Safonau cyfathrebu a gwybodaeth hygyrch mewn gofal iechyd (WHC/2025/038)
Llythyr at weithwyr iechyd proffesiynol yn nodi sut y datblygodd y safonau a pha bolisïau maen nhw'n eistedd ochr yn ochr â nhw.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Manylion
Statws:
- Cydymffurfio – cyrff GIG.
- Gweithredu – practisau meddygon teulu.
Categori:
- Y gweithlu.
- Ystadau.
- Ansawdd a diogelwch.
- Deddfwriaeth.
- Llywodraethu.
- Perfformiad.
- Cyflenwi.
- Technoleg gwybodaeth.
- Cynllunio.
- Iechyd cyhoeddus.
- Polisi.
Teitl:
Safonau cyfathrebu a gwybodaeth hygyrch GIG Cymru.
Dyddiad dod i ben:
22 Medi 2027.
I’w weithredu gan:
Cyrff GIG Cymru.
Angen gweithredu erbyn:
22 Medi 2025.
Anfonwr:
Cariad Hazard Dirprwy Gyfarwyddwr, Strategaeth a Pholisi Trawsbynciol a Busnes Corfforaethol.
Enwau cyswllt Llywodraeth Cymru:
Lewis Owen a Becky Gorman,
Tîm Cydraddoldeb,
Grwp Iechyd Gofal Cymdeithasol a Blynyddoedd Cynnar
HSCEYG.EqualityTeam@gov.wales
Dogfennau amgaeedig:
Safonau cyfathrebu a gwybodaeth hygyrch GIG Cymru (gan gynnwys gweithdrefn weithredu safonol comisiynu gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd ym maes gofal iechyd sylfaenol ac argyfwng, a Safon Gwybodaeth Hygyrch (AIS) ar gyfer practisau meddygon teulu sydd wedi’i ddiweddaru).
Safonau cyfathrebu a gwybodaeth hygyrch mewn gofal iechyd.
Safon gwybodaeth hygyrch (AIS) ar gyfer practisau meddygon teulu.
Safonau cyfathrebu a gwybodaeth hygyrch GIG Cymru
Gweithredwyd 'Safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth ar gyfer pobl â cholled synhwyraidd (y safonau)' yn 2013 i ddatgymalu'r rhwystrau i ofal iechyd i bobl sydd â cholled synhwyraidd. Yn 2023, adolygodd Llywodraeth Cymru effeithiolrwydd y safonau ac archwilio'r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth gael mynediad at ofal iechyd.
Mewn cydweithrediad â chynrychiolwyr o GIG Cymru a phartneriaid allanol, datblygodd Llywodraeth Cymru argymhellion a chamau gweithredu gyda'r nod o gael gwared ar rwystrau a sicrhau bod anghenion cyfathrebu a gwybodaeth cleifion, defnyddwyr gwasanaeth, rhieni a gofalwyr yn cael eu diwallu'n gyson. Ym mis Hydref 2023, cymeradwyodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yr argymhellion i ehangu ac adnewyddu safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth hygyrch i bobl â cholled synhwyraidd.
Gelwir y safonau wedi'u hadnewyddu bellach yn safonau Cymru gyfan y GIG ar gyfer darparu gwybodaeth hygyrch a chyfathrebu, a byddant bellach hefyd yn cynnwys:
- cleifion nad Saesneg na Chymraeg yw eu prif iaith
- cleifion sydd â rhwystrau iaith a chyfathrebu oherwydd anabledd, dementia, cyflyrau iechyd meddwl neu anawsterau dysgu
- cleifion sydd â rhwystrau iaith a chyfathrebu sy'n deillio o niwroamrywiaeth
- cleifion sydd â rhwystrau iaith a chyfathrebu sy'n deillio o lythrennedd isel
- a rhieni a gofalwyr (cleifion) sydd â rhwystrau iaith neu gyfathrebu
Mae'r safonau bellach yn cynnwys set o fesurau a dangosyddion y bydd yn ofynnol i gyrff y GIG gasglu data ar eu cyfer, a darparu diweddariadau yn eu herbyn, fel rhan o'u hadroddiadau sicrwydd polisi cynllun cydraddoldeb strategol bob dwy flynedd.
Mae'r Safon Gwybodaeth Hygyrch (AIS) hefyd wedi'i diweddaru i adlewyrchu'r safonau wedi'u hadnewyddu a bydd nawr yn rhan o'r pecyn safonau cyfathrebu a gwybodaeth hygyrch ehangach.
Mae gweithdrefn weithredu safonol ar gyfer comisiynu gwasanaethau dehongli a chyfieithu hefyd wedi'i datblygu i eistedd ochr yn ochr â'r safonau i sicrhau cysondeb ac ansawdd wrth ddarparu gwasanaethau iechyd mewn ieithoedd cymunedol.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â chyrff a rhanddeiliaid y GIG i sicrhau bod gweithredu'n effeithiol ac yn effeithlon wrth fynd i'r afael ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth yr holl gleifion a defnyddwyr gwasanaeth.
Disgwylir i fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd roi trefniadau ar waith i sicrhau bod y safonau hyn yn cael eu mabwysiadu'n llawn ac yn cynnwys prosesau i dderbyn, coladu ac ymateb i bryderon a fynegwyd gan eu cymuned iechyd lle nad yw'r Safonau hyn wedi'u cynnal.
