Neidio i'r prif gynnwy

Manylion

Statws:

  • Cydymffurfio – cyrff GIG.
  • Gweithredu – practisau meddygon teulu.

Categori:

  • Y gweithlu.
  • Ystadau.
  • Ansawdd a diogelwch.
  • Deddfwriaeth.
  • Llywodraethu.
  • Perfformiad.
  • Cyflenwi.
  • Technoleg gwybodaeth.
  • Cynllunio.
  • Iechyd cyhoeddus.
  • Polisi.

Teitl:

Safonau cyfathrebu a gwybodaeth hygyrch GIG Cymru.

Dyddiad dod i ben:

22 Medi 2027.

I’w weithredu gan:

Cyrff GIG Cymru.

Angen gweithredu erbyn:

22 Medi 2025.

Anfonwr:

Cariad Hazard Dirprwy Gyfarwyddwr, Strategaeth a Pholisi Trawsbynciol a Busnes Corfforaethol.

Enwau cyswllt Llywodraeth Cymru:

Lewis Owen a Becky Gorman,
Tîm Cydraddoldeb,
Grwp Iechyd Gofal Cymdeithasol a Blynyddoedd Cynnar
HSCEYG.EqualityTeam@gov.wales

Dogfennau amgaeedig:

Safonau cyfathrebu a gwybodaeth hygyrch GIG Cymru (gan gynnwys gweithdrefn weithredu safonol comisiynu gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd ym maes gofal iechyd sylfaenol ac argyfwng, a Safon Gwybodaeth Hygyrch (AIS) ar gyfer practisau meddygon teulu sydd wedi’i ddiweddaru).

Safonau cyfathrebu a gwybodaeth hygyrch mewn gofal iechyd.

Safon gwybodaeth hygyrch (AIS) ar gyfer practisau meddygon teulu.

Gweithdrefn weithredu safonol comisiynu gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd ym maes gofal iechyd sylfaenol ac argyfwng.

Safonau cyfathrebu a gwybodaeth hygyrch GIG Cymru

Gweithredwyd 'Safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth ar gyfer pobl â cholled synhwyraidd (y safonau)' yn 2013 i ddatgymalu'r rhwystrau i ofal iechyd i bobl sydd â cholled synhwyraidd. Yn 2023, adolygodd Llywodraeth Cymru effeithiolrwydd y safonau ac archwilio'r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth gael mynediad at ofal iechyd.

Mewn cydweithrediad â chynrychiolwyr o GIG Cymru a phartneriaid allanol, datblygodd Llywodraeth Cymru argymhellion a chamau gweithredu gyda'r nod o gael gwared ar rwystrau a sicrhau bod anghenion cyfathrebu a gwybodaeth cleifion, defnyddwyr gwasanaeth, rhieni a gofalwyr yn cael eu diwallu'n gyson. Ym mis Hydref 2023, cymeradwyodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yr argymhellion i ehangu ac adnewyddu safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth hygyrch i bobl â cholled synhwyraidd.

Gelwir y safonau wedi'u hadnewyddu bellach yn safonau Cymru gyfan y GIG ar gyfer darparu gwybodaeth hygyrch a chyfathrebu, a byddant bellach hefyd yn cynnwys:

  • cleifion nad Saesneg na Chymraeg yw eu prif iaith
  • cleifion sydd â rhwystrau iaith a chyfathrebu oherwydd anabledd, dementia, cyflyrau iechyd meddwl neu anawsterau dysgu
  • cleifion sydd â rhwystrau iaith a chyfathrebu sy'n deillio o niwroamrywiaeth
  • cleifion sydd â rhwystrau iaith a chyfathrebu sy'n deillio o lythrennedd isel
  • a rhieni a gofalwyr (cleifion) sydd â rhwystrau iaith neu gyfathrebu

Mae'r safonau bellach yn cynnwys set o fesurau a dangosyddion y bydd yn ofynnol i gyrff y GIG gasglu data ar eu cyfer, a darparu diweddariadau yn eu herbyn, fel rhan o'u hadroddiadau sicrwydd polisi cynllun cydraddoldeb strategol bob dwy flynedd.

Mae'r Safon Gwybodaeth Hygyrch (AIS) hefyd wedi'i diweddaru i adlewyrchu'r safonau wedi'u hadnewyddu a bydd nawr yn rhan o'r pecyn safonau cyfathrebu a gwybodaeth hygyrch ehangach.

Mae gweithdrefn weithredu safonol ar gyfer comisiynu gwasanaethau dehongli a chyfieithu hefyd wedi'i datblygu i eistedd ochr yn ochr â'r safonau i sicrhau cysondeb ac ansawdd wrth ddarparu gwasanaethau iechyd mewn ieithoedd cymunedol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â chyrff a rhanddeiliaid y GIG i sicrhau bod gweithredu'n effeithiol ac yn effeithlon wrth fynd i'r afael ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth yr holl gleifion a defnyddwyr gwasanaeth.

Disgwylir i fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd roi trefniadau ar waith i sicrhau bod y safonau hyn yn cael eu mabwysiadu'n llawn ac yn cynnwys prosesau i dderbyn, coladu ac ymateb i bryderon a fynegwyd gan eu cymuned iechyd lle nad yw'r Safonau hyn wedi'u cynnal.