Neidio i'r prif gynnwy

Data ar allu pobl yn y Gymraeg a pha mor aml y maent yn ei siarad ar gyfer Gorffennaf 2021 i Fehefin 2022.

Y cyfrifiad poblogaeth yw’r ffynhonnell allweddol sy’n cael ei ddefnyddio i fesur nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Ond gan fod yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS) yn darparu canlyniadau bob chwarter, mae’n ffynhonnell ddefnyddiol er mwyn edrych ar dueddiadau yng ngallu’r boblogaeth yn y Gymraeg rhwng cyfrifiadau.

Ailbwysoliad 2022

Ar 13 Medi 2022, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) set ddata APS wedi'i hailbwysoli ar gyfer mis Mawrth 2020 ymlaen. Roedd hyn yn sgil ailbwysoliad wedi'i gynllunio (gan ddefnyddio data Gwybodaeth Amser Real (RTI) Talu wrth Ennill (PAYE)) yn ogystal â chywiro gwall sy'n effeithio ar ffactorau gros ar gyfer rhai grwpiau oedran ar gyfer y cyfnodau blynyddol rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2020, a rhwng mis Gorffennaf 2020 a mis Mehefin 2021. Oherwydd yr ailbwysoliad hwn, canslwyd datganiad Arolwg Blynyddol Llywodraeth Cymru mis Ebrill 2021 i fis Mawrth 2022 ac mae’r cyfnod hwn yn cael ei gynnwys ochr yn ochr â data mis Gorffennaf 2021 i fis Mehefin 2022 o fewn y datganiad hwn.

Prif bwyntiau

Image
Mae'r siart yn dangos y canlyniadau’r Arolwg Blynyddol y Boblogaeth o 2001 tan ddiwedd Mehefin 2022. Yn 2001 roedd 834,500 o siaradwyr Cymraeg. Mae’r tuedd yn gostwng tan 2007 ac wedyn yn cynyddu eto i 899,500 erbyn diwedd Mehefin 2022. Mae canlyniadau Cyfrifiad 2001 a 2011 hefyd wedi’u plotio ar yr un siart er mwyn dangos bod amcangyfrifon y Cyfrifiad ar gyfer nifer y siaradwyr Cymraeg yn sylweddol is; dros 200,000 yn is.
  • Ar gyfer y flwyddyn yn dod i ben ar 30 Mehefin 2022, yn ôl yr Arolwg Blynyddol roedd 29.7% o bobl tair oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg. Mae’r ffigur hwn yn cyfateb i oddeutu 899,500 o bobl.
  • Mae hyn 0.5 pwynt canran yn uwch na'r flwyddyn flaenorol (y flwyddyn yn dod i ben 30 Mehefin 2021) sy’n cyfateb i oddeutu 14,400(r) yn fwy o bobl.
  • Mae’r siart yn dangos sut mae’r ffigurau hyn wedi bod yn cynyddu’n raddol bob blwyddyn ers mis Mawrth 2010 (25.2%, 731,000), wedi iddynt fod yn gostwng yn raddol o 2001 i 2007. Gostyngodd nifer y bobl sy'n adrodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg rhwng mis Rhagfyr 2018 a mis Mawrth 2020, cyn cynyddu’n gyffredinol eto ers hynny. Fodd bynnag, dylid trin y cynnydd hwn â gofal oherwydd newid yn sut gafodd yr arolwg ei gynnal o ganol mis Mawrth 2020 ymlaen oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19). Gweler 'Newidiadau i'r arolwg' isod.
  • Yng Nghaerdydd (102,400), Sir Gaerfyrddin (92,000) a Gwynedd (91,700) y mae’r niferoedd uchaf o siaradwyr Cymraeg.
  • Ym Mlaenau Gwent (11,000) a Merthyr Tudful (12,800) y mae’r niferoedd isaf.
  • Yng Ngwynedd (76.3%) ac Ynys Môn (62.1%) y mae’r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg.
  • Ym Mlaenau Gwent (16.6%),Torfaen (17.3%) ac Abertawe (17.6%) y mae’r canrannau isaf.
  • Adroddodd 14.8% (449,900) o bobl tair oed neu hŷn eu bod yn siarad Cymraeg yn ddyddiol, 5.6% (169,700) yn wythnosol a 7.6% (229,500) yn llai aml. Dywedodd 1.7% (50,300) eu bod byth yn siarad Cymraeg er eu bod yn gallu ei siarad. Nid oedd 70.3% yn gallu siarad Cymraeg.
  • Dywedodd 33.4% (1,013,000) y gallent ddeall Cymraeg llafar, gallai 26.0% (789,700) ddarllen yn Gymraeg a 24.0% (726,200) ysgrifennu’n Gymraeg.

(r) Diwygiedig ar 10 Tachwedd 2022.

Nodyn

Mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn arolwg ledled y Deyrnas Unedig a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae'r Arolwg, a ddechreuodd yn 2004, yn cael ei lunio o gyfweliadau ar gyfer yr Arolwg o'r Llafurlu. Gellir cael manylion am sut mae’r arolwg yn cael ei gynnal ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae canlyniadau’r cyfrifiad ar gyfer 2001 a 2011 wedi’u cynnwys ar y siart uchod, er mwyn dangos y gwahaniaethau rhwng y cyfrifiad a’r Arolwg Blynyddol yn yr un cyfnod. Mae nifer o resymau posibl pam y byddai canlyniadau’r cyfrifiad yn is na rhai yr arolwg. Er enghraifft, mae’r cyfrifiad yn holiadur statudol sy’n cael ei gwblhau gan unigolion, ond arolwg gwirfoddol yw’r Arolwg Blynyddol sy’n cael ei gynnal ar ffurf cyfweliadau wyneb yn wyneb a thros y ffôn.

Ni ddylai canlyniadau’r Arolwg Blynyddol gael eu cymharu â chanlyniadau’r cyfrifiad, na’u defnyddio i fesur cynnydd tuag at darged Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae strategaeth y Gymraeg, Cymraeg 2050, yn nodi’n glir bod y targed hwn wedi’i seilio ar ddata’r cyfrifiad, ac y bydd y cynnydd tuag at y targed yn cael ei fonitro drwy ddefnyddio data cyfrifiadau’r dyfodol. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi diweddaru ei chalendr rhyddhau (Swyddfa Ystadegau Gwladol) gyda dyddiadau cyhoeddi dros dro ar gyfer crynodebau pwnc Cyfrifiad 2021. Y dyddiad cyhoeddi dros dro ar gyfer y crynodeb pwnc am y Gymraeg (Swyddfa Ystadegau Gwladol) yw dydd Mawrth 6 Rhagfyr 2022.

Roedd blog a gyhoeddwyd gan y Prif Ystadegydd yn 2019 yn trafod yn gryno sut i ddehongli’r data am y Gymraeg o’r Arolwg Blynyddol. Mae rhagor o wybodaeth am y gwahaniaethau rhwng y cyfrifiad â’r Arolwg Blynyddol ar gael mewn bwletin sy’n rhoi canlyniadau manylach ar gyfer y Gymraeg yn yr Arolwg Blynyddol o 2001 i 2018.

Newidiadau i’r arolwg

Yn dilyn cyngor y llywodraeth ynghylch pandemig y coronafeirws (COVID-19), cafodd Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, yn ogystal â phob astudiaeth wyneb yn wyneb arall sy’n cael eu cynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol am bobl, teuluoedd ac aelwydydd, ei atal. Mae rhagor o fanylion am y newidiadau hyn i'w gweld yn y datganiad hwn ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

O ganol mis Mawrth 2020, cynhaliwyd yr Arolwg Blynyddol dros y ffôn yn unig. Gall newid yn y ffordd y gweinyddir yr arolwg effeithio ar ganlyniadau'r arolwg. Mae'r canlyniadau hyn yn cwmpasu'r cyfnod rhwng mis Hydref 2020 a mis Medi 2021, felly mae’r holl gyfweliadau yn rhai dros y ffôn.

Trwy gymharu'r rhai a gwblhaodd yr arolwg dros y ffôn yn erbyn y rhai a gwblhaodd yr arolwg wyneb yn wyneb yn y cyfnod cyn mis Mawrth 2020, roedd yn ymddangos bod ymatebwyr yn fwy tebygol o ddweud y gallent siarad Cymraeg wrth ateb yr arolwg dros y ffôn.

Ar hyn o bryd, nid yw’n bosibl dweud os yw unrhyw newidiadau diweddar yng ngallu’r boblogaeth yn y Gymraeg o ganlyniad i'r newid yn ffordd y mae’r arolwg yn cael ei gynnal neu newidiadau gwirioneddol yng ngallu'r boblogaeth yn y Gymraeg. Dylid dehongli’r canlyniadau felly â gofal.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llio Owen

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.