Sut y gwnaeth y Gwasanaeth Ynni helpu Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin (ALT) i wella effeithlonrwydd ynni a lleihau carbon ar ei safle.
Crynodeb
Ers mis Tachwedd 2022, mae Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin (ALT) ym Mlaenau Gwent wedi partneru gyda'r Gwasanaeth Ynni i uwchraddio effeithlonrwydd ynni a lleihau carbon ar draws ei ystad, gan gynnwys gwelliannau mawr yng Nghanolfannau Chwaraeon Glynebwy, Abertyleri a Thredegar. Dechreuodd y bartneriaeth gyda archwiliad cynhwysfawr a chosfrestr cyfleoedd, gan arwain at raglen gydgysylltiedig o welliannau.
Ein cefnogaeth
Archwiliad ynni, nodi cyfleoedd, cymorth â cheisiadau am gyllid, a chanllawiau technegol ar effeithlonrwydd ynni a gosodiadau solar ffotofoltäig.
Datrysiad technoleg
- £314,000 ar gyfer uwchraddio ystafell beiriannau pwll nofio a phympiau yng Nghanolfan Chwaraeon Abertyleri.
- £138,600 i ehangu solar ffotofoltäig yng Nghanolfan Chwaraeon Glynebwy.
- Arbedion ynni cyfunol o dros 450,000 kWh bob blwyddyn.
Buddsoddiad
- Cyfanswm buddsoddiad o £452,600, gyda chefnogaeth Rhaglen Ariannu Cymru, Grant Cyfalaf Chwaraeon Cymru, a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Effeithiau
- Gostyngiad blynyddol o 34% mewn allyriadau carbon, gan leihau'r defnydd o ynni dros 450,000kWh.
- Arbedion ariannol rhagamcanedig o £59,000 ar gyfer Canolfan Chwaraeon Abertyleri.
- Gostyngiad amcangyfrifiedig o 32 tunnell o CO2e.
- Ail-fuddsoddi mewn gwasanaethau lles cymunedol a diogelu swyddi.
Mae'r gefnogaeth gan y Gwasanaeth Ynni wedi mynd y tu hwnt i ymgynghori; maen nhw wedi bod yn bartner sefydledig ac ymatebol drwy'r amser. O helpu i fireinio ceisiadau am gyllid ar gyfer rhanddeiliaid i lywio’r gwaith technegol o gyflenwi technolegau gwyrdd, mae'r Gwasanaeth Ynni wedi bod ar ben arall y ffôn yn gyson i sicrhau bod pethau’n datblygu’n ddidrafferth ac yn strategol gadarn. Wrth i ni edrych ymlaen at brosiectau yn y dyfodol, gan gynnwys parhau i ddatgarboneiddio ein stoc adeiladau sy'n heneiddio ac integreiddio technolegau carbon isel ar draws ein portffolio hamdden, mae'r Gwasanaeth Ynni yn parhau i fod yn bartner gwerthfawr a strategol yn ein taith sero net.
Tom Kivell, Rheolwr Chwaraeon a Lles yn Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin.
