Daeth yr ymgynghoriad i ben 1 Rhagfyr 2025.
Adolygu ymatebion
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym yn ceisio barn ar ganllawiau anstatudol drafft newydd i awdurdodau lleol ac ysgolion ar lunio, datblygu ac adolygu cynlluniau addysg personol.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae'r ymgynghoriad hwn yn croesawu eich barn ar ganllawiau anstatudol drafft newydd i awdurdodau lleol ac ysgolion ar lunio, datblygu ac adolygu cynlluniau addysg personol. Nod y canllaw yw:
- cefnogi awdurdodau lleol ac ysgolion neu lleoliadau i wneud y broses o lunio cynllun addysg personol yn fwy ystyrlon ac effeithiol i blant sy’n derbyn gofal
- gosod y cyddestun i awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswydd statudol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i sicrhau bod gan bob plentyn sy'n derbyn gofal gynllun addysg personol o ansawdd uchel nes y bydd yn gorffen addysg statudol
Dogfennau ymgynghori
Dogfen ymgynghori: cyfeillgar i ieuenctid , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 940 KB
Help a chymorth
Mae fersiynau o'r ddogfen hon ar gael mewn print bras, Braille ac mewn ieithoedd eraill o ofyn amdanynt.
