Neidio i'r prif gynnwy

Data ar allu pobl yn y Gymraeg a pha mor aml y maent yn ei siarad ar gyfer Hydref 2022 i Fedi 2023.

Rydym yn ystyried mai’r cyfrifiad o’r boblogaeth ydy’r ffynhonnell allweddol ar gyfer mesur nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Ond gan fod yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn darparu canlyniadau bob chwarter, mae’n ffynhonnell ddefnyddiol er mwyn edrych ar dueddiadau yng ngallu’r boblogaeth yn y Gymraeg rhwng cyfrifiadau.

Cyhoeddwyd canlyniadau Cyfrifiad 2021 am nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg ym mis Rhagfyr 2022. Mae’r amcangyfrifon o’r cyfrifiad am allu yn y Gymraeg yn parhau i fod yn is na’r amcangyfrifon o arolygon cartrefi fel yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth. Fodd bynnag, dyma’r tro cyntaf i’r cyfrifiad amcangyfrif gostyngiad yn nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg ar yr un pryd ag y mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn amcangyfrif bod nifer cynyddol o bobl yn gallu siarad Cymraeg.

Dylai defnyddwyr nodi bod gwahaniaethau sylfaenol rhwng y ffynonellau data hyn, gan gynnwys gwahaniaethau yn y modd y cesglir y data, a'u hamseroldeb. Dylid ystyried y rhain wrth ddewis pa ffynhonnell data sy'n cwrdd â’ch anghenion orau.

Ym mis Ebrill 2023, fe gyhoeddon ni gynllun gwaith ar y cyd gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) sydd yn manylu ar waith pellach i wella ein dealltwriaeth o'r gwahaniaethau hyn. Rydym bellach wedi cyhoeddi erthygl ystadegol sy'n archwilio gwahaniaethau rhwng amcangyfrifon o allu yn y Gymraeg yng Nghyfrifiad 2021 a’r Arolwg o’r Llafurlu, sy’n sail i’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth. Mae diweddariad am gynnydd y prosiectau eraill a amlinellir yn y cynllun gwaith wedi'i gynnwys isod.

Prif ganlyniadau

Ffigur 1: Nifer y bobl tair oed neu hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg, o 2001 i fis Medi 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Mae'r siart linell hon yn dangos, yn dilyn gostyngiad rhwng 2001 a 2007, y bu cynnydd ers hynny yn nifer y siaradwyr Cymraeg a amcangyfrifwyd ac a gofnodwyd gan yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth. Amcangyfrifwyd gan Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth bod 891,800 o siaradwyr Cymraeg yn byw yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 30 Medi 2023. Mae nifer y siaradwyr Cymraeg a gofnodwyd yng Nghyfrifiad 2001, 2011 a 2021 wedi'u plotio ar yr un siart, ac wedi'u labelu, sef 582,400, 562,000 a 538,300 yn y drefn honno.

Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth a chyfrifiad y boblogaeth

  • Yn y flwyddyn yn dod i ben 30 Medi 2023, yn ôl yr Arolwg Blynyddol roedd 29.2%o bobl tair oed neu'n hŷn yn gallu siarad Cymraeg. Mae’r ffigur hwn yn cyfateb i oddeutu 891,800 o bobl.
  • Mae hyn 0.6 pwynt canran yn is na’r flwyddyn flaenorol (y flwyddyn yn dod i ben 30 Medi 2022), sy’n cyfateb i oddeutu 17,300 yn llai o bobl. 
  • Mae’r siart yn dangos sut mae’r ffigurau hyn wedi bod yn cynyddu’n raddol ers mis Mawrth 2010 (25.2%, 731,000), wedi iddynt fod yn gostwng yn raddol o 2001 i 2007. Gostyngodd nifer y bobl sy'n adrodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg rhwng mis Rhagfyr 2018 a mis Mawrth 2020, cyn cynyddu’n gyffredinol eto ers hynny. Fodd bynnag, dylid trin y cynnydd hwn â gofal oherwydd newid yn sut gafodd yr arolwg ei gynnal o ganol mis Mawrth 2020 ymlaen oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19). Gweler 'Newidiadau i'r arolwg' isod. Mae'r niferoedd wedi sefydlogi dros gyfnodau diweddar.
  • Roedd plant a phobl ifanc 3 i 15 oed yn fwy tebygol o adrodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg (48.6%, 232,100) nag unrhyw grŵp oedran arall. Mae hyn yn gyson dros amser ond mae canran y plant a phobl ifanc 3 i 15 oed sy’n gallu siarad Cymraeg wedi bod yn gostwng yn gyffredinol ers dechrau 2019.
  • Yng Ngwynedd (92,500), Caerdydd (88,400) a Sir Gaerfyrddin (87,800) y mae’r niferoedd uchaf o siaradwyr Cymraeg. 
  • Ym Mlaenau Gwent (8,500) a Merthyr Tudful (12,200) y mae’r niferoedd isaf.
  • Yng Ngwynedd (77.1%) ac Ynys Môn (60.9%) y mae’r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg. 
  • Ym Mlaenau Gwent (12.6%) a Sir Fynwy (17.0%) y mae’r canrannau isaf.
  • Adroddodd 15.0% (456,300) o bobl tair oed neu'n hŷn eu bod yn siarad Cymraeg yn ddyddiol, 5.5% (167,700) yn wythnosol a 7.1% (218,000) yn llai aml. Dywedodd 1.6% (49,400) eu bod byth yn siarad Cymraeg er eu bod yn gallu ei siarad. Nid oedd 70.8% yn gallu siarad Cymraeg. 
  • Dywedodd 33.2% (1,012,900) y gallent ddeall Cymraeg llafar, gallai 25.5% (778,500) ddarllen yn Gymraeg a 23.4% (712,900) ysgrifennu’n Gymraeg.

Nodyn

Mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn arolwg ledled y Deyrnas Unedig a gynhelir gan y SYG. Mae'r Arolwg, a ddechreuodd yn 2004, yn cael ei lunio o gyfweliadau ar gyfer yr Arolwg o'r Llafurlu. Gellir cael manylion am sut mae’r arolwg yn cael ei gynnal ar wefan y SYG.

Ni ddylai canlyniadau’r Arolwg Blynyddol gael eu cymharu â chanlyniadau’r cyfrifiad, na’u defnyddio i fesur cynnydd tuag at darged Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae strategaeth y Gymraeg, Cymraeg 2050, yn nodi’n glir bod y targed hwn wedi’i seilio ar ddata’r cyfrifiad, ac y bydd y cynnydd tuag at y targed yn cael ei fonitro drwy ddefnyddio data’r cyfrifiad o’r boblogaeth. 

Mae canlyniadau’r cyfrifiad ar gyfer 2001, 2011 a 2021 wedi’u cynnwys ar y siart uchod, er mwyn dangos y gwahaniaethau rhwng y cyfrifiad a’r Arolwg Blynyddol yn yr un cyfnod. Mae’r gwahaniaethau yn yr amcangyfrifon o allu yn y Gymraeg rhwng y cyfrifiad ac arolygon cartrefi fel yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn hir-sefydlog, ac mae’r SYG ('Differences in estimates of Welsh Language Skills')Llywodraeth Cymru (Data am y Gymraeg o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth) wedi archwilio rhesymau posibl dros rai o’r gwahaniaethau hyn yn y gorffennol. Er enghraifft, mae’r cyfrifiad yn holiadur statudol sy’n cael ei gwblhau gan unigolion, ond arolwg gwirfoddol yw’r Arolwg Blynyddol sy’n cael ei gynnal ar ffurf cyfweliadau wyneb yn wyneb a thros y ffôn. Mewn erthygl blog a gyhoeddwyd gan y Prif Ystadegydd yn 2019, trafodwyd yn fyr sut i ddehongli data’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth am y Gymraeg. 

Er bod arolygon cartrefi fel arfer yn rhoi amcangyfrifon uwch i ni o allu siarad Cymraeg, dyma'r tro cyntaf i'r cyfrifiad amcangyfrif gostyngiad yn nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg tra bod yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth wedi amcangyfrif niferoedd cynyddol o bobl yn gallu siarad Cymraeg.

Yn dilyn cyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 2021, rydym wedi cyhoeddi cynllun gwaith ar y cyd gyda’r SYG i archwilio’r gwahaniaethau rhwng y ffynonellau data hyn yn fanylach, gan gynnwys archwilio dulliau arloesol fel cysylltu data, er mwyn sicrhau bod gennym sylfaen dystiolaeth gadarn y gellir ei defnyddio i wneud penderfyniadau.

Diweddariad am y cynllun gwaith ar y cyd gyda'r SYG

Ym mis Ebrill 2023, fe gyhoeddon ni gynllun gwaith sy’n amlinellu’r gwaith y mae’r SYG a Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud yn ystod 2023-24 a thu hwnt i wella ein dealltwriaeth o’r prif ffynonellau arolygon a data gweinyddol a ddefnyddir i gynhyrchu ystadegau am y Gymraeg. I gyd-fynd â'r cynllun gwaith hwn, cyhoeddwyd blog gan y Prif Ystadegydd.

Ers y diweddariad diwethaf yn Hydref 2023, rydym ni a’r SYG wedi cyhoeddi erthygl ystadegol sy’n archwilio gwahaniaethau rhwng amcangyfrifon o allu yn y Gymraeg yng Nghyfrifiad 2021 a’r Arolwg o’r Llafurlu, sy’n sail i’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth. 

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn trawsnewid y ffordd y cynhyrchir ystadegau'r farchnad lafur ar hyn o bryd. Mae arolwg newydd, ar-lein yn gyntaf, Arolwg y Llafurlu ar ei Newydd Wedd (SYG), wedi bod yn cyd-redeg â'r Arolwg o’r Llafurlu presennol (sy’n sail i’r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth) ers mis Chwefror 2022. Yn y pen draw, bwriedir disodli'r Arolwg o'r Llafurlu gyda’r arolwg newydd hwn fel y prif fesur arolwg ar gyfer allbynnau marchnad lafur a chynhyrchiant.

Pan fydd y SYG yn gwneud y newid hwn, byddwn yn gwneud yr addasiadau priodol i sicrhau y gallwn barhau i gyhoeddi data ar y Gymraeg yn rheolaidd a chynghori defnyddwyr ar sut i ddehongli'r ystadegau hyn. Yn y cyfamser, rydym wedi bod yn cymharu canlyniadau’r ddau arolwg ac archwilio dichonoldeb cysylltu data Arolwg y Llafurlu ar ei Newydd Wedd neu ei ragflaenydd, Arolwg Marchnad Lafur (LMS) (SYG), gyda Chyfrifiad 2021.

Mae prosiect 4 yn cynnwys cywain gwybodaeth am sut mae cwestiynau am sgiliau Cymraeg wedi cael eu datblygu a'u cyflwyno mewn arolygon aelwydydd, gan gynnwys y cyfrifiad. Bydd y prosiect yn darparu adolygiad a chrynodeb o'r datblygiadau hyn er mwyn deall effeithiau modd neu ddylunio ar y broses o gasglu data, gan nodi os oes angen gwaith ymchwil pellach. Byddwn hefyd yn ystyried unrhyw dystiolaeth newydd sydd ar gael o’r Arolwg o’r Llafurlu ar ei Newydd Wedd. Mae nifer o ffynonellau ac adroddiadau amrywiol wedi eu casglu i gefnogi'r gwaith hwn, felly ein nod ydy cyhoeddi erthygl ochr yn ochr â’r gwaith yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd i gymharu canlyniadau Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ac Arolwg y Llafurlu ar ei Newydd Wedd.

Bydd gwaith ar y prosiectau sy’n weddill yn digwydd unwaith y bydd y prosiectau blaenorol wedi’u cwblhau.

Newidiadau i’r arolwg

Yn dilyn cyngor y llywodraeth ynghylch pandemig y coronafeirws (COVID-19), cafodd Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, yn ogystal â phob astudiaeth wyneb yn wyneb arall sy’n cael eu cynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol am bobl, teuluoedd ac aelwydydd, ei atal. Mae rhagor o fanylion am y newidiadau hyn i'w gweld yn y datganiad hwn ar wefan y SYG.

O ganol mis Mawrth 2020, cynhaliwyd yr Arolwg Blynyddol dros y ffôn yn unig. Gall newid yn y ffordd y gweinyddir yr arolwg effeithio ar ganlyniadau'r arolwg. Mae'r canlyniadau hyn yn cwmpasu'r cyfnod rhwng mis Hydref 2022 a Medi 2023, felly mae’r holl gyfweliadau yn rhai dros y ffôn. 

Trwy gymharu'r bobl a gwblhaodd yr arolwg dros y ffôn yn erbyn y bobl a gwblhaodd yr arolwg wyneb yn wyneb yn y cyfnod cyn mis Mawrth 2020, roedd yn ymddangos bod ymatebwyr yn fwy tebygol o ddweud y gallent siarad Cymraeg wrth ateb yr arolwg dros y ffôn. 

Ar hyn o bryd, nid yw’n bosibl dweud os yw unrhyw newidiadau diweddar yng ngallu’r boblogaeth yn y Gymraeg o ganlyniad i'r newid yn ffordd y mae’r arolwg yn cael ei gynnal neu newidiadau gwirioneddol yng ngallu'r boblogaeth yn y Gymraeg. Dylid dehongli’r canlyniadau felly â gofal.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Cian Siôn

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.