Sut y gwnaeth y Gwasanaeth Ynni helpu Ysgol Brynhyfryd i osod system wresogi carbon isel a gwella effeithlonrwydd ynni.
Crynodeb
Gwnaeth Ysgol Brynhyfryd, ysgol uwchradd ddwyieithog yn y gogledd, ddisodli ei system wresogi nwy â phympiau gwres ffynhonnell aer adnewyddadwy a gosod solar ffotofoltäig i wella effeithlonrwydd ynni. Cwblhawyd y prosiect dros wyliau'r Pasg 2024 heb fawr o darfu.
Ein cefnogaeth
Canllawiau technegol ar wresogi carbon isel, cymorth i geisiadau cyllid, a chydlynu â Chyngor Sir Ddinbych.
Datrysiad technoleg
- Dau bwmp gwres ffynhonnell aer 40 kW Mitsubishi Electric CAHV.
- Tanc clustogi 800-litr a phympiau cysylltiedig.
- Gorchuddion acwstig ar gyfer y pympiau gwres.
- System wresogi dan y llawr wedi'i gadw.
- Arae solar ffotofoltäig 145 kW ar do yr ysgol.
- Uwchraddio goleuadau LED.
Buddsoddiad
- Ariannwyd gwerth 90% o’r system wresogi gan Grant Cyfalaf Gwres Carbon Isel Llywodraeth Cymru; 10% gan Gyngor Sir Ddinbych.
Effaith
- £17,000 i £19,000 o arbedion blynyddol a ragwelir.
- Gostyngiad blynyddol o oddeutu 28 tCO₂e; 1,500 tCO₂e dros oes y system.
- Gwell effeithlonrwydd ynni a llai o ddibyniaeth ar danwydd ffosil.
