Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer rhestr bostio ar gyfer cynhyrchion diogelu planhigion (PPPs).

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Rydym wedi ymrwymo i amddiffyn a pharchu eich preifatrwydd. Mae'r Datganiad Preifatrwydd hwn yn esbonio sut rydym yn casglu, defnyddio a diogelu eich data personol pan fyddwch yn tanysgrifio i'n rhestr bostio i dderbyn diweddariadau a gwybodaeth am gynhyrchion diogelu planhigion yng Nghymru.

Data personol rydyn ni'n ei gasglu

Pan fyddwch yn tanysgrifio i'n rhestr bostio, rydym yn casglu'r data personol canlynol:

  • eich enw
  • eich cyfeiriad e-bost
  • unrhyw wybodaeth arall yr hoffech ei darparu

Pwrpas casglu data

Rydym yn casglu ac yn prosesu eich data personol at y dibenion canlynol:

  • i anfon diweddariadau a gwybodaeth atoch am PPPs yng Nghymru
  • i'ch hysbysu am ddigwyddiadau a gweithgareddau sy'n gysylltiedig â PPPs
  • i reoli a gweinyddu ein rhestr bostio

Sail gyfreithiol dros y gweithgarwch prosesu

Y sail gyfreithiol dros broses eich data personol yw eich cydsyniad. Trwy danysgrifio i'n rhestr bostio, rydych chi'n cydsynio i brosesu eich data personol at y dibenion a nodir uchod.

Cadw data

Byddwn yn cadw eich data personol cyhyd ag y byddwch yn parhau i danysgrifio i'n rhestr bostio. Os byddwch yn dewis datdanysgrifio, byddwn yn dileu eich data personol o'n cofnodion. Cysylltwch â pesticides.plaladdwyr@gov.wales i ddatdanysgrifio.

Rhannu data

Nid ydym yn rhannu eich data personol â thrydydd partïon, ac eithrio fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith neu gyda'ch caniatâd penodol.

Eich hawliau

Mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’ch data personol:

  • yr hawl i fynediad at eich data personol
  • yr hawl i gywiro unrhyw ddata personol anghywir neu anghyflawn
  • yr hawl i ofyn am ddileu eich data personol
  • yr hawl i gyfyngu ar brosesu eich data personol
  • yr hawl i gludo data
  • mae gan gyfranogwyr yr hawl i wrthwynebu i brosesu eu data personol
  • yr hawl i dynnu cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg

Newidiadau i’r hysbysiad preifatrwydd hwn

Efallai y byddwn yn diweddaru ein polisi preifatrwydd o bryd i’w gilydd. Byddwn yn eich hysbysu am unrhyw newidiadau sylweddol.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y Datganiad Preifatrwydd hwn neu ein harferion data, cysylltwch â ni yn: pesticides.plaladdwyr@llyw.cymru

I gael rhagor o wybodaeth am y data sy'n cael eu cadw gan Lywodraeth Cymru, a sut mae'r data'n cael eu defnyddio, neu os ydych yn dymuno arfer eich hawliau o dan y GDPR, gweler y manylion cyswllt isod:

Data Protection Officer

Llywodraeth Cymru

Parc Cathays,
Caerdydd,
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Comisiynydd Gwybodaeth

Information Commissioner’s Office,
Wycliffe House,
Water Lane,
Wilmslow,
Cheshire,
SK9 5AF

Rhif ffôn: Rhif ffôn: 0303 123 1113

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.