Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Aelodau

  • Ruth Glazzard, Cadeirydd
  • Jocelyn Davies, Is-gadeirydd
  • Dyfed Alsop, Prif Weithredwr
  • Rebecca Godfrey, Prif Swyddog Gweithredu / Darparu Gwasanaethau
  • Dave Matthews, Cyfarwyddwr Strategaeth a Gallu
  • Mary Champion, Aelod Anweithredol
  • Jim Scopes, Aelod Anweithredol
  • Rheon Tomos, Aelod Anweithredol

Agor y cyfarfod

  1. Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.  Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Mukerji, a chan Mary Champion am ail hanner y cyfarfod. Roedd cynrychiolwr o Drysorlys Cymru (TC) a chyflwynwyr a sylwedwyr o ACC yn bresennol. Ni ddatganwyd unrhyw wrthdrawiad buddiannau.
  2. Cytunwyd bod cofnodion a chofnodion wedi’u golygu y cyfarfod blaenorol (Tachwedd 2024) yn gofnod cywir o’r trafodaethau. Byddai'r cam gweithredu sy’n ymwneud â hyfforddiant effeithiolrwydd i’r bwrdd yn parhau ar agor nes y bydd Tîm Arwain (TA) yn cwblhau'r broses gaffael.
  3. Croesawodd y bwrdd Jo Ryder yn ôl fel Pennaeth y Staff. Rhoddodd yr aelodau groeso hefyd i Alex Mason i'w gyfarfod adrodd bwrdd cyntaf fel Prif Swyddog Cyllid.
  4. Nodwyd mai dyma gyfarfod adrodd olaf Dyfed Alsop, y Prif Weithredwr, cyn iddo ddechrau ar ei swydd newydd gydag Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU. Diolchodd y bwrdd i Dyfed am arwain ACC ac am y gefnogaeth a roddodd yn ei gyfnod fel Prif Weithredwr. Dymunwyd y gorau iddo yn ei swydd newydd.
  5. Mae Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar benodi Rebecca Godfrey yn Brif Weithredwr dros dro ddechrau mis Mai. Soniodd aelodau'r bwrdd am yr ymdeimlad o hyder sydd gan ACC wrth wynebu’r dyfodol gyda Rebecca a Tîm Arwain wrth y llyw, a bod hynny yn glod i Dyfed a'r holl waith a wnaeth.
  6. Cytunodd yr Aelodau Anweithredol y dylai cyfnod Zoe Curry fel Aelod Staff Etholedig (SEM) orffen ar unwaith, a hynny ar gais Zoe ei hun. Diolchodd y bwrdd i Zoe am ei chyfraniad dros y flwyddyn a hanner diwethaf. Mae’r Swyddfa Breifat wedi dechrau trafod y broses i ethol Aelod Staff Etholedig newydd. Mae Jocelyn Davies wedi cytuno i fod yn Swyddog Etholiadau ar gyfer y broses unwaith eto.

D25-01-01: Mae aelodau anweithredol yn cytuno i'r Aelod Staff Etholedig presennol adael ei swydd ar fwrdd ACC ar unwaith.

Adroddiadau

Adroddiad Cyllid ac ARAC

Wedi'i olygu

Adroddiad y Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu

Wedi'i olygu

Adroddiad Trysorlys Cymru

Wedi'i olygu

Adroddiad ar berfformiad

Wedi'i olygu

Adroddiad SDLG 

  1. Rhannodd y Prif Swyddog Gweithredu ddiweddariad gan y Grŵp Cyflenwi Gwasanaethau. Aeth rhai o'r tîm i ymweld â'r DVLA i gael gwybod sut maen nhw'n cynnal eu gwasanaethau, a bu hynny’n ddefnyddiol iawn.
  2. Mae proses gwersi a ddysgwyd Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) yn cael ei chynnal er mwyn ymchwilio i'r camddealltwriaeth ac i sefydlu gwell cyfathrebu rhwng timau.
  3. Mae SDLG yn addasu eu cylch gorchwyl wrth i'r ACC ddod yn sefydliad sy'n seiliedig ar wasanaethau. Mae'r adolygiad llywodraethiant mewnol ar y gweill, a bydd diweddariad yn cael ei roi i'r aelodau.

A25-01-01: Adolygiad llywodraethiant mewnol i'w rannu gyda'r bwrdd.

Trafodaeth y Bwrdd

Diweddariad ar y Cynllun Corfforaethol

  1. Rhannodd y pennaeth strategaeth a pholisi y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y Cynllun Corfforaethol newydd (2025–28).
  2. Roedd y mesurau wedi cael eu rhannu â'r bwrdd ar gyfer eu sylwadau. Ail-bwysleisiwyd pa mor bwysig yw i beidio â symud tuag at dargedau sy'n seiliedig ar gynnyrch, a mesur yr hyn sy'n bwysig i'r sefydliad. Byddai’n anodd taro’r cydbwysedd hwn gyda mesur fel cynaliadwyedd, lle ceir mwy o angen i ganolbwyntio ar iechyd y sefydliad. Hefyd, mae rhai agweddau sy'n anoddach i'w mesur mewn metrigau caled, ac mae angen dangosydd naratif.
  3. Y camau nesaf yw rhannu gyda'r Ysgrifennydd Cabinet Dros Gyllid a’r Gymraeg, ac i ddrafftio'r cyngor Gweinidogol ar gyfer ei gymeradwyo.

Cytundeb Lefel Gwasanaeth yr Ardoll Ymwelwyr

Wedi'i olygu

 

Cau’r cyfarfod

  1. Wedi'i olygu
  2. Bydd ACC yn cael ei gynnwys o dan safonau'r Gymraeg ym mis Ebrill 2025. Bydd y tîm yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau i’r bwrdd.
  3. Sgwrs Bwrdd fyddai’r cyfarfod nesaf, ar 26 Mawrth.

Gwybodaeth wedi’i golygu

Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.