Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Aelodau

  • Ruth Glazzard, Cadeirydd
  • Jocelyn Davies, Is-gadeirydd
  • Dyfed Alsop, Prif Weithredwr
  • Rebecca Godfrey, Prif Swyddog Gweithredu / Darparu Gwasanaethau
  • Mary Champion, Aelod Anweithredol
  • Jim Scopes, Aelod Anweithredol
  • Rheon Tomos, Aelod Anweithredol
  • Zoe Curry, Aelod Staff Etholedig

Agor y cyfarfod

  1. Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.  Cafwyd ymddiheuriadau gan Bennaeth y Staff a chymdeithion y bwrdd. Roedd cynrychiolwr o Drysorlys Cymru (TC) a chyflwynwyr o ACC yn bresennol.
  2. Cytunwyd bod cofnodion a chofnodion wedi’u golygu y cyfarfod blaenorol (Mai 2024) yn gofnod cywir o’r trafodaethau. Roedd holl weithredoedd y pwyllgor bellach ar gau.
  3. Roedd cynllun cyswllt y bwrdd bellach wedi cyrraedd diwedd ei flwyddyn gyntaf. Roedd Laura Kent wedi penderfynu peidio â pharhau oherwydd ymrwymiadau eraill. Roedd Neil Mukerji wedi cael adolygiad perfformiad cadarnhaol gan y cadeirydd, felly penderfynodd y bwrdd barhau â'i benodiad am flwyddyn arall.
  4. Ni ddatganwyd unrhyw wrthdrawiad buddiannau ffurfiol, ond nododd y Prif Weithredwr ei fod wedi cymeradwyo llyfr yn gyhoeddus yn ddiweddar, un a ysgrifennwyd gan unigolyn a oedd wedi ymgymryd â gwaith dadansoddi ieithyddol ar ran ACC.

D24-03-01: Neil Mukerji i barhau fel Cydymaith y Bwrdd am ail flwyddyn, tan fis Medi 2025.

Trafodaeth y Bwrdd

Diweddariad ar yr Ardoll Ymwelwyr a’r Comisiwn Cyllideb

Wedi'i olygu

Adroddiadau

Adroddiad Cyllid ac ARAC

  1. Wedi'i olygu
  2. Wedi'i olygu
  3. Wedi'i olygu
  4. Roedd yr archwiliad terfynol wedi'i gwblhau, a chadarnhaodd Archwilio Cymru eu bod yn rhoi barn ddiamwys. Byddai'r adroddiad blynyddol yn cael ei gyhoeddi yr wythnos hon. Diolchodd y Prif Weithredwr i bawb a fu’n rhan o’r gwaith hwn.
  5. Cyfarfu'r Pwyllgor Sicrwydd a Rheoli Risg (ARAC) i drafod adroddiad terfynol ISA260, ond nodwyd mater o egwyddor, sef y dylai'r Bwrdd/ARAC weld yr Adroddiad Blynyddol terfynol cyn i'r Swyddog Cyfrifyddu gymeradwyo’r cyfrifon yn y dyfodol. Nodwyd nad yw ARAC na'r Bwrdd yn llofnodi nac yn cymeradwyo'r adroddiad, ond byddai'n arfer da, ac yn dda o ran llywodraethiant, pe bai’r pwyllgor yn cefnogi'r Swyddog Cyfrifyddu ac argymell llofnodi’r cyfrifon. Roedd amseriad yr archwiliad terfynol wedi golygu bod camau terfynol o adolygu a llofnodi wedi digwydd yn ad-hoc braidd, felly cytunwyd i ddrafftio barn lefel uchel o'r broses gymeradwyo, gan amlinellu rolau a chyfrifoldebau, er mwyn egluro'r dull o weithredu.
  6. Mewn sesiwn Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth (GIAA) ddiweddar, soniwyd am ddull newydd a nodwyd gan drysorlys y DU ar gyfer rheoli arferion twyllodrus a llwgr. Nid oedd cynrychiolydd Trysorlys Cymru yn ymwybodol o unrhyw beth newydd i LlC, ond dywedodd y byddai'n edrych eto ac yn adrodd yn ôl i'r pwyllgor.

A24-03-02: Yr ysgrifenyddiaeth i ddrafftio a rhannu proses gymeradwyo ar gyfer yr adroddiad blynyddol, gan amlinellu amseru, rolau a chyfrifoldebau.

A24-03-03: Trysorlys Cymru i adrodd yn ôl os fydd gan LlC unrhyw beth newydd o ran rheoli arferion twyllodrus a llwgr.

Adroddiad y Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu

  1. Diolchodd y Prif Weithredwr i'r tîm AD am eu gwaith recriwtio dros y 6 mis diwethaf. Cafwyd adborth cadarnhaol gan y rhai a oedd newydd ddechrau ar y broses, gan gynnwys dweud pa mor gefnogol a chroesawgar oedd pawb.
  2. Yn ail hanner eleni, bydd dros 25% o weithlu ACC ond wedi bod yn eu swyddi am 6 mis. Mae hyn oherwydd y gwaith recriwtio cynnar a wnaed yn fwriadol er mwyn lleihau risgiau gyda’r Ardoll Ymwelwyr (a phrif ffynhonnell y pwysau ariannol), ond rhaid nodi bydd hyn yn newid diwylliannol mawr i'r sefydliad. Bydd blaenoriaethau Tîm Arwain (TA) yn cynnwys y strategaeth weithio hybrid, croesawu pobl newydd, canolbwyntio ar gyflawni, a chynnal diwylliant cadarnhaol ACC.
  3. Roedd TA hefyd wedi bod yn trafod naratif y cynllun corfforaethol newydd. Nodwyd bod sawl agwedd corfforaethol newydd neu rai wedi'u hadnewyddu yn mynd i ddigwydd yr un pryd: amcanion cynllun corfforaethol, amcanion cydraddoldeb, gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, safonau’r Gymraeg, ac ati, a bod perygl y bydd gormod ohonynt. Rhaid eu crynhoi’n agweddau clir, syml yn y dyfodol.
  4. Ar gyfer Safonau'r Gymraeg, mae sgyrsiau cadarnhaol wedi’u cael gyda swyddfa'r comisiynydd i drafod uchelgais ACC a'i weithgarwch dros y blynyddoedd diwethaf mewn paratoad ar gyfer cydymffurfio. Bydd eitem yn cael ei ddwyn i agenda’r cyfarfod nesaf i roi mwy o fanylion.

Adroddiad ar berfformiad

  1. Wedi'i olygu
  2. Wedi'i olygu
  3. Wedi'i olygu

Adroddiad SDLG 

  1. Mae'r tîm gweithrediadau bron yn llawn, gyda hyfforddiant ar gyfer staff newydd yn mynd rhagddo’n dda, gwaith a gafodd ei oedi yn cael ei ailgychwyn drachefn, a fforymau treth yn cael sylw eto. Mae caffael adnoddau yn parhau i fod yn broblem y tu hwnt i weithrediadau fodd bynnag, yn enwedig yn y timau DDaTh. Gobeithio y gwelir gwelliannau yn y flwyddyn newydd.
  2. Mae'r gofynion y system AD newydd wedi'u mapio ac mae gwaith caffael ar y gweill. Mae disgwyl iddo gael ei weithredu erbyn canol mis Mawrth. Gweithrediad pecyn safonol fydd hwn, a dim ond amser fydd ei angen gan adnoddau HR, ac mae’r amser hwn eisoes wedi'i ffactora yn y cynllun adnoddau cyffredinol. Bydd y Grŵp Dylunio Technegol yn adolygu'r cynigion o safbwynt technegol, ac yn gwneud eu hargymhelliad i SDLG iddynt ei gymeradwyo.
  3. Wedi'i olygu
  4. Wedi'i olygu
  5. Wedi'i olygu

Adroddiad Trysorlys Cymru 

Wedi'i olygu

Cau cyfarfod y Bwrdd

  1. Rhannodd yr aelodau fyfyrdodau ar drafodaethau'r dydd, a oedd ag ystyriaethau risg eang, yn bennaf ynghylch rheoli newid mewn amodau ansicr. Roedd y Prif Weithredwr o’r farn bod y trafodaethau risg eu hunain yn teimlo'n fwy cyfforddus, maent yn cael eu trafod yn y cyd-destun cywir ac ar yr adeg iawn. Byddai angen symud ffocws at barhad busnes yn awr, ac at gynllunio olyniaeth yn benodol oherwydd bod sawl pwynt methiant unigol o fewn y sefydliad.
  2. Roedd aelod anweithredol wedi cael ei wahodd i gynhadledd dreth y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygu Economaidd (OECD), lle trafodir cydsyniad dibynnol. Cytunwyd i drafod hyn ymhellach yn y diwrnod cwrdd i ffwrdd nesaf.
  3. Sgwrs Bwrdd fyddai’r cyfarfod nesaf, ar 23 Hydref 2024. 

Gwybodaeth wedi’i golygu

Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.