Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwaith uwchraddio a gefnogir gan y Gwasanaeth Ynni wedi lleihau'n sylweddol y defnydd o ynni, allyriadau carbon, a chostau ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb

Rhwng 2017 a 2022, gweithredodd Cyngor Sir Ynys Môn raglen effeithlonrwydd ynni eang mewn 31 o adeiladau, gan gynnwys ysgolion, canolfannau hamdden a swyddfeydd y cyngor fel rhan o'i Strategaeth Effeithlonrwydd Ynni. Gyda chefnogaeth y Gwasanaeth Ynni ac wedi'i gyflawni drwy raglen Re:fit Cymru, mae'r uwchraddiadau wedi lleihau'r defnydd o ynni, allyriadau carbon a chostau gweithredol yn sylweddol.

Ein cefnogaeth

Darparodd y Gwasanaeth Ynni gefnogaeth strategol a thechnegol trwy gydol y prosiect, gan gynnwys canllawiau ar ddewis technoleg, opsiynau cyllido a chaffael, ac asesiadau technegol manwl. Roedd hyn yn galluogi'r cyngor i gyflawni uwchraddiadau effeithiol wedi'u teilwra i'w adnoddau a'i strategaeth gyflawni.

Datrysiad technoleg

  • 752 kWp o baneli solar ffotofoltäig (PV).
  • 4,800 ffitiadau golau LED.
  • 1,050 metr o inswleiddio pibellau.
  • 700 kW o bympiau gwres ffynhonnell aer wedi'u gosod ar draws safleoedd.

Buddsoddiad

  • Cyflenwyd drwy raglen Re:fit Cymru gyda chefnogaeth y Gwasanaeth Ynni.

Effeithiau

  • 31 safle wedi'u huwchraddio.
  • 892 tunnell o CO₂ yn cael ei arbed bob blwyddyn.
  • 3,411 MWh o arbedion ynni y flwyddyn.
  • Gostyngiad o £261,000 mewn biliau ynni blynyddol.
  • Crëwyd 2 swydd leol newydd.
  • Cefnogi amcanion carbon sero net Cyngor Sir Ynys Môn.

Mae rhaglen Re:fit Cymru a Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru wedi bod yn allweddol wrth gyflymu ein hamcanion carbon sero net ac rydym bellach yn bwrw ymlaen â'r gwaith Cam 2 mewn partneriaeth â'n darparwr gwasanaeth dethol, Asset Plus.

Rhys Griffith, Prif Syrfëwr, Cyngor Sir Ynys Môn.

Swyddfeydd Cyngor Ynys Môn, Swyddfeydd Cyngor Llangefni