Neidio i'r prif gynnwy

Gyda chymorth y Gwasanaeth Ynni gosododd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro dechnolegau arbed ynni ar draws sawl safle.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb

Yn 2022 i 2023, datblygodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ei raglen effeithlonrwydd ynni gyda chefnogaeth Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru. Canolbwyntiodd y fenter ar osod ystod o dechnolegau carbon isel ar draws cyfleusterau gofal iechyd, gwella effeithlonrwydd gweithredol a chyfrannu at amgylcheddau gofal cleifion gwell. Ariannwyd y rhaglen drwy fuddsoddiad aml-flwyddyn o £7.1 miliwn gan Re:fit, a disgwylir i'r mesurau dalu'r gost yn ôl o fewn 8 mlynedd.

Ein cefnogaeth

Darparodd y Gwasanaeth Ynni arolygon technegol a chefnogodd gais llwyddiannus y Bwrdd Iechyd am gyllid Re:fit. Yn sgil hyn, bu modd gosod technolegau arbed ynni mewn sawl safle, gan helpu i leihau costau ynni ac allyriadau carbon wrth wella ansawdd y gofal.

Datrysiad technoleg

  • 20,500 o ffitiadau golau LED.
  • 2,500 o baneli solar ffotofoltäig (PV).
  • 23 o wyntyllau effeithlonrwydd uchel.
  • Inswleiddio falf a phibellau.
  • Uwchraddio system rheoli ynni adeiladau, gan gynnwys 48 o welliannau rheolydd ynni.

Buddsoddiad

  • £7.1 miliwn o gyllid Re:fit wedi'i ddyfarnu dros sawl blwyddyn.

Effaith

  • £900,000 o arbedion bob blwyddyn ar filiau ynni.
  • Gwell amgylcheddau gofal cleifion, yn enwedig yn yr Ysbyty Plant.
  • .Yn cefnogi nodau datgarboneiddio GIG Cymru a chynaliadwyedd hirdymor

Mae gosod y gwelliannau ynni hyn wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i'r Ysbyty Plant. Mae'n golygu y gallwn ni ofalu am ein cleifion mewn amgylchedd gwell sy'n cynnig cysur a lles iddynt.

Alison Oliver, Rheolwr y Gyfarwyddiaeth, Gwasanaethau Plant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.