Neidio i'r prif gynnwy

Y nod ar gyfer Cymru gydnerth

Awdur: Luned Jones

Cymru gydnerth: cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cefnogi cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft, newid yn yr hinsawdd).

Cynnydd tuag at y nod

Mae data ar gyfer rhai o’r dangosyddion cenedlaethol yn awgrymu bod cynnydd yn cael ei wneud tuag at nod Cymru gydnerth. Ond mae rhywfaint o’r cynnydd hwn wedi arafu’n ddiweddar, ac mae angen rhagor o welliannau er mwyn cyrraedd y nod a’r cerrig milltir cenedlaethol. 

Roedd dangosydd arbrofol ar statws amrywiaeth fiolegol yng Nghymru a gyhoeddwyd yn 2021 yn dangos bod dosbarthiad rhywogaethau yng Nghymru wedi dirywio dros y tymor hir ond ei fod yn sefydlog yn fwy diweddar.. Mae’r rhan fwyaf o fathau o gynefinoedd wedi gweld gostyngiad mewn amrywiaeth dros y 100 mlynedd diwethaf, gyda chyfradd y dirywiad yn cynyddu o’r 1970au ymlaen. Mae’r dangosydd cenedlaethol ar garbon mewn pridd ar gyfer 2021 i 2023 yn dangos bod crynodiad y carbon yn ein huwchbridd yn sefydlog ar y cyfan, ar wahân i dir âr a choetir llydanddail lle gwelwyd bod carbon wedi’i golli o’r uwchbridd yn ddiweddar mewn perthynas â’r crynodiadau yn 2013 i 2016.

Mae ansawdd ein dŵr, boed mewn moroedd, afonydd, nentydd neu’r ddaear, wedi gwella’n gyffredinol dros y degawdau diwethaf. Ond, er bod peth cynnydd wedi’i wneud o ran diogelu a gwella ein dyfroedd, mae llawer i’w wneud eto. 

Mae ansawdd yr aer wedi gwella’n fawr ers y 1970au, ond mae’n parhau i fod yn risg i iechyd pobl a byd natur.

Mae Cymru wedi gweld gostyngiad o ran cynhyrchu gwastraff a gwelliannau sylweddol yn y cyfraddau ailgylchu gwastraff, ond rydym yn parhau i ddefnyddio adnoddau’n gyflymach nag y gellir eu hadnewyddu. 

Mae capasiti trydan wedi ei osod o ynni adnewyddadwy yn parhau i gynyddu ond ar gyfradd gryn arafach na’r blynyddoedd diwethaf. Roedd y gyfradd gosod ar gyfer capasiti ynni adnewyddadwy yn 2023 yr uchaf o’r pum mlynedd diwethaf, ond roedd 6 gwaith yn is na'r brig yn 2015. 

Mae’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020 yn darparu asesiad cynhwysfawr o gynnydd yn erbyn pedwar nod rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, a bydd diweddariad pellach yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2025.

Bioamrywiaeth a chynefinoedd

Y garreg filltir genedlaethol ar fioamrywiaeth yw gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth drwy wella statws rhywogaethau ac ecosystemau erbyn 2030 a’u hadferiad clir erbyn 2050. 

Roedd dangosydd arbrofol ar statws amrywiaeth fiolegol yng Nghymru a gyhoeddwyd yn 2021 yn dangos bod dosbarthiad rhywogaethau yng Nghymru wedi dirywio dros y tymor hir ond ei fod yn sefydlog yn fwy diweddar. Er bod statws poblogaethau rhai rhywogaethau yng Nghymru wedi gwella, mae'r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020 ac adroddiadau Sefyllfa Byd Natur blynyddol diweddar yn dangos bod bioamrywiaeth yn dirywio ar y cyfan. Mae dadansoddiad pellach o’r pwnc hwn ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru 2021. 

Mae’r rhan fwyaf o fathau o gynefinoedd wedi gweld gostyngiad mewn amrywiaeth dros y 100 mlynedd diwethaf, gyda chyfradd y dirywiad yn cynyddu o’r 1970au ymlaen. Yn adroddiad Llesiant Cymru 2019, fe wnaethom adrodd bod 31% o’n tir yn cael ei ystyried yn lled-naturiol. Defnyddir y dangosydd cenedlaethol hwn i asesu cyfran ein tir sydd â chynefinoedd lled-naturiol, wedi eu haddasu llai gan mai’r rhain sydd fwyaf tebygol o ffurfio ecosystemau iach a chryf. 

Bydd pridd sy’n cael ei reoli’n dda yn diogelu’r bwyd sy’n cael ei gynhyrchu, yn cynnal cynefinoedd, yn helpu i reoli’r perygl o lifogydd ac yn lleihau costau trin dŵr. Mae’r dangosydd cenedlaethol ar garbon mewn pridd ar gyfer 2021 i 2023 yn dangos bod crynodiad y carbon yn ein huwchbridd yn sefydlog ar y cyfan, ar wahân i dir âr a choetir llydanddail lle gwelwyd bod carbon wedi’i golli o’r uwchbridd yn ddiweddar mewn perthynas â’r crynodiadau yn 2013 i 2016.

Dŵr a pherygl llifogydd

Mae ansawdd ein dŵr, boed mewn moroedd, afonydd, nentydd neu’r ddaear, yn gwella’n gyffredinol. 

Mae dŵr yn un o adnoddau naturiol Cymru rydym yn dibynnu arno’n gyson, gan gynnwys ar gyfer dŵr yfed, yr economi, diwydiant, trin carthffosiaeth ac amaethyddiaeth. Yn y flwyddyn ariannol 2024 i 2025 roedd Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy wedi darparu tua 920 megalitr y dydd (Ml/d) o ddŵr i ateb y galw, gyda mwy o alw yn ystod y cyfnodau prysuraf fel yn ystod tywydd sych a phoeth neu fannau poblogaidd ymysg twristiaid. Amcangyfrifir bod cyfanswm y dŵr ar gyfer cyflenwadau dŵr preifat (heb fod ar y prif gyflenwad) yn 13.8 Ml/d.

Mae data dangosydd cenedlaethol newydd ar gyfer 2024 yn dangos bod 40% o 933 o gyrff dŵr wyneb a dŵr daear mewn cyflwr da neu well. Mae hyn yn debyg i 2021 a chynnydd o 3 phwynt canran ers 2015.

Mae asesiadau i weld a yw ansawdd dŵr yn cydymffurfio ar gyfer y naw afon Ardal Cadwraeth Arbennig yng Nghymru wedi adolygu data monitro yn erbyn targedau newydd ar gyfer ffosfforws a dangosyddion llygredd ehangach.  Mewn perthynas â ffosfforws, aseswyd 122 o gyrff dŵr, a phasiodd hanner y targedau newydd.  

Mae dyfroedd ymdrochi o ansawdd da yn bwysig iawn i gymunedau'r arfordir, ymwelwyr a’r economi yng Nghymru. Yn ystod yr 8 mlynedd diwethaf, roedd bron pob dŵr ymdrochi yn bodloni'r safonau a osodwyd gan y Rheoliadau Dŵr Ymdrochi. Roedd ansawdd dŵr ymdrochi yn cael ei fonitro mewn 110 o safleoedd dynodedig ar hyd arfordir Cymru yn 2024. Roedd 108 o ddyfroedd ymdrochi yn cyrraedd y safonau. Dyfarnwyd bod 75 yn rhagorol, 28 wedi cyflawni sgôr dda a phump wedi cyrraedd y safon sylfaenol, ddigonol. Methodd dau ddŵr ymdrochi â chyrraedd y safon, ac aseswyd eu bod o safon wael, yr un fath ag yn 2023. Fel arfer, mae'r dosbarthiadau'n seiliedig ar 4 blynedd o ddata ansawdd dŵr ymdrochi.

Ffigur 2.1: ansawdd dŵr ymdrochi, canran y safleoedd dynodedig, 2017 i 2024 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 2.1: siart llinell yn dangos ansawdd dŵr ymdrochi ar gyfer safleoedd dynodedig yng Nghymru rhwng 2017 a 2024. Yn 2024, roedd 68% yn cael eu hystyried yn rhagorol (y canran isaf ers 2017), 25% yn dda, 5% yn ddigonol ac 2% yn wael. 

Ffynhonnell: Adroddiad Ansawdd Dŵr Ymdrochi Cyfoeth Naturiol Cymru 2024

Nodyn 1: Fel arfer, mae'r dosbarthiadau'n seiliedig ar 4 blynedd o ddata ansawdd dŵr ymdrochi.

Mae’r asesiad risg llifogydd diweddaraf yn dangos bod rhai cartrefi yng Nghymru mewn perygl o lifogydd oherwydd moroedd, afonydd a dŵr wyneb, gyda rhai mewn perygl o lifogydd oherwydd mwy nag un math o lifogydd. Yn 2025, mae 1 o bob 7 (275,000) eiddo preswyl ac amhreswyl naill ai mewn perygl isel, canolig neu uchel o lifogydd. O ran y dangosydd cenedlaethol ar gyfer llifogydd, roedd bron i 49,000 o eiddo yng Nghymru mewn perygl uchel neu ganolig o lifogydd o afonydd a mwy na 80,000 o eiddo mewn perygl uchel neu ganolig o lifogydd llanw. O'r rhain, mae bron i 26,000 yn elwa o amddiffynfeydd rhag llifogydd afonydd, bron i 42,000 o amddiffynfeydd rhag llifogydd llanw a bron i 35,000 yn elwa o amddiffynfeydd rhag llifogydd afonydd a'r môr. 

Ansawdd aer

Mae ansawdd yr aer wedi gwella’n fawr ers y 1970au, ond mae’n parhau i fod yn risg i iechyd pobl. 

Mae’r dangosydd cenedlaethol ar nitrogen deuocsid (NO2) yn dangos bod y lefelau crynodiad cyfartalog y mae pobl yn agored iddynt wedi bod yn gostwng ar y cyfan dros y degawd diwethaf. Ar ôl cyfnod o sefydlogrwydd cymharol rhwng 2017 a 2019 (tua 9 µg/m3), gostyngodd y crynodiad cyfartalog i 7 µg/m3 yn 2020 a 2021 gan godi ychydig i 8 µg/m3 yn 2022 cyn dychwelyd i 7 µg/m3 yn 2023. Gostyngodd y crynodiadau cyfartalog o ddeunydd gronynnol (PM10 a PM2.5) y mae pobl yn agored iddynt yn 2023 o tua 20%. 

Ceir y crynodiadau uchaf o allyriadau nitrogen deuocsid mewn ardaloedd trefol a ger ffyrdd prysur, sy’n adlewyrchu cyfraniad traffig a gweithgareddau trefol at ansawdd aer gwael. 

Mae llygredd aer yn cael effaith sylweddol ar iechyd y cyhoedd. Ar hyn o bryd, mae 44 o ardaloedd rheoli ansawdd aer yng Nghymru. 

Yn 2022, amcangyfrifodd Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU fod llygredd aer awyr agored hirdymor yn cyfrannu at yr hyn sy'n cyfateb i rhwng 29,000 a 43,000 o farwolaethau (ar oedrannau nodweddiadol) y flwyddyn yn y DU. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi amcangyfrif bod baich dod i gysylltiad â llygredd aer yn y tymor hir yn cyfateb i tua 1,000 i 1,400 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn. Nid yw hyn yn adlewyrchu marwolaethau 'gwirioneddol' o ganlyniad i lygredd aer, ond mae'n amcangyfrif o'r disgwyliad oes is 'gyfatebol', o'i grynhoi, y mae pawb yn ei brofi oherwydd llygredd aer. 

Ffigur 2.2: dangosyddion ansawdd aer, 2007 i 2023

Image

Disgrifiad o ffigur 2.2: siart linell yn dangos gwelliant cyffredinol mewn dangosyddion ansawdd aer dros y cyfnod 2007 i 2023. 

Ffynhonnell: Dangosyddion Allyriadau Ansawdd Aer

Gwastraff ac ailgylchu

Mae Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran rheoli gwastraff dros y degawd diwethaf drwy gynyddu faint o wastraff sy’n cael ei ailgylchu, a lleihau faint sy’n cael ei waredu. Mae Cymru ar flaen y gad o ran ailgylchu gwastraff cartrefi, ond rydym yn parhau i ddefnyddio adnoddau’n gyflymach nag y gellir eu hadnewyddu.

Roedd gostyngiad sylweddol yn swm y gwastraff a gynhyrchir, nad yw’n cael ei ailgylchu, y pen, rhwng 2012 a 2019 (o 794kg i 523kg). Mae swm y gwastraff nad yw’n cael ei ailgylchu wedi gostwng ar gyfer pob un o’r tair elfen yn y dangosydd cenedlaethol hwn:

  • gwastraff cartrefi
  • gwastraff diwydiannol a masnachol
  • gwastraff adeiladu a dymchwel 

Er bod y cydrannau diwydiannol a masnachol, a gwastraff adeiladu a dymchwel yn cael eu mesur o bryd i’w gilydd drwy arolygon, mae data mwy rheolaidd a chyfredol ar gael ar wastraff cartrefi.

Mae faint o wastraff cartrefi sy’n cael ei gynhyrchu, ond nad yw’n cael ei ailgylchu fesul unigolyn, wedi gostwng yn gyffredinol dros y degawd diwethaf, heblaw am gynnydd bychan yn ystod y pandemig COVID-19. Yn ystod y flwyddyn ariannol 2023 i 2024, ar gyfartaledd ni chafodd 168kg o wastraff cartrefi a gynhyrchwyd ei ailgylchu fesul unigolyn. 

Mae’r gyfradd ailgylchu (hynny yw, canran y gwastraff trefol awdurdod lleol a gafodd ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio) wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y ddau ddegawd diwethaf – o tua 5% ar ddiwedd y 1990au i ddwy ran o dair (66.6%) yn 2023 i 2024. 

Ffigur 2.3: canran gwastraff trefol awdurdodau lleol sy’n cael ei ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio, rhwng blwyddyn ariannol 2013 i 2014 a 2023 i 2024

Image

Disgrifiad o ffigur 2.3: siart linell yn dangos bod canran y gwastraff trefol a gafodd ei ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio yng Nghymru wedi cynyddu’n gyffredinol o 54.3% yn 2013 i 2014 i 66.6% yn 2023 i 2024. 

Ffynhonnell: Gwastraff Trefol Awdurdodau Lleol, StatsCymru

Cynhyrchu ynni adnewyddadwy

Roedd tua thraean (34%) o'r trydan a gynhyrchwyd yng Nghymru yn dod o ffynonellau adnewyddadwy yn 2023, i fyny o 27% yn 2022, oherwydd bod llai yn cael ei gynhyrchu o nwy ffosil. Yn 2023, amcangyfrifwyd bod cynhyrchu trydan adnewyddadwy yng Nghymru yn cyfateb i 53% o'i defnydd o drydan, gan gynnwys colledion. 

Mae’r dangosydd cenedlaethol ar gyfer ynni adnewyddadwy yn ymwneud â chapasiti cynhyrchu ynni adnewyddadwy (trydan a gwres). Mae hyn wedi cynyddu'n sylweddol dros y degawd diwethaf, er bod y cynnydd wedi arafu dros y blynyddoedd diwethaf. Ar ddiwedd 2023, roedd y capasiti trydanol a osodwyd ar gyfer ynni adnewyddadwy yn 3,663 megawat (MW), ychydig yn uwch na’r flwyddyn flaenorol a mwy na dwywaith y capasiti yn 2012. Ddiwedd 2023, cyfanswm capasiti gwres adnewyddadwy yng Nghymru oedd 869 MW, 9% yn uwch na’r flwyddyn flaenorol a bron i bymtheg gwaith yn fwy na’r capasiti gwres yn 2012. Roedd y gyfradd gosod ar gyfer capasiti ynni adnewyddadwy yn 2023 yr uchaf o’r pum mlynedd diwethaf, ond roedd 6 gwaith yn is na'r brig yn 2015. 

Mae Cymru'n parhau i fod yn allforiwr trydan net i weddill y DU, Iwerddon a'r rhwydwaith trydan Ewropeaidd ehangach. 

Ffigur 2.4: y gallu i gynhyrchu ynni adnewyddadwy, 2012 i 2023

Image

Disgrifiad o ffigur 2.4: siart linell yn dangos cynnydd sylweddol cyffredinol yn y capasiti trydan a gwres adnewyddadwy yng Nghymru rhwng 2012 a 2023, gyda’r cynnydd yn arafu yn y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Adroddiad Cynhyrchu Ynni yng Nghymru

Y garreg filltir genedlaethol ar berfformiad ynni anheddau yw y bydd pob cartref yng Nghymru yn cael perfformiad ynni digonol a chost-effeithiol erbyn 2050. Yn ôl Arolwg Cyflwr Tai Cymru, y flwyddyn ariannol 2017 i 2018, ystyriwyd bod gan 47% o anheddau preswyl berfformiad ynni digonol (sgôr SAP o 65 neu uwch). Mae Arolwg Tai pellach ar y gweill ar gyfer 2027 i 2028. 

Darllen pellach

Roedd fersiynau blaenorol o adroddiad Llesiant Cymru yn cynnwys dadansoddiad pellach o’r canlynol:

  • llifogydd
  • cynefinoedd lled-naturiol
  • bioamrywiaeth
  • mannau gwyrdd
  • ansawdd pridd
  • effeithlonrwydd ynni cartrefi

Mae’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020 (Cyfoeth Naturiol Cymru) yn darparu asesiad cynhwysfawr o’r graddau y mae adnoddau naturiol yn cael eu rheoli’n gynaliadwy. Bydd hwn yn cael ei ddiweddaru ym mis Rhagfyr 2025. 

 Porth Gwybodaeth Amgylcheddol Cymru (Cyfoeth Naturiol Cymru)

Adroddiad Sefyllfa Byd Natur ar gyfer Cymru (Partneriaeth Sefyllfa Byd Natur)