Neidio i'r prif gynnwy

Sut y gwnaeth y Gwasanaeth Ynni helpu Ysgol Brynhyfryd i osod system wresogi carbon isel a gwella effeithlonrwydd ynni.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb

Gwnaeth Ysgol Brynhyfryd, ysgol uwchradd ddwyieithog yn y gogledd, ddisodli ei system wresogi nwy â phympiau gwres ffynhonnell aer adnewyddadwy a gosod solar ffotofoltäig i wella effeithlonrwydd ynni. Cwblhawyd y prosiect dros wyliau'r Pasg 2024 heb fawr o darfu.

Ein cefnogaeth

Canllawiau technegol ar wresogi carbon isel, cymorth i geisiadau cyllid, a chydlynu â Chyngor Sir Ddinbych.

Datrysiad technoleg

  • Dau bwmp gwres ffynhonnell aer 40 kW Mitsubishi Electric CAHV.
  • Tanc clustogi 800-litr a phympiau cysylltiedig.
  • Gorchuddion acwstig ar gyfer y pympiau gwres.
  • System wresogi dan y llawr wedi'i gadw.
  • Arae solar ffotofoltäig 145 kW ar do yr ysgol.
  • Uwchraddio goleuadau LED.

Buddsoddiad

  • Ariannwyd gwerth 90% o’r system wresogi gan Grant Cyfalaf Gwres Carbon Isel Llywodraeth Cymru; 10% gan Gyngor Sir Ddinbych.

Effaith

  • £17,000 i £19,000 o arbedion blynyddol a ragwelir.
  • Gostyngiad blynyddol o oddeutu 28 tCO₂e; 1,500 tCO₂e dros oes y system.
  • Gwell effeithlonrwydd ynni a llai o ddibyniaeth ar danwydd ffosil.
Ymweliad y Dirprwy Brif Weinidog ag Ysgol Brynhyfryd, Mehefin 2025