Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1: Beth mae Llywodraeth Cymru yn ystyried ei wneud a pham?

Mae adran 16 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac Atodlen 1A iddi yn nodi’r personau, neu’r dosbarthiadau o bersonau, sydd wedi’u hanghymwyso rhag bod yn Aelod o’r Senedd. 

Mae adran 16(1)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn caniatáu i Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor (“Gorchymyn Anghymhwyso”) ddynodi swyddi a chyflogaethau pellach, y byddai person sy’n dal un o’r rhai hynny yn cael ei anghymhwyso rhag dod yn Aelod o’r Senedd (ond nid rhag bod yn ymgeisydd i ddod yn Aelod o’r Senedd). 

Cyn pob etholiad cyffredinol i’r Senedd, gwneir Gorchymyn Anghymhwyso newydd sy’n dirymu’r Gorchymyn blaenorol ac yn nodi rhestr newydd o swyddi sy’n anghymhwyso. 

Byddai Gorchymyn drafft Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2025 (“y Gorchymyn Drafft”) yn dirymu ac yn disodli Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020 ac yn dod i rym yn dilyn etholiad pan gynhelir y pôl ar neu ar ôl 6 Ebrill 2026.

Gall deiliaid y swyddi a nodir yn y Gorchymyn drafft sefyll fel ymgeisydd, ond ni allent gymryd y llw i ddod yn Aelod o’r Senedd heb ildio eu swydd yn gyntaf.

Er bod Llywodraeth Cymru o’r farn y dylid cyfyngu ar anghymhwyso person rhag bod yn aelod o’r Senedd i gyn lleied o ddinasyddion â phosibl, rydym yn cydnabod bod gweithgarwch gwleidyddol yn amhriodol i ddeiliaid swyddi penodol. Yn arbennig, mae angen diogelu rhai swyddi cyhoeddus rhag rhagfarn wleidyddol, a sicrhau bod annibyniaeth y broses etholiadol yn cael ei chynnal.

Yn 2014, cynhaliodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ymchwiliad i’r rheolau sy’n ymwneud ag anghymhwyso person rhag bod yn aelod o’r Senedd. Roedd yr ymchwiliad hwnnw yn cynnwys 21 o argymhellion ac yn cynnig trawsnewid y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer anghymhwyso person rhag bod yn aelod o’r Senedd.

Cytunodd Llywodraeth Cymru â phrif fyrdwn adroddiad y Pwyllgor. Roedd y meini prawf ar gyfer pennu pa swyddi a oedd i’w cynnwys yng Ngorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2015 yn seiliedig ar yr egwyddorion a nodwyd yn adroddiad y Pwyllgor, gan gynnwys rhai ystyriaethau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Mae’r un meini prawf ac egwyddorion wedi parhau i gael eu cymhwyso wrth ystyried y swyddi i’w cynnwys yn y Gorchymyn drafft, a fydd yn dirymu ac yn disodli’r gorchymyn presennol, sef Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020.

Mae’r meini prawf ar gyfer pennu pa swyddi ac aelodaeth o gyrff y dylid eu cynnwys yn y Gorchymyn drafft fel a ganlyn:

Egwyddorion cyffredinol a nodwyd yn argymhelliad 1 o adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: 

  • Egwyddor 1: Mae hyrwyddo cyfranogiad democrataidd a’r hawl i sefyll fel Aelod o’r Senedd yn hollbwysig.
  • Egwyddor 2: Dylai anghymhwyso person rhag bod yn aelod o Senedd Cymru gael ei gyfyngu i gyn lleied o ddinasyddion â phosibl.
  • Egwyddor 3: Mae gweithgarwch gwleidyddol yn amhriodol yng nghyswllt rhai dinasyddion er mwyn:
    • amddiffyn annibyniaeth y broses etholiadol
    • atal gwrthdaro rhag codi rhwng buddiannau pan gaiff unigolyn ei ethol
    • amddiffyn rhai swyddi cyhoeddus rhag rhagfarn wleidyddol
  • Egwyddor 4: Dylai gorchymyn anghymhwyso fod yn berthnasol i’r dinasyddion canlynol:
    • y rheini y mae eu rôl yn gofyn iddynt fod yn gwbl ddiduedd, gan gynnwys y rheini y mae eu cyfrifoldebau’n cynnwys y broses etholiadol ei hun
    • y rheini sy’n dal unrhyw swydd gyhoeddus lle derbynnir budd ariannol sylweddol oddi wrth Lywodraeth Cymru
    • y rheini sydd mewn swydd gyhoeddus ac  yn darparu cyngor ffurfiol i Lywodraeth Cymru yn y rôl honno
    • y rheini sy’n dal unrhyw swydd gyhoeddus y mae'r Senedd yn craffu arni
  • Egwyddor 5: Os oes rhaid anghymhwyso, rhaid iddynt fod:
    • yn gyson â’r egwyddorion hyn
    • yn glir ac yn ddiamwys
    • yn gymesur
  • Dylai’r swyddi a ddisgrifir yn argymhelliad 12 o adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol fod yn swyddi sy’n anghymwyso, a dylid eu cynnwys yn y Gorchymyn Anghymhwyso oni bai eu bod eisoes yn swyddi sy’n anghymhwyso o dan adran 16 o Ddeddf 2006.
  • Dylai aelodau o dribiwnlysoedd barnwrol gael eu hanghymhwyso.
  • Fel arfer, dylai personau a benodir gan Weinidogion Cymru gael eu hanghymhwyso, ond gall fod achosion lle na ddylid anghymhwyso personau o’r fath (ac os felly bydd ystyried y pum egwyddor y cyfeirir atynt uchod yn bwysig).
  • Ni ddylid anghymhwyso staff cyhoeddus fel y disgrifir yn argymhelliad 13 o adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol (e.e. staff Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, yr Heddlu, Awdurdodau Tân ac Achub, Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru). Mae Llywodraeth Cymru o’r farn y gellir tybio’n ddiogel y byddai staff o’r fath yn rhoi’r gorau i’w cyflogaeth pe baent yn cael eu hethol, gan y byddai parhau â chyflogaeth o’r fath ar yr un pryd â chyflawni cyfrifoldebau aelodau’r Senedd yn rhoi gofynion amhosibl ar yr unigolyn. 

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 

Mae cyfatebiaeth glir rhwng y Gorchymyn drafft a’r pum ffordd o weithio a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (“Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol”). Trwy gydol y gwaith o ddatblygu’r cynnig hwn, mae’r Pum Ffordd o Weithio wedi’u hystyried a rhoddir sylw iddynt isod.

Ffyrdd o weithio: hirdymor 

Er bod Llywodraeth Cymru o’r farn y dylid cyfyngu ar anghymhwyso person rhag bod yn aelod o’r Senedd i gyn lleied o ddinasyddion â phosibl, rydym yn cydnabod bod gweithgarwch gwleidyddol yn amhriodol i ddeiliaid swyddi penodol. Yn arbennig, mae angen diogelu rhai swyddi cyhoeddus rhag rhagfarn wleidyddol, a sicrhau bod annibyniaeth y broses etholiadol yn cael ei chadarnhau. Mae hyn yn sicrhau bod prosesau sydd ynghlwm wrth gynnal etholiad yn cael eu diogelu ar gyfer y tymor hir. Mae’r Gorchymyn drafft hefyd yn nodi’n glir sut y caiff cyfrifoldebau deiliaid y swyddi ac aelodau’r cyrff hynny sydd wedi’u hanghymwyso eu dosbarthu, ac mae hyn yn galluogi gwell cydweithio. 

Ffyrdd o weithio: atal 

Trwy ddirymu ac ailwneud y Gorchymyn drafft, gan felly gryfhau trefniadau gweinyddu etholiadau, bydd hyn yn helpu i sicrhau dulliau gwydn ar gyfer eu cynnal yn y dyfodol. 

Ffyrdd o weithio: integreiddio 

Mae’r Gorchymyn drafft yn un rhan o ddeddfwriaeth gysylltiedig a fydd yn helpu i gynnal etholiadau’r Senedd yn 2026. 

Ffyrdd o weithio: cydweithredu

Rydym wedi gweithio’n agos gyda swyddogion polisi ar draws Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y Gorchymyn drafft yn cael ei ddiweddaru o ran newidiadau polisi a newidiadau deddfwriaethol. Rydym hefyd wedi gweithio gyda’n rhanddeiliaid etholiadol i geisio eu barn ar y swyddi a’r cyrff sydd wedi’u cynnwys yn y Gorchymyn, a byddwn yn parhau i wneud hynny cyn yr etholiad i’r Senedd yn 2026. 

Ffyrdd o weithio: cyfranogiad 

Cynhaliwyd ymgynghoriad gyda swyddogion polisi ledled Llywodraeth Cymru, a chynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus hefyd. Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wybod hefyd i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, Arweinwyr Pleidiau a’r Llywydd am yr ymgynghoriad. Ystyriwyd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn fanwl a byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid drwy gydol y gwaith o weithredu’r Gorchymyn drafft. 

Effaith y Cynnig: sicrhau bod y drefn yn gyfredol 

Mae’r Gorchymyn drafft yn eitem gyffredin o is-ddeddfwriaeth sy’n disodli ac yn diweddaru deddfwriaeth sy’n bodoli eisoes, fel sy’n arferol ar gyfer pob etholiad i’r Senedd. Trwy sicrhau bod y swyddi a’r cyrff hynny sydd wedi’u cynnwys yn y Gorchymyn Anghymhwyso yn gyfredol, mae hyn yn sicrhau y gellir cynnal yr etholiadau i’r Senedd sydd ar ddod mor effeithiol â phosibl. 

Mecanwaith y cynnig 

Mae angen is-ddeddfwriaeth i gyflawni’r Gorchymyn drafft. 

Adran 8: casgliad

Sut y mae pobl y mae’r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi eu cynnwys yn y gwaith o’i ddatblygu?

Yn ei hymateb i adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ymgynghori ar Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2015, ac yn sgil ymgynghori ar y Gorchymyn drafft, rydym wedi parhau i anrhydeddu’r ymrwymiad hwnnw. Ymgynghorwyd ynghylch y Gorchymyn drafft gyda swyddogion polisi Llywodraeth Cymru ac fe’i cyhoeddwyd ar wefan Llywodraeth Cymru am gyfnod o wyth wythnos, rhwng 30 Mai 2025 a 25 Gorffennaf 2025. Ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai hefyd at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, Arweinwyr Pleidiau a’r Llywydd i roi gwybod iddynt am yr ymgynghoriad. Ystyriwyd yr ymatebion yn fanwl ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben ac maent ar gael yma.

Mae’r Gorchymyn drafft yn dechnegol ei natur ac yn benodol o ran y modd y caiff ei gymhwyso i’r bobl sydd wedi’u penodi i’r swyddi dynodedig. Yn rhan o’r broses ymgynghori, cysylltodd swyddogion yn uniongyrchol, drwy e-bost, â phawb sy’n dal swydd sy’n anghymwyso ar y diwrnod y cyhoeddwyd yr ymgynghoriad er mwyn codi ymwybyddiaeth ohono a sicrhau’r cyfnod hiraf o amser i ymateb.

Roedd y ddogfen ymgynghori ar gael yn Gymraeg a Saesneg er mwyn cynnal yr ymgynghoriad yn ddwyieithog. 

Cafodd yr holl sefydliadau a ychwanegwyd at y Gorchymyn drafft ar ôl yr ymgynghoriad wybod yn uniongyrchol, drwy e-bost, y byddai’r swyddi sy’n berthnasol i’w sefydliad yn cael eu cynnwys yn y Gorchymyn drafft.

Beth yw’r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

Yn sgil y Gorchymyn drafft, ni nodwyd unrhyw effaith ar bobl a diwylliant Cymru ac ar y Gymraeg, yn ogystal ag economi ac amgylchedd Cymru. Ni nodwyd unrhyw gostau ar gyfer y ddeddfwriaeth hon. 

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. Yn sgil natur benodol y Gorchymyn hwn, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn drafft.

Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig: 

  • yn cyfrannu cymaint â phosibl at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant; a/neu,

  • yn osgoi, yn lleihau, neu’n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Amherthnasol.

Sut y bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a’i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau? 

Cyn pob etholiad cyffredinol i’r Senedd, gwneir Gorchymyn Anghymhwyso newydd sy’n dirymu’r Gorchymyn blaenorol ac yn nodi rhestr newydd o swyddi sy’n anghymhwyso. Cyn yr etholiad cyffredinol nesaf i’r Senedd, bydd pob swydd sydd wedi’i anghymwyso gan Orchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2025 yn cael ei adolygu a bydd Gorchymyn Anghymhwyso newydd yn cael ei lunio i adlewyrchu unrhyw newidiadau y mae eu hangen.