Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae disgowntiau ac eithriadau'r Dreth Gyngor yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu aelwydydd sy'n wynebu caledi ariannol, lleihau tlodi ar draws cymunedau, a gwella effeithlonrwydd prosesau casglu treth. Mae llawer o'r darpariaethau hyn wedi bod ar waith ers cyflwyno'r Dreth Gyngor yn 1993, ac mae'n hanfodol sicrhau eu bod yn parhau i adlewyrchu anghenion cyfredol ac yn deg ac yn effeithiol o hyd. 

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i rai o ddisgowntiau, diystyriadau ac eithriadau'r Dreth Gyngor. Gwnaed hyn yn dilyn adolygiad cynhwysfawr o bob categori er mwyn asesu a oedd y trefniadau a oedd yn bodoli yn gydnaws â'n hamcanion polisi ac yn cyfrannu at system deg. Dim ond i Gymru roedd y cynigion hyn yn berthnasol. 

Mae'r crynodeb hwn yn darparu trosolwg o'r ymatebion a gafwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori a oedd yn weithredol o 23 Mai i 15 Awst 2025. Gwahoddwyd ymatebwyr i rannu eu safbwyntiau ar-lein, drwy e-bost neu drwy'r post, a gallent ymateb yn Gymraeg neu'n Saesneg.

Cafwyd cyfanswm o 66 o ymatebion a oedd yn adlewyrchu amrywiaeth eang o safbwyntiau. Nid atebodd pob ymatebydd bob cwestiwn, ond cafodd pob ymateb ei ddadansoddi'n ofalus, ac mae'r ddogfen hon yn cyflwyno'r themâu, y safbwyntiau a'r materion allweddol a godwyd.

Rhestrir cwestiynau'r ymgynghoriad isod, ynghyd â chrynodeb o'r ymatebion. 

Cwestiynau a ymatebion

Cwestiwn 1: Nodwch a ydych yn ymateb fel aelod o'r cyhoedd neu ar ran sefydliad. Dewiswch un opsiwn. 

Cafwyd 66 o ymatebion gan amrywiaeth o randdeiliaid ac aelodau o'r cyhoedd. 

Tabl o ymatebion ar gyfer Cwestiwn 1
Math o Ymatebydd Nifer 
Aelod o'r cyhoedd37
Awdurdod lleol14
Asiantaeth o'r sector cynghori3
Elusen1
Corff proffesiynol neu gynrychioliadol7
Perchennog busnes bach 1
Arall3
Cyfanswm66

At ddibenion adrodd, lle na roddwyd enw sefydliad, rydym wedi tybio bod yr ymatebydd wedi cymryd rhan mewn rhinwedd bersonol. Ceir rhestr o'r ymatebwyr, ac eithrio'r rhai a oedd am aros yn ddienw, yn Atodiad A. Yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), rhestrir unigolion a ofynnodd i'w manylion gael eu cadw'n ôl fel 'Dienw'. 

Cwestiwn 2: I'n helpu i ddeall eich barn, dywedwch wrthym a yw eich aelwyd yn cael disgownt, eithriad neu ostyngiad o unrhyw fath ar y Dreth Gyngor ar hyn o bryd? 

Dewiswch un opsiwn. 

Tabl o ymatebion ar gyfer Cwestiwn 2
YmatebNifer 
Nac ydw, nid wyf yn cael unrhyw ddisgowntiau, eithriadau na gostyngiadau33
Ydw, rwy'n cael disgownt, eithriad neu ostyngiad10
Ddim yn gwybod / ddim yn berthnasol21
Gwell gennyf beidio â dweud2
Cyfanswm66

Crynodeb o'r safbwyntiau am y Gostyngiad Band Anabl 

Cwestiwn 3: Mae gostyngiad yn gymwys i fand Treth Gyngor eiddo er mwyn cydnabod bod angen i rai pobl ag anableddau fyw mewn cartrefi wedi'u haddasu.  A oes gennych unrhyw farn o ran sut y gellir gwella'r Gostyngiad Band Anabl i eiddo wedi'i addasu? 

Rhoddodd cyfanswm o 36 o ymatebwyr adborth ar gyfer y cwestiwn hwn.

Roedd safbwyntiau am y Gostyngiad Band Anabl yn gymysg. Nododd sawl awdurdod lleol fod y cynllun wedi ymsefydlu'n gadarn ac y dylid ei gadw ar ei ffurf bresennol. Mynegodd eraill bryderon nad yw'r cynllun yn dilyn ei ddiben gwreiddiol mwyach, ac y dylid rhoi mwy o bwyslais ar ystyried a yw addasiadau i eiddo o ddifrif wedi arwain at ostyngiad yng ngwerth yr eiddo. Cynigiodd un awdurdod lleol na ddylai'r gostyngiad fod yn berthnasol i gartrefi nyrsio. Adleisiwyd y cynnig hwn gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r Sefydliad Ardrethu a Phrisio Refeniw er iddynt gydnabod y gallai hyn arwain at ganlyniadau anfwriadol, fel ffioedd uwch i breswylwyr. 

Tynnodd un ymatebydd o asiantaeth o'r sector cynghori sylw at sawl her ymarferol, yn enwedig oedi wrth drefnu addasiadau i gartrefi a chwblhau asesiadau. Argymhellodd y dylai'r gostyngiad band fod yn weithredol o ddyddiad cymeradwyo'r Grant Cyfleusterau i'r Anabl, gan sicrhau bod deiliaid yn gymwys o'r adeg honno ymlaen yn hytrach nag aros i'r addasiadau gael eu cwblhau. Cododd yr ymatebydd hefyd bryderon ynghylch diffyg ymwybyddiaeth cyffredinol am y cymorth ariannol sydd ar gael. Nododd y gall hyn olygu bod unigolion hŷn yn arbennig o fregus, ac yn colli allan o bosibl ar gymorth hanfodol gan nad oes gwybodaeth glir a hygyrch ar gael yn ddigon hwylus iddynt. 

Roedd rhai ymatebwyr o'r farn bod y cynllun wedi dyddio ac y dylai fod yn fwy hyblyg gan ymateb i amgylchiadau unigol. Awgrymodd rhai ymatebwyr y dylid disodli'r addasiad band presennol â disgownt canrannol sefydlog, a fyddai, yn eu barn nhw, yn gallu cynnig cymorth tecach, yn enwedig i'r rhai hynny sy'n byw mewn eiddo llai, a chynigiodd eraill y gellid defnyddio profion modd. Cynigiodd eraill y dylid diweddaru'r meini prawf cymhwyso i adlewyrchu cynlluniau tai modern ac i gydnabod addasiadau fel lifftiau grisiau, teclynnau codi ac addasiadau i greu ystafelloedd gwlyb sy'n galluogi unigolion anabl i ddefnyddio cyfleusterau yn ddiogel ac yn annibynnol. Awgrymodd rhai ymatebwyr y dylai unrhyw newidiadau yn y dyfodol gael eu llunio ar y cyd ag unigolion anabl ac arbenigwyr pwnc er mwyn sicrhau bod y cynllun yn darparu cymorth effeithiol. 

Crynodeb o'r safbwyntiau am y diystyriad i ofalwyr 

Cwestiwn 4: Mae dau gategori o ofalwyr y gellir eu diystyru (peidio â'u cyfrif) at ddibenion talu'r Dreth Gyngor. Ydych chi'n cytuno â'r cynnig i ddiweddaru'r diystyriad i ofalwyr a dileu'r darpariaethau nad ydynt bellach yn berthnasol? 

Cafwyd cyfanswm o 59 o ymatebion i'r cwestiwn hwn. 

Roedd mwyafrif sylweddol o'r ymatebwyr (85%) yn cytuno â'r cynnig. Dim ond nifer bach a oedd yn anghytuno (6) ac nid atebodd 3 arall y cwestiwn ond gwnaethant sylwadau. 

Tabl o ymatebion ar gyfer Cwestiwn 4
YmatebNiferCanran       
Ydw5085%
Nac ydw610%
Ni ddarparwyd ymateb 'Ydw' na 'Nac ydw' 35%
Cyfanswm59100%

Roedd cefnogaeth gyffredinol gref ar gyfer dileu'r darpariaethau a oedd wedi dyddio ac nad oeddent yn cael eu defnyddio er mwyn gwella eglurder, tegwch, ac effeithlonrwydd gweinyddol. 

Cwestiwn 5: Rydym o'r farn nad yw categori gofalwr presennol yn gymwys mwyach i unrhyw un yng Nghymru ac nid ydym wedi dod o hyd i unrhyw gofnodion sy'n dangos ei fod yn cael ei ddefnyddio. Ydych chi'n gwybod am unrhyw bobl, neu ydych chi'n berson, sydd: yn ofalwr a gyflogir gan elusen neu gyngor lleol sy'n gweithio o leiaf 24 awr yr wythnos, heb ennill mwy na £44 yr wythnos, ac yn byw mewn annedd a ddarperir gan y sefydliad neu ar ran y sefydliad? 

Tabl o ymatebion ar gyfer Cwestiwn 5
YmatebNiferCanran       
Ydw00%
Nac ydw5797%
Ni ddarparwyd ymateb 'Ydw' na 'Nac ydw'23%
Cyfanswm59100%

Mae'r ymateb amlwg yn awgrymu nad yw'r categori hwn yn berthnasol mwyach neu nad yw'n cael ei ddefnyddio yng Nghymru. 

Cwestiwn 6: Ydych chi'n elusen neu'n gyngor lleol sy'n cyflogi gofalwyr sy'n gweithio o leiaf 24 awr yr wythnos, ond nad ydynt yn ennill mwy na £44 yr wythnos, ac yn darparu annedd y mae'n ofynnol i'r gofalwr fyw ynddo?  

Tabl o ymatebion ar gyfer Cwestiwn 6
YmatebNiferCanran       
Ydw00%
Nac ydw59100%
Ni ddarparwyd ymateb 'Ydw' na 'Nac ydw'00%
Cyfanswm59100%

Mae hyn yn ategu'r farn nad yw'r categori'n berthnasol mwyach ac y gellid cael gwared arno heb gael effaith ymhellach. 

Crynodeb o'r safbwyntiau am y diystyriad i brentisiaid 

Cwestiwn 7: Caiff prentisiaid eu diystyru (ni chânt eu cyfrif) wrth gyfrifo'r Dreth Gyngor ar gyfer aelwyd, ond mae angen diweddaru'r meini prawf cymhwyso. Ydych chi'n cytuno â'r cynnig i addasu'r trothwy enillion ar gyfer prentisiaid yn unol â'r isafswm cyflog cenedlaethol i brentisiaid? 

Cafwyd cyfanswm o 60 o ymatebion i'r cwestiwn hwn. 

Roedd mwyafrif sylweddol o'r ymatebwyr (82%) yn cytuno â'r cynnig. Dim ond nifer bach o'r ymatebwyr (9) a oedd yn anghytuno. Nid atebodd 2 ymatebydd arall y cwestiwn ond gwnaethant sylwadau. 

Tabl o ymatebion ar gyfer Cwestiwn 7
YmatebNifer Canran
Ydw4982%
Nac ydw915%
Ni ddarparwyd ymateb 'Ydw' na 'Nac ydw'23%
Cyfanswm60100%

Roedd yr 14 o awdurdodau lleol a roddodd ymateb o blaid y cynnig ac yn cydnabod y byddai'r newid yn helpu i sicrhau bod y diystyriad yn addas ar gyfer y dyfodol. Adleisiwyd y safbwynt hwn gan chwe ymatebydd arall. 

Roedd un corff proffesiynol o blaid y cynnig ond yn awgrymu y dylid ehangu'r meini prawf cymhwyso i gynnwys prentisiaid o bob oedran, gan hyrwyddo triniaeth gyfartal. Awgrymodd corff cynrychioliadol y dylai'r diystyriad hefyd fod yn berthnasol i brentisiaid sy'n ennill swm uwchlaw'r isafswm cyflog cenedlaethol i brentisiaid. Roedd dau ymatebydd arall o'r un farn. 

Gofynnodd dau ymatebydd a oedd angen y diystyriad i brentisiaid o gwbl, gan awgrymu efallai nad oedd ei angen. 

Crynodeb o'r safbwyntiau am Eithriadau A a C 

Cwestiwn 8: Eithriad A, gall eiddo y mae angen gwneud gwaith atgyweirio sylweddol/strwythurol neu sy'n destun gwaith o'r fath, neu sy'n destun gwaith addasu strwythurol, gael ei eithrio rhag y Dreth Gyngor am gyfnod o hyd at flwyddyn, ond dim ond unwaith y gellir cymhwyso'r eithriad hwn. Ydych chi'n cytuno y dylid diwygio Eithriad A i ddarparu eithriad 12 mis pan fydd perchennog newydd wedi prynu eiddo? 

Cafwyd cyfanswm o 61 o ymatebion i'r cwestiynau hyn. 

Roedd mwyafrif sylweddol o'r ymatebwyr (84%) yn cytuno â'r cynnig. Roedd wyth ymatebydd (13%) yn anghytuno, ac nid atebodd dau (3%) y cwestiwn ond gwnaethant sylwadau. 

Tabl o ymatebion ar gyfer Cwestiwn 8
YmatebNifer Canran
Ydw5184%
Nac ydw813%
Ni ddarparwyd ymateb 'Ydw' na 'Nac ydw'23%
Cyfanswm61100%

Roedd y mwyafrif o'r awdurdodau lleol a ymatebodd (13 allan o 14) o blaid y newid arfaethedig gan ei ddisgrifio fel cam cadarnhaol. Nododd llawer y byddai caniatáu eithriad newydd i berchenogion newydd yn gallu cymell unigolion i brynu ac adnewyddu eiddo gwag neu adfeiliedig, gan gyfrannu at y cyflenwad tai ac ymdrechion adfywio. Tynnodd sawl awdurdod sylw hefyd at y potensial i ymdrin ag achosion tybiedig o annhegwch yn y system bresennol, lle mae perchenogion newydd o bosibl yn colli allan ar eithriadau er gwaethaf y ffaith eu bod yn gwneud gwaith penodol i ddechrau defnyddio eiddo unwaith eto. Adleisiwyd y safbwyntiau hyn gan ymatebwyr eraill. 

Roedd un awdurdod lleol yn anghytuno â'r cynnig, gan ddadlau y gallai atal gwaith adnewyddu amserol, achosi oedi wrth ddychwelyd eiddo i'r farchnad dai, a lleihau refeniw'r Dreth Gyngor, gan o bosibl effeithio ar gyllid ar gyfer gwasanaethau digartrefedd a'r setliad refeniw ehangach ar gyfer awdurdodau lleol. 

Yn ogystal, awgrymodd un ymatebydd, er ei fod o blaid y cynnig, y dylid rhoi disgresiwn i awdurdodau lleol ehangu'r cyfnod eithrio o 12 mis o dan amgylchiadau penodol, fel achosion o oedi yn sgil prosesau hir ar gyfer cael caniatâd cynllunio. 

Cwestiwn 9: Eithriad C, gall eiddo sy'n wag a heb ddodrefn gael ei eithrio rhag y Dreth Gyngor am hyd at 6 mis ar ôl i'r eiddo ddod yn wag, ond dim ond unwaith y gellir cymhwyso'r eithriad hwn. Ydych chi'n cytuno y dylid diwygio Eithriad c i ddarparu eithriad chwe mis newydd pan fydd perchennog newydd wedi prynu eiddo? 

Roedd mwyafrif sylweddol o'r ymatebwyr (84%) yn cytuno â'r cynnig.  Dim ond wyth oedd yn anghytuno ac nid atebodd un ymatebydd y cwestiwn ond gwnaeth sylwadau. 

Tabl o ymatebion ar gyfer Cwestiwn 9
YmatebNifer Canran
Ydw5285%
Nac ydw813%
Ni ddarparwyd ymateb 'Ydw' na 'Nac ydw'12%
Cyfanswm61100%

O blith yr awdurdodau lleol a ymatebodd, roedd 12 allan o 14 o blaid y cynnig, gyda llawer ohonynt yn ailbwysleisio'r rhesymau dros gefnogi'r newid i Eithriad a. 

O'r ddau awdurdod lleol nad oeddent yn cytuno â'r cynnig hwn, roedd un yn poeni bod y cynnig yn rhy hael ac yn awgrymu cyfnod eithrio byrrach o 3 mis i berchennog newydd. Pwysleisiodd y llall bryderon a godwyd yn flaenorol mewn perthynas ag Eithriad a. 

Adleisiodd ymatebwyr eraill eu cefnogaeth gynharach tuag at Eithriad a, ac roedd un unigolyn yn teimlo na ddylai unrhyw eithriad fod yn berthnasol o dan yr amgylchiadau hyn. 

Cwestiwn 10: Ydych chi o'r farn bod cofrestriad â Chofrestrfa Tir EF yn cynnig tystiolaeth ddigonol fod eiddo wedi'i werthu ar gyfer Eithriad a ac Eithriad C? A oes unrhyw dystiolaeth arall y dylid ei darparu? 

Roedd mwyafrif clir o'r ymatebwyr (75%) o blaid y cynnig. I'r gwrthwyneb, roedd 14 o ymatebwyr yn anghytuno ac nid atebodd un y cwestiwn ond gwnaeth sylwadau. 

Tabl o ymatebion ar gyfer Cwestiwn 10
YmatebNiferCanran
Ydw4575%
Nac ydw1423%
Ni ddarparwyd ymateb 'Ydw' na 'Nac ydw'12%
Cyfanswm60100%

Gwnaeth 25 o ymatebwyr sylwadau yn benodol ar dystiolaeth. Awgrymodd llawer ohonynt y dylai dogfennaeth Cofrestrfa Tir EF gynnwys y trafodiad a gwerth y gwerthiant. Fodd bynnag, codwyd pryderon am achosion o oedi yn y broses gofrestru, a allai atal ceisiadau am eithriadau'r Dreth Gyngor rhag cael eu dilysu mewn modd amserol. Er mwyn ymdrin â hyn, argymhellodd sawl ymatebydd y dylid caniatáu mathau amgen o dystiolaeth, fel cadarnhad o'r gwerthiant gan gynrychiolydd cyfreithiol. Pwysleisiodd un ymatebydd bwysigrwydd sicrhau bod y dystiolaeth yn dangos newid perchenogaeth gwirioneddol, yn hytrach na throsglwyddiadau rhwng aelodau o deuluoedd â'r nod o osgoi atebolrwydd i dalu'r Dreth Gyngor. 

Crynodeb o'r safbwyntiau am Eithriad E 

Cwestiwn 11: Caiff eiddo gwag ei eithrio rhag y Dreth Gyngor pan fydd cartref parhaol y person a fyddai'n meddiannu'r eiddo fel arall mewn ysbyty neu gartref gofal preswyl. Ydych chi'n cytuno na ddylid ystyried ysbyty fel cartref hirdymor neu barhaol i rywun?

Cafwyd cyfanswm o 61 o ymatebion i'r cwestiwn hwn. 

Roedd mwyafrif bach iawn o'r ymatebwyr (54%) yn cytuno â'r cynnig. Fodd bynnag, roedd 26 o ymatebwyr (42%) yn anghytuno neu nid oeddent yn siŵr. Nid atebodd dau ymatebydd arall y cwestiwn ond gwnaethant sylwadau. 

Tabl o ymatebion ar gyfer Cwestiwn 11
YmatebNiferCanran
Ydw3354%
Nac ydw1626%
Ddim yn siŵr1016%
Ni ddarparwyd ymateb 'Ydw', 'Nac ydw', 'Ddim yn siŵr' 24%
Cyfanswm61100%

Roedd safbwyntiau ar y cynnig hwn yn gymysg. Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn teimlo na ddylid ystyried ysbytai fel preswylfa barhaol at ddibenion y Dreth Gyngor, gan nodi eu prif ddiben fel cyfleusterau i ddarparu triniaeth feddygol yn hytrach na phreswylfa hirdymor. Nododd un ymatebydd er y gall cyfnodau yn yr ysbyty weithiau fod yn hir, mai darparu gofal clinigol yw eu diben craidd o hyd, nid darparu llety. Tynnodd ymatebwyr eraill sylw at y ffaith bod cleifion fel arfer yn gyfrifol am dreuliau cartref eraill o hyd yn ystod cyfnodau yn yr ysbyty (cyfleustodau, morgais, rhent) ac y dylid trin y Dreth Gyngor yn yr un ffordd. 

Fodd bynnag, awgrymodd sawl sefydliad, gan gynnwys rhai awdurdodau lleol, y Sefydliad Ardrethu a Phrisio Refeniw, a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y gallai eithriadau fod yn berthnasol o dan amgylchiadau penodol. Roedd y rhain yn cynnwys cyfnodau estynedig yn yr ysbyty wrth i unigolion aros i gael eu lleoli mewn cartref gofal preswyl neu pan fyddant yn cael gofal lliniarol neu gan nad yw'n ddiogel symud claf oherwydd ei anafiadau. 

Dadleuodd un sefydliad asiantaeth gynghori na ddylid cosbi cleifion yn ariannol oherwydd oedi wrth eu rhyddhau sydd y tu hwnt i'w rheolaeth. Awgrymodd y dylid ystyried cyfnodau estynedig yn yr ysbyty fel preswylfa barhaol at ddibenion eithrio. Pwysleisiodd y gallai mesur o'r fath leihau straen ariannol yn hytrach nag annog cyfnodau hirach yn yr ysbyty. 

Cynigiodd un awdurdod lleol drothwy o 52 wythnos wrth bennu preswylfa barhaol, sy'n gydnaws â'r Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor presennol, sy'n parhau'n daladwy ar gyfer y cyfnod hwnnw lle mai'r bwriad yw i'r unigolyn ddychwelyd adref. Awgrymodd awdurdod arall drothwy byrrach o 12 wythnos cyn y dylai'r eithriad fod yn berthnasol.

Cwestiwn 12: A oes unrhyw amgylchiadau lle y gellid ystyried ysbyty fel cartref hirdymor neu barhaol i rywun? 

Cynigiodd sawl ymatebydd amrywiaeth o safbwyntiau ar y cwestiwn hwn, gan dynnu sylw at senarios penodol lle gellid yn rhesymol ystyried ysbyty fel cartref hirdymor neu barhaol. 

Cynigiodd 11 o ymatebwyr pan fydd claf yn cael gofal diwedd oes neu ofal lliniarol a'i fod yn annhebygol o adael yr ysbyty neu ddychwelyd adref, y dylid ystyried yr ysbyty fel ei breswylfa barhaol at ddibenion y Dreth Gyngor. Fodd bynnag, nododd un awdurdod lleol y dylid trin achosion o'r fath fel achosion eithriadol a'u hasesu'n unigol, yn hytrach na chynnig newid mewn polisi. 

Awgrymodd pedwar ymatebydd y gellid ystyried bod unigolion sy'n aros yn yr ysbyty am gyfnodau estynedig wrth aros am leoliad gofal preswyl neu becyn gofal addas er mwyn dychwelyd adref yn destun preswyliad hirdymor mewn ysbyty. Roedd tri awdurdod lleol yn cefnogi'r farn hon, gan awgrymu mewn achosion o'r fath bod yr ysbyty i bob pwrpas yn dod yn gartref hirdymor i'r unigolyn. 

Cynigiodd dau ymatebydd pan na fydd gan unigolyn y galluedd i wneud penderfyniadau am ei ofal a bod angen goruchwyliaeth a chymorth parhaus arno na ellid ond eu darparu mewn ysbyty, y gallai hyn gyfiawnhau ystyried yr ysbyty fel ei gartref parhaol. 

Crynodeb o'r safbwyntiau am Eithriad H

Cwestiwn 13: Mae Eithriad H yn eithriad rhag y Dreth Gyngor ar gyfer eiddo gwag a ddelir ar gael i'w ddefnyddio gan weinidogion yr efengyl yn y dyfodol lle byddant yn cyflawni eu dyletswyddau crefyddol. Ydych chi'n cytuno y dylai fod terfyn amser newydd ar Eithriad H i annog y rhai sy'n gyfrifol i beidio â gadael eiddo yn wag ac wedi'i eithrio rhag y Dreth Gyngor am gyfnod amhenodol? 

Cafwyd cyfanswm o 60 o ymatebion i'r cwestiwn hwn. 

Roedd mwyafrif sylweddol o'r ymatebwyr (85%) yn cytuno â'r cynnig. Dim ond 12% o'r ymatebwyr oedd yn anghytuno ac nid atebodd dau ymatebydd y cwestiwn ond gwnaethant sylwadau.

Tabl o ymatebion ar gyfer Cwestiwn 13
YmatebNiferCanran
Ydw5185%
Nac ydw712%
Ni ddarparwyd ymateb 'Ydw' na 'Nac ydw'23%
Cyfanswm60100%

Roedd llawer o'r ymatebwyr o blaid y cynnig gan gydnabod y byddai'n annog ymdrechion i ddechrau defnyddio eiddo gwag eto ac yn hyrwyddo cysondeb yn y ffordd y caiff eiddo gwag ac eiddo gwag hirdymor eu trin fel rhan o system y Dreth Gyngor. 

Fodd bynnag, roedd Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru yn anghytuno â'r cynnig, gan nodi bod Eithriad h yn parhau'n addas at y diben. Mae'r eithriad presennol yn cefnogi gallu'r Eglwys i letya clerigwyr a chynnal gwasanaethau cymunedol. Mae'r rhan fwyaf o'i heiddo preswyl wedi'i feddiannu gan glerigwyr, gyda rhai yn cael eu gosod yn breifat pan na fydd eu hangen ar unwaith. Mae'r eithriad ar gyfer eiddo gwag yn galluogi'r Eglwys i gadw tai i glerigwyr, gan gydnabod y gall gymryd misoedd neu hyd yn oed flynyddoedd i'w recriwtio. Tynnodd yr Eglwys hefyd sylw at y ffaith bod y Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) yn mynnu tenantiaeth o 12 mis o leiaf, nad yw'n gydnaws â'i hangen am hyblygrwydd. O ganlyniad, mae mwy o eiddo yn sefyll yn wag yn hytrach na gosod yr eiddo hwnnw. Mynegodd bryder y gallai dileu'r eithriad arwain at benderfyniadau i werthu eiddo, gan o bosibl leihau presenoldeb clerigwyr mewn rhai cymunedau. 

Cwestiwn 14: Yn eich barn chi, am ba gyfnod rhesymol y gellid gadael eiddo a ddelir ar gael i'w ddefnyddio gan weinidogion yr efengyl yn y dyfodol yn wag cyn iddo ddod yn atebol am dalu'r Dreth Gyngor?  

Roedd y mwyafrif o'r ymatebwyr (57%) o'r farn bod cyfnod o 1 flwyddyn yn gyfnod rhesymol cyn i eiddo ddod yn atebol am dalu'r Dreth Gyngor. Roedd cyfran lai yn cefnogi cyfnodau hwy gyda 12% o blaid 2 flynedd a 5% o blaid 3 blynedd. Dewisodd 23% o'r ymatebwyr "Arall", gyda naw o'r rhain yn cynnig cyfnod o 6 mis. Ni ddewisodd dau ymatebydd ychwanegol amserlen benodol ond gwnaethant sylwadau.  

Tabl o ymatebion ar gyfer Cwestiwn 14
YmatebNifer Canran
1 flwyddyn3457%
2 flynedd712%
3 blynedd35%
Arall58%
Arall: 6 mis 915%
Ni nodwyd unrhyw gyfnod  23%
Cyfanswm60100%

Roedd wyth awdurdod lleol o blaid cyfnod eithrio o 1 flwyddyn, gan awgrymu bod hyn yn gyson â'r ffordd y caiff eiddo gwag arall ac eiddo gwag hirdymor eu trin fel rhan o system y Dreth Gyngor. Nododd un awdurdod y byddai hyn yn gyson â'r eithriad Dosbarth a, ac awgrymodd un arall y byddai'n gydnaws â'i bolisi ar gyfer premiymau'r Dreth Gyngor. Roedd dau awdurdod o blaid cyfnod o 2 flynedd. Cynigiodd un y dylid gweithredu mewn ffordd sy'n gydnaws â'r eithriad Dosbarth F, ac argymhellodd un arall gyfnod o 6 mis er mwyn cyfateb i'r eithriad presennol ar gyfer Dosbarth c. 

Ailbwysleisiodd Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru ei farn fod yr eithriad presennol yn addas at y diben. Fodd bynnag, pe cyflwynwyd terfyn amser, argymhellodd isafswm o 3 blynedd, gan ddechrau ar ôl i Eithriad c ddirwyn i ben. 

Roedd pump ymatebydd o'r farn na ddylai unrhyw eithriad rhag y Dreth Gyngor fod yn berthnasol. 

Cwestiwn 15: A oes amgylchiadau lle na fyddai eiddo gwag a ddelir ar gael i'w ddefnyddio gan weinidogion yr efengyl yn y dyfodol yn gallu bod yn gartref addas? 

Nododd saith ymatebydd lle caiff eiddo gwag ei ddal ar gael i'w ddefnyddio gan weinidogion yr efengyl yn y dyfodol a'i fod wedi'i atodi'n ffisegol i fan addoli â mynediad uniongyrchol, ei bod hi'n annhebygol y gellid cynnig yr eiddo i'w rentu neu i'w werthu fel cartref addas.

Yn yr un modd, tynnodd tri ymatebydd sylw at y ffaith y gallai mynediad cyfyngedig, yn enwedig lle bo'r eiddo o fewn cwrtil tir yr eglwys, hefyd fod yn rhwystr o ran gosod neu werthu'r eiddo at ddefnydd preswyl. 

Nododd Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru fod tai gwag i glerigwyr ar y cyfan yn cael eu cadw mewn cyflwr da i'w defnyddio yn y dyfodol. Fodd bynnag, cydnabu y gall eiddo fod yn wag yn ystod cyfnodau lle caiff clerigwyr eu recriwtio, ac y gall y broses hon fod yn anodd i'w rhagweld, sy'n golygu bod trefniadau gosod preifat hirdymor (e.e., lesoedd 12 mis) yn ymarferol. Lle nad oes angen eiddo am hyd at dair blynedd a'i fod yn addas at ddefnydd preswyl, mae'r Eglwys yn nodi y caiff ei osod ar y farchnad agored. Nododd hefyd fod nifer bach o eiddo wedi'u hintegreiddio'n ffisegol ag adeiladau eglwysi, sy'n golygu nad ydynt yn addas i'w rhentu'n breifat gan nad ydynt ar wahân. Fodd bynnag, nododd fod y mater hwn yn fwy cyffredin yn achos eiddo y mae eglwysi ac enwadau eraill yn berchen arnynt na'r rhai hynny y mae'r Eglwys yng Nghymru yn berchen arnynt. 

I'r gwrthwyneb, nododd 18 o ymatebwyr nad oedd unrhyw amgylchiadau lle na allai eiddo gwag a ddelir ar gael i'w ddefnyddio gan weinidogion yr efengyl yn y dyfodol fod yn gartref addas. 

Crynodeb o'r safbwyntiau am eithriad newydd ar gyfer llochesi 

Cwestiwn 16: Mae llochesi yn cynnig llety dros dro mewn argyfwng i oroeswyr cam-drin domestig. Ydych chi'n cytuno â'r cynnig i eithrio llochesi yng Nghymru rhag talu'r Dreth Gyngor? 

Cafwyd cyfanswm o 60 o ymatebion i'r cwestiwn hwn. 

Roedd mwyafrif clir o'r ymatebwyr (73%) yn cytuno â'r cynnig ac roedd 27% yn anghytuno. 

Tabl o ymatebion ar gyfer Cwestiwn 16
YmatebNifer Canran
Ydw4473%
Nac ydw1627%
Cyfanswm60100%

Dangosodd amrywiaeth o randdeiliaid gefnogaeth eang tuag at y cynnig, gan gynnwys 12 o awdurdodau lleol. Roedd dau awdurdod lleol yn anghytuno â'r cynnig, gydag un yn mynegi pryder y gallai'r cynnig osod cynsail, gan annog darparwyr llety i grwpiau bregus eraill o bosibl i ofyn am eithriadau tebyg. 

Roedd y sector cynghori yn gefnogol, gydag un ymatebydd yn nodi y byddai'r cynnig yn helpu i ddiogelu cynaliadwyedd gwasanaethau lloches ac na ddylid gosod baich y Dreth Gyngor ar oroeswyr pan fyddant yn preswylio mewn lloches. Awgrymodd ymatebydd arall y dylid ehangu'r eithriad i oroeswyr sy'n methu â chael llety mewn lloches ac yn cael eu gorfodi i rentu ail eiddo er mwyn dianc rhag achos o gam-drin. 

Roedd Cymorth i Ferched Cymru (WWA) yn croesawu'r cynnig ac o blaid cyfyngu'r eithriad i ddarpariaeth wedi'i chomisiynu gan awdurdodau lleol, gan y byddai hyn yn helpu i atal achosion o osgoi talu'r Dreth Gyngor. Argymhellodd WWA hefyd y dylai'r cynnig fabwysiadu ffocws ehangach ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol er mwyn adlewyrchu'r iaith sy'n cael ei defnyddio mewn arferion comisiynu lleol yn well. Mynegodd bryder na fyddai diffinio llochesi yn benodol fel llety brys dros dro i oroeswyr cam-drin domestig o reidrwydd yn cynnwys yr amrywiaeth o wasanaethau lloches ledled Cymru yn llawn, sydd hefyd yn cefnogi goroeswyr trais rhywiol, ymosodiadau rhywiol, camfanteisio rhywiol a rheolaeth drwy orfodaeth. Rhybuddiodd WWA y gallai'r diffiniad culach hwn eithrio rhywfaint o'r ddarpariaeth llochesi bresennol yn anfwriadol gan eu gwneud yn anghymwys, er iddo gydnabod nad dyma yw bwriad y cynnig. 

Yn ogystal, mae WWA yn argymell y dylid rhoi mwy o bwyslais ar ddiben y llety yn hytrach na'i fodel penodol. Mae'n awgrymu y byddai hyn yn well o ran helpu awdurdodau lleol i weinyddu modelau gwasanaeth yn y dyfodol ac i adlewyrchu natur ddatblygol llochesi. 

Tynnodd WWA hefyd sylw at ystyriaethau ehangach y tu allan i gwmpas yr ymgynghoriad. 

Crynodeb o'r ymatebion am y Gymraeg 

Cwestiwn 17: Beth fyddai effeithiau tebygol y cynigion ar y Gymraeg yn eich barn chi? Hoffem glywed yn arbennig am unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. 

  • A oes unrhyw gyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol, yn eich barn chi? 

  • A oes unrhyw gyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol, yn eich barn chi?

Cwestiwn 18

Yn eich barn chi, sut y gellid llunio neu newid y cynigion er mwyn: 

  • cael effeithiau cadarnhaol neu effeithiau mwy cadarnhaol ar ddefnyddio'r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg

  • lliniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg

Nid atebodd y mwyafrif o'r ymatebwyr y cwestiynau yn ymwneud ag effaith y polisi arfaethedig ar y Gymraeg. O blith y rhai hynny a ymatebodd, nid oedd rhai ohonynt yn siŵr ynghylch yr effeithiau posibl, ac nid oedd eraill yn credu y byddai'r polisi yn cael unrhyw effaith ar y Gymraeg. 

Crynodeb o'r sylwadau eraill 

Cwestiwn 19: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw bwyntiau cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â nhw’n benodol, defnyddiwch y lle hwn i'w cofnodi

Nododd dau awdurdod lleol yr angen am gyllid ychwanegol i helpu i roi'r newidiadau arfaethedig ar waith. 

Cododd dau ymatebydd bryderon ynghylch atebolrwydd i dalu'r Dreth Gyngor ar ôl i ddeiliad farw, pan fydd yr eiddo naill ai dan gyd-berchenogaeth â rhywun arall neu pan fydd wedi'i osod i'r deiliad. Nododd yr ymatebwyr na fydd teuluoedd sy'n wynebu profedigaeth sy'n berchenogion (neu'n gyd-berchenogion) eiddo yn destun profiant a'u bod felly yn aml yn wynebu taliadau'r Dreth Gyngor o ddyddiad y farwolaeth. I'r gwrthwyneb, ar gyfer ystadau lle mae angen profiant a lle caiff eiddo ei etifeddu, caniateir cyfnod gras o chwe mis cyn dod yn atebol i dalu'r Dreth Gyngor, gan roi amser i deuluoedd ymdrin â'r eiddo a'i gynnwys. 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi'r amrywiaeth o safbwyntiau a rannwyd mewn ymateb i'r ymgynghoriad hwn. Rydym yn parhau'n gwbl ymrwymedig i sicrhau bod y fframwaith o ddisgowntiau, diystyriadau ac eithriadau yn diwallu anghenion cyfredol o hyd a'i fod yn parhau'n deg ac yn effeithiol. Rhoddodd Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024 bwerau mwy hyblyg i Lywodraeth Cymru ddiwygio a chyfuno'r fframwaith cymhleth a chynhaliwyd adolygiad cynhwysfawr o 53 o gategorïau. 

Ar ôl adolygu'r ymatebion i'r ymgynghoriad, bydd y rheoliadau diwygiedig sy'n gwneud darpariaeth ynghylch disgowntiau, disytyriadau ac anheddau eithriedig yn cynnwys y newidiadau canlynol. 

  • Diystyriadau i Ofalwyr a Phrentisiaid: byddwn yn gweithredu fel y cynigiwyd yn yr ymgynghoriad yn hyn o beth.
  • Eithriadau A a C: caiff y rhain eu diweddaru fel y cynigiwyd er mwyn iddynt fod yn berthnasol i eiddo newydd ei brynu, a chaiff perchenogaeth ei dilysu drwy ddogfennau trosglwyddo cyfreithiol neu gofnodion Cofrestrfa Tir EF.
  • Eithriad H: Cyflwynir terfyn amser o flwyddyn. Ar ôl y cyfnod hwn, bydd yr eiddo dan sylw yn dod yn atebol i dalu'r Dreth Gyngor.
  • Eithriad Newydd i Lochesi: cyflwynir eithriad newydd i lochesi, gyda diffiniad sy'n anelu at gynnwys cwmpas llawn gwasanaethau lloches. 

Eithriad E

Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno â'r farn a rannwyd gan lawer o ymatebwyr mai sefydliadau meddygol yw ysbytai, nid anheddau preswyl. Eu prif ddiben yw darparu triniaeth, nid llety hirdymor. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod i rai gleifion, yn enwedig y rhai hynny sy'n aros i gael eu lleoli mewn gofal preswyl, neu na ellir eu rhyddhau'n ddiogel, y gall ysbytai o safbwynt ymarferol ddod yn breswylfa barhaol iddynt. Er ein bod wedi ystyried diwygio'r eithriad mewn achosion yn dilyn diffiniad cul, byddai gwneud hynny yn cyflwyno heriau gweinyddol cymhleth, a fyddai'n gofyn am drefniadau goruchwylio caeth ac a allai arwain at anghysondebau wrth gymhwyso'r eithriad, gan osod baich pellach o bosibl ar weithwyr meddygol proffesiynol i ddilysu amgylchiadau. 

Gan ystyried yr adborth i'r ymgynghoriad a natur gymysg y safbwyntiau, ni chaiff yr eithriad ei newid ar hyn o bryd. 

Gostyngiad band anabl

Nid oedd yr ymgynghoriad yn cynnig unrhyw newidiadau ar hyn o bryd ond gofynnodd am safbwyntiau cyffredinol, a oedd yn llawn gwybodaeth, yn fanwl ac yn gymysg. Bydd y safbwyntiau hyn yn llywio ystyriaethau tymor hwy a gwaith pellach i ddadansoddi effeithiolrwydd y cynllun. Ni fyddai unrhyw newid i'r cynllun yn digwydd yn ystod tymor y Senedd hon a bydd yn destun gwaith ymgysylltu pellach helaeth. 

Ystyriaethau eraill

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu darparu cyllid i awdurdodau lleol ar gyfer costau gweithredu'r newidiadau arfaethedig. Mae hyn yn cynnwys costau sy'n gysylltiedig â diweddaru meddalwedd, diwygiadau i weithdrefnau lleol, a diweddaru deunyddiau cyfathrebu lleol fel gwefannau a ffurflenni. 

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod dau ymatebydd wedi codi pryderon ynghylch atebolrwydd i dalu'r Dreth Gyngor ar ôl i ddeiliad farw, pan fydd yr eiddo naill ai dan gyd-berchenogaeth â rhywun arall neu pan fydd wedi'i osod i'r deiliad. Nid yw'r mater hwn yn rhan o gwmpas yr ymgynghoriad hwn ac nid yw'r fframwaith presennol o ddisgowntiau, diystyriadau ac eithriadau'r Dreth Gyngor yn ymdrin ag ef. Er na chaiff unrhyw newidiadau eu cynnig ar hyn o bryd, nodwyd yr adborth. 

Y camau nesaf

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg wedi gwneud datganiad i'r Senedd. Ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd y camau sydd eu hangen i alluogi'r cynigion, gan ystyried y materion a nodir uchod, i ddod i rym o 1 Ebrill 2026. 

Atodiad a: rhestr o ymatebwyr

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
  • Cyngor Dinas Caerdydd
  • Gofal a Thrwsio Cymru
  • Cyngor Sir Caerfyrddin
  • Cyngor Sir Ceredigion
  • Cyngor ar Bopeth Cymru
  • Cymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad Cymru
  • Cyngor Sir Ddinbych
  • EFT Cyngor Abertawe
  • Cyngor Sir y Fflint
  • Y Sefydliad Ardrethu a Phrisio Refeniw
  • Y Grŵp Diwygio Trethiant Incwm Isel (LITRG)
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
  • Money Advice Plus
  • Cyngor Sir Fynwy
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
  • Cyngor Dinas Casnewydd
  • Cyngor Sir Penfro
  • Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
  • Tanyfoel Holiday Barns
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
  • VTW
  • Cymorth i Ferched Cymru
  • CLlLC
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Cafwyd 14 o ymatebion gan unigolion preifat.

Gofynnodd 26 o'r ymatebwyr am aros yn ddienw.