nodi’n glir bod y targed hwn wedi’i seilio ar ddata’r cyfrifiad, ac y bydd y cynnydd tuag at y targed yn cael ei fonitro drwy ddefnyddio data’r cyfrifiad o’r boblogaeth.

Mae canlyniadau’r cyfrifiad ar gyfer 2001, 2011 a 2021 wedi’u cynnwys ar y siart uchod, er mwyn dangos y gwahaniaethau rhwng y cyfrifiad a’r Arolwg Blynyddol yn yr un cyfnod. Mae’r gwahaniaethau yn yr amcangyfrifon o allu yn y Gymraeg rhwng y cyfrifiad ac arolygon cartrefi fel yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn hir-sefydlog, ac mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Llywodraeth Cymru ('Data am y Gymraeg o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth') wedi archwilio rhesymau posibl dros rai o’r gwahaniaethau hyn yn y gorffennol. Er enghraifft, mae’r cyfrifiad yn holiadur statudol sy’n cael ei gwblhau gan unigolion, ond arolwg gwirfoddol yw’r Arolwg Blynyddol sy’n cael ei gynnal ar ffurf cyfweliadau wyneb yn wyneb a thros y ffôn. Mewn erthygl blog a gyhoeddwyd gan y Prif Ystadegydd yn 2019, trafodwyd yn fyr sut i ddehongli data’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth am y Gymraeg.

Er bod arolygon cartrefi fel arfer yn rhoi amcangyfrifon uwch i ni o allu siarad Cymraeg, dyma'r tro cyntaf i'r cyfrifiad amcangyfrif gostyngiad yn nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg tra bod yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth wedi amcangyfrif niferoedd cynyddol o bobl yn gallu siarad Cymraeg.

Yn dilyn cyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 2021, rydym wedi cyhoeddi cyn llun gwaith ar y cyd gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol i archwilio’r gwahaniaethau rhwng y ffynonellau data hyn yn fanylach, gan gynnwys archwilio dulliau arloesol fel cysylltu data, er mwyn sicrhau bod gennym sylfaen dystiolaeth gadarn y gellir ei defnyddio i wneud penderfyniadau.

Diweddariad am y cynllun gwaith ar y cyd gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ym mis Ebrill 2023, fe gyhoeddon ni gynllun gwaith sy’n amlinellu’r gwaith y mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud yn ystod 2023-24 a thu hwnt i wella ein dealltwriaeth o’r prif ffynonellau arolygon a data gweinyddol a ddefnyddir i gynhyrchu ystadegau am y Gymraeg. I gyd-fynd â'r cynllun gwaith hwn, cyhoeddwyd blog gan y Prif Ystadegydd.

Ers y diweddariad diwethaf yng Ngorffennaf 2023, rydym ni a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi gwneud cynnydd ar dri o'r chwe phrosiect a amlinellir yn y cynllun gwaith, gyda gwaith ar y tri phrosiect sy'n weddill i ddigwydd unwaith y bydd y prosiectau blaenorol wedi'u cwblhau.

Mae prosiect 1 yn cynnwys cysylltu data Cyfrifiad 2021 â data'r Arolwg o'r Llafurlu drwy'r Gwasanaeth Data Integredig (IDS) er mwyn dysgu mwy am y grwpiau o bobl sy'n ymateb yn wahanol am eu gallu yn y Gymraeg rhwng y ddwy ffynhonnell. Ar ôl ymgymryd â phrosiect archwiliadol cychwynnol i gytuno ar ofynion newidynnau a phrosesau ar gyfer cael mynediad at yr IDS, gwnaethom gyflwyno cais am gymeradwyaeth prosiect i Banel Achredu Ymchwil Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig ym mis Mai 2023. Rydym bellach wedi derbyn cymeradwyaeth y panel achredu a dechrau dadansoddi'r data. Bydd erthygl ystadegol sy'n crynhoi canfyddiadau cychwynnol y prosiect cysylltu data hon yn cael ei chyhoeddi ym mis Hydref 2023.

Mae prosiect 4 yn cynnwys gwerthuso sut mae cwestiynau am sgiliau Cymraeg wedi cael eu datblygu a'u cyflwyno yn yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth a’r cyfrifiad. Bydd y prosiect yn darparu adolygiad a chrynodeb o'r datblygiadau hyn er mwyn deall effeithiau modd neu ddylunio ar y broses o gasglu data, a nodi os oes angen gwaith ymchwil pellach. Mae nifer o ffynonellau ac adroddiadau amrywiol wedi eu casglu i gefnogi'r adolygiad hwn, ac mae'r gwaith ymchwil yn parhau gyda'r nod o gynhyrchu cyhoeddiad erbyn diwedd 2023.

Mae prosiect 6 yn cynnwys deall pa ffynonellau data, os o gwbl, sy'n darparu gwybodaeth am sgiliau Cymraeg a siaradwyr Cymraeg sy'n byw y tu allan i Gymru. Mae trafodaethau ar y cyd wedi digwydd rhwng Llywodraeth Cymru a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol i ddeall pa ffynonellau sy'n bodoli, a bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i ba opsiynau sydd ar gael i gasglu'r wybodaeth hon yn y dyfodol. Disgwylir datganiad ar y prosiect hwn yn yr erthygl ystadegol sydd i’w chyhoeddi ym mis Hydref 2023.

Newidiadau i’r arolwg

Yn dilyn cyngor y llywodraeth ynghylch pandemig y coronafeirws (COVID-19), cafodd Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, yn ogystal â phob astudiaeth wyneb yn wyneb arall sy’n cael eu cynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol am bobl, teuluoedd ac aelwydydd, ei atal. Mae rhagor o fanylion am y newidiadau hyn i'w gweld yn y datganiad hwn ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

O ganol mis Mawrth 2020, cynhaliwyd yr Arolwg Blynyddol dros y ffôn yn unig. Gall newid yn y ffordd y gweinyddir yr arolwg effeithio ar ganlyniadau'r arolwg. Mae'r canlyniadau hyn yn cwmpasu'r cyfnod rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023, felly mae’r holl gyfweliadau yn rhai dros y ffôn. 

Trwy gymharu'r bobl a gwblhaodd yr arolwg dros y ffôn yn erbyn y bobl a gwblhaodd yr arolwg wyneb yn wyneb yn y cyfnod cyn mis Mawrth 2020, roedd yn ymddangos bod ymatebwyr yn fwy tebygol o ddweud y gallent siarad Cymraeg wrth ateb yr arolwg dros y ffôn. 

Ar hyn o bryd, nid yw’n bosibl dweud os yw unrhyw newidiadau diweddar yng ngallu’r boblogaeth yn y Gymraeg o ganlyniad i'r newid yn ffordd y mae’r arolwg yn cael ei gynnal neu newidiadau gwirioneddol yng ngallu'r boblogaeth yn y Gymraeg. Dylid dehongli’r canlyniadau felly â gofal.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Cian Siôn

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.