Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Yn dilyn asesiad yn erbyn fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio GIG Cymru ym mis Chwefror 2025, lefel uwchgyfeirio Iechyd a Gofal Digidol Cymru yw lefel 3 ar gyfer perfformiad a chanlyniadau mewn perthynas â rhaglenni mawr.

Dyma'r tro cyntaf i Iechyd a Gofal Digidol Cymru fod yn destun uwchgyfeirio.

Pennir lefel 3 (monitro uwch) pan fydd Llywodraeth Cymru wedi nodi pryderon difrifol yn ymwneud â sefydliad y GIG. Bydd monitro’n digwydd yn amlach nag o dan drefniadau arferol, a hynny o bosibl drwy amrywiaeth ehangach o ffyrdd, gan gynnwys rhyngweithiadau a chyfarfodydd rheolaidd yn ogystal â chyflwyno diweddariadau ysgrifenedig ar gynnydd a thystiolaeth, gan gynnwys cynlluniau gweithredu wedi'u diweddaru a data ansoddol a meintiol. Bydd angen i sefydliad y GIG ddangos ei fod yn ymateb mewn modd rhagweithiol i'r lefel uwchgyfeirio, a bydd angen iddo roi prosesau effeithiol ar waith i fynd i'r afael â'r broblem hon neu broblemau hyn ac ysgogi gwelliant ei hun. Bydd Llywodraeth Cymru yn cydlynu gweithgarwch i fonitro cynnydd yn agos, ei herio a'i adolygu.

Fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio GIG Cymru

Mae fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio GIG Cymru yn nodi proses Llywodraeth Cymru ar gyfer goruchwylio cyrff y GIG a chael sicrwydd drwy'r system gyfan. Mae'n disgrifio'r broses uwchgyfeirio, isgyfeirio ac ymyrryd, y 5 lefel uwchgyfeirio a'r parthau y caiff pob corff iechyd ei asesu yn eu herbyn.

Yn ystod yr uwchgyfeirio, bydd yr ymyriadau:

  • yn gydweithredol: byddwn yn ceisio lleihau achosion o ddyblygu drwy gydweithio â phwyllgorau, grwpiau a rhaglenni cenedlaethol eraill
  • ar y cyd: byddwn yn gwneud y defnydd gorau o wybodaeth a rennir drwy rannu dulliau gweithredu, adnoddau a chanllawiau cyffredin
  • yn canolbwyntio ar effaith: byddwn yn archwilio ac yn ceisio sicrwydd a thystiolaeth o ran y ffordd y mae sefydliadau'n cael sicrwydd ynglŷn â'r broses o roi camau gweithredu ar waith a'u heffaith
  • yn cael eu cynnal mewn modd agored, yn dryloyw, gydag ymddiriedaeth a pharch ar y cyd rhwng y bwrdd iechyd, Llywodraeth Cymru a Gweithrediaeth y GIG

Tra bydd y sefydliad yn destun uwchgyfeirio:

  • bydd trefniadau rheoli perfformiad arferol yn parhau drwy gyfarfodydd ansawdd, cynllunio a chyflawni integredig a chyfarfodydd y tîm gweithredol ar y cyd
  • bydd cyfarfodydd y tîm gweithredol ar y cyd ym mis Mehefin a mis Hydref 2025 yn bwyntiau adolygu ffurfiol fel rhan o'r monitro uwch
  • caiff cyfarfodydd cyswllt monitro uwch eu hintegreiddio â chyfarfodydd ansawdd, cynllunio a chyflawni integredig a amserlennwyd a'u defnyddio i archwilio'r cynnydd a wnaed yn erbyn y cofnodlyfr gweithredu, adolygu tystiolaeth a chytuno ar allbynnau i'w cynnwys yn y cyfarfodydd uwchgyfeirio a arweinir gan Lywodraeth Cymru

Rolau a chyfrifoldebau

Rolau a chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru yw:

  • cefnogi strwythur ffurfiol ar gyfer adolygu ac adrodd ar gynnydd
  • cyfeirio at arferion gorau, canllawiau a fframweithiau perthnasol
  • gweithredu fel cyfaill beirniadol a bwrdd seinio ar arferion presennol a datblygiadau newydd
  • adolygu a rhoi adborth ar gynhyrchion a ddatblygwyd
  • cynnal a rhannu gwaith dadansoddi perthnasol ac archwiliadau dwfn o ddata cenedlaethol
  • galluogi dulliau a rennir o ymdrin â materion cenedlaethol allweddol ar draws sefydliadau GIG Cymru a hyrwyddo prosesau dysgu a rennir
  • cyfarwyddo Gweithrediaeth y GIG neu wneud trefniadau amgen i ddarparu cymorth lle bo angen ar gyfer pryderon penodol er mwyn helpu'r sefydliad i wneud mwy o gynnydd yn erbyn amcanion rhaglenni
  • penodi arbenigwr digidol allanol i gefnogi Iechyd a Gofal Digidol Cymru mewn perthynas â galluogwyr pwysig sy'n gysylltiedig â gwasanaethau digidol
  • cyflwyno llywodraethiant diwygiedig i'r system i gefnogi'r broses o gyflawni rhaglenni cenedlaethol

Rolau a chyfrifoldebau Iechyd a Gofal Digidol Cymru yw:

  • penodi uwch-swyddog cyfrifol
  • sicrhau perchnogaeth a goruchwyliaeth y bwrdd drwy bennu strwythur llywodraethiant clir, sicrhau y rhoddir gwybod i'r bwrdd am y cynllun uwchgyfeirio a rhoi diweddariadau rheolaidd ar gynnydd i'r bwrdd yn erbyn y meini prawf isgyfeirio
  • llunio cynllun monitro uwch mewn ymateb i'r pryderon ac ymrwymo digon o adnoddau sicrhau bod modd cyflawni'r cynllun
  • cyflwyno adroddiadau cynnydd a thystiolaeth yn erbyn y cynllun uwchgyfeirio i Lywodraeth Cymru
  • rhoi sicrwydd bod prosesau adolygu ffurfiol ar waith yn y sefydliad i fonitro a chyflawni'r gwelliannau gofynnol

Ymyrraeth mewn perthynas â pherfformiad

Mae'r ffocws a'r ymyrraeth mewn perthynas â pherfformiad ar lefel uwchgyfeirio 3 yn ymdrin â chyflawni rhaglenni mawr.

Bydd yn ofynnol i Iechyd a Gofal Digidol Cymru gymryd camau gweithredu a dangos ei fod yn cyflawni rhaglenni cenedlaethol, ac yn ystod 2025 i 2026, rhaid iddo gytuno ar y cerrig milltir craidd sy'n gysylltiedig â'r canlynol, a'u cyflawni:

  • targed cenedlaethol presennol ac i'r dyfodol ar gyfer datblygu a dylunio saernïaeth prosesau busnes
  • Rhaglen Gwasanaethau Digidol ar gyfer Cleifion a'r Cyhoedd (DSPP), gan ganolbwyntio ar ddarparu ap GIG Cymru sy'n helpu i adfer y system a gwella canlyniadau cleifion
  • cysylltu gofal â'r cwmpas a'r achos busnes y cytunwyd arnynt, ar ôl cytuno arnynt
  • saernïaeth data, gan gynnwys yr Adnodd Data Cenedlaethol a Safonau Data
  • rhaglenni diagnostig, yn benodol y rhaglen Caffael System Gwybodeg Radioleg (RISP) a rhaglen Rhwydwaith Gwybodaeth Labordai Cymru (LIMS) a'u defnydd yn y bwrdd iechyd
  • gwasanaethau gofal sylfaenol, gan gynnwys y broses barhaus o symud i Egton Medical Information Systems o VISION In Practice Systems (Cegedim), a chymorth ar gyfer rhaglenni gofal sylfaenol cenedlaethol
  • meddyginiaethau a rhagnodi digidol, gan gynnwys cyflwyno system ragnodi electronig a datblygu cofnod meddyginiaethau a rennir
  • gofal dwys drwy gynnal asesiad ar gamau nesaf y rhaglen hon, a'r adnoddau y dylid eu darparu ar ei gyfer a'r ffordd y dylid ei reoli
  • cytuno ar gerrig milltir ar gyfer y Rhaglen Gwybodeg Canser, sy'n disodli'r Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Canser

Meini prawf isgyfeirio

Er mwyn i'r sefydliad gael ei isgyfeirio, rhaid iddo:

  • gyflawni cerrig milltir y cytunwyd arnynt
  • rheoli rhaglenni, risgiau a gwaith cynllunio drwy gytuno ar ddulliau gweithredu a gweithdrefnau diwygiedig mewn perthynas â chynllunio, perfformiad, a risgiau a rheoli rhaglenni, a'u rhoi ar waith
  • gwneud cynnydd da yn erbyn cerrig milltir yn y cynllun gweithredu sy'n gysylltiedig â'r argymhellion o'r arolwg rhanddeiliaid