Neidio i'r prif gynnwy

Data ar allu pobl yn y Gymraeg a pha mor aml y maent yn ei siarad ar gyfer 2022.

Cyfrifiad o’r boblogaeth yw’r ffynhonnell allweddol sy’n cael ei ddefnyddio i fesur nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Ond gan fod yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS) yn darparu canlyniadau bob chwarter, mae’n ffynhonnell ddefnyddiol er mwyn edrych ar dueddiadau yng ngallu’r boblogaeth yn y Gymraeg rhwng cyfrifiadau.

Cyhoeddwyd canlyniadau Cyfrifiad 2021 ar gyfer nifer y siaradwyr Cymraeg ym mis Rhagfyr 2022, ac mae’r canlyniadau hyn yn parhau i fod yn is na’r amcangyfrifon o allu Cymraeg ar arolygon cartrefi fel yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, ond dyma’r tro cyntaf i’r cyfrifiad amcangyfrif gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg ar yr un pryd ag y mae’r Arolwg Blynyddol o’r boblogaeth yn amcangyfrif bod nifer cynyddol o siaradwyr Cymraeg.

Dylai defnyddwyr nodi bod gwahaniaethau pwysig rhwng y ffynonellau data hyn megis cymharu data cyfrifiad i ddata arolwg, gwahaniaethau yn y modd y cesglir y data a'u hamseroldeb a dylid ystyried y rhain wrth ddewis pa ffynhonnell ddata sy'n cwrdd eu hanghenion orau. Mae'r cynllun gwaith hwn yn manylu ar waith pellach i wella ein dealltwriaeth o'r gwahaniaethau hyn.

Prif ganlyniadau

Image
Mae'r siart yn dangos y canlyniadau’r Arolwg Blynyddol y Boblogaeth o 2001 tan ddiwedd Rhagfyr 2022. Yn 2001 roedd 834,500 o siaradwyr Cymraeg. Mae’r tuedd yn gostwng tan 2007 ac wedyn yn cynyddu eto i 900,600 erbyn diwedd Rhagfyr 2022. Mae canlyniadau Cyfrifiad 2001, 2011 a 2021 hefyd wedi’u plotio ar yr un siart er mwyn dangos bod amcangyfrifon y Cyfrifiad ar gyfer nifer y siaradwyr Cymraeg yn sylweddol is; dros 200,000 yn is.
  • Ar gyfer y flwyddyn yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2022, yn ôl yr Arolwg Blynyddol roedd 29.5% o bobl tair oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg. Mae’r ffigur hwn yn cyfateb i oddeutu 900,600 o bobl.
  • Mae hyn 0.1 pwynt canran yn is na’r flwyddyn flaenorol (y flwyddyn yn dod i ben 31 Rhagfyr 2021) ond yn cyfateb i oddeutu 4,900 yn fwy o bobl. 
  • Mae’r siart yn dangos sut mae’r ffigurau hyn wedi bod yn cynyddu’n raddol bob blwyddyn ers mis Mawrth 2010 (25.2%, 731,000), wedi iddynt fod yn gostwng yn raddol o 2001 i 2007. Gostyngodd nifer y bobl sy'n adrodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg rhwng mis Rhagfyr 2018 a mis Mawrth 2020, cyn cynyddu’n gyffredinol eto ers hynny. Fodd bynnag, dylid trin y cynnydd hwn â gofal oherwydd newid yn sut gafodd yr arolwg ei gynnal o ganol mis Mawrth 2020 ymlaen oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19). Gweler 'Newidiadau i'r arolwg' isod.
  • Roedd plant a phobl ifanc 5 i 15 oed yn fwy tebygol o adrodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg (51.3%, 250,400) nag unrhyw grŵp oedran arall. Mae hyn yn gyson dros amser ond mae’r ganran o plant a phobl ifanc 5 i 15 oed sy’n gallu siarad Cymraeg wedi bod yn gostwng yn gyffredinol ers dechrau 2019.
  • Yng Nghaerdydd (94,200), Sir Gaerfyrddin (90,900)  a Gwynedd (88,400) y mae’r niferoedd uchaf o siaradwyr Cymraeg. 
  • Ym Mlaenau Gwent (9,800) a Merthyr Tudful (12,700) y mae’r niferoedd isaf.
  • Yng Ngwynedd (74.2%) ac Ynys Môn (62.8%) y mae’r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg. 
  • Ym Mlaenau Gwent (14.5%), Sir Fynwy (17.3%) a Torfaen (17.6%) y mae’r canrannau isaf.
  • Adroddodd 15.0% (458,800) o bobl tair oed neu hŷn eu bod yn siarad Cymraeg yn ddyddiol, 5.6% (171,100) yn wythnosol a 7.4% (225,800) yn llai aml. Dywedodd 1.5% (44,900) eu bod byth yn siarad Cymraeg er eu bod yn gallu ei siarad. Nid oedd 70.5% yn gallu siarad Cymraeg. 
  • Dywedodd 33.4% (1,019,700) y gallent ddeall Cymraeg llafar, gallai 25.7% (784,500) ddarllen yn Gymraeg a 23.7% (723,300) ysgrifennu’n Gymraeg.

Nodyn

Mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn arolwg ledled y Deyrnas Unedig a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae'r Arolwg, a ddechreuodd yn 2004, yn cael ei lunio o gyfweliadau ar gyfer yr Arolwg o'r Llafurlu. Gellir cael manylion am sut mae’r arolwg yn cael ei gynnal ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Ni ddylai canlyniadau’r Arolwg Blynyddol gael eu cymharu â chanlyniadau’r cyfrifiad, na’u defnyddio i fesur cynnydd tuag at darged Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae strategaeth y Gymraeg, Cymraeg 2050, yn nodi’n glir bod y targed hwn wedi’i seilio ar ddata’r cyfrifiad, ac y bydd y cynnydd tuag at y targed yn cael ei fonitro drwy ddefnyddio data’r cyfrifiad o’r boblogaeth. 

Mae canlyniadau’r cyfrifiad ar gyfer 2001, 2011 a 2021 wedi’u cynnwys ar y siart uchod, er mwyn dangos y gwahaniaethau rhwng y cyfrifiad a’r Arolwg Blynyddol yn yr un cyfnod. Mae’r gwahaniaethau yn yr amcangyfrifon o allu yn y Gymraeg rhwng y cyfrifiad ac arolygon cartrefi fel yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn hir-sefydlog, ac mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ('Differences in estimates of Welsh Language Skills') a Llywodraeth Cymru ('Data am y Gymraeg o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth: 2001 i 2018') wedi archwilio rhesymau posibl dros rai o’r gwahaniaethau hyn yn y gorffennol. Er enghraifft, mae’r cyfrifiad yn holiadur statudol sy’n cael ei gwblhau gan unigolion, ond arolwg gwirfoddol yw’r Arolwg Blynyddol sy’n cael ei gynnal ar ffurf cyfweliadau wyneb yn wyneb a thros y ffôn. Mewn erthygl blog a gyhoeddwyd gan y Prif Ystadegydd yn 2019, trafodwyd yn fyr sut i ddehongli data’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth am y Gymraeg. 

Er bod arolygon cartrefi fel arfer yn rhoi amcangyfrifon uwch i ni o allu siarad Cymraeg, dyma'r tro cyntaf i'r cyfrifiad amcangyfrif gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg ac mae'r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth wedi amcangyfrif niferoedd cynyddol o siaradwyr Cymraeg.

Yn dilyn cyhoeddi Cyfrifiad 2021, rydym yn blaenoriaethu gwaith i archwilio’r gwahaniaethau rhwng y ffynonellau data hyn yn fanylach, gan gynnwys archwilio dulliau arloesol megis cysylltu data, er mwyn sicrhau bod gennym sylfaen dystiolaeth gydlynol y gellir ei defnyddio i wneud penderfyniadau. 

Rydym wedi cyhoeddi cynllun gwaith sy’n amlinellu’r gwaith y mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud yn ystod 2023-24 a thu hwnt i wella ein dealltwriaeth o’r prif ffynonellau arolygon a data gweinyddol a ddefnyddir i gynhyrchu ystadegau am y Gymraeg. I gyd-fynd â'r cynllun gwaith hwn cyhoeddwyd blog a gyhoeddwyd gan y Prif Ystadegydd.

Newidiadau i'r arolwg

Yn dilyn cyngor y llywodraeth ynghylch pandemig y coronafeirws (COVID-19), cafodd Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, yn ogystal â phob astudiaeth wyneb yn wyneb arall sy’n cael eu cynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol am bobl, teuluoedd ac aelwydydd, ei atal. Mae rhagor o fanylion am y newidiadau hyn i'w gweld yn y datganiad hwn ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

O ganol mis Mawrth 2020, cynhaliwyd yr Arolwg Blynyddol dros y ffôn yn unig. Gall newid yn y ffordd y gweinyddir yr arolwg effeithio ar ganlyniadau'r arolwg. Mae'r canlyniadau hyn yn cwmpasu'r cyfnod rhwng mis Hydref 2020 a mis Medi 2021, felly mae’r holl gyfweliadau yn rhai dros y ffôn. 

Trwy gymharu'r rhai a gwblhaodd yr arolwg dros y ffôn yn erbyn y rhai a gwblhaodd yr arolwg wyneb yn wyneb yn y cyfnod cyn mis Mawrth 2020, roedd yn ymddangos bod ymatebwyr yn fwy tebygol o ddweud y gallent siarad Cymraeg wrth ateb yr arolwg dros y ffôn. 

Ar hyn o bryd, nid yw’n bosibl dweud os yw unrhyw newidiadau diweddar yng ngallu’r boblogaeth yn y Gymraeg o ganlyniad i'r newid yn ffordd y mae’r arolwg yn cael ei gynnal neu newidiadau gwirioneddol yng ngallu'r boblogaeth yn y Gymraeg. Dylid dehongli’r canlyniadau felly â gofal.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llio Owen

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Media

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.