Mae ardollau ymwelwyr yn cael eu defnyddio'n llwyddiannus ledled y byd i gefnogi twristiaeth a buddsoddi mewn cymunedau lleol. Rydyn ni eisiau'r un peth i Gymru.
Cynnwys
Cyflwyniad
Drwy godi swm bach ar ymwelwyr sy'n aros dros nos, bydd yr ardoll ymwelwyr yn rhoi arian ychwanegol i awdurdodau lleol ei fuddsoddi mewn twristiaeth yn eu hardal. Mae hyn o fudd i drigolion, busnesau ac ymwelwyr. Bydd yn sicrhau dull tecach a mwy cyfrifol o ymdrin â thwristiaeth.
Y dyddiad cynharaf y gallai hyn ddigwydd yw 2027. Rhaid i gynghorau ymgynghori â'u cymuned leol a rhoi o leiaf 12 mis o rybudd i drigolion a busnesau cyn y gallan nhw gyflwyno ardoll ymwelwyr.
Gwneud penderfyniadau'n lleol
Gallai'r ardoll ymwelwyr godi hyd at £33m y flwyddyn ledled Cymru i'w fuddsoddi yn ein cymunedau a'n twristiaeth, pe bai pob cyngor yn ei chyflwyno.
Bydd gan bob awdurdod lleol y pŵer i ddewis a yw am gyflwyno ardoll ymwelwyr yn ei ardal ai peidio. Bydd hyn yn sicrhau bod penderfyniadau'n cael eu gwneud gan gymunedau lleol, yn seiliedig ar eu hamgylchiadau nhw.
Sefydlu Fforwm Partneriaeth Ardoll Ymwelwyr
Os bydd awdurdod lleol yn penderfynu cyflwyno ardoll ymwelwyr, rhaid iddo sefydlu fforwm gyda busnesau a sefydliadau twristiaeth. Bydd y fforwm yn cynghori ar sut i ddefnyddio'r arian a godir. Bydd hyn yn annog dull cydweithredol rhwng y cynghorau a'r sector twristiaeth.
Sut y caiff refeniw ei ddefnyddio
Bydd arian newydd a godir drwy'r ardoll yn hyrwyddo enw da cyrchfannau ac yn gwella ansawdd bywyd y trigolion. Mae gan ardoll ymwelwyr y potensial i wneud gwahaniaeth sylweddol a gweladwy.
Gallai'r buddsoddiad gael ei ddefnyddio i gefnogi prosiectau sydd o fudd i bawb sy'n byw neu'n gweithio yng Nghymru, neu sy'n ymweld â hi, gan gynnwys:
- Hyrwyddo'r Gymraeg a'i diwylliant mewn ffyrdd sy'n dathlu ac yn diogelu treftadaeth unigryw Cymru.
- Cynnal a gwella'r seilwaith a ddefnyddir gan drigolion ac ymwelwyr. Gallai hyn gynnwys llwybrau troed, canolfannau gwybodaeth i dwristiaid, toiledau cyhoeddus, a meysydd parcio.
- Prosiectau amgylcheddol sy'n gwarchod harddwch naturiol Cymru.
- Prosiectau hygyrchedd sy'n gwneud cyrchfannau yn fwy cynhwysol a hygyrch i bawb.
- Cefnogaeth i dwristiaeth gynaliadwy sydd o fudd i gymunedau lleol.
- Cefnogaeth i dwristiaeth adfywiol sy'n gwarchod yr amgylchedd yn y tymor hir.
- Hyfforddiant i roi cyfleoedd gwaith i bobl leol yn y sector twristiaeth.
Adrodd a thryloywder
Mae atebolrwydd wedi'i ymgorffori yn y system. Bob blwyddyn, bydd awdurdodau lleol yn cyhoeddi adroddiad sy'n dangos y canlynol:
- Faint o refeniw sydd wedi'i gasglu
- Sut y mae wedi cael ei wario yn eu hardal.
Bydd yr adroddiadau hyn ar gael ar-lein. Bydd trigolion, busnesau ac ymwelwyr yn gallu gweld effaith cyfraniadau ymwelwyr.
Dysgu o ardollau ymwelwyr mewn gwledydd eraill
Gall awdurdodau lleol yng Nghymru nawr ddewis a ydyn nhw am gyflwyno ardoll ymwelwyr ai peidio. Wrth alluogi cynghorau i gyflwyno ardoll ymwelwyr, mae Cymru yn dilyn yr hyn sydd wedi'i wneud mewn cyrchfannau gwyliau blaenllaw ledled y byd. Mae Ffrainc, Gwlad Groeg, Portiwgal a Seland Newydd yn enghreifftiau. Bydd ymwelwyr yn helpu i warchod yr hyn sy'n gwneud Cymru yn arbennig.
Ymhlith yr enghreifftiau rhyngwladol llwyddiannus mae:
- Ynysoedd Baleares: Ers 2016, mae'r ardoll yno wedi ariannu 168 o brosiectau gwerth cyfanswm o €263m, gan gynnwys 27 o fentrau gwyrdd yn 2023. Mae mwy na 17m o dwristiaid yn helpu i gynnal traethau, cyfleusterau, a chynefinoedd naturiol.
- Catalwnia a Barcelona: Mae €72m wedi cryfhau seilwaith, diogelu treftadaeth, a hyrwyddo teithio cynaliadwy. Caiff yr arian ei ddefnyddio'n uniongyrchol i wella Barcelona, gan gefnogi diwylliant lleol, a rhoi hwb i brosiectau cymunedol.
- Gwlad yr Iâ: Mae ardoll ymwelwyr yn ariannu gwaith diogelu llwybrau, gwaith cadwraeth a gwaith adfer safleoedd hanesyddol.
- Y Deyrnas Unedig: Fe wnaeth Tâl Ymweld â Dinas Manceinion, sef £1 y noson, gynhyrchu £2.8m yn ei flwyddyn gyntaf – gan ariannu digwyddiadau newydd a rhoi hwb i'r economi leol. Mae Caeredin, Glasgow, Aberdeen ac ardaloedd eraill yn yr Alban yn cynllunio ar gyfer ardoll ymwelwyr. Mae mwy o ddinasoedd yn y DU ar fin dilyn eu hesiampl.
I gael rhagor o wybodaeth am ardollau ymwelwyr ledled y byd gweler: Adolygiad o effeithiau ardollau ymwelwyr mewn cyrchfannau byd-eang.
