Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cafodd Safonau Cymru Gyfan ar gyfer Darparu Gwybodaeth Hygyrch a Chyfathrebu eu lansio ddoe, ac maent bellach yn cael eu rhoi ar waith gan GIG Cymru. Yn 2023, cynhaliodd Llywodraeth Cymru adolygiad o effeithiolrwydd Safonau Cymru Gyfan ar gyfer Darparu Gwybodaeth Hygyrch i Bobl â Nam ar eu Synhwyrau a Chyfathrebu â Hwy, gan edrych ar y rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth ddefnyddio gwasanaethau gofal iechyd. Buom yn cydweithio'n agos ac yn helaeth â chynrychiolwyr o holl gyrff GIG Cymru a phartneriaid allanol. Yn sgil y gwaith hwnnw, fe wnaethom ddatblygu argymhellion a chamau gweithredu sydd â'r nod o ddileu rhwystrau a sicrhau bod anghenion cyfathrebu a gwybodaeth cleifion, defnyddwyr gwasanaeth, rhieni, a gofalwyr yn cael eu diwallu mewn modd cyson.
Ar ôl eu hadnewyddu, mae’r safonau bellach yn cynnwys cleifion nad ydynt yn defnyddio Saesneg na'r Gymraeg fel eu prif iaith; a chleifion sy'n wynebu rhwystrau iaith a chyfathrebu oherwydd anabledd, dementia, cyflyrau iechyd meddwl, neu anawsterau dysgu, yn ogystal â rhwystrau iaith a chyfathrebu sy'n deillio o niwrowahaniaeth neu lythrennedd isel. Maent hefyd yn cynnwys rhieni a gofalwyr (cleifion) sydd eu hunain yn wynebu rhwystrau iaith neu gyfathrebu.
Mae'r safonau hefyd yn cyd-fynd â'r Weithdrefn Weithredu Safonol ar gyfer comisiynu gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd/dehongli mewn gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol a gofal mewn argyfwng, a'r Safon ar gyfer Darparu Gwybodaeth Hygyrch i Bractisau Meddygon Teulu. Mae'r Weithrefn Weithredu Safonol yn ddogfen ganllaw gynhwysfawr ar gyfer staff y GIG i sicrhau bod safonau cyson yn cael eu cynnal wrth gomisiynu gwasanaethau cyfieithu a/neu gyfieithu ar y pryd / dehongli. Mae'r Safon ar gyfer Darparu Gwybodaeth Hygyrch yn cyfarwyddo ac yn diffinio dull gweithredu penodol a chyson i bractisau meddygon teulu ei ddefnyddio ar gyfer nodi, cofnodi, amlygu, rhannu, a diwallu anghenion gwybodaeth a chyfathrebu cleifion, defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr, a rhieni.
Cyhoeddwyd y Safon ar gyfer Darparu Gwybodaeth Hygyrch drwy Gylchlythyr Iechyd Cymru yn 2018, ac mae wedi'i hintegreiddio yn y safonau diwygiedig er mwyn sicrhau cysondeb. Gyda'i gilydd, bydd y safonau diwygiedig a'r Weithdrefn Weithredu yn helpu i "sicrhau y gall pob dinesydd gael gwasanaethau iechyd a gofal amserol yn deg, waeth beth fo’i anghenion o ran iaith neu fformat cyfathrebu" – sef cam gweithredu allweddol yn y cynllun Cymru Iachach.
Mae'r safonau newydd yn cyd-fynd yn uniongyrchol â'r ddyletswydd ansawdd sydd ar waith yma yng Nghymru i sicrhau bod Gweinidogion Cymru a chyrff y GIG yn gweithredu i wella ansawdd y gwasanaethau y maent yn eu darparu. Mae’r ddyletswydd yn adlewyrchu ein huchelgais i ddarparu gwasanaethau iechyd o safon gynyddol uwch sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Bydd y gwaith o weithredu Safonau newydd Cymru Gyfan ar gyfer Darparu Gwybodaeth Hygyrch a Chyfathrebu yn cael ei ategu gan ddull cydweithredol sy'n ystyriol o drawma. Mae hyn er mwyn sicrhau bod anghenion cleifion a defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu trin gyda chysondeb a thosturi. Er mwyn cryfhau'r ethos cydweithredol hwn ymhellach, mae arferion da yn cael eu rhannu ymhlith rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol. Drwy feithrin sianeli cyfathrebu agored ac annog cefnogaeth gydfuddiannol, nod GIG Cymru yw gosod meincnod cenedlaethol ar gyfer gofal iechyd hygyrch a theg.
Wrth i’r dyfodol, bydd cyfres o weithdai yn cael eu cynnal drwy gydol yr hydref. Nod y sesiynau hyn yw dod â rhanddeiliaid at ei gilydd i drin a thrafod y safonau, gan ddarparu adborth arnynt a helpu i lywio sut maent yn cael eu cymhwyso'n ymarferol. Bydd y ddeialog barhaus hon yn sicrhau bod lleisiau'r rheini sy'n defnyddio ac yn darparu gwasanaethau'r GIG yn helpu i lywio pob cam o'r broses, gan gadarnhau ymrwymiad a rennir i sicrhau bod cyfathrebu hygyrch ar gael i bawb.
