Neidio i'r prif gynnwy

Data ar allu pobl yn y Gymraeg a pha mor aml y maent yn ei siarad ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023.

Rydym yn ystyried mai’r cyfrifiad o’r boblogaeth ydy’r ffynhonnell allweddol ar gyfer mesur nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Ond gan fod yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS) yn darparu canlyniadau bob chwarter, mae’n ffynhonnell ddefnyddiol er mwyn edrych ar dueddiadau yng ngallu’r boblogaeth yn y Gymraeg rhwng cyfrifiadau.

Cyhoeddwyd canlyniadau Cyfrifiad 2021 am nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg ym mis Rhagfyr 2022. Mae’r amcangyfrifon o’r cyfrifiad am allu yn y Gymraeg yn parhau i fod yn is na’r amcangyfrifon o arolygon cartrefi fel yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth. Fodd bynnag, dyma’r tro cyntaf i’r cyfrifiad amcangyfrif gostyngiad yn nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg ar yr un pryd ag y mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn amcangyfrif bod nifer cynyddol o bobl yn gallu siarad Cymraeg.

Dylai defnyddwyr nodi bod gwahaniaethau pwysig rhwng y ffynonellau data hyn, fel cymharu data cyfrifiad i ddata arolwg, gwahaniaethau yn y modd y cesglir y data, a'u hamseroldeb. Dylid ystyried y rhain wrth ddewis pa ffynhonnell data sy'n cwrdd eu hanghenion orau.

Ym mis Ebrill 2023, fe gyhoeddon ni gynllun gwaith ar y cyd gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol sydd yn manylu ar waith pellach i wella ein dealltwriaeth o'r gwahaniaethau hyn. Mae diweddariad am gynnydd y gwaith hwn wedi'i gynnwys isod.

Prif ganlyniadau

Ffigur 1: Nifer y bobl tair oed neu hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg, o 2001 i fis Mawrth 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Mae'r siart hon yn dangos canlyniadau Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth o 2001 hyd at ddiwedd Mawrth 2023. Yn 2001, roedd 834,500 o siaradwyr Cymraeg. Gostyngodd y niferoedd hyn hyd at 2007 cyn cynyddu eto i 906,800 erbyn diwedd Mawrth 2023. Mae canlyniadau Cyfrifiad 2001, 2011 a 2021 hefyd wedi eu plotio ar yr un siart i ddangos fod amcangyfrifon y Cyfrifad o nifereodd y siaradwyr Cymraeg yn sylweddol is; dros 360,000 yn is yn 2021.

  • Yn y flwyddyn yn dod i ben 31 Mawrth 2023, yn ôl yr Arolwg Blynyddol roedd 29.7% o bobl tair oed neu'n hŷn yn gallu siarad Cymraeg. Mae’r ffigur hwn yn cyfateb i oddeutu 906,800 o bobl.
  • Mae hyn 0.3 pwynt canran yn is na’r flwyddyn flaenorol (y flwyddyn yn dod i ben 31 Mawrth 2022), sy’n cyfateb i oddeutu 400 yn llai o bobl.
  • Mae’r siart yn dangos sut mae’r ffigurau hyn wedi bod yn cynyddu’n raddol bob blwyddyn ers mis Mawrth 2010 (25.2%, 731,000), wedi iddynt fod yn gostwng yn raddol o 2001 i 2007. Gostyngodd nifer y bobl sy'n adrodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg rhwng mis Rhagfyr 2018 a mis Mawrth 2020, cyn cynyddu’n gyffredinol eto ers hynny. Fodd bynnag, dylid trin y cynnydd hwn â gofal oherwydd newid yn sut gafodd yr arolwg ei gynnal o ganol mis Mawrth 2020 ymlaen oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19). Gweler 'Newidiadau i'r arolwg' isod.
  • Roedd plant a phobl ifanc 5 i 15 oed yn fwy tebygol o adrodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg (50.7%, 248,100) nag unrhyw grŵp oedran arall. Mae hyn yn gyson dros amser ond mae’r ganran o plant a phobl ifanc 5 i 15 oed sy’n gallu siarad Cymraeg wedi bod yn gostwng yn gyffredinol ers dechrau 2019.
  • Yng Nghaerdydd (96,800), Gwynedd (91,800), Sir Gaerfyrddin (87,500) y mae’r niferoedd uchaf o siaradwyr Cymraeg.
  • Ym Mlaenau Gwent (11,200) a Merthyr Tudful (13,200) y mae’r niferoedd isaf.
  • Yng Ngwynedd (77.0%) ac Ynys Môn (65.3%) y mae’r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg.
  • Ym Mlaenau Gwent (16.6%), Sir Fynwy (16.6%) a Thorfaen (17.3%) y mae’r canrannau isaf.
  • Adroddodd 15.0% (458,400) o bobl tair oed neu'n hŷn eu bod yn siarad Cymraeg yn ddyddiol, 5.8% (176,300) yn wythnosol a 7.4% (226,700) yn llai aml. Dywedodd 1.5% (45,300) eu bod byth yn siarad Cymraeg er eu bod yn gallu ei siarad. Nid oedd 70.3% yn gallu siarad Cymraeg.
  • Dywedodd 33.5% (1,024,300) y gallent ddeall Cymraeg llafar, gallai 26.0% (795,200) ddarllen yn Gymraeg a 23.9% (730,400) ysgrifennu’n Gymraeg.

Nodyn

Mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn arolwg ledled y Deyrnas Unedig a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae'r Arolwg, a ddechreuodd yn 2004, yn cael ei lunio o gyfweliadau ar gyfer yr Arolwg o'r Llafurlu. Gellir cael manylion am sut mae’r arolwg yn cael ei gynnal ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Ni ddylai canlyniadau’r Arolwg Blynyddol gael eu cymharu â chanlyniadau’r cyfrifiad, na’u defnyddio i fesur cynnydd tuag at darged Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae strategaeth y Gymraeg, Cymraeg 2050, yn nodi’n glir bod y targed hwn wedi’i seilio ar ddata’r cyfrifiad, ac y bydd y cynnydd tuag at y targed yn cael ei fonitro drwy ddefnyddio data’r cyfrifiad o’r boblogaeth.

Mae canlyniadau’r cyfrifiad ar gyfer 2001, 2011 a 2021 wedi’u cynnwys ar y siart uchod, er mwyn dangos y gwahaniaethau rhwng y cyfrifiad a’r Arolwg Blynyddol yn yr un cyfnod. Mae’r gwahaniaethau yn yr amcangyfrifon o allu yn y Gymraeg rhwng y cyfrifiad ac arolygon cartrefi fel yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn hir-sefydlog, ac mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Llywodraeth Cymru ('Data am y Gymraeg o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth') wedi archwilio rhesymau posibl dros rai o’r gwahaniaethau hyn yn y gorffennol. Er enghraifft, mae’r cyfrifiad yn holiadur statudol sy’n cael ei gwblhau gan unigolion, ond arolwg gwirfoddol yw’r Arolwg Blynyddol sy’n cael ei gynnal ar ffurf cyfweliadau wyneb yn wyneb a thros y ffôn. Mewn erthygl blog a gyhoeddwyd gan y Prif Ystadegydd yn 2019, trafodwyd yn fyr sut i ddehongli data’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth am y Gymraeg.

Er bod arolygon cartrefi fel arfer yn rhoi amcangyfrifon uwch i ni o allu siarad Cymraeg, dyma'r tro cyntaf i'r cyfrifiad amcangyfrif gostyngiad yn nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg tra bod yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth wedi amcangyfrif niferoedd cynyddol o bobl yn gallu siarad Cymraeg.

Yn dilyn cyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 2021, rydym wedi cyhoeddi cyn llun gwaith ar y cyd gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol i archwilio’r gwahaniaethau rhwng y ffynonellau data hyn yn fanylach, gan gynnwys archwilio dulliau arloesol fel cysylltu data, er mwyn sicrhau bod gennym sylfaen dystiolaeth gadarn y gellir ei defnyddio i wneud penderfyniadau.

Diweddariad am y cynllun gwaith ar y cyd gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ym mis Ebrill 2023, fe gyhoeddon ni gynllun gwaith sy’n amlinellu’r gwaith y mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud yn ystod 2023-24 a thu hwnt i wella ein dealltwriaeth o’r prif ffynonellau arolygon a data gweinyddol a ddefnyddir i gynhyrchu ystadegau am y Gymraeg. I gyd-fynd â'r cynllun gwaith hwn, cyhoeddwyd blog gan y Prif Ystadegydd.

Ers hynny, rydym ni a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi gwneud cynnydd ar dri o'r chwe phrosiect a amlinellir yn y cynllun gwaith, gyda gwaith ar y tri phrosiect sy'n weddill i ddigwydd unwaith y bydd y prosiectau blaenorol wedi'u cwblhau.

Mae prosiect 1 yn cynnwys cysylltu data Cyfrifiad 2021 â data'r Arolwg o'r Llafurlu drwy'r Gwasanaeth Data Integredig (IDS) er mwyn dysgu mwy am y grwpiau o bobl sy'n ymateb yn wahanol am eu gallu yn y Gymraeg rhwng y ddwy ffynhonnell. Ar ôl ymgymryd â phrosiect archwiliadol cychwynnol i gytuno ar ofynion newidynnau a phrosesau ar gyfer cael mynediad at yr IDS, gwnaethom gyflwyno cais am gymeradwyaeth prosiect i Banel Achredu Ymchwil Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig ym mis Mai 2023. Ers hynny rydym wedi gweithredu ar adborth a gafwyd gan y panel achredu ac yn disgwyl clywed canlyniad y broses gymeradwyo yn fuan iawn. Unwaith y bydd y prosiect wedi'i gymeradwyo, bydd y gwaith dadansoddi o fewn yr IDS yn dechrau ar unwaith. Disgwylir i allbynnau cyntaf y prosiect hwn fod ar gael yn ystod tymor yr hydref 2023.

Mae prosiect 4 yn cynnwys gwerthuso sut mae cwestiynau am sgiliau Cymraeg wedi cael eu datblygu a'u cyflwyno yn yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth a’r cyfrifiad. Bydd y prosiect yn darparu adolygiad a chrynodeb o'r datblygiadau hyn er mwyn deall effeithiau modd neu ddylunio ar y broses o gasglu data, a nodi os oes angen gwaith ymchwil pellach. Mae nifer o ffynonellau ac adroddiadau amrywiol wedi eu casglu i gefnogi'r adolygiad hwn, ac mae'r gwaith ymchwil yn parhau gyda'r nod o gynhyrchu cyhoeddiad ochr yn ochr â phrosiect 1.

Mae prosiect 6 yn cynnwys deall pa ffynonellau data, os o gwbl, sy'n darparu gwybodaeth am sgiliau Cymraeg a siaradwyr Cymraeg sy'n byw y tu allan i Gymru. Mae trafodaethau ar y cyd wedi digwydd rhwng Llywodraeth Cymru a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol i ddeall pa ffynonellau sy'n bodoli, a bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i ba opsiynau sydd ar gael i gasglu'r wybodaeth hon yn y dyfodol. Disgwylir datganiad ar y prosiect hwn ochr yn ochr â'r prosiectau eraill sydd ar waith cyn y datganiad chwarterol nesaf ym mis Hydref 2023.

Newidiadau i’r arolwg

Yn dilyn cyngor y llywodraeth ynghylch pandemig y coronafeirws (COVID-19), cafodd Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, yn ogystal â phob astudiaeth wyneb yn wyneb arall sy’n cael eu cynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol am bobl, teuluoedd ac aelwydydd, ei atal. Mae rhagor o fanylion am y newidiadau hyn i'w gweld yn y datganiad hwn ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

O ganol mis Mawrth 2020, cynhaliwyd yr Arolwg Blynyddol dros y ffôn yn unig. Gall newid yn y ffordd y gweinyddir yr arolwg effeithio ar ganlyniadau'r arolwg. Mae'r canlyniadau hyn yn cwmpasu'r cyfnod rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023, felly mae’r holl gyfweliadau yn rhai dros y ffôn.

Trwy gymharu'r bobl a gwblhaodd yr arolwg dros y ffôn yn erbyn y bobl a gwblhaodd yr arolwg wyneb yn wyneb yn y cyfnod cyn mis Mawrth 2020, roedd yn ymddangos bod ymatebwyr yn fwy tebygol o ddweud y gallent siarad Cymraeg wrth ateb yr arolwg dros y ffôn.

Ar hyn o bryd, nid yw’n bosibl dweud os yw unrhyw newidiadau diweddar yng ngallu’r boblogaeth yn y Gymraeg o ganlyniad i'r newid yn ffordd y mae’r arolwg yn cael ei gynnal neu newidiadau gwirioneddol yng ngallu'r boblogaeth yn y Gymraeg. Dylid dehongli’r canlyniadau felly â gofal.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Cian Siôn

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.