Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar gynigion i wella’r broses o weinyddu a gorfodi'r dreth gyngor yng Nghymru. 

Lansiwyd yr ymgynghoriad ar arferion gorfodi tecach ar 30 Ebrill 2025, a daeth yr ymgynghoriad hwnnw i ben ar 23 Gorffennaf 2025. Cafwyd 272 o ymatebion oddi wrth amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys cyrff cynrychiadol, awdurdodau lleol, sefydliadau cynghori, ac aelodau o'r cyhoedd. Amlinellodd yr ymgynghoriad fwriad Llywodraeth Cymru i gefnogi awdurdodau lleol wrth iddynt weithio gydag aelwydydd i atal cynnydd mewn dyledion niweidiol. Roedd yn edrych ar newidiadau arfaethedig i brosesau adennill y dreth gyngor yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar chwe maes allweddol: hysbysiadau atgoffa, hysbysiadau terfynol, amseroedd ar gyfer pryd y daw'r balans blynyddol yn ddyledus, pryd y gall awdurdod lleol wneud cais am orchymyn atebolrwydd, darparu mwy o amser i aelwydydd ofyn am gymorth, a chyflwyno canllawiau arfer gorau. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r holl unigolion, rhanddeiliaid, a sefydliadau a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad, ac a ddarparodd ymatebion manwl ac ystyrlon.

Roedd cefnogaeth gyffredinol gref i'r holl gynigion a gyflwynwyd yn yr ymgynghoriad, gyda lefelau uchel o gytundeb ymhlith ymatebwyr. Mynegodd yr awdurdodau lleol amrywiaeth o safbwyntiau ar wahanol elfennau o'r ymgynghoriad. Er bod rhai wedi codi pryderon, roedd llawer yn cefnogi'r cynigion mewn egwyddor, gan gydnabod y cynigion hynny fel modd o gadarnhau ac atgyfnerthu'r arferion gorau sydd eisoes ar waith yn eu cymunedau. Roedd sefydliadau yn y sector cynghori a grwpiau elusennol yn cefnogi'r cynigion yn fras. Fodd bynnag, roedd sawl rhanddeiliad yn awyddus i weld mwy o amser yn cael ei roi i aelwydydd geisio help a chael mynediad at y cymorth angenrheidiol. 

Nid ydym yn credu bod y fframwaith rheoleiddio presennol yn adlewyrchu'r dull gweithredu y mae awdurdodau lleol eisoes yn ei ddefnyddio i helpu aelwydydd i ddatrys dyledion gyda chydymdeimlad, ac mae’r amserlenni sydd eisoes yn cael eu dilyn yn ôl eu disgresiwn yn aml yn hirach na'r amserlenni byrraf statudol. Roedd mwyafrif sylweddol o'r ymatebwyr i'r ymgynghoriad (86%) yn cefnogi amserlen arfaethedig a fydd yn sicrhau y bydd o leiaf 62 diwrnod yn mynd heibio ar ôl i aelwyd golli rhandaliad cyn y bydd yn dod yn atebol am y balans blynyddol sy'n weddill. Mae cydbwysedd i'w daro rhwng cefnogi taliadau amserol, codi ymwybyddiaeth o gymorth, a lleihau achosion osgoi talu treth. Byddaf yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i nodi aelwydydd agored i niwed, gan fwrw ymlaen â syniadau sy'n cynnwys defnydd mwy effeithiol o ddata ac arbenigedd sydd â ffocws. Mae yna le i gynghorau lleol gymryd camau adennill cymesur yn erbyn y nifer bach o bobl sy'n ceisio osgoi talu'r dreth gyngor. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio ar y cyd â'r holl bartneriaid i sicrhau bod y gwelliannau hyn yn cael eu gweithredu mewn ffordd sy'n effeithiol ac yn ymatebol i anghenion pawb. 

Mae crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar gael yma: Gwella’r broses o weinyddu a gorfodi’r Dreth Gyngor yng Nghymru | LLYW.CYMRU Mae hyn yn cynnwys ymateb gan Lywodraeth Cymru sy'n disgrifio sut y byddwn yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol ar y manylion gweithredol sy'n ymwneud â rhai o'r pryderon a godwyd, er mwyn sicrhau bod y cynigion yn cyflawni'r nodau polisi mewn modd effeithiol. Byddaf yn cyflwyno'r rheoliadau sy'n ofynnol i weithredu'r newidiadau hyn maes o law, gyda'r bwriad y byddant yn dod i rym ar 1 Ebrill 2026. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu monitro sut y caiff hyn ei weithredu er mwyn sicrhau bod y system dreth gyngor yn parhau i elwa ar ei lefel uchel o effeithlonrwydd wrth ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r gwelliannau hyn yn helpu i gyflawni ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i wneud y dreth gyngor yn decach.