Grantiau sy'n cefnogi prosiectau cyfalaf sy'n ymwneud â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV).
Cynnwys
Pa gyllid sydd ar gael?
Mae grantiau cyfalaf ar gael ar 2 lefel:
- grantiau bach o dan £50,000
- grantiau mwy gwerth hyd at £350,000
Ynglŷn â’r grant
Mae'r grant VAWDASV yn gynllun grant cyfalaf yn unig.
Rhaid i brosiectau cyfalaf gyd-fynd â 6 amcan strategaeth VAWDASV Llywodraeth Cymru 2022 i 2026.
Pwy all wneud cais am y grant?
- Sefydliadau yn y trydydd sector
- Awdurdodau lleol
- Cyrff cyhoeddus eraill
- Byrddau iechyd
- Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau gan sefydliadau a busnesau o'r sector preifat.
Y meini prawf gofynnol
Mae grantiau cyfalaf ar gael ar gyfer:
- prynu eiddo
- caffael asedau cynaliadwy sydd o fudd i ddefnyddwyr gwasanaeth am o leiaf 5 i10 mlynedd
- prosiectau adnewyddu ac addasu i wella cynhwysiant a hygyrchedd
- uwchraddio i fannau lloches, darpariaeth symud ymlaen a mannau swyddfa defnyddwyr gwasanaeth
- prosiectau sy'n anelu at wella gwasanaethau, gan gynnwys gweithio gyda phlant a phobl ifanc (dioddefwyr a'r rhai sy'n arddangos ymddygiad niweidiol)
- gwasanaethau 'siop un stop' ar gyfer mynd i'r afael ag achosion o gyflawni trais a chefnogi dioddefwyr
- mentrau diogelwch dioddefwyr
- gwelliannau i fannau ac offer ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth
- offer digidol a TG, lle mae'n cefnogi defnyddwyr gwasanaeth yn uniongyrchol (trafodwch geisiadau digidol gyda'ch Cynghorydd Rhanbarthol)
Sut i wneud cais
Mae'r cynllun grant wedi cau ar gyfer ceisiadau.
Asesu’r ceisiadau
Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn asesu ceisiadau yn:
- Sifft 1: gwirio bod yr holl wybodaeth wedi'i chwblhau (gan gynnwys dyfynbrisiau/prisiadau).
- Sifft 2: sgorio prosiectau ar sail meini prawf, gan gynnwys alinio ag Amcanion Strategol VAWDASV Llywodraeth Cymru, i bennu a ydynt yn bodloni nodau'r cynllun grant cyfalaf.
