Daeth yr ymgynghoriad i ben 3 Rhagfyr 2025.
Adolygu ymatebion
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem gael eich barn ar newidiadau arfaethedig i ddata am y system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yng Nghymru.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio eich barn ar y cynigion gan Lywodraeth Cymru i newid y data a gasglwn am y system ADY mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol a lleoliadau nad ydynt yn ysgolion.
Gwnawn y newid hwn oherwydd mai’r system ADY, o fis Medi 2025, yw’r unig system ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru.
Bydd hyn yn helpu Llywodraeth Cymru a chyrff cyfrifol i roi gwell cefnogaeth i ddysgwyr ag ADY, gan fonitro a gwella'r system.
Mae'r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar newidiadau arfaethedig i'r data ADY a gofnodir gan awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau nad ydynt yn ysgolion, ac a gesglir gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:
- plant a phobl ifanc unigol ag ADY sy'n mynychu lleoliadau addysg a gynhelir yng Nghymru neu sy'n cael eu haddysgu heblaw yn yr ysgol (AHY)
- darpariaeth ADY a'r gwaith o gyflwyno'r system ADY o fewn lleoliadau addysg a gynhelir
- data ar lefel unigol ar y gweithlu addysg mewn lleoliadau a gynhelir
