Data i fonitro'r system anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
Hoffem gael eich barn ar newidiadau arfaethedig i ddata am y system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Crynodeb
Diben yr ymgynghoriad
Mae angen diweddaru'r data y mae ysgolion ac awdurdodau lleol yn ei gofnodi a'i rannu â Llywodraeth Cymru, i gyd-fynd â pholisi a deddfwriaeth ADY. O fis Medi 2025, mae'r system ar gyfer cefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu arbennig wedi'i disodli gan y system anghenion dysgu ychwanegol. Felly, mae angen newidiadau i ddata perthnasol, y data sydd ei angen ar ysgolion i fod yn effeithiol ac yn effeithlon, ac sydd ei angen ar ALlau a Llywodraeth Cymru i gynllunio, monitro a goruchwylio.
Mae angen ystod o wybodaeth ar Lywodraeth Cymru a chyrff cyfrifol fel ysgolion ac ALlau i gefnogi dysgwyr ag ADY yn effeithiol fel y gallant gyflawni eu llawn botensial, a hefyd, fel y gellir monitro, gwerthuso a gwella'r system ADY. Mae hyn yn cynnwys data am ddysgwyr ag ADY a'r cymorth a dderbyniant a data am ddarparu'r system ADY.
Mae'r cynigion data rydym yn ymgynghori arnynt yn sail i'r dull system o weithio ar y cyd, partneriaeth a chymorth sy'n unol â'r dull o ddefnyddio data a gwybodaeth i gefnogi dysgu a gwelliant.
Rydym eisiau eich barn ar newidiadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynnig i'r data a gofnodir ac a gesglir.
Ar beth rydym yn ymgynghori
Mae'r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar ddata newydd arfaethedig i’w gofnodi gan ysgolion a gynhelir gan ALl a lleoliadau nad ydynt yn ysgolion, a’i gasglu gan Lywodraeth Cymru:
- am blant a phobl ifanc unigol ag ADY sy'n mynychu lleoliadau addysg a gynhelir yng Nghymru neu sy'n derbyn eu haddysg heblaw yn yr Ysgol (AHY)
- am ddarpariaeth ADY a chyflwyno'r system ADY o fewn lleoliadau addysg a gynhelir, ac
- am ddata ar lefel unigolyn ar y gweithlu addysg mewn lleoliadau a gynhelir
O’r fan hon ymlaen, cyfeirir at hyn fel data am y system ADY.
At ddibenion yr ymgynghoriad hwn, ystyr ysgolion a gynhelir yw ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol neu ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig nad yw wedi'i sefydlu mewn ysbyty ac ysgol feithrin a gynhelir. Ariennir darpariaeth AHY gan ALlau a chaiff ei darparu mewn gwahanol ffyrdd gan gynnwys trwy unedau cyfeirio disgyblion, darparwyr annibynnol a gwasanaethau tiwtora gartref ALl. Nid yw lleoliadau blynyddoedd cynnar ac ôl-16 nas cynhelir yng nghwmpas yr ymgynghoriad hwn. Darperir rhagor o wybodaeth am y rhain yn yr adran Camau yn y dyfodol.
Gweithredwyd rhai newidiadau i ddata sy'n gysylltiedig â'r system AAA sy'n cael ei gofnodi gan ysgolion a'i gasglu gan Lywodraeth Cymru, ym mis Medi 2025. Fodd bynnag, nid ydynt yng nghwmpas yr ymgynghoriad hwn gan fod angen newidiadau i ddata presennol perthnasol i sicrhau ei fod yn cyd-fynd â'r fframwaith ADY. Ceir rhagor o fanylion am y newidiadau gofynnol hyn yn yr adran Mân newidiadau i gasgliadau data statudol o fis Medi 2025.
Pam rydym yn cynnig newid y data y mae Llywodraeth Cymru yn ei gasglu mewn perthynas â'r system ADY
Mae angen Llywodraeth Cymru a chyrff cyfrifol data a gwybodaeth berthnasol, briodol ac ystyrlon am y system ADY er mwyn gwneud y canlynol:
- monitro perfformiad y system ADY a'i chanlyniadau, gan sicrhau ei bod yn diwallu anghenion unigol plant a phobl ifanc ac y gellir ei gwella'n barhaus
- deall i ba raddau y mae dyletswyddau o dan fframwaith deddfwriaethol ADY yn cael eu bodloni
- galluogi rhanddeiliaid i weithredu a rheoli'n effeithiol y ddarpariaeth orau bosibl i gefnogi eu dysgwyr
- llywio penderfyniadau cynllunio strategol a pholisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth
- darparu gwybodaeth ac adroddiadau ystyrlon ar ADY yng Nghymru ar gyfer y sector addysg a rhanddeiliaid
Mae'r adran ar Ddata newydd arfaethedig i'w gasglu am y system ADY yn amlinellu'r data y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei gasglu a pham.
Ar gyfer pwy mae'r ymgynghoriad hwn wedi’i anelu
Mae'r ymgynghoriad wedi'i anelu at yr holl randdeiliaid sy'n arolygu, cofnodi, cynnal a/neu'n defnyddio'r data y mae Llywodraeth Cymru yn ei gasglu ac yna'n ei gyhoeddi am y system ADY. Mae hyn yn cynnwys ymarferwyr addysg, arweinwyr, ALlau a sefydliadau partner fel Estyn a Cymwysterau Cymru. Mae hefyd yn cynnwys y rhai sy'n gweithio yn y trydydd sector neu yn y maes ymchwil, sy'n defnyddio'r wybodaeth a gyhoeddir.
Mae hefyd wedi'i anelu at gyflenwyr systemau rheoli gwybodaeth ysgolion ac ALl (MIS) neu atebion meddalwedd addysgol eraill. Dyma'r systemau a ddefnyddir gan ysgol neu ALl i gofnodi a rheoli ystod o ddata sy'n caniatáu iddynt fod yn yn effeithiol ac yn effeithlon bob dydd a bodloni eu rhwymedigaethau statudol (gorfodol gan y gyfraith).
Yn ogystal, mae'r ymgynghoriad wedi'i anelu at y dysgwyr y mae Llywodraeth Cymru yn derbyn gwybodaeth amdanynt, eu rhieni neu ofalwyr ac unrhyw un arall sydd â diddordeb ym mhwnc yr ymgynghoriad hwn. Cyhoeddir fersiwn fwy hygyrch o'r ddogfen hon ar yr un pryd.
Camau yn y dyfodol
Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â gwaith yn y dyfodol, ochr yn ochr â rhanddeiliaid perthnasol, er mwyn ystyried y newidiadau sydd eu hangen ar y data a gofnodir ac a rennir am y system ADY mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar ac ôl-16 nas cynhelir. Byddwn yn ystyried sut orau i fonitro anghenion esblygol a chynyddol dysgwyr (y tu hwnt i ddysgwyr ag ADY) mewn lleoliadau a gynhelir.
Cyfnod yr ymgynghoriad
Bydd yr ymgynghoriad hwn ar agor am gyfnod o 8 wythnos er mwyn caniatáu digon o amser i ymatebwyr ystyried ein cynigion a chyflwyno eu hymatebion. Mae ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi llywio ein cynigion.
Cefndir
System ADY
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu system addysg gynhwysol lle mae pob dysgwr, gan gynnwys y rhai ag ADY, yn cael eu cefnogi i gymryd rhan lawn mewn addysg o ansawdd uchel mewn ysgolion a gynhelir a chael mynediad iddi. Mae hyn yn cynnwys symud i'r system ADY ochr yn ochr â gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru gyda’r nod o chwalu rhwystrau i bob dysgwr a rhoi mwy o hyblygrwydd i athrawon i ddiwallu anghenion unigol pob dysgwr yn y ffordd orau. Mae'r rhain yn cael eu cefnogi gan ymagwedd ysgol gyfan at iechyd meddwl a lles.
Dechreuodd y gwaith o weithredu'r ADY ym mis Medi 2021 ac mae'n cael ei weithredu dros bedair blynedd tan fis Awst 2025. Mae'r system yn cefnogi plant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru ag ADY. Mae'n disodli'r system AAA a'r system ar gyfer cefnogi pobl ifanc ag AAD.
Mae fframwaith deddfwriaethol ADY yn cael ei greu gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Deddf ADY), Cod ADY Cymru 2021 a rheoliadau a wneir o dan Ddeddf ADY.
O dan y Ddeddf ADY, mae gan bob plentyn a pherson ifanc sydd ag ADY yr hawl i gynllun statudol o'r enw cynllun datblygu unigol (CDU). Mae'r cynllun hwn yn amlinellu'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) y byddant yn ei derbyn i gefnogi eu hanghenion addysgol.
Trwy gyfrwng y fframwaith statudol hwn, nod Llywodraeth Cymru yw sicrhau y bydd pob dysgwr ag ADY yn cael y cymorth i oresgyn rhwystrau sy’n ei atal rhag dysgu ac y gall gyflawni ei lawn botensial, trwy greu:
- fframwaith deddfwriaethol unedig i gefnogi pob plentyn a pherson ifanc 0-25 oed ag ADY
- proses gydweithredol ac integredig o asesu, cynllunio a monitro'r cymorth a roddir i ddysgwyr ag ADY sy'n hwyluso ymyriadau cynnar, amserol ac effeithiol
- system deg a thryloyw ar gyfer darparu gwybodaeth a chyngor, ac ar gyfer datrys pryderon ac apeliadau
Gwella Ysgolion a defnyddio data a gwybodaeth i gefnogi dysgu
Rhaid i'n dull o ddefnyddio data a gwybodaeth i gefnogi a gwella dysgu fod yn sail i uchelgeisiau ein diwygiadau addysg. Dylai gyd-fynd ag ethos y Cwricwlwm i Gymru a'n Fframwaith Gwella Cenedlaethol ategol, tra hefyd yn ein helpu i gyflawni amcanion ar draws y Rhaglen Lywodraethu a meysydd polisi strategol, gan gynnwys ein tegwch, Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr a Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Mae data a gwybodaeth yn hanfodol er mwyn monitro effeithiolrwydd y ddarpariaeth ADY gyfredol a gwella'r canlyniadau i blant a phobl ifanc. Maent yn darparu rôl hanfodol mewn prosesau gwerthuso, gwella ac atebolrwydd ynghyd â ffynonellau eraill o wybodaeth, meintiol ac ansoddol. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, gwybodaeth gan bartneriaid, megis Estyn a Thribiwnlys Addysg Cymru (ETW), ac adborth gan ymarferwyr yn y sector addysg, dysgwyr a rhieni neu gofalwyr.
Er mwyn gwir gefnogi gwelliant mewn dysgu, rhaid i ddata fod yn briodol i'w ddefnyddio a rhaid ei ddefnyddio'n briodol. Rydym yn awyddus i ddata a gwybodaeth gael eu defnyddio mewn ffordd sy'n cefnogi ymdrechion i gyflawni'r gorau ar gyfer ein dysgwyr a'n dinasyddion ac sy'n galluogi ein gweithlu. Ein nod hefyd yw gwella dealltwriaeth y cyhoedd o ddysgu trwy ddarparu darlun mwy ystyrlon a chynhwysfawr o ysgolion mewn ffordd hygyrch.
Mae ein canllawiau Gwella Ysgolion a gyhoeddwyd yn 2022 yn amlinellu ein nodau i:
- gynyddu'r defnydd o'r ystod ehangaf a chyfoethocaf bosibl o wybodaeth i lywio hunanwerthuso a gwelliant yng nghyd-destunau yr ysgolion eu hunain
- egluro'r defnydd o wybodaeth at ddibenion atebolrwydd, fel nad yw hyn yn rhwystro ysgolion rhag gwella nac yn ysgogi ymddygiadau negyddol
- ehangu ystod ac ansawdd yr wybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd am ysgolion a'r system ehangach er mwyn gwella tryloywder a hyder y cyhoedd
Rydym yn benderfynol o gefnogi'r broses o gasglu a defnyddio data i ysgogi gwelliannau mewn addysg, tra'n cadw at yr egwyddorion a nodwyd yn yr ymgynghoriad diweddar ar ddefnyddio data ysgolion a dysgwyr i gefnogi dysgu a gwelliant. Byddwn yn gwneud hyn trwy alluogi ein rhanddeiliaid i gofnodi a defnyddio data:
- sy'n ofynnol ganddynt i gyflawni eu swyddogaethau a chefnogi ymdrechion y gweithlu i gyflawni'r gorau i ddysgwyr
- sy'n ystyrlon i'r system ADY ac i'r broses o'i gyflwyno
Dylai'r data a gasglwn fod â phwrpas clir a chefnogi a gwella dealltwriaeth heb roi beichiau ychwanegol diangen ar y gweithlu. Dylai hefyd wella'r broses o gasglu a hunanwerthuso data ar gyfer y sector.
Data presennol sy'n gysylltiedig ag ADY y mae Llywodraeth Cymru yn ei gasglu drwy gasgliadau statudol
Mae cyrff sy'n gyfrifol am ddarparu addysg a chefnogi ein dysgwyr ag ADY yn cofnodi ystod o ddata am ddysgwyr unigol, eu gweithlu a'r ddarpariaeth a'r arferion sydd ar waith. Mae'r ffordd y gwneir hyn yn amrywio mewn gwahanol leoliadau a sefydliadau, wrth iddynt ddefnyddio’r ffordd sy'n gweddu orau i'w hanghenion sefydliadol eu hunain ac anghenion eu dysgwyr.
Mae’r data hwn yn cynnwys set o ddata rhagnodedig y mae'n rhaid i gyrff cyfrifol ei gofnodi mewn ffordd gyson yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Rhaid iddynt adrodd y data rhagnodedig hwn i Lywodraeth Cymru yn flynyddol.
Mae'r data rhagnodedig hwn yn ffurfio'r casgliadau data statudol canlynol ar lefel unigol:
- y cyfrifiad ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion (CYBLD) sy'n casglu gwybodaeth am ddysgwyr mewn ysgolion a gynhelir gan ALl gan gynnwys ysgolion meithrin, cynradd, canol, uwchradd ac arbennig
- y cyfrifiad AHY sy'n casglu gwybodaeth am ddysgwyr sy'n derbyn (neu'n disgwyl) darpariaeth addysg a ariennir gan yr ALl heblaw mewn lleoliad a gynhelir
- y Cyfrifiad blynyddol o'r gweithlu ysgolion (CBGY) sy'n darparu gwybodaeth am weithlu'r ysgol mewn lleoliadau a gynhelir
Ceir rhagor o wybodaeth am y data y mae Llywodraeth Cymru yn ei gasglu drwy ei chasgliadau data statudol ac â phwy y mae'n rhannu'r data a gesglir ac at ba ddiben yn ein Hysbysiad Preifatrwydd.
Cyfrifiad CYBLD ac AHY
Caiff CYBLD a'r cyfrifiad AHY eu cynnal yn flynyddol ym mis Ionawr. Ar hyn o bryd mae'r casgliadau hyn yn cynnwys manylion ynghylch a oes gan ddysgwr AAA neu ADY ac, os felly, yr angen neu anghenion a nodwyd ar ei gyfer, a’r math o gynllun cymorth sydd ar waith a’i lefel. Mae CYBLD yn casglu gwybodaeth hefyd am unrhyw gymorth ehangach sy'n cael ei ddarparu.
Pan ddechreuodd y gwaith o weithredu'r system ADY yn 2021, cyflwynwyd y broses o gasglu data ynghylch a oedd gan ddysgwr CDU a oedd yn cael ei gynnal gan ysgol neu ALl a'r mathau o anghenion yr oedd gan y dysgwyr hyn. Ers hynny, mae'r data hwn wedi'i gasglu yn ogystal â data am y rhai sydd â chynlluniau cymorth o dan y system AAA, gan gynnwys datganiadau statudol.
Mae'r CYBLD hefyd yn casglu mathau eraill o wybodaeth sy'n gysylltiedig â'r systemau AAA neu ADY ond nid ar lefel dysgwr unigol, megis y canlynol:
- nodweddion yr ysgol gan gynnwys nifer y dosbarthiadau arbennig dynodedig gan ALl mewn ysgol, a nifer y dysgwyr sydd yn y dosbarthiadau hyn
- dosbarthiadau gan gynnwys nifer y dysgwyr ag AAA mewn dosbarth
- ysgolion arbennig gan gynnwys y math o angen arbennig y mae'r ysgol wedi'i chymeradwyo'n ffurfiol i ddarparu ar ei gyfer
Mae angen i Lywodraeth Cymru, ALlau ac ysgolion fonitro'r wybodaeth hon am ddysgwyr er mwyn deall y dirwedd ADY, sut mae'n newid dros amser ac er mwyn sicrhau bod digon o adnoddau i gefnogi dysgwyr ag ADY. Mae casglu gwybodaeth trwy gasgliadau statudol ar lefel unigolyn hefyd yn ein galluogi i gysylltu data â ffynonellau data eraill a monitro canlyniadau fel cyrhaeddiad a phresenoldeb dysgwyr ag ADY.
CBGY
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn derbyn gwybodaeth am y gweithlu ysgolion mewn ysgolion a gynhelir, yn uniongyrchol gan ysgolion ac ALlau, drwy'r Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion (CBGY) a gynhelir bob blwyddyn ym mis Tachwedd. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am Gydlynwyr ADY (CADY), ac a yw person yn ymgymryd â hyn fel ei brif rôl neu a yw’n ychwanegol at ei brif rôl. Mae CADY yn gyfrifol am gydlynu cymorth i ddysgwyr ag ADY yn eu hysgol neu leoliad. Mae CBGY hefyd yn casglu gwybodaeth am staff cymorth AAA/ADY sydd yn yr ystafell ddosbarth i gefnogi dysgu.
Y sail gyfreithlon ar gyfer data a gesglir gan Lywodraeth Cymru
Mae'r sail gyfreithlon i Lywodraeth Cymru gasglu'r wybodaeth hon wedi'i nodi yn Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007, Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant sy'n cael eu Haddysg drwy Ddarpariaeth Amgen) (Cymru) 2009 a Rheoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth am y Gweithlu Ysgolion) (Cymru) 2017. Er y gall Llywodraeth Cymru gasglu'r rhan fwyaf o'r data newydd rydym yn ei gynnig o dan y rheoliadau presennol hyn, mae angen newidiadau i'r rheoliadau er mwyn casglu rhywfaint o'r data a gynigir. Rhaid i unrhyw wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei chasglu gan ysgolion fod â phwrpas clir a rhaid bod ei hangen ar yr ysgol ei hun i gyflawni ei swyddogaethau.
Mae casglu gwybodaeth trwy gasgliadau data statudol yn sicrhau bod data yn cael ei storio a'i gasglu mewn modd cyson a safonedig gan arwain at ddata cynhwysfawr o ansawdd uchel. Maent yn hyrwyddo prosesau rhannu data, atebolrwydd a thryloywder, sy'n cefnogi'r rhanddeiliaid perthnasol a chyrff yn y sector i gyflawni eu swyddogaethau yn well. Maent hefyd yn hwyluso gwerthusiadau cadarn o bolisïau a gwaith monitro tueddiadau a gwahaniaethau mewn deilliannau dros amser.
Cyhoeddi gwybodaeth
Cyhoeddir gwybodaeth am AAA ac ADY drwy amrywiaeth o allbynnau ystadegol ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys datganiadau ystadegol swyddogol blynyddol o gasgliadau CYBLD, AHY a CBGY. Mae'n cynnwys datganiadau sy'n cysylltu'r data hwn â setiau data eraill hefyd, er enghraifft dadansoddiad o absenoldeb neu ddeilliannau Cyfnod Allweddol 4 yn ôl ADY. Mae gwybodaeth AAA ac ADY hefyd yn cael ei chyhoeddi ar ein gwefan ryngweithiol StatsCymru ac ar lefel ysgol ar wefan Fy Ysgol Leol. Mae'r rhain i gyd yn cael eu cynhyrchu mewn ffordd sy'n sicrhau na ellir adnabod plant a phobl ifanc unigol. Yn ogystal, mae data AAA ac ADY wedi'i gynnwys yn Setiau Data Craidd Cymru Gyfan (AWCDS) a ddarperir i bob ysgol ac ALl i gefnogi eu hunanwerthuso a'u gwelliant.
Sut y datblygwyd y cynigion
Er mwyn cefnogi'r gwaith o ddatblygu data newydd arfaethedig i'w gofnodi a'i gasglu ar y system ADY, ymgysylltodd Llywodraeth Cymru ag awdurdodau lleol, cynrychiolaeth fechan o Gydlynwyr ADY (CADY), Estyn a swyddogion polisi Llywodraeth Cymru yn ystod hydref 2024. Tynnodd hyn sylw at heriau gyda’r data presennol ac ysgogodd hefyd awgrymiadau ynghylch ffyrdd o sicrhau y gallai’r data gefnogi ysgolion ac awdurdodau lleol yn well er mwyn monitro a gwella'r system ADY a'r ddarpariaeth i gefnogi dysgwyr i gyflawni eu potensial.
Buom hefyd yn ystyried y data sydd ei angen i gefnogi ffynonellau ehangach o dystiolaeth wrth fonitro'r canlyniadau tymor byr, canolig a hirdymor a nodir yn yr Adroddiad cwmpasu Gwerthusiad o'r system ADY.
Pryd fydd y newidiadau i'r data a gesglir yn cael eu gwneud
Gweithredwyd rhai newidiadau i eitemau data presennol mewn systemau gwybodaeth ysgolion a gynhelir a sefydliadau nad ydynt yn ysgolion ym mis Medi 2025. Nid yw'r newidiadau hyn yng nghwmpas yr ymgynghoriad hwn gan eu bod yn fân newidiadau i derminoleg y data sydd eisoes wedi'i gofnodi a'i gasglu neu nad ydynt yn berthnasol i'r system ADY. Amlinellir y newidiadau hyn yn yr adran isod a rhoddwyd canllawiau i ALlau ac ysgolion yn barod ar gyfer blwyddyn academaidd 2025 i 2026. Nid oes angen unrhyw newid rheoleiddiol ar y newidiadau hyn gan eu bod yn parhau i fod o fewn y sail gyfreithiol sydd eisoes ar waith.
Nod Llywodraeth Cymru yw cyflwyno'r data newydd y mae'n ei gynnig o fis Medi 2026. Fodd bynnag, mae angen diwygiadau cyfreithiol i'r rheoliadau gwybodaeth er mwyn casglu rhywfaint o'r data a gynigir. Gall hyn effeithio ar pryd y gellir cyflwyno'r data newydd hwn i systemau a'i gasglu gan Lywodraeth Cymru. Bydd yr amseru hefyd yn dibynnu ar yr ymateb a ddaw i law trwy'r ymgynghoriad hwn a chymhlethdod y newid sy'n ofynnol o fewn systemau MIS. Os oes angen, darperir rhagor o fanylion am amseriad newidiadau data yn yr ymateb i'r ymgynghoriad hwn.
Mân newidiadau i gasgliadau data statudol o fis Medi 2025
O fis Medi 2025 ymlaen, ni fydd angen i Lywodraeth Cymru gofnodi'r system AAA neu gael sail ddeddfwriaethol i gasglu gwybodaeth am y system. O ganlyniad i hyn, lle bo hynny'n briodol, mae cyfeiriadau at AAA wedi cael eu disodli gan ADY ac ni fyddwn bellach yn casglu'r wybodaeth ganlynol:
- gwybodaeth am gynlluniau cymorth AAA gan gynnwys gweithredu gan yr ysgol neu gweithredu yn y blynyddoedd cynnar, gweithredu yn yr ysgol a mwy neu gweithredu yn y blynyddoedd cynnar a mwy a datganiadau statudol
- gwybodaeth am ddarpariaeth yn seiliedig ar God Ymarfer AAA 2004 gan gynnwys lefel a’r math o gwricwlwm a'r dulliau addysgu, grwpio a chymorth, adnoddau arbenigol a chyngor ac asesu
- gwybodaeth am nifer y dysgwyr mewn dosbarth gyda datganiad o AAA
Ar y pwynt olaf, gellir cael gwybodaeth am faint o ddysgwyr â CDU sydd mewn dosbarth mewn ysgol, o ddata ar lefel unigolyn yn CYBLD, felly nid oes angen disodli'r data ar lefel dosbarth hwn.
Er na fydd yr eitemau data hyn yn cael eu casglu mwyach trwy gasgliadau data statudol, efallai y bydd ysgolion ac ALlau eisiau ystyried eu hanghenion data ar lefel leol mewn perthynas â chofnodi'r wybodaeth.
Gwybodaeth am ddosbarthiadau
Mae CYBLD yn casglu gwybodaeth am ddysgwyr sy'n ddarostyngedig i eithriadau cyfrif maint dosbarthiadau hefyd, a'r 'rheswm dros eithriad' ar gyfer dosbarthiadau babanod sydd â mwy na'r terfyn o 30 disgybl. Mae terfynau statudol ar faint dosbarthiadau babanod yn cael eu pennu gan Reoliadau Derbyniadau Ysgol (Meintiau Dosbarthiadau Babanod) (Cymru) 2013, ac mae'r 'rhesymau dros eithriad' i'r terfynau hyn wedi'u nodi yn y cod derbyn i ysgolion.
Yng ngoleuni'r cod ADY bu newidiadau i'r gyfraith sy'n ymwneud â derbyniadau i ysgolion, nad ydynt yn cael eu hadlewyrchu ar hyn o bryd yn y Cod Derbyn i Ysgolion. Mae canllawiau ar newidiadau i'r gyfraith ar dderbyniadau yn nodi, o 1 Medi 2021, fod y canlynol hefyd yn ddisgyblion a eithrir:
- plant a dderbyniwyd i'r ysgol y tu allan i'r cylch derbyn arferol oherwydd bod eu CDU yn enwi'r ysgol at ddiben sicrhau eu bod yn cael eu derbyn
- plant ag ADY sydd fel arfer yn cael eu haddysgu mewn uned arbennig mewn ysgol brif ffrwd, ond sy'n derbyn rhan o'u gwersi mewn dosbarth nad yw'n gysylltiedig â darpariaeth arbennig
O ganlyniad i hyn, bydd Llywodraeth Cymru yn dileu'r codau 'rheswm dros eithriad' o fewn CYBLD sy'n ymwneud â phlant ag AAA ac yn diweddaru'r codau i adlewyrchu'r canllawiau newydd.
Mae'r wybodaeth hon yn bwysig fel y gall Llywodraeth Cymru, ALlau ac ysgolion fonitro'n gywir ac yn gyson y 'rhesymau dros eithriadau' a nodir yn y cod derbyn. Bydd yr wybodaeth hon yn cefnogi'r broses o fonitro'n gywir nifer y dosbarthiadau babanod sy'n gyfreithlon neu'n anghyfreithlon o fawr. Drwy ddiwygio'r data hwn i adlewyrchu'r system ADY, bydd Llywodraeth Cymru yn gallu cyhoeddi data cywir ac o ansawdd ar nifer y dysgwyr 'a eithrir' mewn dosbarth yn ogystal â'r rhesymau dros eithriadau.
Data newydd arfaethedig i'w gasglu am y system ADY
Mae'r adran hon yn amlinellu'r data newydd arfaethedig ar gyfer ysgolion a gynhelir a lleoliadau nad ydynt yn ysgolion i'w gofnodi a Llywodraeth Cymru i'w gasglu. Mae'n cynnwys y cwestiynau ymgynghori rydym yn ceisio barn arnynt.
Penderfyniadau ADY
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu casglu data ar sail dysgwr unigol ynghylch a yw ysgol a gynhelir neu ALl wedi gwneud penderfyniad ffurfiol yn ystod y 12 mis diwethaf ynghylch a oes gan ddysgwr ADY (waeth beth fo'r canlyniad).
Mae'r Cod ADY yn gosod dyletswydd ar ALlau ac ysgolion a gynhelir i benderfynu a oes gan blentyn neu berson ifanc ADY, os yw'n cael ei ddwyn i'w sylw neu os yw'n ymddangos fel arall bod gan blentyn neu berson ifanc ADY.
Byddai'r wybodaeth hon yn rhoi mewnwelediad a dealltwriaeth i Lywodraeth Cymru, ALlau a lleoliadau addysgol ynghylch faint o benderfyniadau ADY y mae'r gweithlu yn eu gwneud (sy'n cymryd amser ac adnoddau). Bydd y dystiolaeth yn darparu cymorth i gynllunio adnoddau a monitro tueddiadau yng nghanlyniadau penderfyniadau ac yn darparu rhywfaint o wybodaeth am lwybr posibl dysgwyr ADY yn y dyfodol.
Un o brif fanteision cael y data hwn ar lefel unigolyn yw y bydd modd deall yn well ddeilliannau dysgwyr mewn achos lle cafwyd penderfyniad ffurfiol nad oes gan y dysgwr ADY.
Ni fyddem yn casglu gwybodaeth am anghenion dysgwyr mewn achosion lle'r oedd y penderfyniad yn nodi nad oes ganddynt ADY.
Cynlluniau cymorth
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fod angen gwybod a oes gan ddysgwyr yng Nghymru, sydd wedi'u haddysgu mewn lleoliadau a gynhelir neu heblaw yn yr ysgol, gynllun cymorth (CDU) o dan y system ADY. Felly, bydd yn parhau i dderbyn y data hwn trwy gasgliadau data statudol blynyddol (CYBLD ac AHY).
O dan y system ADY, dan amgylchiadau cyfyngedig, mae'n bosibl i ddysgwr sy'n preswylio yn Lloegr ac sydd â chynllun statudol addysg, iechyd a gofal (EHC) o dan y system Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd (SEND) yn Lloegr, ac a gynhelir gan ALl o Loegr, fynychu ysgol yng Nghymru. Dan yr amgylchiadau hyn, mae'r ysgol yn gyfrifol am gymryd pob cam rhesymol i sicrhau'r ddarpariaeth addysgol arbennig a bennir yn y cynllun EHC.
Rydym yn cynnig bod cyrff cyfrifol, yn ychwanegol at CDU, yn cofnodi a oes gan ddysgwr gynllun EHC, ei anghenion a'i ddarpariaeth, ac mae hyn yn cael ei gasglu gan Lywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd nid oes gan gyrff cyfrifol fodd i wneud hyn ac mae'r wybodaeth yn cael ei chofnodi yn anghyson, os o gwbl. Bydd yn cefnogi ysgolion ac ALlau i fynd ati'n effeithiol i gynllunio eu darpariaeth, gan gynnwys ar gyfer dysgwyr sydd â chynlluniau EHC. Bydd yn sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru ddarlun llawn o ddysgwyr sy'n mynychu ysgolion yng Nghymru sydd angen darpariaeth ddysgu ychwanegol neu ddarpariaeth addysgol arbennig fel y nodir mewn CDU neu gynllun EHC yn y drefn honno.
Meysydd angen
Mae'r Cod ADY yn disgrifio pedwar maes angen y gellir dosbarthu'n gyffredinol yr amrywiaeth eang o anawsterau dysgu neu anableddau ynddynt:
- cyfathrebu a rhyngweithio
- gwybyddiaeth a dysgu
- ymddygiad, a datblygiad emosiynol a chymdeithasol
- anghenion synhwyraidd a/neu gorfforol
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu casglu'r data hwn ar gyfer dysgwyr unigol ag ADY. Rydym yn cynnig y gellir cofnodi sawl maes angen ar gyfer dysgwr lle bo angen. Bydd yr wybodaeth hon yn cefnogi ysgolion, ALlau a Llywodraeth Cymru i ddeall yn well anghenion dysgwyr, nodi tueddiadau, a chynllunio'r ddarpariaeth yn unol â hynny.
Yn ogystal, byddwn yn parhau i gasglu data ar lefel unigolyn (sydd eisoes wedi'i gasglu ar gyfer dysgwyr ag ADY) am ddiagnosis meddygol, amhariadau dysgu ac anghenion dysgu dysgwyr ag ADY, fel y nodir yn y rhestr isod. Mae'n bosibl dewis sawl math o angen o'r rhestr hon. Fodd bynnag, rydym yn cynnig dileu 'Anawsterau Ymddygiadol, Emosiynol a Chymdeithasol' oherwydd y dyblygu â'r maes angen 'ymddygiad, datblygiad emosiynol a chymdeithasol.
- DYSL SPLD: Dyslecsia
- DYSC SPLD: Dyscalcwlia
- DYSP SPLD: Dyspracsia
- ADHD SPLD: Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd
- MLD: Anawsterau Dysgu Cymedrol
- SLD: Anawsterau Dysgu Difrifol
- PMLD: Anawsterau Dysgu Dwys a Lluosog
- BESD: Anawsterau Ymddygiadol, Emosiynol a Chymdeithasol
- SLCD: Anawsterau Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu
- HI: Amhariad ar y Clyw
- VI: Amhariad ar y Golwg
- MSI: Amhariad Amlsynnwyr
- PMED: Anawsterau Corfforol a Meddygol
- ASD: Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig
- DNA: Ddim yn gymwys
Yn yr ymgynghoriad hwn, rydym yn cynnig mân newidiadau i'r rhestr o anghenion a gesglir ar hyn o bryd ar gyfer dysgwyr ag ADY. Mae hyn yn bwysig ar gyfer cadw'r gyfres amser hirsefydlog o ddata sy'n hwyluso dadansoddiad hydredol. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod nad yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr. Felly, bydd yn cael ei hadolygu fel rhan o waith data ehangach sy'n ystyried sut i gasglu gwybodaeth am anghenion pob dysgwr mewn modd effeithiol. Er mwyn llywio'r trafodaethau hyn, rydym yn rhoi cyfle i wneud sylwadau ar y rhestr hon isod.
Darpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY)
O dan y system ADY, mae gan blant ag ADY hawl i gymorth ychwanegol, sef y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol. Bydd y ddarpariaeth hon yn cael ei chynnwys mewn CDU.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu casglu rhywfaint o ddata ar y DDdY sy'n ofynnol i gefnogi dysgwyr ag ADY. Bydd hyn yn disodli data am ddarpariaeth sy’n seiliedig ar God Ymarfer AAA a amlinellir yn yr adran ar Fân newidiadau i gasgliadau data statudol o fis Medi 2025.
Darpariaeth wedi'i sicrhau gan Fwrdd Iechyd Lleol
Nod y system ADY yw gwella'r broses o gydweithredu a rhannu gwybodaeth rhwng asiantaethau er mwyn sicrhau bod anghenion plant a phobl ifanc yn cael eu nodi'n gynnar ac yn cael y gefnogaeth gywir i sicrhau canlyniadau cadarnhaol.
Mae'r Ddeddf ADY yn gosod dyletswyddau ar fyrddau iechyd lleol i ystyried a oes unrhyw driniaethau neu wasanaethau perthnasol a allai helpu i fynd i'r afael ag ADY dysgwr, diogelu'r DDdY a nodwyd a darparu gwybodaeth neu fath arall o gymorth i gefnogi'r ALl gyda'i ddyletswyddau o dan y Ddeddf ADY. Os yw'r bwrdd iechyd lleol yn nodi triniaeth neu wasanaeth, rhaid ei ddisgrifio yn CDU y dysgwr, a rhaid i'r bwrdd iechyd lleol ei ddarparu.
Bydd casglu data ar lefel unigolyn ynghylch a yw darpariaeth ar gyfer dysgwr ag ADY wedi'i sicrhau gan fwrdd iechyd lleol (fel y nodir yn ei CDU) yn darparu tystiolaeth feintiol wrth ddeall y galw am ddarpariaeth iechyd o dan y system ADY. Er enghraifft, bydd yn dangos sut mae'r galw yn amrywio ledled Cymru, yn dibynnu ar bwy sy'n cynnal y CDU unigol, ac angen y dysgwyr. Bydd y dystiolaeth hon yn ddefnyddiol er mwyn deall y galw am wasanaethau iechyd. Bydd hefyd yn helpu i werthuso sut mae'r dull amlasiantaeth yn cael ei weithredu a sut y gallai hynny effeithio ar lwyddiant dysgwr a sut y mae’n ymgysylltu ag addysg.
Gwybodaeth am ddarpariaeth yn y Gymraeg
Rydym yn bwriadu casglu data hefyd ynghylch a oes angen i ddysgwr ddarparu rhywfaint o'i DDdY neu'r cyfan ohoni yn y Gymraeg (fel y cofnodir yn ei CDU), ac a yw'n derbyn y DDdY hon yn Gymraeg.
Un o nodau craidd y Ddeddf ADY yw creu system ddwyieithog o gymorth i ddysgwyr ag ADY. O dan y Ddeddf ADY, mae'n ofynnol i ysgolion a gynhelir, ALlau a byrddau iechyd lleol ystyried a ddylid darparu DDdY yn y Gymraeg, ac os felly, dylid nodi hyn yn y CDU. Rhaid iddynt gymryd pob cam rhesymol i ddarparu'r DDdY yn y Gymraeg.
Bydd casglu data ar lefel unigolyn ynghylch a oes angen DDdY yn y Gymraeg ar ddysgwyr ac a ydynt yn derbyn DDdY yn y Gymraeg yn darparu tystiolaeth yn erbyn y nod craidd hwn. Bydd yn cefnogi Llywodraeth Cymru i werthuso i ba raddau y mae system ddwyieithog ar waith, ac a yw hyn yn amrywio ledled Cymru, yn ôl ysgol ac yn newid dros amser. Bydd hefyd yn darparu tystiolaeth am effaith system ADY ddwyieithog ar gefnogi dysgwyr i gyflawni eu potensial. Bydd y data hwn yn helpu i lywio'r ADY ac amcanion y gweithlu o fewn Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESPs) Awdurdodau Lleol.
Bydd yr wybodaeth yn cyfrannu at adolygiad 5 mlynedd Llywodraeth Cymru ar ddarpariaeth ADY yn y Gymraeg, sy’n ofyniad o fewn y Ddeddf ADY.
Rhaid i awdurdodau lleol nodi yn eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg sut y byddant yn defnyddio canfyddiadau eu hadolygiadau o dan y Ddeddf ADY i wella'r ddarpariaeth Gymraeg ar gyfer dysgwyr ag ADY ac ar gyfer cynllunio'r gweithlu o fewn y sector ADY.
Dysgwyr ag ADY mewn dosbarthiadau arbennig
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu casglu data ar lefel unigolyn ynghylch a yw dysgwyr ag ADY mewn lleoliad prif ffrwd yn cael eu haddysgu mewn dosbarth arbennig, a faint o'u hamser sy'n cael ei dreulio mewn dosbarth arbennig. Cyfeirir at y dosbarthiadau hyn mewn ffyrdd gwahanol gan ALlau ledled Cymru, gan gynnwys, er enghraifft, Cyfleusterau Addysgu Arbennig, Canolfannau neu Lleoliadau Adnoddau Dysgu, Ysgolion Adnoddau Datblygedig, Canolfannau Cymorth Dysgu, Canolfannau neu Lleoliadau Adnoddau Arbenigol, darpariaethau neu dosbarthiadau arbennig, Dosbarth Cymorth Dysgu a Darpariaethau gydag Adnoddau.
Bydd hyn yn darparu data meintiol i Lywodraeth Cymru ynghylch ble mae dysgwyr ag ADY yn derbyn rhywfaint o'u darpariaeth nad yw mewn dosbarth prif ffrwd ac yn cefnogi ALlau i gynllunio eu darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol. Byddai hefyd yn darparu gwybodaeth i helpu i werthuso a yw anghenion dysgwyr sy'n cael eu haddysgu mewn dosbarthiadau arbennig yn cael eu diwallu. Er enghraifft, drwy gysylltu'r data â setiau data eraill Llywodraeth Cymru, byddai Llywodraeth Cymru yn gallu deall deilliannau dysgwyr sy'n mynychu dosbarthiadau arbennig. Fel y nodir yn rheoliadau 2007, byddai dosbarthiadau arbennig yn cynnwys y rhai sydd wedi'u dynodi gan yr ALl neu wedi'u trefnu gan yr ysgol.
Un o'r egwyddorion sy'n sail i'r system ADY yw darparu addysg gynhwysol lle mae'r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc ag ADY yn cael eu cefnogi i gymryd rhan lawn mewn addysg brif ffrwd a defnyddir dull lleoliad cyfan i ddiwallu anghenion dysgwyr ag ADY. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn aelod o'r European Agency for Special Needs and Inclusive Education (EASNIE) a’r European Agency Statistics for Inclusive Education (EASIE). Maen nhw’n cefnogi'r gwaith o ddatblygu systemau addysg cynhwysol er mwyn sicrhau hawl pob dysgwr i gyfleoedd cynhwysol a theg. Bydd y dystiolaeth hon yn helpu Llywodraeth Cymru i gynnal dadansoddiad a chymhariaeth fwy defnyddiol â gwledydd Ewropeaidd eraill sydd â dulliau tebyg.
Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried opsiynau ar y ffordd orau o gasglu'r data hwn, gan gynnwys sut mae'n cyd-fynd ag egwyddorion CYBLD (cyfrifiad undydd), gan hefyd leihau'r baich a roddir ar ysgolion.
Gwybodaeth am ddosbarthiadau arbennig
Yn ogystal â chasglu data ar lefel unigol ar ddysgwyr ag ADY mewn dosbarthiadau arbennig, rydym yn cynnig casglu gwybodaeth newydd am nifer y dosbarthiadau arbennig dynodedig gan ysgolion mewn lleoliad prif ffrwd. Nod hyn yw ategu'r wybodaeth sydd eisoes wedi'i chasglu am ddosbarthiadau arbennig dynodedig gan ALl mewn lleoliad.
Fel rhan o'r gwaith ymgysylltu, mae Llywodraeth Cymru wedi cael gwybod nad yw'r wybodaeth a gesglir ar hyn o bryd ar ddosbarthiadau arbennig dynodedig gan ALl mor gywir a defnyddiol ag y gallai fod a bod dosbarthiadau arbennig eraill a ddynodir gan ysgolion (na chesglir ar eu cyfer ar hyn o bryd) ar waith i ddiwallu anghenion dysgwyr wrth i'r galw gynyddu. Mae casglu'r wybodaeth hon mewn ffordd gyflawn a chyson yn hanfodol er mwyn sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru a'r sector addysg ddealltwriaeth lawn o'r adnoddau a'r ddarpariaeth sydd ar gael i ddysgwyr ag ADY ledled Cymru, a’i bod yn ffynhonnell dystiolaeth ar alw a chapasiti ar draws y system. Bydd y data ychwanegol hwn yn ddefnyddiol i randdeiliaid allweddol sy'n cefnogi Llywodraeth Cymru i fonitro'r system ADY. Er enghraifft, mae Estyn yn defnyddio gwybodaeth gyhoeddedig am ddosbarthiadau arbennig i baratoi ar gyfer arolygiadau. Rydym felly yn ystyried opsiynau i gofnodi a nodi'n gyson nifer y dosbarthiadau arbennig dynodedig gan ALl ac ysgolion ym mhob lleoliad.
Yn ogystal â chasglu data ar nifer y dosbarthiadau arbennig dynodedig gan ALl mewn lleoliad, mae CYBLD wedi casglu data yn flaenorol ar nifer y dysgwyr mewn dosbarthiadau arbennig dynodedig gan ALl. Yn unol â'r cynnig a amlinellir uchod, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnig casglu data ar nifer y dysgwyr mewn dosbarthiadau arbennig dynodedig gan ysgolion.
Amseroldeb penderfyniadau ADY ac adolygiadau CDU
Mae'r fframwaith ADY yn gosod ein gwahanol ofynion o ran amserlen mewn perthynas â'r system ADY. Mae llawer o'r rhain yn cael eu gorfodi naill ai gan y Cod ADY a/neu gan Reoliadau ADY (Cymru) 2021. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu casglu data ar lefel agregedig sy'n gysylltiedig â dau o'r gofynion hyn.
Yn gyntaf, rydym yn cynnig casglu data ar gyfran y penderfyniadau ADY a wnaed gan ysgolion ac ALlau o fewn yr amserlenni statudol yn ystod y 12 mis diwethaf (lle nad oes eithriadau yn berthnasol), a nifer yr eithriadau i'r amserlenni statudol perthnasol yn ystod y 12 mis diwethaf.
Yn ail, rydym yn cynnig casglu cyfran y CDU a adolygwyd gan ysgolion ac ALlau yn y cyfnod 12 mis statudol diweddaraf.
Nod yr amserlenni statudol yn y Cod a'r Rheoliadau ADY yw diogelu hawliau dysgwyr, sicrhau cefnogaeth amserol, a hyrwyddo system deg, dryloyw ac atebol. Bydd casglu gwybodaeth am yr amserlenni hyn mewn ffordd gyson yn cefnogi ysgolion, ALlau a Llywodraeth Cymru gan sicrhau bod y system yn gweithio'n deg ac yn effeithiol.
Mae ansawdd CDU yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod anghenion dysgwyr yn cael eu nodi a bod ganddynt amcanion dysgu clir wedi'u hamlinellu ochr yn ochr â'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sy'n ofynnol i gyflawni'r amcanion hyn. Mae ymarfer sy'n seiliedig ar yr unigolyn yn elfen graidd o'r system ADY ac mae gan gyrff cyfrifol ddyletswyddau penodol i ystyried safbwyntiau, dymuniadau a theimladau dysgwyr wrth baratoi ac adolygu CDU. Cydnabyddir bod yr amser a'r ymdrech sy'n gysylltiedig â chreu a chynnal CDU yn hanfodol. Mae sicrhau bod yr amserlenni o fewn y CDU yn realistig yn hanfodol i'w lwyddiant. Felly, gall casglu'r data hwn helpu i asesu dichonoldeb yr amserlenni hyn, a sut y maent yn effeithio ar ddeilliannau dysgwyr.
Nid yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu casglu data ar lefel unigolyn am ddysgwyr mewn perthynas ag amserlenni. Fodd bynnag, byddai ysgolion a/neu ALlau yn cofnodi'r wybodaeth berthnasol ar lefel unigolyn at eu dibenion eu hunain. Ystyrir hefyd sut i ymgorffori gwybodaeth lle mae eithriadau i'r amserlenni statudol er mwyn sicrhau cywirdeb data.
Cydlynwyr ADY
Mae'r Cod ADY yn nodi bod rôl CADY yn un strategol a dylai naill ai fod yn rhan o'r uwch dîm arwain neu fod â llinell gyfathrebu glir â nhw.
Yn 2024, argymhellodd Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (IWPRB) i Lywodraeth Cymru y dylid penodi Cydlynwyr ADY fel aelodau o'r uwch dîm rheoli/arwain ym mhob lleoliad addysg ac y dylid diwygio'r Cod ADY i adlewyrchu hyn. Argymhellwyd ganddynt hefyd fod CADY sy'n cael eu talu ar hyn o bryd ar y brif ystod cyflog (MPR) neu'r ystod cyflog uchaf (UPR), yn cael eu talu ar ystod cyflog y grŵp arwain (LGPR).
Mae gan CADY rôl strategol bwysig yn ein system addysg, ac mae Llywodraeth Cymru bellach wedi ymgynghori ar newidiadau i ddogfen cyflog ac amodau athrawon Ysgol (Cymru) i weithredu'r argymhellion uchod. Cafwyd sawl ymateb defnyddiol i'r ymgynghoriad hwn ac mae'r gwaith yn parhau i fynd rhagddo’n dda gyda phartneriaid cymdeithasol perthnasol drwy Fforwm Partneriaeth Tâl ac Amodau Athrawon ar y mater hwn.
I gefnogi hyn, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig casglu data ynghylch a yw Cydlynwyr ADY yn rhan o uwch dimau arwain. Er bod Cyfrifiad Blynyddol y Gweithlu Ysgol (CBGY) eisoes yn casglu data ar lefel unigolyn ar rolau staff (gan gynnwys staff sy'n CADY), swyddi cydredol ac ystodau cyflog, nid yw'n nodi ar hyn o bryd a yw CADY mewn rôl arwain.
Bydd casglu data ynghylch a yw CADY yn rhan o'r uwch dîm arwain yn galluogi Llywodraeth Cymru i fonitro i ba raddau mae'r sector yn cyd-fynd ag argymhellion yr IWPRB.
Goblygiadau i'r gweithlu
Wrth ddatblygu'r newidiadau arfaethedig i gasglu data ADY, mae Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu lleihau'r baich ychwanegol ar y gweithlu addysg. Y nod yw gwella dealltwriaeth o'r system ADY trwy brosesau gwell ar gyfer cipio data a hunanwerthuso, gan sicrhau bod gan unrhyw ddata newydd a gesglir bwrpas clir ac angenrheidiol i ysgolion ac awdurdodau lleol.
Nod yr eitemau data arfaethedig yw cefnogi dull mwy effeithlon a safonol o gofnodi a rheoli gwybodaeth am ADY. Er y gallai fod gofyniad cychwynnol i ddiweddaru cofnodion dysgwyr presennol, disgwylir i'r gwaith cynnal a chadw parhaus fod ar lefel isel. Dylai'r rhan fwyaf o'r data arfaethedig fod yn cael ei gipio eisoes drwy CDU statudol, cofnodion MIS presennol, neu brosesau statudol eraill.
Rydym yn ceisio barn ar sut y gall y newidiadau hyn effeithio ar y gweithlu, gan gynnwys unrhyw oblygiadau ar gyfer llwyth gwaith, hyfforddiant, neu barodrwydd y system.
Cwestiynau’r ymgynghoriad
Penderfyniadau ADY
Cwestiwn 1: I ba raddau ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r cynnig i gasglu data ar lefel unigolyn ynghylch a yw ysgol neu awdurdod lleol wedi gwneud penderfyniad ffurfiol am anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ar gyfer dysgwr yn ystod y 12 mis diwethaf?
Cynlluniau cymorth
Cwestiwn 2: I ba raddau ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r cynnig i gasglu data ar lefel unigolyn ar anghenion a darpariaeth dysgwyr sy'n mynychu ysgolion yng Nghymru sydd â chynllun addysg, iechyd a gofal (EHC)?
Meysydd angen
Cwestiwn 3: I ba raddau ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r cynnig i gasglu data ar lefel unigolyn am y 4 maes angen (fel yr amlinellir yn y Cod ADY) ar gyfer dysgwyr ag ADY?
Cwestiwn 4: A oes gennych unrhyw farn ar y rhestr o ddiagnosis meddygol, amhariadau dysgu ac anghenion dysgu a gesglir ar hyn o bryd yng Nghyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) a'r Cyfrifiad Addysg Heblaw yn yr Ysgol (AHY) am ddysgwyr ag ADY?
Darpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY)
Cwestiwn 5: I ba raddau ydych chi’n cytuno neu'n anghytuno â'r cynnig i gasglu data ar lefel unigolyn ynghylch a yw darpariaeth ar gyfer dysgwyr ag ADY wedi'i sicrhau gan fwrdd iechyd lleol (fel y nodir yn eu cynllun datblygu unigol (CDU))?
Cwestiwn 6: I ba raddau ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r cynnig i gasglu data ar lefel unigolyn ynghylch a yw dysgwr ag ADY eisiau i rywfaint neu'r cyfan o'i DDdY gael ei darparu yn y Gymraeg (fel y cofnodir yn ei CDU)?
Cwestiwn 7. I ba raddau ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r cynnig i gasglu data ar lefel unigolyn ynghylch a yw dysgwr ag ADY yn derbyn DDdY yn y Gymraeg (lle mae hyn yn ofynnol fel y cofnodir yn ei CDU)?
Cwestiwn 8: Ydych chi'n meddwl y dylai Llywodraeth Cymru gasglu unrhyw wybodaeth arall am DDdY dysgwyr er mwyn deall yn well tegwch y cymorth a deiliannau dysgwyr?
Dysgwyr ag ADY mewn dosbarthiadau arbennig
Cwestiwn 9: I ba raddau ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r cynnig i gasglu data ar lefel unigolyn ynghylch a yw dysgwr ag ADY mewn lleoliad prif ffrwd yn cael ei addysgu mewn dosbarth arbennig?
Cwestiwn 10: I ba raddau ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r cynnig i gasglu data ar lefel unigolyn ynghylch faint o amser y mae dysgwr ag ADY yn ei dreulio mewn dosbarth arbennig?
Gwybodaeth am ddosbarthiadau arbennig
Cwestiwn 11: I ba raddau ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r cynnig i gasglu data ar nifer y dosbarthiadau arbennig dynodedig gan ysgolion mewn lleoliad prif ffrwd (i ategu'r data a gasglwyd eisoes ar ddosbarthiadau arbennig dynodedig gan awdurdodau lleol)?
Cwestiwn 12: I ba raddau ydych chi’n cytuno neu'n anghytuno â'r cynnig i gasglu data ar nifer y dysgwyr mewn dosbarthiadau arbennig dynodedig gan ysgolion (i ategu'r data a gasglwyd eisoes ar nifer y dysgwyr mewn dosbarthiadau arbennig dynodedig gan awdurdodau lleol)?
Amseroldeb penderfyniadau ADY ac adolygiadau CDU
Cwestiwn 13: I ba raddau ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r cynnig i gasglu data ar lefel gyfanredol ar gyfran y penderfyniadau ADY a wnaed gan ysgolion ac awdurdodau lleol o fewn yr amserlenni statudol yn ystod y 12 mis diwethaf (lle nad yw eithriadau'n gymwys)?
Cwestiwn 14: I ba raddau ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r cynnig i gasglu data ar lefel gyfanredol ar nifer yr eithriadau i'r amserlenni statudol perthnasol yn ystod y 12 mis diwethaf?
Cwestiwn 15: I ba raddau ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r cynnig i gasglu data ar lefel gyfanredol ar gyfran y CDUau a adolygwyd gan ysgolion ac awdurdodau lleol yn y cyfnod statudol diweddaraf o 12 mis?
Cydlynwyr ADY
Cwestiwn 16: I ba raddau ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r cynnig i gasglu data ar lefel unigolyn ynghylch a yw Cydlynydd ADY (CADY) mewn lleoliad ar yr uwch dîm arwain ai peidio?
Goblygiadau i'r gweithlu
Cwestiwn 17: Pa effaith fydd y newidiadau arfaethedig i ddata ADY yn ei chael ar y gweithlu, gan gynnwys unrhyw effaith ar lwyth gwaith?
Cyffredinol
Cwestiwn 18: A oes gennych unrhyw sylwadau eraill ar y data y dylid eu cofnodi neu y dylem eu casglu i fonitro a deall effeithiolrwydd y system ADY wrth gefnogi dysgwyr ag ADY?
Gorfodol
Cwestiwn 19: Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol y data newydd arfaethedig am y system ADY ar y Gymraeg? Mae diddordeb penodol gyda ni mewn unrhyw effeithiau posibl ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
- Ydych chi’n meddwl fod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
- Ydych chi’n meddwl fod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
Cwestiwn 20: Yn eich barn chi, a fyddai modd ffurfio neu addasu’r data newydd arfaethedig am y system ADY er mwyn sicrhau:
- eu bod yn cael effeithiau positif neu fwy positif ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â’i thrin yn llai ffafriol na Saesneg; neu
- nad ydynt yn cael effeithiau negyddol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â’i thrin yn llai ffafriol na Saesneg?
Defnyddiwch ffurflen ymateb yr ymgynghoriad i ymateb i’r cwestiwn uchod.
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
- (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: Wefan ICO
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru (Erthygl 6(1)(e)).
Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgynghoriadau ar y cyd, mae’n bosibl y bydd hyn hefyd yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych chi’n dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a’i bod yn bosibl y bydd Llywodraeth Cymru o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth.
Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
