Neidio i'r prif gynnwy

Data ar allu pobl yn y Gymraeg a pha mor aml y maent yn ei siarad ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020.

Y Cyfrifiad Poblogaeth yw’r ffynhonnell allweddol sy’n cael ei defnyddio i fesur nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Ond gan fod yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn darparu canlyniadau bob chwarter, mae’n ddefnyddiol er mwyn edrych ar dueddiadau’r Gymraeg rhwng cyfrifiadau.

Image
Mae'r siart yn dangos y canlyniadau’r Arolwg Blynyddol y Boblogaeth o 2001 tan ddiwedd Mawrth 2020. Yn 2001 roedd 834,500 o siaradwyr Cymraeg. Mae’r tuedd yn gostwng tan 2007 ac wedyn yn cynyddu eto i 853,900 erbyn diwedd Mawrth 2020. Mae canlyniadau Cyfrifiad 2001 a 2011 hefyd wedi’u plotio ar yr un siart er mwyn dangos bod amcangyfrifon y Cyfrifiad ar gyfer nifer y siaradwyr Cymraeg yn sylweddol is - dros 200,000 yn is.

Prif bwyntiau

Ar gyfer y flwyddyn yn dod i ben ar 31 Mawrth 2020, adroddodd yr Arolwg Blynyddol bod 28.2% o bobl tair oed a throsodd yn gallu siarad Cymraeg. Mae’r ffigur hwn yn cyfateb i 853,900 o bobl.

Mae hyn 1.6 pwynt canran yn is na’r flwyddyn flaenorol (y flwyddyn yn dod i ben 31 Mawrth 2019), sy’n cyfateb i 42,900 yn llai o bobl.

Mae’r siart uchod yn dangos sut mae’r ffigurau hyn wedi bod yn cynyddu’n raddol bob blwyddyn ers Mawrth 2010 (25.2%, 731,000), wedi iddynt fod yn gostwng yn raddol o 2001 i 2007. Fodd bynnag, mae nifer y bobl sy'n adrodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg wedi gostwng bob chwarter rhwng mis Rhagfyr 2018 a mis Mawrth 2020.

Yn Sir Gâr (90,800) a Gwynedd (88,500) y mae’r niferoedd uchaf o siaradwyr Cymraeg o hyd.

Ym Merthyr Tudful (11,600) a Blaenau Gwent (11,500) y mae’r niferoedd isaf.

Yng Ngwynedd (75%) ac Ynys Môn (66%) y mae’r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg.

Yn Sir Fynwy (17%) a Blaenau Gwent (17%) y mae’r canrannau isaf.

Adroddodd 16.0% (485,000) o bobl tair oed a throsodd eu bod yn siarad Cymraeg yn ddyddiol, 4.8% (144,500) yn wythnosol a 5.9% (178,000) yn llai aml. Dywedodd 1.5% (46,500) eu bod byth yn siarad Cymraeg er eu bod yn gallu ei siarad. Nid oedd 71.8% yn gallu siarad Cymraeg.

Dywedodd 32.6% (986,800) y gallent ddeall Cymraeg llafar, gallai 25.3% (766,400) ddarllen yn Gymraeg a 23.2% (701,300) ysgrifennu’n Gymraeg.

Nodyn

Mae canlyniadau’r Cyfrifiad ar gyfer 2001 a 2011 wedi’u plotio ar y siart uchod hefyd, er mwyn dangos y gwahaniaethau rhwng y Cyfrifiad a’r Arolwg Blynyddol yn yr un cyfnod. Mae nifer o resymau posibl pam y byddai canlyniadau’r Cyfrifiad yn is na rhai’r arolwg. Er enghraifft, mae’r Cyfrifiad yn holiadur statudol sy’n cael ei gwblhau gan yr unigolion eu hunain, ond arolwg gwirfoddol yw’r Arolwg Blynyddol sy’n cael ei gynnal ar ffurf cyfweliadau wyneb yn wyneb.

Ni ddylai canlyniadau’r Arolwg Blynyddol gael eu cymharu â chanlyniadau’r Cyfrifiad na’u defnyddio i fesur cynnydd tuag at darged Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae strategaeth y Gymraeg, Cymraeg 2050, yn nodi’n glir bod y targed hwn wedi’i seilio ar ddata’r cyfrifiad ac y bydd y cynnydd tuag at y targed yn cael ei fonitro drwy ddefnyddio data cyfrifiadau’r dyfodol.

Roedd blog a gyhoeddwyd gan y Prif Ystadegydd y llynedd yn trafod yn gryno sut i ddehongli’r data am y Gymraeg yn yr Arolwg Blynyddol. Mae rhagor o wybodaeth am y gwahaniaethau rhwng y Cyfrifiad â’r Arolwg Blynyddol ar gael mewn bwletin sy’n rhoi canlyniadau manylach ar gyfer y Gymraeg yn yr Arolwg Blynyddol o 2001 i 2018

Mae’r Arolwg Blynyddol yn cael ei gynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Gellir cael manylion am sut mae’r arolwg yn cael ei gynnal ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Newidiadau i’r arolwg

Yn dilyn cyngor diweddaraf y llywodraeth ynghylch y coronafeirws (COVID-19), mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, yn ogystal â phob astudiaeth wyneb-yn-wyneb arall sy’n cael eu cynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol am bobl, teuluoedd ac aelwydydd, wedi cael ei atal. O ganol mis Mawrth 2020, cynhaliwyd yr Arolwg Blynyddol dros y ffôn. Gall newid yn y ffordd y gweinyddir yr arolwg effeithio ar ganlyniadau'r arolwg. Hyd at ganol mis Mawrth 2020, cynhaliwyd tua hanner y cyfweliadau wyneb-yn-wyneb a hanner dros y ffôn. Mae'r canlyniadau hyn yn cwmpasu'r cyfnod rhwng Ebrill 2019 a Mawrth 2020.

Diwygiad

Trwy gymharu'r rhai a gwblhaodd yr arolwg dros y ffôn yn erbyn y rhai a gwblhaodd yr arolwg wyneb-yn-wyneb yn y cyfnod cyn mis Mawrth 2020, roedd yn ymddangos bod ymatebwyr yn fwy tebygol o ddweud y gallent siarad Cymraeg wrth ateb yr arolwg dros y ffôn. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi bod yn monitro effaith y newid yn i’r dull o gynnal yr arolwg ar yr amcangyfrifon ac wedi canfod bod y newid hwn wedi arwain at gyfran uwch o berchen-feddianwyr yn cymryd rhan yn yr arolwg a chyfran is o rentwyr yn cymryd rhan yn yr arolwg na chyn y pandemig. O ganlyniad i hyn ym mis Rhagfyr 2020 maent wedi diwygio sut maent yn pwysoli'r data ac wedi ail-bwysoli eu hamcangyfrifon ar gyfer Ionawr i Fehefin 2020 (h.y. chwarter 1 a 2 2020) i addasu’r amcangyfrifon yn sgil y newid hwn. Mae'r diwygiad hwn wedi lleihau nifer a chanran y bobl sy'n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg ychydig.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Lisa Walters

Rhif ffôn: 0300 025 6682

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.