Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Oherwydd y cynnydd a fu yn y sylw i’r ymgynghoriad ar y Canllawiau Gweithredol ynghylch Teithio gan Ddysgwyr dros yr wythnos ddiwethaf, a mawr yw’r croeso i’r sylw hwnnw, rwyf wedi penderfynu estyn y cyfnod ymgynghori tan 28 Tachwedd 2025. Rwyf am wneud yn siŵr bod pawb sydd â diddordeb yn cael cyfle i fynegi barn mewn ffordd drefnus ac adeiladol a fydd yn fy helpu i lunio polisi yn y maes hwn yn y dyfodol. 

Hoffwn ddiolch i bawb sydd eisoes wedi ymateb i’r ymgynghoriad ar y canllawiau diwygiedig. Gallwch fod yn sicr bod pob ymateb sydd wedi dod i law hyd yn hyn wedi cael ei ddarllen a’i ystyried yn ofalus. 

Dolen i’r ymgynghoriad - Canllawiau gweithredol ynghylch Teithio gan Ddysgwyr 2025: ymgynghoriad | LLYW.CYMRU

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach, neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.