Neidio i'r prif gynnwy

Cyd-destun

Mae gwrthdaro, fel cydweithio, yn digwydd yn naturiol mewn unrhyw system. Mae gwrthdaro yn awyddus i droi’n ddysgu. Mae gwrthdaro yn llawn dysgu posibl.

Pan fyddwn mewn gwrthdaro rydym yn aml yn teimlo llawer o emosiynau anodd fel euogrwydd, embaras neu gywilydd. Mae ein meddwl hefyd yn adrodd straeon i ni ein hunain i esbonio beth sy'n digwydd. Er mwyn caniatáu i wrthdaro droi’n ddysgu, mae angen i ni roi gofod i'r meddyliau a'r teimladau hyn fodoli a newid.

Mae’n haws trawsnewid gwrthdaro llai (micro-wrthdaro), cyn i'r haenau ychwanegol hynny o deimladau a meddyliau bentyrru neu cyn i ryngweithio anodd ailddigwydd. Drwy greu amgylcheddau cefnogol diogel / dewr, gallwn atal micro-wrthdaro rhag dod yn fwy ac weithiau eu trawsnewid yn anweledig i'r dysgu y maent yn ceisio bod.

Os yw micro-wrthdaro yn parhau heb sylw, gall ddiflannu’n naturiol neu gall waethygu’n rhywbeth mwy. Dyma pryd mae angen help arnom gan eraill i gyfryngu, tystio a chefnogi trawsnewidiad ein gwrthdaro. Mae hyn yn cymryd amser ac amynedd ac yn aml mae'n golygu trawsnewid grŵp ehangach o bobl.

Y nod yn yr holl awgrymiadau isod yw dod o hyd i ffyrdd o ddyfnhau a chryfhau perthynas ag eraill ac ychwanegu mwy o offer i'n harferion tosturiol hefyd a sylwi ar ac ystyried unrhyw newidiadau sydd eu hangen i systemau ehangach (gan ddefnyddio'r model cymdeithasol).

Atal gwrthdaro

I egluro; dydyn ni ddim yn ceisio atal gwrthdaro rhag digwydd. Yn hytrach, rydyn ni’n ceisio galluogi gwrthdaro i drawsnewid yn rhyw fath o ddysgu. Dydyn ni ddim yn gwybod ar ba ffurf y bydd y dysgu hwn yn digwydd, ond rydyn ni’n dysgu sut i'w helpu i ddod i'r amlwg.

Mae atal yn golygu rhoi sylw i'n holl anghenion, fel grŵp ac fel unigolion, gan gynnwys anghenion sy'n ymddangos fel rhai sy’n gwrthdaro, mor gynnar ac mor gariadus ag y gallwn.

Mae hyn yn aml yn golygu newid sut rydym yn cwrdd ac yn siarad â'n gilydd. Dyma rai o'r syniadau rydyn ni wedi rhoi cynnig arnynt. Cododd llawer o'r syniadau hyn o brosesau trawsnewid gwrthdaro rydyn ni’n eu disgrifio yn yr adran nesaf.

  • Gwreiddio arferion tosturiol yn y ffordd rydych chi'n cynnal eich cyfarfodydd, datblygu rhythm ac arferion sy'n gweithio i chi fel tîm. Rhowch gynnig arnynt a rhowch gynnig ar rywbeth newydd pan fyddwch chi'n teimlo'n barod.
  • Dylid cytuno ar ganllaw o ran sut rydych chi'n disgwyl bod gyda'ch gilydd yn eich cyfarfodydd. Cadwch y canllaw hwn wrth law, fel y gallwch ei ddefnyddio i'ch arwain. Myfyriwch arno bob hyn a hyn i wirio ei fod yn gweithio i bawb.
  • Dylid cyflwyno dulliau cadw amser yn eich cyfarfod neu gylchoedd rhannu a bod â ffordd dosturiol o nodi pan fydd amser ar ben.
  • Dylid cael 'gwyliwr hwyliau' a'i rôl yw gwirio pryd y bydd tymheredd y cyfarfod yn codi neu'r sgwrs yn poethi a galw am funud o dawelwch i ailosod a/neu wahodd yr holl gyfranogwyr i 'alw amser' os oes angen saib arnynt ar unrhyw adeg yn ystod cyfarfod neu gylch rhannu.
  • Pan fydd y grŵp yn ymuno ar ddechrau'r cyfarfod, dylid caniatáu i aelodau ofyn am ragor o amser i rannu os ydynt yn teimlo'r angen am sylw ychwanegol e.e. os ydynt yn teimlo bod ganddynt her bersonol a fyddai'n elwa o amser hirach i siarad, i gael eu clywed a/neu gael adborth. Yna, dylid clustnodi rhan o'r cyfarfod i'r gwrando hwn ac, os gofynnir amdano gan yr unigolyn gyda'r her, ar gyfer adborth. Gall hyn gynnwys gwneud cais am amser mewn ystafell arall gyda rhywun penodol, neu beidio, er mwyn cael y sylw sydd ei angen arnynt ar y diwrnod hwnnw.
  • Dylid cynnal cyfarfodydd 'sbotolau' achlysurol pan fydd un person penodol yn teimlo bod pawb yn ei glywed yn siarad am yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw a pham maen nhw yma.
  • Efallai yr hoffech gytuno ar rai cliwiau gweledol y gellir eu defnyddio yn hytrach na thorri i mewn i lif geiriau rhywun, megis:
    • hunan-goflaid i ddangos cydymdeimlad a dealltwriaeth
    • bys dros y gwefusau i ofyn am dawelwch
    • dwylo siâp calon neu bodiau i fyny
    • tynnu cylch mawr yn yr awyr (sy’n dynodi “dod â’r sgwrs i ben!") pan fydd amser person ar i ben

Ymateb i syniadau neu deimladau sy'n gwrthdaro yn y foment

Mae gwrthdaro yn rhan anochel o fywyd, ac fe fyddwn ni i gyd yn ei brofi.

Cyn belled nad ydym mewn perygl, nid yw gwrthdaro yn arwydd bod rhywbeth o'i le. Mae'n gyfle i ddysgu a thyfu. 

Nid yw gwrando yn cytuno.

Sut allwn ni gytuno i anghytuno a/neu gytuno i siarad yn ddyfnach?

Beth yw ein nod?

Pan fyddwn ni'n ceisio ymateb yn dosturiol i wrthdaro, rydyn ni'n arbrofi gyda chamau ymarferol, gan gynnwys camau a allai:

  • Ein helpu ni i reoli ein cyflwr corfforol ac emosiynol ar y cyd
  • Ein helpu ni i weithio allan sut i gytuno i anghytuno a pharhau i weithio gyda'n gilydd yn gynhyrchiol
  • Cynyddu ein dealltwriaeth
  • Ein helpu ni i ystyried sut mae realiti gwahanol ein gilydd yn cydblethu

Hunanamddiffyn a diogelwch

Mae risg ynghlwm wrth bob dysgu. Mae pethau sy'n llawn dysgu yn annhebygol o deimlo'n hollol gyfforddus (o leiaf nes bod gennym ni awydd go iawn i ymarfer).

Nid yw pob diwrnod gystal â'i gilydd. Mae'n bwysig dewis pryd rydyn ni'n barod i geisio ymateb mewn modd tosturiol iawn a phryd y mae angen inni gymryd cam yn ôl.

Drwy sylwi ar wrthdaro y tu mewn inni, rydyn ni'n sylwi ar wrthdaro â rhywun arall. Un o'r pethau pwysicaf rydyn ni wedi sylwi arno, o bosibl, yw mai dim ond drwy sylwi ar wrthdaro y tu mewn inni, y gallwn ni sylw ar wrthdaro â rhywun arall. Mae'r gwrthdaro mewnol hwnnw'n rhywbeth y gallwn ni weithio arno naill ai ar y pryd neu'n nes ymlaen, gydag eraill neu ar ein pen ein hunain (i ryw raddau).

Beth allaf ei wneud i mi fy hun?

Dyma rai o'r pethau rydyn ni'n rhoi cynnig arnyn nhw yn y foment, pan fyddwn ni newydd sylweddoli ein bod ni wedi sylwi ar wrthdaro:

  • Teimlo'r traed ar y llawr neu'r corff ar y gadair
  • Gwneud ystum diogel, llaw ar y galon, llaw ar y bol
  • Defnyddio techneg 'cwtsh pili-pala', plethu'r breichiau, a chyffwrdd pont yr ysgwydd â'r bysedd
  • Tawelu'r amygdala, drwy edrych o amgylch yr ystafell yn araf, a chymryd popeth i mewn
  • Cyfrif i ddeg cyn ymateb (yn union fel y byddai mam-gu yn ei argymell!)
  • Gofyn am amser i ni ein hunain, am eiliad i gael ein gwynt atom

Wrth ddefnyddio'r dulliau hyn neu ddulliau eraill, gallwn ni geisio nodi ymhle yn y corff rydyn ni'n teimlo'r gwrthdaro.

Sut mae'r gwrthdaro mewnol hwn yn teimlo?

Beth mae'n ceisio ei gyfrannu at y sgwrs?

Sut gallaf wahodd y person arall i ymuno â mi?

Trawsnewid gwrthdaro hirach trwy gyfryngu

Paratoi

Dyma un ffordd rydyn ni wedi cynnal cyfryngu llwyddiannus lawer gwaith o’r blaen. Mae cyfryngu yn broses sy'n dod i'r amlwg. Mae pob gwrthdaro yn unigryw ac mae'n bwysig ymddiried yn y broses, ymddiried ynoch chi’ch hun i ymateb yn y foment ac ymddiried mewn peidio â gwybod beth fydd yn digwydd.

Arhoswch yn bresennol yn yr hyn sy'n digwydd a gadewch i bethau ddatblygu. Gall canol yr anghytundeb ddod yn glir a diflannu ar unrhyw adeg yn ystod y broses hon.

Dylid cynnig cyfryngwr a enwir a chyfryngwr cynorthwyol i'r ddau gyfranogwr. Ydyn nhw'n hapus i weithio gyda'r cyfryngwyr hyn? Os na, dylid cynnig cyfryngwyr gwahanol.

Gwahoddwch y pedwar cyfranogwr i ddod â thyst gyda nhw, nid i gymryd rhan yn y sgwrs ond i wylio a gwrando, i fod yn glustiau ychwanegol i'r cyfranogwyr neu i'r system ddysgu ehangach.

Cyn y cyfarfod, gall y cyfryngwr arweiniol ddarparu cwestiynau neu ddogfennau yn seiliedig ar y manylion canlynol ar wahân i bob cyfranogwr.  Mae'r rhain yn galluogi cyfranogwyr i fyfyrio, meddwl, ac efallai ysgrifennu, amdanynt eu hunain, eu teimladau, eu harddull a'u cymhelliant, cyn y sesiwn.

Gwnewch yn glir ar y cam yma y gallai fod angen mwy nag un sesiwn i ddarparu'r cymorth sydd ei angen a gallai fod yn rhan o broses hirach.

Dod ynghyd

Gellir cynnal y broses o archwilio a chefnogi newid gyda'n gilydd mewn ystafell rithwir neu go iawn. Gall cerddoriaeth dawel wrth i chi fynd i mewn i'r ystafell fod yn ddefnyddiol i alluogi dechrau tawel heb neb yn siarad.

Mae'r cyfryngwr yn croesawu pawb i'r gofod. Mewn cyfarfod rhithwir, efallai y byddant yn sbotoleuo’r pedwar cyfranogwr i ganolbwyntio ein sylw. Mewn ystafell gorfforol, efallai y gofynnir i dystion symud eu cadeiriau ddau gam yn ôl.

Mae'r cyfryngwr yn esbonio'r broses y byddwn yn ei defnyddio, gan gynnwys:

Y pedwar cam y mae'r cyfranogwyr eisoes wedi'u gweld ar y ddogfen baratoi.

  • Cymhelliant - Ein Stori Ni
  • Ofnau a gobeithion
  • Arddulliau Rhyngweithio ac Arwyddion Rhybudd
  • Gwerthfawrogiad

Mae'r rhain yn seiliedig ar dystiolaeth o ymholiad gwerthfawrogol sy’n dechrau gyda'r hyn sy'n gweithio'n dda a beth yw ein dyheadau (yn hytrach na'r hyn sydd wedi torri neu ddim yn gweithio) ein helpu i symud ymlaen yn fwy effeithiol. Efallai y byddwn yn dod yn ôl at y pethau anoddach hyn yn nes ymlaen yn y broses.

Y gwahaniaeth rhwng systemau sy'n seiliedig ar reolau a systemau sy’n seiliedig ar egwyddor.

Heriau adrenalin yn ein cyrff pan fyddwn mewn sesiwn heriol fel hon a sut mae hyn yn lleihau ein gallu i glywed.

Rôl y tystion i helpu i oresgyn yr her hon drwy wrando. Gofynnir i'r rhain fod yn ddiduedd, yn deg, yn arsylwadol ac yn garedig.

Bydd y cyfryngwyr yn cymryd nodiadau i'w rhannu gyda chyfranogwyr.

Yr amser sy'n cael ei ganiatáu ar gyfer y sesiwn gyntaf hon, gan gynnwys unrhyw aildrafod sy'n angenrheidiol ar hyn o bryd, e.e. os oes gan rywun gyfarfod arall yn syth ar ôl hyn, yna dylai'r sesiwn hon gau yn gynharach i ganiatáu am gyfnod trosglwyddo.

Bod yn ansicr ynghylch beth sy'n mynd i ddigwydd ac ymddiried yn y ffaith y bydd dysgu yn dod i'r amlwg.

Mae'r cyfryngwr yn gwirio a yw pawb yn teimlo'n dda ac yn ddigon diogel i roi cynnig ar sesiwn heddiw. (Os na, byddwn yn ailddechrau ar ddiwrnod arall, lle neu amser.)

Mae'r cyfryngwr arweiniol yn cyflwyno'r cyfryngwr cynorthwyol a fydd yn helpu gyda chadw amser a gwylio hwyliau. Byddant yn gofyn i bobl roi'r gorau i siarad unwaith y byddant wedi cael eu hamser penodedig. Efallai y byddan nhw'n awgrymu bod pawb yn cymryd eiliad i oedi os yw emosiynau'n drech. Mae'r cyfryngwr cynorthwyol yn esbonio y gall eraill hefyd alw am saib pryd bynnag y bydd ei angen arnynt.

(Gallwch rannu'r tasgau mewn gwahanol ffyrdd, fel sy'n addas i'r tîm cyfryngu.)

Os yw'n briodol, mae'r cyfryngwr cynorthwyol yn darparu ymarfer sylfaen sy'n addas i'r grŵp.

Mae'r cyfryngwr arweiniol yn egluro faint rydych chi'n gobeithio ei gwmpasu heddiw, y bydd cyflymder y cyfarfod yn cael ei arafu i ganiatáu mwy o amser, os yw'n teimlo'n rhy frysiog.

Cymhelliant - Ein Stori Ni

Mae'r adran hon yn ymwneud â'n dyhead, neu yr angen, i fod gyda'n gilydd yn yr un gofod. Beth yw'r rhesymau pam rydych chi'n dewis cydweithio? Pam ydych chi, <<enw>>, angen cydweithio gyda <<enw>>? A  <<enw>>, pam ydych chi angen cydweithio gyda <<enw>>?

Pwy sydd eisiau mynd yn gyntaf?

[Mae'r person hwn yn parhau i fod yn gyntaf ar gyfer y cwestiwn yma a'r holl gwestiynau canlynol.]

Mae'r cwestiwn yn cael ei ailadrodd i'r person arall. Mae pob ateb yn cael ei amseru (e.e. 3 munud).

Mae distawrwydd yn cael ei groesawu a'i gynnal. Ar ddiwedd yr amser, mae'r cyfryngwr cynorthwyol yn rhoi arwydd, gan ddweud os oes angen, bod yr amser hwnnw ar ben.

Efallai y bydd y cyfryngwr yn gofyn yn dawel a oes mwy i'w ddweud ac os/pan fydd oedi terfynol yn amlwg, bydd yn symud ymlaen i'r adran nesaf.

Ofnau a gobeithion

Ofnau - Eglurwch bwysigrwydd ofnau a'r pŵer y gall ofn ei gael arnom os na chaiff ei fynegi/arsylwi. Mae hyn yn ymwneud â'r ofnau sydd gennych ynghylch y berthynas hon. Oes gennych chi unrhyw bryderon a beth ydyn nhw?

[Unwaith eto, caiff pob cyfranogwr ei amser i ateb]

Gobeithion - Bydd enwi eich gobeithion yn eich helpu i wybod eich bod ar y trywydd iawn gyda'ch gilydd ac i ddathlu gyda'ch gilydd pan fydd gobeithion rhywun wedi'u cyrraedd.

Beth yw eich gobeithion?

[Unwaith eto, caiff pob cyfranogwr ei amser i ateb]

Arddulliau Rhyngweithio ac Arwyddion Rhybudd

Mae'n wendid dynol i weld ein hunain fel canolbwynt y bydysawd; pan fydd rhywun yn dweud rhywbeth angharedig, rydyn ni'n meddwl ar unwaith bod hyn yn ymwneud â ni ond efallai fod llawer o resymau eraill nad ydyn nhw'n ddim byd i'w wneud â ni.

Arddulliau Rhyngweithio – Mae dwy ran i'r cwestiwn hwn, mae rhan gyntaf y cwestiwn yn ymwneud â sut ydych chi pan fyddwch ar eich gorau. Gan gydnabod bod bywyd yn anodd, ac anaml y byddwn ar ein gorau. 

Ar eich diwrnod gorau, beth yw eich steil naturiol pan fyddwch mewn lle da?

Mae'r ail ran yn gydnabyddiaeth o'ch arddull bersonol. Sut ydych chi'n hoffi gweithio a bod?

[Unwaith eto, caiff pob cyfranogwr ei amser i ateb]

Arwyddion Rhybudd - Nawr i'r gwrthwyneb, unwaith eto mewn dwy ran. Yn gyntaf, pan fydd pethau'n achosi straen neu'n anodd, beth allai pobl eraill ei sylwi amdanoch chi, beth yw'r arwyddion rhybuddio y gallen nhw eu gweld? Beth sydd ei angen arnoch pan fyddwch yn y cyflwr hwn? Ac yn ail (y rhan anoddaf i'w wneud efallai) beth fyddai'n eich helpu i deimlo llai o straen?

Mae hyn er mwyn eich helpu i sylwi drosoch eich hun ond hefyd i'ch helpu i gefnogi eich gilydd.

Pan fydd pethau'n dechrau achosi straen, dw i'n edrych fel hyn...

Pan fydd pethau'n dechrau achosi straen, dwi angen hwn...

[Unwaith eto, caiff pob cyfranogwr ei amser i ateb]

Pwynt da o bosib i gymryd saib byr, os nad ydych chi wedi gwneud hynny eto?

Pryd bynnag yr ydych yn ailgychwyn, ailgychwynwch gyda chydnabyddiaeth o ddiolchgarwch gan y cyfryngwr.

Y cam nesaf yw gweithio ar ddisgwyliadau. A oes unrhyw beth y mae'n rhaid i ni ei wneud cyn i ni ddechrau ar hynny? Efallai nad ydych chi'n cofio popeth, wrth gwrs, mae hynny'n iawn. Byddwn yn rhannu nodiadau gyda chi fel y gallwch weld cyfraniad eich gilydd ar ôl y sesiwn. A oes unrhyw beth arall i'w ddweud neu ei glywed cyn i ni symud ymlaen?

Gwerthfawrogiad

Gan ddod mewn trefn am yn ôl y tro hwn (a gadael yr agenda am eiliad), hoffwn wahodd pob un ohonoch i rannu'r hyn rydych chi'n ei werthfawrogi neu'n ei edmygu yn y person arall.

[Unwaith eto, caiff pob cyfranogwr ei amser i ateb]

Disgwyliadau

Efallai y bydd y cyfryngwr yn gallu cyfeirio at enghraifft sydd eisoes wedi dod i'r amlwg, os felly beth arall allwch chi ei wneud i helpu a chefnogi eich gilydd yn y dyfodol?

[Unwaith eto, caiff pob cyfranogwr ei amser i ateb]

I gloi

Dweud diolch i bawb, nodi’r cynnydd, waeth pa mor fach yw'r camau, eglurwch lle mae cymorth pellach ar gael, cytunwch ar y cyfarfod nesaf os oes angen.

Tynnwch y sbotolau neu symudwch y cadeiriau ymlaen eto.

Gwahoddwch sylw gan unrhyw un neu bawb yn y grŵp.

Nodiadau

Cofiwch efallai na fyddwch yn mynd trwy'r holl gamau hyn mewn un tro. Mae hynny'n iawn, Mae'n iawn i gwrdd gymaint o weithiau ag y mae angen i chi i gwrdd.

Rydyn ni’n creu gofod dysgu cadarnhaol sy'n un lle ar daith lawer hirach o ddysgu yn ein holl gyfarfodydd a'n rhyngweithio gyda'n gilydd.

Mae dysgu yn y gofod rhithwir yn baratoad ar gyfer dysgu y tu hwnt i argaeledd y lleoedd hyn.

Mae gwrthdaro cynhyrchiol yn cymryd ymarfer, byddwch yn garedig, daliwch ati i ymarfer...

Pethau eraill fydd efallai o ddefnydd

Broccoli Seed Agreement – Gesturing Towards Decolonial Futures

The Transformative Power of Restorative Justice with Charlotte Calkin