Neidio i'r prif gynnwy

Sut y gwnaeth y Gwasanaeth Ynni helpu Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin (ALT) i wella effeithlonrwydd ynni a lleihau carbon ar ei safle.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb

Ers mis Tachwedd 2022, mae Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin (ALT) ym Mlaenau Gwent wedi partneru gyda'r Gwasanaeth Ynni i uwchraddio effeithlonrwydd ynni a lleihau carbon ar draws ei ystad, gan gynnwys gwelliannau mawr yng Nghanolfannau Chwaraeon Glynebwy, Abertyleri a Thredegar. Dechreuodd y bartneriaeth gyda archwiliad cynhwysfawr a chosfrestr cyfleoedd, gan arwain at raglen gydgysylltiedig o welliannau.

Ein cefnogaeth

Archwiliad ynni, nodi cyfleoedd, cymorth â cheisiadau am gyllid, a chanllawiau technegol ar effeithlonrwydd ynni a gosodiadau solar ffotofoltäig.

Datrysiad technoleg

  • £314,000 ar gyfer uwchraddio ystafell beiriannau pwll nofio a phympiau yng Nghanolfan Chwaraeon Abertyleri.
  • £138,600 i ehangu solar ffotofoltäig yng Nghanolfan Chwaraeon Glynebwy.
  • Arbedion ynni cyfunol o dros 450,000 kWh bob blwyddyn.

Buddsoddiad

  • Cyfanswm buddsoddiad o £452,600, gyda chefnogaeth Rhaglen Ariannu Cymru, Grant Cyfalaf Chwaraeon Cymru, a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Effeithiau

  • Gostyngiad blynyddol o 34% mewn allyriadau carbon, gan leihau'r defnydd o ynni dros 450,000kWh.
  • Arbedion ariannol rhagamcanedig o £59,000 ar gyfer Canolfan Chwaraeon Abertyleri.
  • Gostyngiad amcangyfrifiedig o 32 tunnell o CO2e.
  • Ail-fuddsoddi mewn gwasanaethau lles cymunedol a diogelu swyddi.

Mae'r gefnogaeth gan y Gwasanaeth Ynni wedi mynd y tu hwnt i ymgynghori; maen nhw wedi bod yn bartner sefydledig ac ymatebol drwy'r amser. O helpu i fireinio ceisiadau am gyllid ar gyfer rhanddeiliaid i lywio’r gwaith technegol o gyflenwi technolegau gwyrdd, mae'r Gwasanaeth Ynni wedi bod ar ben arall y ffôn yn gyson i sicrhau bod pethau’n datblygu’n ddidrafferth ac yn strategol gadarn. Wrth i ni edrych ymlaen at brosiectau yn y dyfodol, gan gynnwys parhau i ddatgarboneiddio ein stoc adeiladau sy'n heneiddio ac integreiddio technolegau carbon isel ar draws ein portffolio hamdden, mae'r Gwasanaeth Ynni yn parhau i fod yn bartner gwerthfawr a strategol yn ein taith sero net.

Tom Kivell, Rheolwr Chwaraeon a Lles yn Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin.

Canolfan Chwaraeon Tredegar, Blaenau Gwent